READ ARTICLES (3)

Family Notices
Copy
PRIODASAU. Mai 17, yn Llangyfelach, gan y Parch. D. Evans, ficer, Mr. Edmund Davies, Gwaith Alcam Glandwr, Abertawy (gynt o Gaerfyrddin), a Miss Hannah Grev, Craig Trwyddfa, ger Treforris. Bendithied Duw'r undeb rhwng Edmund a Hannah, Pob Uwydd a'u dilyno hyd ddiwedd eu gyrfa, Boed iddo goroni y par priodasol A myrdd o fendithion mewn amser dyfodol; A rhoed iddynt deulu o feib a rhianod, A rydd iddynt gyaur mewn gofid a thrallod; Parhaed y ddeuddyii i bleidio gwir grefydd, Gan ddilyn Crist Iesu trwy'r anial yn ufydd, Ac hefyd i geisio 'run peth aiigenrheidiol, On na allant gyrhaedd meddiannau daearot; Ar ol i ffrwd ameer eu gwthio o'r ddaear, Boed Crist yn eu derbyn i'r wynfa wen lachar. GOHEBTDD. Mai 20, yn Bethel, Glanymor, gan y Parch. W. Hughes, gweinidog y He, a chorbron y cofrestrydd, Mr. Thomas Bowen a Miss Margaret Jenkins, merch ieu- engaf Mr. Elias Jenkins, Dock Master, y ddau o'r llo uchod. Hawddammor i Thomas a Margaret I barchu eu gilydd heb ball, A'u cariad gynnyddo nes tanio Yn oleu y naill at y lIall Boed iddynt hwy hefyd hir ddyddian, Nes cyrhaedd eill dau hyd yn gant, Ac i chwi boed llawnder a Uwyddiant, Yn ngkyd A digonedd o blant. ODTODI MARWOLAETH. Mawrth 17, 1862, bufarw y Parch. Thomas Thomas, un o hen weinidogion y Bedyddwyr yn Bethel a Salem, Caio, yn 81 mlwydd oed. Daliodd ei (fordd gyda chrefydd am yr yspaid maith o 56 o flynyddosdd, yn ddigwmwl, digerydd, a diwarth i'r enw mawr, a hyny yn ei ardal enedigol. Tarddodd o'r un eyff a Josuah Thomas, awdwr Hanes y Bedyddwyr," Thomas Thomas, Peckham, Llundain, a Timothy Thomas o'r Maes, apostol yr enwad yn Nghymru yroesddiweddaf. Dymunodd ei weddw ar yr ysgrifenydd wneyd rhai crybwyllion coffaol am ei phriod parchus, oedranus, a duwio!. A hyn a wnawn yn ol y defnyddiau a rodd-, wyd i ni. Efe a'r Parch. Timothy Jones a urddwyd i'r weinidogaeth yn Bethel yn mis Mawrth yn y flwyddyn 1818. Mae oddiar hyny 44 o flynyddoedd wedi myned heibio; a bu Thomas Thomas a. Timothy Jones yn "gariadus ac anwyl yn eu by wyd," ondyn mis Mawrth diweddaf, gwahanwjrd hwy gan angeu, a gadawwyd brawd am frawd i wylo, ar ymyloll y nefoedd. Rhoddwyd gweddillion yr hen bererin i orphw/s yn mynwent Bethel yr 20fed dydd o'r mis y bu farw. Pregethwyd yn y t9 cyn cychwyn gan y Parch. Tim. Jones, oddiar Act. 13. 38; ac yn Bethel, pregethodd y Parch. John Williams, Aberduar. Ni chlywsom pa un a oedd canu yn yr angladd, ond yr oedd yno wylo.— D. W. MORRIS.

