READ ARTICLES (2)

News
Copy
♦ • Y DALIWR DYNION. MEWN canlyniad i'r weithred seueddol a wnned yn amser Charles yr Ail, i droi tua dwy fil o weinidogion duwiol allan o'r Eglwys Wladol, ymunodd amryw o honynt a'r Parch. R. Baxter i gynnal pregethiad cysson o'r ef^ngvl mewn ty annedd. Gan mai yn foreu iawn y cynnelid yr addoliad, cychwynai Mr. Baxter tua'r ty cyfar- fod y nos o'r blaen; ond goddiweddodd y ty- wyllwch ef, a chollodd y ffordd. Wedi iddo hir grwydro, dygwyddodd iddo fynod at dy bon- eddwr, ac yno gofynodd am gyfarwyddyd i fyned yn mlaen. Wedi i'r gwas hysbysu i'w feistr fod gwr o ymddangosiad boneddigaidd wrth y drws yn y cyfryw amgvlchiadau, barn- odd y boneddwr mai nid diogel fvddai gadael gwr felly i grwydro mewn anialdir y pryd hyny o'r nos, ac am hyny efe a'i gwahoddodd i mewn Derbyniodd Mr. Baxter y cynnygiad gyda diolchgarwch, ac ymddygwyd ato gyda mawr garedigrwydd. Ennillodd ymddygiad" gweddus, a gwybodaeth eang yr ymwelydd dyeithr, gym- meradwyaeth mawr iddo gyda'r llettywr. Am fod ar y boneddwr eisieu gwybod beth oedd y dyeithrddyn, dywedodd wrtho ar ol swper, Gan fod pob gwr yn dal rhyw alwed- igaeth neu swydd mewn bywyd, diau fod gen- ych chwithau ryw un." Oes, Syr," atebodd Mr. Baxter, gydagwen, daliwr dynion ydwyf fi." Daliwr dynion ydych chwi ebe y bon- eddwr, y mae yn dda iawn genyf eich clywed yn dyweyd felly, oblegid gwr o'ch bath chwi sydd arnaf fi eisieu. Ustus heddwch wyffinnau, ac y mae genyf awdurdod i ddal Dick Baxter, yr hwn sydd i bregethu yn y gymmydogaeth hon yfory; dewch ehwithau gvda mi yno, a diau genyf y daliwn ni y cnaf yn bur hawdd." Mr. Baxter, yn gyfrwys, a gydsyniodd i fyned gydag ef. Y boreu canlynol, aethant gyda'u gilydd i'r lie yr oedd y cyfarfod i gael ei gynnal. Wedi iddynt gyrhaedd yno, gwelent y tyrfaoedd yn cerdded oddiamgylch ond pan welsant yr ustus drwgdybiasant ei amcan, ae ofnasant yn ddirfawr fyned i'r ty. Yna dywedodd y bon- eddwr wrth Mr. Baxter ei fod yn ofni fod rhyw un wedi hysbysu ei fwriad ef i Dick Baxter, ac oblegid hyny y caent hwy eu siomi; a chyn- nygiodd fod iddynt farchogaeth ychydig yn eu blaenau, tray cai y bobl hamdden i ymgynnull a myned i mewn, ac y caffent hwythau ar eu dychweliad gyfleusdra i ddal Dick. Gwnaethant felly; ond areu dychweliad cawsant fod y bobl fel yn ofni myned i mewn. Gan fod yr ustus erbyn hyn yn credu fod ei amcan wedi ei ddy- rysu, dywedodd wrth Mr. B.:— Gan mai pobl dra anufudd i'r llywodraeth yw y rhai hyn.byddafyn ddiolchgar iawn i chwi, syr, os cyferchwch hwynt ar eu dyledswydd i iawn ymdd-Jvyn, yn nghyd ag ufudd-dod i'r llywodraeth." Atebodd Mr. B., "Gan eu bod wedi ymgyn- null i addoli, y mae yn debyg, Syr, na wnai araeth o'r natur hyny eu boddhau; ond pa fodd bynag, os dechreuwch chwi trwy weddi, minnau a ymdrechaf ddweyd rhywbeth." Pe buasai fy Llyfr Gweddi genyf," ebe yr ustus, buaswn yn cydsynio a ch cynnygiad ond gan y credaf y medrwch chwi weddio gyda hwynt, yn gystal a llefaru wrthynt, dymunaf arnoch chwi wneyd hyny." Wedi hyny, aethant ill dau i mewn, a'r boM a aethant hefyd ar eu holau. Yna gweddiodd Mr. B. gyda thaerineb a gwresogrwydd mawr, nes oedd yr ustus, yr hwn a safai gerllaw iddo, yn uylo yn hidl. Yna pregethodd y gwr duw- iol yn ol ei arfer yn dra ffyddlawn a selog. Wedi iddo ddibenu, efe a drodd at y bon- eddwr, ac a ddywedodd wrtho, Myfi, Syr, yw y Dick Baxter yr oeddech chwi yn ei geisio gwnewch a mi fel y mynoch." Ond erbyn h) I yr oedd yr ustus wedi teiinlo cymmaint trwy y gwasanaetb, a gweled peth mor wahanol i'r hyn a welsai o'r blaen, fel yr oedd ei elyniaeth wedi newid am gariad; ac o'r pryd hwnw hyd ei fedd, bu yn gyfaill calon, ac yn amddifrynwr ffyddlawn i'r Puritaniaid erhdiedig. Gynt, yr oedd fel Saul yr erlidiwr, ond wedi hyn, fel Paul yn dduwiolfrydig.—" Bauer Cymru."

