READ ARTICLES (7)

News
Copy
INDIA. Y mae y newyddion diweddaraf o'r India yn tuedduj greu cryn bryder yn meddyliau pobl y deyrnas hon. Taenir y gair yn Llundain fod Arglwydd Elgin wedi gofyn am ganiatad i anfon corti. o filwyr Prydain i gynnorthwyo llywodraethwr newydd Cabul, yr hwn sydd wedi gofyn am help yn erbyn y Persiaid. Os caniateir cais ei arglwydd- iaeth, teflir ni ar unwaith i ryfel a Persia, yr hon sydd o ran ei gallu a'i sefyllfa mewn mantais i wneyd cryn niwed i'n hymerodr- aeth Indiaidd.

News
Copy
MADAGASCAR. Ymddengys fod yr ynys hon yn debyg o gael eu haflonyddu gan wrthryfel cartrefol. Mae cefnder y Brenin, yr hwn a wnaeth ymgais aflwyddiannus i drawsfeddianuu yr orsedd ar farwolaeth y Frenines, a bywyd yr hwn a arbedwyd gan Radama, wedi codi baner gwrthryfel etto. Y mddengys ei fod wedi llwyddo i ffurfio bradwriaeth yn erbyn y brenin, a'i fod yn cael ei gefnogi gan amryw o hen swyddogion y frenines a'r pendefigion paganaidd, y rhai idynt yn ddig iawn wrth y brenin ieuacc am roddi rhyddid i ddyeithriaid i ddyfod i'r wlad, ac yn enwedig o herwydd ei fod yn rhoddi cef- nogaeth mor helaeth i Gristionogaeth. Pan oedd y brenin yn rhodio allan yn y gerddi o flaen ei balas, aeth un o'r bradwyr ato yn ddirgelaidd. a gwnaeth ymgais i'w lofruddio; ond dygwyddodd fod gan ei Fawrhydi law- ddryll llvvythog gydag ef ar y pryd, a saeth- odd y bradwr llofruddiog yn farw. Pe y dygwyddasai iddo lwyddo i ladd y brenin, buasai ei gefnder yn meddiannu yr orsedd, ac yn ail gychwyn erlidigaeth yn erbyn y Cristionogion; ond trwy drugaredd Rhag- luniaeth dyryswyd eu hamcan.

News
Copy
CHINA. Newyddion o'r wlad hon a hysbysant fod y gwrthryfelwyr yn cario eu gweithrediadau yn mlaen gydag egni mawr, ac y maent yn anrheithio y deyrnas yn arswydus. Y mae eu gweithredoedd yn erchyll, fel nad yw bywydau na meddiannau yn ddiogel. Y maent yn ystod y ddwy flynedd diweddaf wedi Iladd ac yspeilio nifer aruthrol o bobl. Ar yr 13eg o Fawrth, gwasgarwyd a dinystr- iwyd rhan o'u llynges, y rhai oeddynt yn llwythog o ymborth a chad-ddarpariaethau, gan wnfadau Prydain, am yr ystyrid fod eu presenoldeb yn yr afon yn peryglu diogel- Shanghai. Ar y 14eg o Fawrth, cyfarfyddodd adran o filwyr amherodol y gwrthryfelwyr yn Sooking, tref yn gorwedd rhwng Shangai a Tsingpoo yr oedd y frwydr ar y cyntaf yn debyg o fod yn ffafriol i'r gwrthryfelwyr, ond rhoddodd dyfodiad y Milwriad Ward, a'i filwyr Chineaidd rheolaidd,gyflawn fudd- ugoliaeth i'r blaid amherodrol. Enciliodd y gwrthryfelwyri dref Tsing-poo. Dywedir nad oes yn bresenol ddim llai na 80,000 o ymnoddwyr yn Shangai, a 0 theimla awdurdodau y ddinas anhawsder mawr i ddiwallu en hangenion. Yn ol y newyddion diweddaraf, ymdden- gys fod dyryswch pwysig wedi codi rhwng y gwrthryfelwyr a galluoedd Lloegr a Ffrainc yn Shanghai. Yr oedd v Cynghreiriaid yn cael eu harwain yn brysur i ryfel a'r gwrth- ryfelwyr, ac ofnid y byddai yn anhawdd rhoddi terfyn buan arno. Yr oedd gallu- oedd Prydain yn dysgwyl amryw o gatrodau o India i'w cynnorthwyo. Dywedir fod Llyngesydd Prydain yn y moroedd Chine- aidd wedi ei glwyfo yn drwm.

