READ ARTICLES (1)

News
Copy
enclave of archdeacons, or committee of laymen, lnaagine that Wf; shall ever be turned aside from the aecomplishment of our objects by any amount of ^representation. As long as the fundamental aw of Christ's kingdom—1 Do unto men as you Would wish men to do unto you'—is ignored and trampled under foot by a haughty and wicked priest- craft, there can never be any peace and unity." Undeb a heddwch ddywedaist ti, Llangelerian ?" tt, Pa heddwch tra fyddo puteindra Jezebel dy fam dl, a'i hodoliaeth, mor ami ?" Dywedir wrthym gan yr undeb-edmygwr CMtholic '*nt mai dyfais fawr y fagddu yw Ymneillduaeth, IC mai cynghreiriaid y cythraul i ddinystrio eglwys Uw ydyw y gwahanol bleidiau annghydffurfiol. Yr !*Jf yn teimlo fy mod yn darostwng fy hun yn fawr I Wneyd un sylw o'r eyfryw gabledd gorphwyllog "ddiwrth y fath hwdwl ynfyd, ac ni buaswn yn Swneyd hyny ar un cyfrif oni buasui fy mod yn ys- tyried fod eisieu i'r wlad wybod beth yw ysbryd a "Jniadau anfad, a chynddaredd erlidgar y sect sefydledig yn Nghymru. Gan fod Ymneillduaeth yn ddrwg mor fawr, yr oedd pechod Eglwys Loegr yn fawr i ymneillduo yn 8ismaticaidd oddiwrth Eglwy. llhufain, mewn tondeb &'r hon yr oedd wedi bod er pan oedd mewn bodolaeth fel Eglwys Sefydledig, sef o amser y bre- Oswy hyd Harri VIII.—oddeutu naw cant o flynyddau. Pechod ysgeler a thrueni mawr oedd rhwygo y fath undeb anwyl a hirfaith-gyssegredig. Ond chwareu teg i'r ferch o Loegr, nid ei dewisiad ^eillduol hi oedd ymadael a'i hen fam; Harri, ei Phen a'i harglwydd, a'i gorfododd, am nad oedd y Pabyn caniatau iddo ddigon o ryddid i'w drythyll- Web, ei gnawdolrwydd, a'i greulondeb bwystfilaidd. Y n Rhufain mae calon y ferch hyd y dydd heddyw, fel y'tystia miloedd o'i hoffeiriaid Puseyaidd., Yr hen 90stume Pabaidd mae yn ei wisgo, ac ni fyn Sol' am ei newid. Nid yw ei ffurf-wasanaeth a'i ghvyswlywiadaeth ond Pabyddiaeth wedi ei anurddo i anmharu. Gonestrwydd a chyssondeb fyddai i'r 'Wch, yn ngwyneb ei syniadau am Sism, i frysio yn 1 Rufain i ymgymmodi i'r pab, ac i gael benedic. "on yr hen ddyn, ei thad, cyn dydd ei drane tra- sywyddol, yr hwn sydd yn ymyl y drws. Ond beth aal sôn. am onestrwydd a chyssondeb yn y sect doledjg: mae ei chyfoeth mor anferth. gym- «aint yn fwy nag >11 ei hen fam o Rufain fforddio dj, ei rliwysg bydol mor fawr, a dylanwad a chad- y^au Mammon mor gryf, fel ag i dagu pob a,-gy- oeddiad, i ladd pob syuiad o onestrwydd, ac i oddef J"? dawel o'i mewn bob Siem, heresi, anffyddiaeth, "Owyth, a melldith. j Am danom ni' y rhai nad ydTm o'r gorlan Babi- yd}'m yn sweled un drwg mewn ym- euiduo oddiwrth bob cymmundeb anysgrythyrol ac aonghristaidd. Yr ydym yn cael ein hunain yn ghwmpeini rhai rhagorol y ddaear. lesu Grist ei unan a ro'ddwyd i farwolaeth o herwydd gwrth- ynebu a chondemnio hierarchy Iuddewig, a hau 2? "ys? 7 bobl y hyn a alwai yr offeiriaid a'r «arigeaid yn egwyddorion