News
Copy
hyny heb i neb wneyd dim ond cerdded oddi- amgylch, a chwythu yn yr udgyrn, a bloeddio. Gwel Jos. 6, 20. Nid ydyw ysbrydoliaeth wedi gweled yn dda i'n hysbysu beth oedd y floedd hono ag oedd gyday tri chan wr hyny oedd gydaGideon panddinystriwydgwersylly Midianiaid, ondy mae yn ddigon amlwg mai gallu goruwch-na- turiol oedd yn cael ei amlygu yn syrthiad caerau Jericho. Yn nesaf, hynodir hi yn neillduol gyda golwg ar y felldith a gyhoeddodd Josua ar bwy bynag a'i hadeiladai, a'r cyflawniad llythyrenol o'r felldith yn mhen cannoedd o flynyddau yn hanes Hiel y Betheliad, yn ol fel y cyhoeddwyd y felldith gan Josua gwas Duw. Jos. 6, 26 1 Bren. 16, adn. 34. Hynodir hi yn y lie nesaf fel cyfaneddle i weision Dafydd brenin Israel. Pan fu farw Nahas, brenin meibion Ammon, Dafydd brenin Israel a anfonodd rhai o'i weision i gysuro Hanun ei fab; ac yn lie dan- gos parch i weision Dafydd, fel ag y dylasai, efe a'u dirmygodd, ac a barodd eillio hanner eu barfau, a thori eu dillad hwynt yn eu hanner, a'u gollwng hwynt ymaith. Yr oedd hyn yn ddiau yn cael ei ystyried yn warth mawr, ac yn ddirmyg neillduol ar Iuddewon canys dywed yr banes, "canys y gwyr oedd wedi cywilyddio yn fawr." A phan glywodd Dafydd am yr ymddygiad anmharchus a ddan- gosodd Hanun, mab Nahas, brenin meibion Ammon, tuag at ei weision ef, efe a anfonodd i'w cyfarfod hwy, gan ddywedyd, Aroswch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau, ae yna dychwelweh," 2 Sam. 10. 1-5. Dywedir hefyd fod yno Athrofa neu ysgol i feibion y prophwydi, ond nid oes hanes ys- grytbyrol am y fath ysgol. Seilir y dybiaeth yma ar 2 Bren. 2. 5—18* Yn nesaf, yr oedd dyfroedd Jericho yn gosod hynodrwydd mawr ami. Cyn amser Eliseus, yr oedd y dyfroedd ag oedd yn tarddu gerllaw i'r ddinas yn ddrwg a gwenwynig, ac yr oedd hyny yn peru diffrwythdra yn y tir ni thyfai dim llysiau yn agos iddo, ac o her- wydd hyny dywedodd gwyr y ddinas wrth Eliseus, Wele attolwg ansawdd y ddinas, da yw, ond y dyfroedd sydd ddrwg, a'r tir yn dditfaeth." Nid yn unig ni thyfai pethau o'r ddaear, ond yr oedd yn peru i'r gwragedd ar ol iddynt i feichiogi i erthylu. Pe byddai i'r gair diffaeth yn 2 Bren. 2. 19,gael ei gyfieithu yn iawn, erthylu ddylasai fod. Dywedir gan dduwinyddion mai dyna ydyw meddwl y gair yn y gwreiddiol, felly y cyfieithir ef yn Gen. 31, 38, Exod. 23, 26, a diepiledd yn Esay 47, 9 a gallwn sylfaenu y dyb hon ar Air Duw, "Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Mi a lacheais y dyfroedd hyn; ni fydd oddiyno farwolaeth mvvyach, na diffrwythdra," 2 Bren. 2. 