News
Copy
RWSIA A PHOLAND. Newyddion o St. Petersburgh a hysbys- ant fod bradwriaeth filwraidd yn lfafr Pol. and wedi ei darganfod yno. Ymddengys fod amryw o swyddogion, yr oil o ba rai ydynt Itwsiaid, yn gyfranog o'r fradwriaeth, yn enwedig y rhai a berthynent i warchodlu Kalisch. Y mae y llywodraeth yn gwneyd ymchwiliad manwl i'r dygwyddiad, ac nid oes un ammheuaeth na chospir pob un a geir yn euog yn y modd llymaf.

News
Copy
AWSTRALIA. Newyddion o'r wlad bellenig hon a rodd- ant ar ddeall i ni fod pethau yn myned yn mlaen yn gvsurus iawn yno. Y mae am- aethyddiaeth yn cynnyddu, masnach yn ad- fywio, a pherffaith heddwch yn fiynu yn mhob man. Nid oedd cynnyrch y clodd- feydd aur yn gymaintag arferot, yrbyn sydd i'w briodoli i fynediad nifer mawr o,'r clodd. wyr i New Zealand ond y mae lluaws wedi dychwelyd, ac wedi meddiannu un ai eu hen leoedd neu leoedd newydd yn nghloddfeydd Victoria. Y mae cloddfeydd Lachland yn troi allan yn gyfoethog iawn. Y maent wedi darganfod mwn arian yn New South Wales. Y mae trefedigaeth newydd Queens- land yn dyfod yn mlaen yn rhagorol, a nifer da o vmfudwyr yn parhau i ddyfod yno. Nid oes un ammheuaeth na bydd yn fuan yn wlad boblogaidd, gyfoethog, a llwyddiannus. 0

