READ ARTICLES (2)

News
Copy
ARDDANGOSFA FAWR 1862. (Oddiwrth ein Special Correspondent.) DYMA fi etto yn myned i ddweyd gair bach wrth eich lluosog ddarllenwyr dylaswn fod wedi anfon yn eich papyr diweddaf, ond rhywfodd neu gilydd aeth yn rhy ddiweddar -rbaid i chwi laddeu i mi y tro hwn beth bynag. Cofiwch fod gan eich Special Re- porter ddigon o fater mewn llaw i ysgrifenu llythyr bob dydd, pe bai angen felly nid prinder stwff yw yr achos, ond diffyg ham- dden. Wel, dyna ddigon o rhagymadrodd y tro hwn etto. Yr ydych yn gwybod erbyn hyn fod yr Arddangosfa Fawr wedi ei hagor-y mae cynnwysiad yr adeiliad eang o flaen y cy- hoedd, ac y mae cannoedd o filoedd wedi bod yn edrych arnynt. Hyn yn hyn, nid yw rhif yr ymwelwvr yn dyfod i fyny a dysgwyliadau y Commissioners; ond y mae un peth. vu sier, ei fod yn great success. Am yr adeilad, y mae y eyhoedd wedi cael cyfle i ffurfio barn, a'u barn yw, nad yw agos mor. brydferth ag eiddo 1851. Y mae yn anfertb o faint, ond fel specimen o'n dull o adeiladu, y mae yn berffaith failure; ond y mae un feature ynddo, ag svdd yn gwneyd i fyny am hyn oil, sef ei gyfaddasrwydd a'r cyfleusderau a gyn- nygia i arddangoswyr. Oddiallan nid ellir canmol llawer arno, ond oddimewn y mae tuhwnt i bod desgrifiad. Hawyr anwyl, y mae edrycb ar y gwahanol bethau yn ddigon a dyrysu ymenydd dyn gwan, a rhoddi desgrifiad o honynt yn annichon- adwy. Y maey Ffrancod yn dyfod drosodd wrth y cannoedd i'w weled-y maent yn dweyd i mi fod oddeutu tri chant o honynt yn cyr- haedd Llundain bob dydd. Gwarchod pawb! Gobeithiaf y bydd iddynt fyned yn ol mor gynted ag y gallont-y giwed gas. Ac ar ol y cwb), rhaid iddynt gael grwgnach a dadleu. Ychydig ddyddiau yn ol, ysgrif- enodd Ffrancwr lythyr i'r Times mewn natur ddrwg, yrwyf yn sicr, yn condemnio pawb a phob peth. Yn sicr, y mae yn rhaid ei fod wedi dyfod o'r gwely y boreu yr ysgrifenodd ef yr ochr chwith, Nid oedd dim yn ei foddIoni-yr oedd yr adeilad yn hyU—pob peth o'i fewn ddim yn werth C'iniog ddrwg; a phob Sais o fewn Llun- dain yn edrych yn gam arno. Poor fellow! buasai yn well iddo aros yr Ffrainc gyda ei fam, na dyfod yma i aflonyddu ar ein heddwch, ac i tod ar ein ffordd. Y gwir am dani yw hyn, sef eu bod hwy yn meddwl nad all John Bull wneyd dim yn iawn. Erbyn y mae pob peth yn ei le yn yr adeilad-yr ydych yn gwybod nad oedd agos yn barod pan yr agorwyd ef Yr oedd department y Ffraucod yn hynod o anor- phenol-a'r Arnericaniaid hetyd braidd ar ol. Y r English Department oedd yn fwyaf forward. Erbyn y cyrbaeddo y rhifyn hwn chwi, bydd yr adeilad yn cael ei agor i'r cyhoedd am swllt. Hyd yn hyn y mae wedi bod yn hanner coron a choron; ond y mae hyny drosodd yn awr; ac felly, os oes rhai o honoch am ddyfod i fynv, dyma yr adeg. Y mae yn wir werth dyfod i weled arddan- gosfa 1862-y mae yn llawer mwy cyflawn nag eiddo 1851, ac yn dangos yn fwy eglur na dim arall, y cynnydd ag sydd wedi cym- meryd lie mewn deng mlynedd. Yn mhob department, gellir dweyd fod gwelliant wedi cymmeryd lie yno. Wrth edrych ar hen agerdd beiriant James Watt, yr hwn sydd yn y South Kensington Museum, a'r peir- iannau sydd ar waith yn yr Arddangosfa, gellir canfod y gwananiaeth ar unwaith. Byddai yn dda i'r rhai sydd yn bwriadu dyfod yma wneyd sylw o'r cynghorion, neu yr awgrymiad a ganlyn sef, 1. Peidiwch a dodi gwisgoedd drudfawr am danoch oblegid y mae cerdded heolydd Llundain yn lie dychrynllyd i ddyfetha dillad. Y ffordd oreu yw ymwisgo yn y dull plaenaf sydd bosibl. Gofaler am adael y gadwen aur gartref, a phob peth arall sydd a thuedd ynddynt i dynu sylw. Hefyd, dylici gadael heibio y dull Cymreig o ddilladu, sef y merched yn ymwisgo hetian, a phob peth o'r natur hyny. Gwnewch eich hunain i ymddangos mor gartrefol ag y gellwch, fel ag i beidio tynu sylw lladron cyfrwys-ddrwg Llundain. 