annheymgar, yn heresi, 10 gabledd, yn waith y cythraul i derfysgu y bobl, 1 ddinystrio y deml, ac i ddymchwelyd yr hen sfefydd genedlaethol. Ymneilldmvr ac annghyd. irfiwr trwyadl oedd yr Apostol Paul, yr hwn oedd wedi ei ddwyn i fyny yn aelod o'r sect genedlaethol, ac yn Uawn o'i hysbryd dallbleidiol a gwaedlyd Old pan gafodd ras. fe fabwysiadodd y ffordd yr oeddynt hwy yn ei galw yn heresi," ac fe ddaeth yn "sect hon, yr oedd yn hysbys fod yn lXIhob man ddywedyd yn ei herbyn." Ymneillduwyroddiwrthyr "Eglwys Lan Gatholic Apostolaidd o Rufain oedd y Waldensiaid, yn )))111g pa rai y cadwyd crefydd bur yn fyw trwy ystod Yr oesoedd tywyll. Ymneillduwyr oddiwrth yr un cymmundeb oedd Luther, Calvin, a Knox. Y m. neillduwyr o Eglwy. Loegr oedd Wesley a Whitfield r Diwygwyr Cymreig ;a diolch i'r Nefoedd maa y mwyafrif mawr o ddynion goreu a duwiolaf y deyrnas yn Ymneillduwyr y dydd heddyw. 01 V gwaith y fagddu, fel y dywed y gwr eglwysigo Lan- geler, yw hyn all-os offerynau yn llaw Satan yw y rhagorolion hyn, llwyddiant iddo i'w lluosogi yn fll mwy. Dywed y Dominie Samson hwn o Langeler, fod pwtpidau yr Ymneillduwyr yn safleoedd i feithrin anfoddlonrwydd 80 annheyrngarwch," See. Dyma un o hen gelwyddau y sect lywodraethol agwaddol. edig er cynhyrfu rhagfarn yn erbyn pleidwyr gwir. ionedd a rhyddid yr efengyl, ac er cadw meddiant o bwrs a nawdd y wladwriaeth. Ond y mae y cyhudd- iad wedi ei hen brofi mor gelwyddog a ditaU, fel na feiddia un gwleidiadwr nac aglwyswr, yn berchen common sense, a'r parch lleiaf ganddo i'r gwirionedd, ei grybwyll; ond am ryw wehilion dienaid, wedi eu dallu gan falais, cynddaredd, a digofaint at y g1\ir- ionedd, beth sydd ganddynt i'w wneyd, o ddiflfyg arguments i amddiffyn eu heglwys, ond myned i hen domenydd drewedig yr inquisition a'r star chamber, i racio i fyny hen gelwyddau hwtiedig yr oesoedd gynt. Annheyrngarwch yn wir Pe byddai yn rhyw ddybeni son am dystiolaeth hanesyddiaeth, tystiolaeth prif ddeddfwyr a barnwyr y deyrnashon, ffeithiau a gwirionedd presenol, wrth ryw bagan celwyddog fel hwn o Langeler, sydd yn edrych ar bob peth trwy spectols twyil ac anwiredd, gallem yn hawdd ddangos iddo nad oes un dosparth wedi profl eu hunain yn well deiliaid i'r goron, yn ffyddlonach i egwyddorion y constitution, ac yn fwy teyrngar i'r orsedd, nag Ymneillduwyr Protestanaidd y deyrnas Kon, a hyny yn ngwyneb yr anfri a'r annghyfiawri- der mwyaf oddiar law yllywodraetb. Os ydyw yr esgobion a'r offeiriaid yn deyrngar, pa ddiolch iddynt; onid creaduriaid a gweision y llywodraeth ydynt? Onid am eu gwaseiddiwch hunanol y telir iddynt ddeng miliwn a mwy o arian y wladwriaeth yn flynyddol, ac y gwisgir hwynt a'r fath rwysg, mawredd bydol, balchder, uchafiaeth, lie awdurdod yn y wladwriaeth t Ond nid yw au teyrngarwch ond y fath fwyaf hunanol wedi'r cyfan, yn eodi oddiar bunanles a hunanfoddhad—teyrngarwch o'r unrhyw ag eiddo yr Eagob