READ ARTICLES (4)

News
Copy
GWEITHREDOEDD CAPELI. Ymddengys fod gwall yn uil o adranau cyfraith cofrestriad capeli, fel yr ymddangosodd yn ein Rhifyn diweddaf. Derbyniodd yr ysgrif gymmer. adwyaeth pwyllgor y Ty fel yr ymddangosodd yn SEREN CYMRU; ond ar ol hyny, gwrthwynebwyd y 5ed adran gan y Cyfreithwyr Cyffredinol, yr bwn a ddarparodd un arall yn ei Ie. Newidiwyd bono gan Arglwydd Cranworth ac fel hyn y saif wedi derbyn eymmeradwyaeth dau Dy y Senedd In all cases in which money shall have been really and bona fide expended, before the passing of this Act, in the substantial and permanent improvement, by building or otherwise, for any charitable use, of land of any tenure whatsoever of which possession is now held by virtue of any deed or assurance, conveying or pur- porting to convey the same, or declaring any trusts or trust thereof for such charitable use, all money so ex- pended shall be deemed for the purposes of the said Act, equivalent to money actually paid by way of con- sideration, for the purchase of the said land." Y mae yr adranau ereill yn sefyll fel yr ymddan. gosasant yn ein Rhifyn diweddaf.

News
Copy
BERTHLWYD A'R GYMMYDOGAETH. MR. GOL.Feallai mai nid hollol annerbynol gan eich lluosog ddarllenwyr, fyddai pwt o lith bach mewn cyssylltiad â'r lie uchod. Gallaf sicr- hau i chwi fy mod cyn falcbed a gwraig ar ei chynt- afanedig, pan welais fy ysgrif flaenorol wedi cael lie yn eich SEREN glodwiw. Mae yr ardal hon, er nad yjv ond un fechan, yn dra ami ei thrigolion, a thrwy hyny yn dra ainl ei chyfeiliornadau. Ond meddyliaf mai yr un mwyaf gwarthus yw, -1 Mormoniaeth." Mae y gyfundrefn felldigedig hon yn cael ei gwneyd i fyny gan ddau ddosparth; sef, y rhai anwybodus, a'r rhai mwyaf llygredig. Byddant ar brydnawnau'Sabbothau yn bregawthan yn nghonglau'r heolydd, nes merwino clustiau pob dyn ystyriol. Nid hso achos y llefarir ac yr ysgrifenir yn eu herbyn, adylai gweinidogion yr efengyl, ac athrawon ein hysgolion Sabbothol, godi eu lief yn uwch yn eu herbyn, gan ddynoethi eu ffieidd-dra ofnadwy, fel na hudont ragor o'n cydgenedl i gofleidio eu hathrawiaeth ddamniol. Ychydig ddyddiau yn 01, ymadawodd rhai o'r twyllwyr hyn o'r lie hwn, er ymfudo i'r ddinas santaidd yr hyn a barodd lawenydd nid byehan yn yr ardal, ac o'r tu arall, a barodd ofid mawr mewn un teulu; ond rbag dolurio teimladau y i cyfryw, gwell i mi attal hysbysu yr amgylchiad. Gadawaf hwynt yn awr gyda dweyd,— Canwn ffarwel gu o'm calon Am gael gwared o bob Mormon. Mae achos y Bedyddwyr yn parhau i gynnydda yn y lie hwn, er gwaethaf yr holl gyfeiliornadau mae yma ymgeiswyr parhaus am ymostwng i fed- ydd y Testament Newydd. Llwyddiant i'r gwir- ionedd, meddaf 6. Rhag meithder, terfynaf y tro hwn etto. Yr eiddoch hyd byth. DXDYMUS,

Detailed Lists, Results and Guides
Copy
RHODDION ']'i,l, AT GAPEL NEWYDD BODGYNWCH, LLANGERNYW, SIR DINBYCH. DYMUKAF gyflwyno y diolchgarwch gwresocaf i'r cyfeillion a'r eglwysi canlynol ameu cyfraniadau :— s. c. Bethania, Castellnedd 0 5 0 Aberdulais 0 5 0, Mr. John Thomas, Glyn Nedd 0 7 6 'f;¿", 0 12 6 Ramoth, Hirwain 0 3 0 Heolyfelin, Aberdar o 10 0 Calfaria, Aberdar 1 11 o Mr. Philip John 0 2 6 113 6 Aberaman Q 4 G Thos. Evans 0 2 6 0 7 0 Berthlwyd 0 12 0 Seion, Merthyr 0 5 0 Cefncoedycymmer 0 5 0 Talybont 0 11 ft Parch. H. Parry 020 013 0 Felinfoel j g Cornelius. 0 3 0 William Rees 0 3 0 Parch. M. Roberts 0 3 0 John Roberts 0 2 0 Elizabeth Griffiths 0 2 0 Samuel Evans 0 2 6 William Thomas, Llanelly 0 2 6 Benjamin Thomas 0 2 0 Tiios. Thomas 0 2 0 2 18 6 Llwynhendy 1 3 of Seion, Llanelly 0 10 0 Bethel, etto 0 10 0 Seion, Treforris 0 7 6 Dinas, Gland wr 0 5 0 Caersalem newydd 0 7 0 Uddtar adnabyddiaeth bersonot o amgylchiadau y gymmydogaeth lie y mae y capel uchod, yr ydwyf yn teimlo yn llawen i gael ar ddeall ei fod wedi ei adeiladu. gan fod gwir angen am dano er ys blyn- yddau lawer. Yr ydwyf yn wresog yn dymuno cyflwyno yr achos i sylw y cyhoedd fel un o'r rhai mwyaf teilwng o dderbyniad a chynnorthwy. Yr eiddoch oil yn ostyngedig, Felinfoel. MOSES ROBERTS. •

