READ ARTICLES (2)

News
Copy
:'x AMERICA. Yr Enciliad o Yorktown. Newyddion o Efrog Newydd a hysbysant i Jefferson Davies gyrhaedd Yorktown ar y 30ain o Ebrill. Wedi ymgynghori &'r prif gadfridogion, cytunodd pawb nas gellid cadw meddiant o Yorktown, ac mai doeth- ineb oedd iddynt ymadael o honi. Y Cad.. fridog Macgruderyn unig oedd o'r farn nad doeth oedd iddynt ymadael. Rboddodd y Cadfridog Johnstone orchymyn, ar y cyntaf o fis Mai, i'r milwyr fyned ymaith. Dech- reuasant ymadael ar yr 2il, a gorphenasant yn y nos ar y trydydd dydd. Gadawodd y gwrthryfelwyr nifer mawr o fagnelau a chludgelfi, nas gallent eu symud, ar eu hol rhag ofn i filwyr yr Undeb weled eu hen- ciliad. Cyn gynted ag y deallwyd eu bod wedi ymadael, cychwynodd byddin M'Clellan ar eu hoi. Daeth yr Undebwyr o'r tu ol i'r gwrthryfelwyr ar y 4ydd o'r mis hwn, mewn lie oddeutu dwy filltir o Williams- burg. Cafwyd fod eu hochr ol yn gref iawn ac o herwydd nad oedd gan yr Un- debwyr nifer digonol o wyr traed, a'r nos yn nesau, gohiriwyd yr ymlidiad hyd foreu y 5ed. Aeth gwnfadau yr Undeb i fyny Afon York ar yr un amser ag yr oedd y tir- filwyr yn gwneyd yr ymlidiad. Dywed enciliwr fod y gwrthryfelwyr yn YorktowD yn rhifo 100,000 o wyr. Y mae M'Clellan wedi cyhoeddi hysbys- iad swyddol fod holl linellau gweithfeydd y gwrthryfelwyr yn gryfion iawn. Efe a chwanega—" Yr wyf yn awr wedi fy liwyr argyhoeddi o gywirdeb y cwrs a ddilynais; y mae y llwyddiant yn ogoneddus, a gellwch fod yn sicr y bydd ei effeithiau o'r pwys mwyaf." Cymmerwyd yr agerlongau Ella Warley, y 6 Bermuda, a Florida, wrth geisio rhedeg y gwarchae. Y mae Mr. Seward wedi hysbysu yn swyddol i'r gweinidogion tramor fod rhyddid yn awr i lythyrgodau yr Undeb o dan arol- ygiaeth filwraidd fyned i New Orleans a phorthladdoedd ereill a feddiennid yn ddi- weddar gan y gwrthryfelwyr; hefyd fod trethgasglwyr wedi eu happwyntio yn New Orleans, a'u bod yn gwneyd y parotoadau angenrheidiol i lacau y gwarchae mor bell ag i anfon nwvddau mewn llongau i ac o New Orleans, ac un neu ddau o borthladd- oedd ereill, y rhai ydynt yn awr wedi eu cau. Hysbysir yr amser a'r telerau yn gy- hoeddus. Y mae cadfridog y gwrthryfelwyr yn Savannah wedi amlygu ei fwriad i amddi- ffyn y ddinas hono hyd yr eithaf. Dywedir fod yr agerlong Nashville wedi rhedeg y gwarchae yn Wilmington gyda llwyth o bylor ac ystorfeydd i'r fyddin. Pasiodd trwy lynges o saith o lestri, pob un o ba rai a daflasant beleni iddi heb wnevd un niwed. Dywed ymnoddwyr o Memphis fod yr Undebwyr wedi cymmeryd meddiant o Baton Rouge yn ddiwrthwynebiad; ac hefyd fod y Cadfridog Butler wedi glanio ei filwyr yn New Orleans, lie y cymmerwyd meddiant o symiau mawrion o gotwm. Y mae dinasyddion Undebol New Or- leans wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus, yn niha un y gwnaed arddangosiad brwdfrydig. Dywed rhai ymnoddwyr na bai ond ychydig o wrthwynebiad i fynediad gwntadau yr Undeb i fyny y Mississippi. Brwydr yn Williamsburg, Dywed y .Cadfridog M'Clellan fod y Cad- fridog Hancock wedi cymmeryd dau rag- fur, ac wedi gyru y gwrthryfelwyr yn ol mewn dull gogoneddus. Nid wyf yn gwybod ein coiled yn gywir, ond ofnir fod y Cadfridog Hooker wedi colli cryn lawer ar ein hochr aswy. Yr wyf yn deall oddiwrth y carchaforion fod y gwrthryfelwyr yn bwr- iadu ymladd pob cam o'r ffordd i Richmond, a gorfodaf hwynt i sefyll yn ol beth bynag tra yn glynu wrth fy nghynllun gwreiddiol. Y mae yn ddiammbeu fod yr holl allu yn llawer llai na gallu v gwrthryfelwyr, ond gwnaf hyny a allaf gyda'r gallu sydd o dan fy llywyddiaeth. Mewn brysJythyr arall dywed M'Clellan Y mae genyf i hysbysu fod yr Undeb- wyr wedi cymmeryd Williamsburg fel ffrwyth y frwydr ddoe. Llywyddodd