Bancroft, yr hwn, pan dyngodd y coegddyn siolwag Iago I. y byddai iddo glirio y wlad yn fuan o Buritaniaeth, ac na roddai fymryn o ryddid ond i'r esgobion, a syrthiodd wrth ei draed, ac a ddywedodd, I protest my heart melteth for joy, that Almighty. God, of his singular mercy, has given such a King as since Christ, a time hath not been !Teyrngarwcb with ven- geance, yn addoli breninoedd drygionus, ac yn gwenieithio i dywysogion adwythig a gorffiaidd eu nodweddau, yn nheml Duw, tra yr oeddynt ya chwareu i ddwylaw yr eglwys—yn clodfori ac yn amddiffyn ysgelerderau, trais, bradwriaeth, a chreu- londeb breninol yn erbyn iawnderau y bobl megys yn amser y Stuarts, pa rai a gynghorai yr esgobion i wneyd heb Senedd, i ddymchwelyd y constitution Prydeinig, ac i osod eu traed yn lIofruddiol ar wddf cymdeithas, fely byddai i'r gethernesgobolgael mwy o ryddid i chwareu eu fantastic tricks before high heaven." Y pryd hyny gellid yn briodol dweyd,— "The Church of England doth all faction foster, The pulpit is usurped by each impostor." Teyrngarwchysgèleryr Esgobion Parker, Whitgift, Bancroft, a Laud, a'u brodyr Apostolaidd, a gostiodd i Siarl I. ei ben, a barodd i'r llinach ddirmygedig i golli coron Prydain, a chael eu hwtio allan o'r wlad gyda melldithion chwerwaf y genedl. Yr oedd king-craft y Tudors a'r Stuarts yn ddigon drwg ynddo ei hun, ond gwnseth priest. craft y r esgobion ef yn lit gwaeth, fe'i meddwodd ac a'i pendronodd a gwin ei odineb a'i wallgofrwydd, ae a ddygodd y deyrnas hon i ddiffwys dinystr cyffredinol oni buasai, yn oltystiolaethy gelyn Hume ei hunan, fod Puri- taniaeth ac Annghydffurfiaeth y genedl fel gwrth- glawdd yn attal. Son wna y sect esgobol a sefyd. ledig am eu teyrngarwch I Dim ond iddo gael ei groesi yn y mymryn lleiaf fedry yn elynol ac yn fradwrus i'r orsedd a'r llywodraeth yn union, fel y dangosodd yr esgobion a'r offeiriaid trwy William HI. pan y dygodd i mewn ddeddf y goddefiad, ac y safnrwymodd y bwystfil mileinig, fel na allai lof- ruddio saint Duw mwyach yn y wlad hon. Yet greatly did the beast rebel at those Strange bonds, whose like till then he never bore." 0 herwydd tuedd ryddfrydig a chyfiawn William » gwrthododd yr Archesgob Sancroft, yn nghyd A llawer o'r esgobion a'r offeiriaid, i gymmeryd y llywodlw (oath of allegiance) i'r brenin, o herwydd yr hyn y galwwyd hwynt yn non-jurors. Dyma y dynion ag oeddynt wedi bod yn pregethu trwy yr oesau yr athrawiaetto o non-resistance and passive obedience i'r brenin, pa mor ysgeler, treisiol, an. nghyfiawfl, a melidigedig bynag fyddai ei lywod- raeth, ond iddo fod yn ffyddlon i'r eglwys; ond wedi cael brenin ag ychydig o ddynoliaeth a pharch ynddo, fel ag i roddi attalfa ar gynddaredd lofrudd. iog y bwystfil, dyma hwy, yn groes i'w hoff athraw- iaeth, yn troi i wrthwynebu y brenin, ac yn datigos nad oedd eu teyrngarwch ond sham rhagrithiol, yn sylfaeriedig ar yr hunanoldeb atgasaf. Nid