News
Copy
MANION. Mae traul arfogiad Lloegr wedi codi o jF22,297,000 yn 1858, i £29,443,000 yn 1861. Y mae prif newyddiadur y blaid Doryaidd yn ym- ffrostio fod y llywodraeth wedi ei gorchfygu bumtheg o weithiau yn ystod yr eisteddiad presenol. Gofynai Dr. Chalmers unwaith i wraig beth a allai ddenu ei gwr i'rcapel. Nisgwn," ebe hi, oddeithr i chwi osod chwart o gwrw a phibellaid o dybaco yn ei eisteddle." Rhai dyddiau yn ol, torodd tan dychrynlllyd allan yn Fore-street, Llundain, yn nhy Mr. Joel, llyfr- werthydd. Collodd ped war o bersonau eu by wydau yn y tan. Yn ol Adroddiad Chwarterol y Cofrestrydd Cyff- redinol, gwelir mai cynnydd naturiol poblogaeth Prydain Fawr yn ystod y chwarter oedd yn diweddu Mawrth 31ain, oedd 67,508 neu, a thynu yr ymfud- wyr allan, 60,865. Y r oedd nifer y marwolaethan yn y chwarter yn fwy na'r canolrif yn yatod y saith mlynedd blaenorol. Ymddengys oddiwrth adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi, fod 14,775 o bersonau yn Lloegr a Chymru wedi marw trwy drais a damweiniau mewn blwyddyn. Y GRAIG OLEW YN PENNSYLVANIA.—Credir fodiyr olew defnyddiol yma yn anhysbyddadwy. Mae y cyn- nyrch wytbnosol yn awr yn 75,000 o farilau. ac nid oes yno un ffynnon, meddant, lie na allant suddo ugain-a gellid gwneyd i'r ffynnonau presenol gynnyrchu 200,000 o farilau yn wythnosol. YSGHIFAU FFYRDD HAIARN CYMREIO.—Y mae Ysgrifau Ffyrdd Haiarn Llanidloes a'r Drefnewydd (Mid- Wales), a Manchester ac Aberdaugleddyf, wedi pasio trwy y Pwyllgor Seneddol yn ddiwrth- wynebiad. Y mae Ysgrif Ffordd Haiarn Midland Mid-Wales (canghen o Merthyr Tydfil) wedi ei gohirio. Dywed adtoddiad y Dirprwywyr Breninol ar Addysg mai nifer yr ysgolion Sabbothol yn Lloegr a Chymru oedd 33,516 ysgolion Sabbothol yr Eglwys Sefydledig, 22,236, gyda 1,092,882 o ysgolheigion ysgolion Sab- bothol Y mneillduwyr pob enwad, 11,280 gyda 1,295,575 o ysgolheigion. Hysbysa llythyr a dderbyniwyd yn Llynlleifiad fod ystorm fawr o genllysg wedi dygwydd yn Calcutta yn mis Mawrth diweddaf. Y r oedd y cenllysg yn debycach i ddarnau o rew nag i genllysg cyffredin. Fel y gellid tybied, yr oedd hwn yn ddygwyddiad annghyffredin yn y ddinas hono. Y mae y newydd fod dinas Ilaw-weithfaol Euschede yn Holland wedi ei dinystrio gan dan, wedi eigadarnhau. Llosgwyd pumtheg llaw-weithfa, pedair egl svys, nenadd y dref, heblaw tai yr holl drigolion, y rhai a rifent ddeng mil. Collwyd llawer o fywydau. Achoswyd y trych- ineb gan fellten. Ymddengys mai olynydd Dr. Russell fel gohebydd arbenig y Times yn America yw Dr. Mackay (Charles Mackay y bardd). Yr oedd Dr. Russell trwy ei gam- ddesgrifiadau wedi digio yr Americaniaid yn fawr, ac nid oeddent yn barod i roddi un fantais iddo i ysgrifenu hanes eu gweithrediadau rhyfelgar hwy. Hwyrach y llwydda Dr. Mackay i'w boddhau hwynt yn well. Rhai dyddiau yn ol, ymgyfarfu perchenogion gweith- feydd gIo sir Gaerefrog, yn Leeds, i'r dyben o ffurfio cymdeithas i gynnorthwyo gwragedd a phlant y glowyr a gyfarfyddant a damweiniau. Dysgwylir i bob glowr danysgrIfio ceiniog yr wythnos at drysorfa damweiniau, tra mae y perchenogion eu hunain yn cytuno i dalu 2s. 6c. am bob punt a godir gan y dynion. Gofynir hefyd am help y cyhoedd. Y mae Tywysog Cymru wedi cyrhaedd i Gaer Cys- tenyn, a rhoddwyd y derbyniad mwyaf gwresog ac an- rhydeddus iddo gan y Sul an a'i weinidogion. Aeth y prif weinidog Tyrcaidd a'r Capitan Pasha ar fwrdd llestr y tywysog i'w gyfarfod ef, a safodd y Sultan ar risiau y Palas Amherodrol i dderbyn ei Uchelder Breninol. Ni ddywedir pa un a ydyw y tywysog ar ei ffordd adref, ond Mehefin oedd y mis yn mha un y dysgwylid iddo ddychwelyd. ARGLWYDD PALMERSTON A'R PABYDDION.—A ganlyn yw sylw ei arglwyddiaeth am y Pabyddion:— "Lie y maent yn y lleiafrif, y maent yn ymofyn am oddefiad, ac nid cydraddoldeb ond yn y gwledydd lie y maent yn y mwyafrif, nid oes na chydraddoldeb na goddefiad yn bodoli." Dyna lawer o wir mewn ychydig eiriau.

News
Copy
olwyr. Pa beth bynag fydd y canlyniad, gofa r am gadw anrhydedd Prwsia i fyny. Ni newidir gwladlywiaeth y Brenin, gan y cyfnewidiad yn nghyfansoddiad y senedd, ondbwriad penderrynol ei Fawrhydi ydyw cario allan yr egwyddorion a broffesai pan ymgymmerodd a'r rhaglawiaeth. Gobeithia ei Fawrhydi y rhoddir pob cefnogaeth i'r llywodraeth i fabwysiadu y mesurau angen- rheidiol i gynnal i fyny anrhydedd ac urddas Prwsia, yn gystal ag i gadw heddwch a hyr- wyddo llwyddiant y wlad." Y mae y Dr. Jacoby, un o'r dynion mwyaf dysgedig a rhyddfrydig yn y wlad, wedi ei ethol dros un o ddosparthiadau Berlin. Y mae hyn yn brawf fod egwydd- orion rhyddfrydig ar gynnydd yn Prwsia.