News
Copy
HANES10N CARTREFOL. EISTBDDPOD CA»RNARFON.—-DeaUwn fod John Thomas, Ysw. (Pencerdd Gwalia), wedi gorphen beirniadu y Cantatas, ac wedi danfon ei feirniadaeth t'r pwyllgor. Cyhoeddir y feirniadaeth hon, fel yr holl feirniadaethau ereill, yn ddioed ar ol yr eistedd- fod. ond gallwn hysbysu yn awr mai y ffugenw wrth y cantata fuddugol ydyw Viotti, Hyderwn y caiflF ei dadganu yn effeithiol yn ystod yr cia. teddfod. PLENTYN HYNOD.—-Y mae baban-mam yr hwn sydd enedigot o Bontypridd—yn awr yn tynu sylw mawr yn Morganwg. Y mae yn ehwe mis oed, ac heb fod yn pwygo dim ond 3$pwys, ac vn edrych yn debycach i ddol fechan na dim arall: Nidyw ei freichiau yn ddim mwy na bys dyn cyffredin a'i holl aelodau yn fychan mewn cyfartAlwcJJ. Etto y mae yn berffaith yn mhob peth, heb ddim g; a- haniaeth rhyngddo a babanod ereill ond ei faint yn unig. MACHTNLLETH.—Ffordd Haiarn Glanau Cymru. -Y mae Mr. Roberts, sub-contractor, .wedi dechreu adeiladu V bont, yr hon sydd yn cjssylltu ffordd haiarn y Drefnewydd a Machynlleth a Glanau Cymru S'u gilydd. Yr oedd trigolion y dref hon a'r gymmvdogaeth yn meddwl y cawseht gyfloaiau da am weitlno ami, a meistri tawel a heddychol i'w llywodraethu. Ond, o herwydd rhesymau sydd yn barod i'w hysbysu, y mae seiri meinj y dref hon wedi gadael y gwaith i gyd ond un a'r carriers ar wneyd yr un peth; fel mai gwan vw ein gobaith yn awr am weled cwblhad Ffordd Haiaru Glanau Cymru.— Gohebydd. CYFRINFA. IFORAIDD TALIESIN, TREFDRAETH -Sefydliadau ag sydd wedi bod o ddaloni mawr yo y dosparth gweithiol yn y blynyddau diweddaf

News
Copy
Y BEDYDDWYR A'R DDWY FIL. MAE awgrym Mr. Jones, o Ruthin, yn ei lythyr yn y rhifyn hwn, yn dywedyd y dylai fod rhyw beth am y DDW r FIL yn mhob rhifyn o'r SERBN am y misoedd dyfodol. Diolch i Mr. Jones; mae yr awgrym wrth ein bodd dyna oedd ein teimlad ninnau ond nid oeddem am wasgu gormod ar sylw ein darllenwyr; fodd bynag, pa fwyafa fedd- yliom ar y pwnc, mwyaf y teimlwn y dylem wneyd ein rhan gyda y cydfisolion i gadw y pwnc o flaen y wlad. Mae yr adeg yn dyfod pan ddaw y pwnc hefyd i gael ei drin gan ein brodyr galluog a doniol yn y pulpid, ac ar yr esgynlawr, yn gystal a thrwy y wasg. Mae yn ddiogel genym y bydd cydymdrechion y flwyddyn hon o fawr fendith i ni oil, ac yn arbenig felly i'n pobi ieuainc: bendith fawr fydd tynu yn ol y IIèn sydd wedi gorchuddio gweithrediadau y 200 mlynedd diweddaf, a bendith gyda hyny fydd cael trysorfeydd at helaethu teyrnas y Gwaredwr yn y byd. Yn ein rhifyn diweddaf, darfu i ni mewn byr eiriau hysbysu ein darllenwyr fod y Pwyllgor Gweithiol wedi penderfynu yn un- frydol i gymhell Mr. Llewellyn Jenkins i daflu pob peth o'i law, a rhoddi ei holl amser at y gwaith o gynnorthwyo y Pwyllgor i ddwyn yn mlaen yr amcan o godi y dry- sorfa. Mae yn dda genym allu dywedyd yn mhellach, fod hyn wedi derbyn cymmerad- wyaeth fwyaf calonog rhai o'r dynion goreu yn yr enwad. Mae yn bleser genym fod Mr. Jenkins yn barod yn gweithio ibwrpas; yr ydym wedi gweled 61 ei law mewn Ilawer man. Mae genym bob ymddiried ynddo, y gwna ete daftu ei holl enaid i'r gwaith; acond cael teimlad a chydweithrediad, daw y drysorfa lawer yn fwy na'r bwriad cyntaf. Wedi dechreu yr ysgrif bon, daeth y Llythyrgludydd a nifer o bapyrau bach tlws i r t o ryw Ie, na wyddom o dan haul o ba Ie; ond nid yw o wahatiiaeth yn y byd genym 0 ba le y daethant—maent yn ateb y dyben yn dda. Rhoddwn y cyn- nwysiad yma» TRI SEFYDLIAD BEDYDDWYR CYMRU! DWY FFRWD NEWYDD! FFRWYTHAU Y DDWY