oes gan y llywodraeth a'r orsedd un ymddiried yn nhevru- garweh trwyadl, boddlonrwydd, a gwarogiad gwir- ioneddol yr Eglwys Sefydledig, onide paham v torir i fyny yr houses of convocation, trwy orchymyn breiniol, bob tro y cyfarfyddant o amser George I., er mawr flinder a gofid i ysbrydion aflonydd ae uchelfrydig y sect waddoledig ? Pe byddai i'r llywodraeth i basio unrhyw fesur a fyddai yn groes i ddeddfau yr eglwys, byddai i'r arghvyddi ysbrydol daflu eu teyrngarwch i'r gwynt —pregethu anymostyngiad a herio y llywodraeth, fel ag y mae Philpots a Wilberforce wedi gwneyd yn y blvnyddau diweddaf. Beth pe byddai i'r llywod- raeth i dyna ei nawdd oddiwrth y sect esgobol- cymmeryd oddiwrthi ei chyfoeth anferth, ei gogon- iant bydol, ei holl yspail annghyfiawn, a'i gorfreint- iau neillduol, a'i gosod ar yr untir ag eglwysi rhydd y wlad-beth hefyd i Dychymtuyged y darllenydd. Beth am ei theymgarweh wedi'n ? Byddai un oer- lef erchyll o anfoddlonrwydd, o gabledd ac o fell- dithion ar ben yllywodraetb, o John-o-Groat hyd Land's End. Byddai seirff annheyrngarwch a gwrthryfel yn chwithrwd o Lambeth i Langeler. Byddai yn anhawdd, o'r Arglwydd Esgob hyd Sien- cyn Morgan y curad, i gael neb i weddio dros y teym a'r teulu breninol, ac uchel lys y Parliament. Byddai yr boll broctoriaid a'r caweiod ecclesiastic yn rhegu a'r tithe-factors, o bont Llundain i bont Henllan, yn dangos eu dannedd, ac yn bygwth Ilosgi holl 9d y Philistiaid, a myned i Lundain a rhoddi y Thames ar dân. Etto, dyma y taclau haerllug a fynant ein camgyhuddo, ein sathru dan d^aed, ein caethiwo, ein hyspeilio, a'n henllibo —a feiddiant gyhuddo y dosparth ffyddlonaf o ddeiliaid ein grasusaf Frenines, o fagu a. meithrin annheyrn- garweb-pobf sydd yn gweddio drosti hi a'i llywod- raeth yn wastadol, heb dderbyn amgen tal na chael eu nacau o'u hawliaucyfiawn. Dywed "Llangelerian" fod gweinidogion yr Ymneillduwyr yn cynhyrfu y werin er mwyn eu cadw yn Ymneillduwyr, fel y byddo iddynt gael bara a chaws. Ytnddengys fod y cynic yma fel Diogenes, wedi arfer byw mewn twba ar hyd ei oes, heb wybod am ddim ond am ei fyd bach ei hun, ac felly heb un reol i farnu ereill ond ei brofiad ei hun a'i frodyr. Fe \VY1' pawb mai bywioliaeth ac elw bydol yw egwyddor fawr gymhellol y rban fwyaf o bersoniaid y wlad. Clywais foneddwr sydd yn dra adnabydduso honynt yn dweyd, yn ddiweddar, mai y dosparth mwyaf ofnadwy am arian, a mwyaf trachwantus am fanteision bydol, a adnabu ef erioed oeddynt, a'u cymmeryd gyda'u gilydd. Pa fwyat a g&nt, fel merched y gell, mwyaf yw eu lief, Moes, moes. Cneifio'r defaid, hyntio ar ol preferment, a chynllwyn am dderchafiad, dyma'r prif nod. Ofni colli yr elw sydd yn cynhyrfu y waedd, Church in danger, ac yn eu gwneyd mor ffyrnig yn erbyn yr Ymneillduwyr. Ychydig o honynt sydd yn gofalu fawr am les ysbrydol y bobl, pe byddent yn alluog i wneyd hyny. Yr Ymneillduwyr sydd yn gofalu am