21. Y mae lleoedd -ereill i'w cael yn dwyn yr un "odwedd ag oedd Jericho, megys Senaar, prif ddinas Nubia, a Porto Bello. Bydd gwragedd wedi iddynt feichiogi, er gochelyd erthyliad, yn gadael Porto Bello, ac yn myned i Panama i esgor. Wedi i drigolion Jericho achwyn ar y dyfr- oedd wrth Eliseus, efe a fwriodd halen i'r ffyn- non a'rdyfroedd aiachawyd,a byth oddiarhyny Gwel y Deonglydd Beirniadol, a Geir. y Parch T. Charles, a Daearyddiaeth Yegrythyrol. gelwir y ffynnon hon yn ffynnon Eliseus. Ei henw presenol yw En Swltan. Y mae y ffyn- non hon wedi ei murio a'i phalmantu. Dvwed teithwyr fod ei dyfroedd yn hynod o iachus, a bod yno gyflawnder o hono. Y mae y ffrwd gref yn tarddu o honi, ac yn cael ei derbyn i fath o gawg mawr, tua 50 troedfedd o hyd a 30 o led; ac oddiyno y mae yn ymranu i amryw fan ffrydiau i ddyfrhau y tir, yr byn sydd yn ei wneyd yn hardd a thoreithiog. Dywedir fod y fath rinwedd yn y dyfroedd hyn, fel pa le bynag y cludir hwy, eo bod yn effeithio yn annghyffredin er dwyn addfed- rwydd cyflym. Yr oeddynt yn medi gwenith yn Jericho cyn eu bod yn casglu y blaenffrwyth yn Jerusalem, yr hyn a ddengys fod y tir yn un cynnar a ffrwythlawn. Y mae y tir oddiamgylch Jericho yn dir cynnyrchiol, ond ychydig neu ddim y mae y trigolion yn amaethu arno. Y mae yno lawer iawn o goed yn tyfu, ac y mae yr Arabiaid yn eu galw Zacoum, y rhai a ddygant fath o ffrwyth tebyg i eiryn, y rhai wedi eu pwnio a wnant olew, yr hyn sydd yn dda neillduol at friwiau, ac anwyd, a'r gymmalwst. Hynodir hi yn y lie nesaf ar gyfrif mai yma yr oedd Zaccheus, y penpublican, yn byw; a lie hefyd y bu yr Arglwydd Iesu yn llettya ynddo, a'r lie y dywedodd efe y frawddeg fendigedig hono, Heddyw y daeth iachawd- wriaeth i'r tf- hwn." Yn y lie nesaf, hynodir hi fel preswylfod i'r Offeiriaid a'r Lefiaid. Yr oedd yma 12,000 o Offeiriaid a Lefiaid yn byw, y rhai wasanaeth- ent ar gylch yn Jerusalem a chan eu bod yn byw yn Jericho, yr oedd yn rhaid iddynt fyned ar hyd y ffordd beryglus bono ag yr ydym wedi ei darlunio o'r blaeu. Dengys hyn briodoldeb y ddammeg a lefarodd ein Hargl- wydd. Gwel Luc 10, 30-37. Hynodir hi yn y lie olaf ar gyfrif fod yr Ar- glwydd Iesu wedi bod'yma droion, ac wedicyf- lawnugwjTthiau,neuynhytrachgwyrth, oblegid ni cheir hanes ei fod wedi cyflawnu rhagor nag un, sef agoryd Ilygaid y deiliion oedd yn eistedd yn ymyl y ffordd, ac yn cardotta. Nid oes ar adfeilion yr hen Jericho yn bresenol ond ryw bentref bach gwael a thruenus, un o'r Ileoedd mwyaf budr trwy holl wlad Palestina yw. Nid yw y pentref hwn yn awr yn cynnwys ond rhywle o 30 i 40 o dai, a thua 200 o drigolion, sef Arabiaid a'r rhai hyny i gyd yn Fahom- etaniaid. Ei henw presenol yw, Riha, neu Richa. Rumni. WM. PHILLIPS.