READ ARTICLES (1)

News
Copy
EGLWYSIG. Y WEINIDOGAETH YN NGHYMRU. MAE brawd parchus yn mhlith ein gwein- idogion wedi danfon i ni yr ysgrif isod ar y testun hwn. Mae yr ysgrif wedi ymddan- gos yn un o'n cyfnodolion; ond bernir y gall fod o les pe celai ymddangos yn y Sbren. Tra nad ydym yn cymmeradwyo pob brawddeg ynddi, mae yn sicr fod ynddi bethau o duedd i wneyd daioni. Y mae'r jawyrif o biliogaeth Gomer yn y Dywysogaeth yn proffesu eu hunain yn ed- tnygwyr yr efengyl; neu o leiaf yn rhai a gredant Ddwyfoldeb ei tharddiad, a'i chyf- jftddasrwydd ,fel y cyfryw ar gyfer trueni moesol dynoliaeth syrthiedig; er, hwyrach, ,fod y fath argyhoeddiad yn fwy o effaith 'dygiad i fyny nag o gynnyrch ymchwiliad yn ei berthynas & llawer o'n cydwladwyr. Pa beth neu bethau by nag sydd wedi cyn- nyrchu y grediniaeth, y mae ei bodoliaeth yn ffaitb, a'i gwirionedd tuhwnt i derfynau ammlieuaeth resymol, er y ceir rhai yn Ngwalia uchelfreiniog yn cymmeryd arnynt annghredu y gair a'r dystiolaeth." Os ydyw yr efengyl yn ddwyfol, fel yr ydym yn sicr ei bod, diau mai y dynion cyf- oethocaf mewn athrylith, y donjolaf fel siaradwyr, y blaenaf mewn dysgeidiaeth, y puraf mewn moesau, a'r dyfnaf mewn duw- loldeb, sydd i'w cliyhoeddi a'i dysgu mewn areithfeydd a manau ereill; a dylai y rhai hyny gael eu cydnabod am eu llafur yn ol pwysigrwydd eu cyleh, y ddarpariaeth an- genrheidiol ar ei gyfer, a chyfrifoldeb ofn- adwy y dyledswyddau a gyflawnant. Y dynion a'r pethau goreu a hawliai y nefoedd i'w gwasanaethu dan oruchwyliaeth Moses -nid oedd anaf i gael ei ganiatau yn yr aberth, nac i'w oddef yn yr aberthwr; a phersonau o athrofa y Gwaredwr a yrwyd allan i bregethu i'r "holl genedloedd" yn moreu-ddydd Cristionogaeth. Yn ngwyneb yr ystyriaethau hyn, y mae'r olwg ar y wein idogaethyn Nghymru am y deugain mlynedd il diweddaf, yn profi un o ddau beth, naill ai fod yr Arglwydd wedi newid y drefn, neu y ceir llawer yn mysg y gwahanol enwadau yn euog o ddiystyro cynllun gosodedig y nefoedd gyda golwg ar bregethwyr a phre- gethu. Nid gorchwyl anhawdd fyddai cyf- -eirio at amgylphiadau, y rhai a wnelent bre- '»ethwyr diathrylith a phregethau gwael i ryw raddau yn esgusodol yn y blynyddau a Sethant heibio; ond y mae y manteision i .^ddysg va gyfryw mewn rhif a chymmeriad yn bre"enol fel na ddylid goddef pregethwyr a fyddo, naill ai yn rhy analluog neu yn rhy ddiog i weithio yn y fyfyrgell, i esgyn ein hareithleoedd o gwbl. Diau y ceir yn mysg ein "Uefarwyr" diadeiladaeth ddynion duwiol, a dylai yr ystyriaeth orbwysig hon i ddysgu i ni lawer oochelgarwch wrth wahodd sylw at y pwnc, rhag i ni gael ein hunain yn euog o glwyfo teimladau anwyliaid y nefoedd ond ar yr un pryd ni ddylai tynerwch teimlad gael sathru ar hawliau cydwybod, trwy rwystro dyledswydd i siarad. Nid oes un prawf mai dyn drygionus oedd Uzzah, ac mai annuwiolion oedd holl dri- golion Bethsemes ond eamsyniodd y blaenaf ei le a natur ei waith, trwy ymaflyd yn yr arch, a'r ail trwy edrych ynddi, a syrthias- ant yn ebyrth i anfoddlonrwyddyr Arglwydd. Dyn da oedd Jonah, ond aeth allan o'i gylch trwy geisio ffoi i Tarsus, yn hytrach na mynedii Ninifeh ac oni cham-ddeallodd yr apostolion eu gwaith trwy aros yn