FIL. 1662-1862. Peiriant Perffeithiedig yr Enwad. Y MAB gan Fedyddwyr Cymru un sefydliad er ys itawer o tlynyddoedd, ac y mae rhagluniaeth wedi ei ■ aenu mor gadarn fel na syrthia mwy, sef sefydliad 1 r°ddi aysg i alwedigion Duw at waith y weinidog- aetti. Y mae ein Hathrofeydd wedi eu sefydlu yn y wyrain, y gorllewin, ac eleni wedi ymgan^henu i'r ROgledd. Pwy a fedr adrodd werth sefydliad addysg i wemtdogton y gair? Bendith y nefoedd a barhao arno, ac a helaethir iddo. Dyma ffrwd henaf, werth- tawrocaf, a phwysicaf yr en wad. « ^on n'ae 8eOrdliadau newydd wedi eu ynllumo. Y mae cynllunwyr campus wedi tynu y plan, ac y mae wedi ei gymmeradwya a'i fabwysiadu 8»n y cyfarfod Huosocaf ac anrhydeddusaf o Fedydd wyr T j<fiU a Bynnaliwyd erioed— cyfarfod mawr Merthyr Jydfil. Y mae eu sylfaeniad wedi ei ymddiried i brif "jjeiladwyr yr enwad. Y sefydliadau newydd hyn TRYSORFA AT ADEILADU ADDOLDAI, A THRYSORFA AT GYHOEDDI LLYFRAU BUDDIOL. Y mae angen y blaenaf ar ugeiniau o ganghenau mam- eglwysi ffrwythlon Cymru, na wyddant pa fodd i gael Hetty cysurus i'w merched gwasanaethgar. Y mae angen estyn cortynau y preswylfeydd. Diolch i'r nefoedd I Y Drysorfa newydd hon a ddarpara iroddi benthyg arian heb log at adeiladu capeli er Itedaeniad yr achos yn mhlith Cymry a Saeson Cymru. Y sefydliad olaf sydd i ddarparu ttyjrau cyfaddas i'r ysgol Sabbothol, at ddysgu a gwobrwyo a llyfrau buddiol i ieuenctyd ein heglwysi, ein cynnulleidfaoedd, a'n teuluoedd, sef i roddi dysg a gwybodaeth gyffred- inol »V enwad. Dyma ddwy ffrwd fawr newyddi redeg arhyd a lied dolydd gleision Cymru, i beru fod maes mawr a ffrwyth- Ion y Bedyddwyr yn blaguro ac yn ffrwythloni er go. goniant i Geidwad Seion. Dyma rai o ffrwythau ar- dderchog y ddwy fil, y ddau can mlwyddiant; dau o afalau melynion a melus hafddydd annghydffurfiaeth. Ie, dyma BEIRIANT PKKFFEITHIKDIG enwad Bedydd- wyr Cymru, sef yr Athrofeydd, Cymdeithas Adeiladu Addoldai, a Chymdeithas Gwybodaeth i'r Cyffredin. Bendith y Nefoedd arnynt, a bydded y gogoniant, y mawl, a'r anrhydedd i Dduw pob gras. Ni gawn odiaeth Genadon,—addas-g6r 1 ddysgu'r gwyddorion, A thrwyadl ddoeth Athrawon Goreu o ras gwir yr Ion. Trwy gred diddyled addoli-a gawn, A gwenau Duw Celi; Tai mawl, rhai breiniawl heb ri', Yn gadarn fynwn godi. A llyfrau er gwell efryd—gorenwog Air anwyl y bywyd, Drwy rad nef arnom hefyd Daw'r Iesu'n ben dros ein byd.—CYNMBLW Diolch yn fawr i Cynddelw; a diolch i ysgrifenydd y Papyryn. Yn awr, frodyr anwyl, rhoddwn bob help, a pbob cefnog. aeth i Mr. Jenkins, fel un a ddaw atoch yo enw, ar ran, ac awdurdod yr enwad o Fedyddwyr trwy Gymru. Gyda llaw, un gair gyda brodyr y Gog- ledd. Mae rhyw sibrwd wedi ein cyrbaedd ag a ddylai gael ei gadarnhau neu ei wadu ar unwaith; sef nad yw Bedyddwyr y Gogledd yn meddwl cyfranu at y Drysorfa o £ 2,000; ond eu bod yn cadw eu holl j nerth at yr Athrofa yn y Gogledd. Os gwir hyna, mae dau beth yn sicr o gan- lyn:—Yn gyntaf, ni fydd hawl gan Fed- yddwyr y Gogledd i fanteision y drysorfa o -62,000, ac yn ail, bydd Bedyddwyr y Gog- ledd yn debyg o gael cynnal yr Athrofa wedi iddi gael ei sefydlu, heb rhyw lawer o gydymdeimlad na chynnorthwy o'r Dehau. Gresyn fyddai hyny. Y Gogledd a deimlai y golled fwyaf o lawer iawn yn y pendraw. Ni a hyderwn ein bod wedi camsynied y sibrwd ond goreu pa gyntaf y symudir peth fel hyn o feddyliau y bobl. Dyma adeg y dylem annghofio North a South; ond cofiwn ein bod yn Fedyddwyr, a bod gyda ni bwnc i gydymdrechu o'i blaid. ¡