y Cadfridog Hancock i droiochr aswy llinelly gwrthryfelwyr. Derby niod dy Cadfridog Han- cock adgyfnerthion mawrion, ac ymadawodd y gwrthryfelwyr o'.u sefyllfa yn y nos. Y mae genym 1,000 o garcharorion, a 1,000 0 garcharorion clwyfedig. Y mae gweith- feydd y gelyn yn helaeth ac yn gryfion iawn. Collodd adran Hooker nifer mawr. Ni chollodd Hancock ond ugain o wyr. Y mae y tywydd yn hyfrvd. Ein anhawsder ydyw I I y cael ymborth, am fod y ffyrdd morddrwg." Y mae y bryslythyr yn terfynu gyda'r geiriau hyn "Y mae genym frwydrau ereill i'w hymladd cyny cyrhaeddwn Richmond." Taenir y gair fod Beauregard wedi vm- adael o Corinth. Bryslythyr dyddiedig Mai 7 fed, o York- town, a hysbysa fod galluoedd M'Clellan, ar 01 i'r gwrthryfelwyr ymadael o Williams- burg, wedi eu herlid hwynt am wyth milltir tuhwnt i Williamsburg, cyn belled ag afon Chickahominy, ar draws yr hon yr oeddynt yn encilio, gan ddinystrio yr holl bontydd. Gorphwysodd galluoedd M' Clellan ar ochr aswy yr afon. Y mae ugain mil o filwyr yr Undeb dan y Cadfridog Franklin wedi glanio yn West Point, ugain milltir uwchlaw Williamsburg. Ymddengys fod adran aral! o fyddin yr Undeb wedi cychwyn tua West Point. Os nad allodd y gwrthryfelwyr, ar ol croesi y Chickahominy, gyrhaedd Richmond trwy ffordd yr afon James, tybir y llwydda gallu- oedd yr Undeb i lwyr attal enciliad y gwrth- ryfelwyr. Aeth yr agerlong Undebol Galena, yrhon sydd wedi ei goruchio a haiarn, yn nghyd a dau wnfad, i dori cymmundeb byddin y gwrthryfelwyr ar yr afon Chickahominy. Y mae Ty y Cynnrychiolwyr wedi pasio ysgrif yn gwneyd Hilton Head, Carolina Ddeheuol, yn borthladd i longau masnacb ddyfod i mewn iddo. Yr oedd archwiliad gwnfadau haiarn yr Undeb, cyn belled a Sewell's Point, wedi sefydlu y ffaith nad oedd ond ychydig iawn o ddynion a magnel- au yn aros yno. Nesaodd y Merrimac a'r Monitor at eu gilydd amryw weithiau, ond ni chymmerodd un frwydr le rhyngddynt. Cymmerodd brwydr le yn West Point rhwng adran gyntaf Franklin, a'r gwrthry- felwyr o dan Lee. Tywalltodd gwnfadau yr Undeb beleni i blith y gwrthryfelwyr, agor- fodwyd hwynt i encilio. Ar y 9fed o Fai, anfonodd M'Clellan yr adroddiad swyddol canlynol o Williamsburg: —" Yr wyf wedi llwyddo i ymuno a gallu- oedd Franklin. Y mae y milwyr mewn sefyllfa ragorol." 0 Y mae prif gorff y gwrthryfelwyr wedi encilio dros yr afon James. Dywedir eu bod wedi dyoddef prinder ymborth. Nid oedd Ilawer o'r milwyr gwrthryfelgar a gym- merwyd yn garcharorion wedi profi dim ond eacenau caled er's wyth awr a deugain, ac yr oeddynt mewn sefyllfa luddedig iawn. Y mae yr Undebwyr yn nesau yn gyflym at Charlestown a Savannah. Llosgwyd un mil ar ddeg o sypynau o gotwm yn New Orleans. Rhoddodd Amddiffynfeydd Jackson a St. Phillip eu hunain i fyny ar yr ammod fod i'r swyddogion gael eu harfau, a bod i'r I gwarchodlu gael rhyddid i fyned ymaith yn ddirwystr.

News
Copy
PRWSIA. Yr wythnos cyn y diweddaf, agorwyd Senedd y wlad hon gan y Prif-weinidog, yn enw y Brenin. Yn ei araeth ar yr ach- lysur, dywed fel y canlyn :—" Y mae cyllid y wlad mewn sefyllfa ffafriol. Dygir cyn- nildeb i mewn i weinyddiaeth y fyddin, cyn belled ag y gellir yn gysson ag effeithiol- rwydd ygwasanaeth, GosodIr cynllun ger- bron i helaethu ffyrdd haiarn y wlad. Y mae y llywodraeth wedi gwneyd cytundeb mas- nachol & Ffrainc, yr hyn sydd yn sicr o gynnyddu masnach rhwng y ddwy wlad. Nid yw yr ymdrafodaeth a Denmarc wedi bod yn llwyddiannus hyd yma. Dysgwylir i Denmarc gyflawnu ammodau cytundeb 1852. Y mae ein llywodraeth wedi llwyddo i gael gan lywodraethau Germany ymuno i ofyn i Etholwyr Hesse adsefydlu Cyfansodd- iad 1831 ac nid ydys yn awr ond dysgwyl am atebiad penderfynol oddiwrth yr Eth-