News
Copy
Hosgood, priod anwyl Mr. Hosgood, Mechanic, Abernant, i osod y gareg sylfaen i lawr, yr hyn a wnaeth yn wylaidd a phenderfynol. Ar ol canu pennill, anerchwyd y cyfarfod yn hynod o briodol gan y Parchedigion W. Williams, Mountain Ash W. Harris, Heolyfelin T. E. James, Glyn Nedd a J. Emlyn Jones, A.C., Caerdydd. Yn ystod y cyfarfod darllenodd y Parch. T. E. James, Glyn Nedd, y pennillion canlynol, pa rai a gyfansoddodd ar gyfer yr achlysur dyddorol hwn ac ar gais y cyfeillion, wele hwynt at eu gwasanaeth :— Fe wawriodd arnom ddydd, Ugeinfed dydd o Fai, A wna i lawer sydd 'Nawr yma i lawenhau Mae genym obaith cryf yn awr 'R a Bethel fach yn Fethel fawr. Cof genym Bethel fach Yn dechreu, dyna'r gwir, Y lleiaf braidd'ran maint 0 fewn Morganwg sir; Ond y mae gobaith cryf yn awr 'R a Bethel fach yn Fethel fawr. Gofalodd Price, wr mad, Am dani pan yn wan Bu iddi megys tad, Ymdrechodd, do, ei ran Mae'n gweled er ei gvsur 'nawr 'R a Bethel fach yn Fethel fawr. Coronodd Brenin Nef Ei lafur helaeth gwiw, Yn awr gwobrwyir ef A bendith rasol Duw Nid ofer fu ei waith hyd 'nawr, • A Bethel fach yn Fethel fawr. Fe bleidiwyd yny lie, Holl ddeddfau llyfr gras, Heb gadiv iot heb ble O'r'wyllys bur i maes; Ac er ymdrechion i'w cael lawr, A Bethel fach yn Fethel fawr. Rhoed careg sylfaen gref 1 lawr y diwrnod hwn 0 wirfoddoldeb teg- Nid ydyw'r gwaith yn bwn Mae'r cynlInn i ni'n dangos 'nawr Gwneir Bethel fach yn Fethel fawr. Caed Mrs. Hosgood Ion, I wneuthur gwaith a bar Pan bydd hi dan y don Yn gorphwys yn y dda'r; Ei hoff ddymuniad ar bob awr, Wel'd Bethel fach yn Fethel fawr. Merch anwyl ei hoff dad (A'i mam sydl yn y bedd), Pa un sy'n glod i'n gwlad, Ei harwyddair yw Hedd Mae'n gwneuthur heddyw waith teg wawr, Wna Bethel fach yn Fethel fawr. Merch deilwng Watkins wiw Yw'r foneddiges hon, Gwir lun a delw yw, O'i thad cariadus lion, Fe gofir am ei gwaith teg wawr Pan elo'r Bethel hon yn fawr. Boed iddi hirfaith oes, A'i phriod hoff yr un, A'i hil ragorol foes, Heb gwrdd a. tbroion blin Dedwyddwch daear lawr a nef Foed i'r hoff deulu yw fy lief. Tra byddo maen ar faen 0 Fethel fyth mewn bod, Boed heddwch pur yn mlaen, A'r cariad goreu ei glod Ac yna erys fyth ar glawr Yn Bethel hardd luosog fawr. Achnbed Duw rhyw lu 0 fewn i Bethel gun, Fo byth yn berlau cu Yn nghoron Ceidwad dyn Fedyddwyr Cymru, llonwch 'nawr, Daw Bethel fach yn Fethel fawr. J Derbyniwyd yr anerchiad gyda chryn gymmeradwy- aeth gan y dorf wyddfodol. Erbyn y byddo yr hanes hwn wedi ei argraffu, bydd careg sylfaen addoldy newydd yn yr Vnyslwyd (parth arall o Aberdar) wedi ei gosod i lawr. Rhyfedd fel y mae yr Ar- glwydd yn llwyddo llafur ei was ffyddlawn Mr. Price. Eleni cynnelir cyfarfod Jubitaidd yr achos Bedyddiedig yn Aberdar, gan fod y fam eglwys yn bresenol yn hanner canrif o oedran, ac o honi wedi hanu allan yr eglwysi canlynol,-Hirwaen, Cwm- bach, Aberaman, Cwmaman, Cap Coch, Mountain Ash (Cymry a Saeson), Eglwys Seisnig Aberdar, Heolyfelin, Glyn Nedd, Cwmdar, Llwydcoed, Aber- nant, Ynyslwyd, a'r Gadlys. Gwir fod eglwysi Hirwaen a Heolyfelin yn famau i eglwysi, a pher- thyna iddynt barch am eu tynerwch a'u gofal; ond son ydym yn awr am yr hen fam, o ba un yn wreiddiol y gellir priodoli tarddiad y cyfan. Da genym hefyd hysbysu fod y merched oil (oddigerth y Cwmbach) mewn cyflwr iachus a chynnyddol. Mewn cyssylltiad a'r cwrdd Jubiliaidd, hoffem i'r Brodyr teilwng Mr. Price, Aberdar, a Mr. Evans, Castellnedd, ysgrifenu llyfryu gwerth tua swJlt o Hanes y Bedyddwyr yn holl derfynau Aberdar, o'u dechreuad. Gallasai fod yn hynod ddyddorol ar ol y cwrdd Jubiiiaidd. Cymmered ein hanwyl frodyr yr awgrym oddiwrth OHEBYDD.