2. Peidiwch a dyfod a gormod o arian gyda chwi; ac er mwyn pob peth, peidiwch a dangos llawer o honynt pan yu talu am unrhyw beth. Cadweh ddau bwrs, un yn cvnnwys eich stock, a'r llall yn cynnwys ychydig sylltau yn unig. Os bydd yr arian yn brin hawdd fydd anfon gartref am ych- waneg. Y mae Hadron Llundain yn medi cynauaf toreithiog y dyddiau presenol oddiar y bobl hyny ag sydd yn ddiofal o'u harian a'u watches. Nid rhaid i chwi wrth watch yma-y mae digon o glociau yn mhob man i roddi yr amser i ehwi-y mae yn wahanol i Gymru. 3. Peidiweh a derbyn ffafr gan neb a ddichon ddyfod atoch, yn wen i gyd, gan gynnyg gwneyd cymmwynas i chwi; gell- wch fod yo benderfynol nad yw en dyben yn gywir. Os bydd arnoch eisieu rhywbeth, telwch am dano, a dyna y peth ar ben. Os dygwydd i chwi golli y ffordd gofalwch am ofyni boliceman yn unig, a pheidiwch a gofyn n& chredu neb arall. 4. Peidiweh ag ymddangos yn ddyeithr, na sefvll i edrych o'ch ewmpas; ond ceis- iwch ymddangos fel wedi eich geni yn Llundain. Os bydd arnoch eisieu cab, ewch at y driver, a siaradwch ag ef mewn llais awdurdodol, fel pe buasech yn gwybod eymmaint ag yntau am leoedd. Cofiwch gymmeryd ei number, fel y gallech ei alw i gyfrif os gwna rywbeth o'i Ie. Cyn ei logi, treiwch gael gwybod y distance i'r man v byddwch yn myned, ac yna ni raid i chwi ddweyd gair, ond peru iddo eich gyru yno, ac ar b^n y daith talu iddo chwe cheiniog y filltir, a dim yn ychwaneg. Pan yn myned i drafaelio yn yr omnibusses, byddwch yn sicr o edrych drosoch eich hunain, ac fod yr omnibus yn myned i'r He sydd arnoch eisieu myned-y mae y lleoedd wedieupaentio y tu allan i bobun o honynt. Y gwir am dani yw hyn, y mae yn rhaid i chwi fod &'ch llygaid.yn agored mewn He fel hwn, ar y lath adeg. Y mae lladron yma yn mhob dull a modd. Amser agoriad yr Ar- ddangosfa, pan yr oeddwn yn caelfy nghario gan y dorf, teimlais law ddyeithr yn fy llogell dair gwaith yn ystod dwy awr o amser, a buasai wedi lledrata hefyd pe buasai yno rywbeth gwerth ei gymmeryd. Gochelwch ymgymmysgu a thorfeydd gymmaint ag a alloeh-y mae lladron yn sier o fod yno. Mewn perthynas i lettya, byddweh yn ofalus iawn i fyned i ryw le respectable- mewn heol barchus, os gellwch mewn modd vn y byd. Yr wyf yn sicr mai y coffee houses yw y lleqedd rhataf a diogelaf hefyd. Ymgedwch mor bell ag y galloch o'r man dafarndai)—os ewch i un o gwbl, ewch i un parchus, yr un faint raid dalu yn union. Lie hynod yw LInndain, gellwch fyw mor rhad ag y mynwch, ac mor ddrud ag y mynoch hefyd. Pan y byddaf fi yn rhy bell o'm cartref, byddaf yn myned i un o'r Coffee Houses, neu y Dinner-saloons, agallaf gael ciniaw first class am swllt, a the am wyth geiniog. Os caf fi heddweh gan fyd achreaduriaid, bydd i mi mewn rhifynau dyfodol roddi braslun o gynnwysiad y drysorfa genedl- aethol hon, ag sydd yn tynu sylw byd o bobl. Ffarwel y tro hwn etto. Bydd i ni eich cofio at y Frenines pan y gwelaf hi nesaf.

News
Copy
HANESION CYFFREDINOL. GWYL TRI-CHAN-MLWYDDOL CALViy.—Cyn nyujir cadw g&yl dri-chan-mlwyddol am farwolaeth John Calvin, y diwygiwr, trwy adeiladu neuadd gyhoeddus yn Geneva. Dysgwylir i holl Gristion. ogion Efengylaidd y byd Cristioiiogol ymuno i gyfranu at yr amcan. Y mae pwyllgor darbodol wedi ei ffurfio yn y wlad hon, ac y mae Arglwydd Shaftesbury wedi eytuno i weithredu fel llywydd. DXWYGIAD CREFYDDOL YN AMERICA.—Dywed y New York Chronicle:—" Mwynheir graddau helaeth o ddiwygiad crefyddol yn y cyrddau gweddi dyddiol lluosog a gynnelir yn nghynnulleidfa y Parch. H. Ward Beecher, Brooklyn. Y mae o ddeugain 1 ddeg a deugain wedi eu dychwelyd yn obeithiol at yr Arglwydd mewn cyssylltiad a'r cyf- arfodydd hyn. Yn ystod y gauaf diweddaf, cafwyd diwygiad crefyddol grymus yn ninas Bath, a dych- welwyd cannoedd yn y gwahanol gynnulleidfaoedd yn y lie. Mwynheir diwygiad gwresog yn y dydd- iau hyn mewn gwahanol leoddd yn nhalaeth Massa- chussetts. CAMLAS SUEZ.—Dywed eohebydd y Times yn Alexandria mai arafaidd iawn y mae y camlas yn myned yn mlaen, a bod anhawsderau mawrionary ffordd. Yiaddengys fod gwahaniaeth mawr yn