Jeru- salem, heb dori dros y terfynau luddewig? Os felly, onid yw yn ddigon rhesymol i ni gredu fod amryw yn cymmeryd arnynt bre- gethu yn Nghymru yn bresenol, ag y byddai yn fendith iddynt hwy ac i ereill, pe na ymwthiasent erioed i'r areithfa. Nid yw duwioldeb (ac yn neillduol rhyw dduwioldeb nacaol) yn annibynol ar feddwl i greu a lehyfansoddi, yn ddigon o drwydded i'r pwlpud, er ei fod, nid yn angenrheidiol, ond hefyd yn hanfodol i weinidogion cymhwys y Testament Newydd. Ofnir fod gormod o ymddiried yn y eadach gwyn, y got ddu, y gwyneb anffurfiedig, yr ochenaid gwyufanus, a'r hen d6n oerllyd ac annaturiol wrth ddarllen a phregethu fel cymhwysderau (?) pregethwrol, ac na thelir ond y peth nesaf i ddim o sylw i bethau-y meddylddrychau, a fwriadwyd i argyhoeddi, dysgu, a chysuro, gan lawer o feibion yr un dalent a ddarostyngant bwlpudau Cyrnru. Beth yn enw St. Dewi, yw yr achos o'r gwyneb hir, camu pen, ocheneidio, y llais hir-Iysg a chwynfanus a nodweddant'lawer o fan-bregethwyr ? Pallarn na edrychant ar bregethwyr y dosparth uchelaf, sef Thomas o Fangor, Dr. Morgan, Owen Thomas, Dr. Davies, Morgans, o'r Dytrryn, a llawer ereill, y rhai oedd yn hollol rydd oddiwrth y fath Phariseaeth rhagrithiol a dirmygus. Gwirionedd a saif yn 0 moreu y farn ydyw, fod ugeiniau o bregethau (?) nad ydynt yn werth rhoi clust iddynt yn cael eu traddodi bob Sabboth yn Nghymru nid yw myned i wrandaw un o'r hen standards ys- ywaeth, namyn gwastraff ar amser, a threth afresymol a chreulon ar amynedd v gwran- dawwyr goleuedig a pharchus. Gan fod dynion ya talu am weinidogaeth, dylent gael gweinidogaeth gwerth ei gwrandaw— pregethau ag y gellir meddwl am danynt wedi ymadael o'r addoldai. Bydd rhai yn troi mewn rhyw gaddug tywyll yn yr ar- eithfa; dywedant y pethau mwyaf eyffredin mewn dull mor sathredig ac aneglur, fel y gall rhai o honynt ddywedyd yr un pethau bob Sabboth yn nghlyw yr un gwrandawwyr, heb fod y rhai hyny yn gwybod mai yr un pethau a wrandawant. Dim rhesymu grymus a goleu-dim illus- trations a fyddo yn bachu yn y meddwl,- dim un sylw tarawiadol a fyddo yn melltenu teimlad i'r fynwes a bywiogrwydd i'r llygad, —dim un esboniad naturiol ar unrhyw ymadrodd neu adnod yn y Beibl, fel y mae dynion yn cael eu mesmeriso i freichiau Morpheus, yn hytrach na chael eu gwetr eiddio gan wiripnedd sydd yn allu Duw ac yn fywyd i felrwon. Y mae hyd y nod y gwirionedd fel y mae yn yr lesu," yn gwaethygu dan eu dwylaw annghelfydd. C5 Meddylia rhai o'r bodau anfedrus hyn y dylent gael eu parchu "yn rhinwedd eu swydd," er nad yw y swydd yn hawlio ed- mygedd na chymmeradwyaeth i unrhyw ddyn yn annibynol ar allu a thuedd i gyf- lawnu eu dyledswyddau. Ceir rhai pulpit insolvents yn byw ar bethau dynion ereill; ac os bydd i ryw rai eu dynoethi am y Lath waeledd ac anonestrwydd, caiffy dynoethwyr I Y eu galw yn elynion crefydd, yn ddynion diras, ac yn bersonau peryglus mewn byd as eglwys,agwneir pobpeth i wenwyno meddyl- iau y lluaws a rhagfarn yn eu herbyn, Gwir- ionedd galarus ydyw fod llawer o bregethwyr yn perthyn i euwadau Cymru, ag y byddai yn fendith i'r eglwys pe na cheisient bre- gethu byth,—y maent yn peru i'r intelligent public edrych yn isel ar bregethwyr a phre- gethu; ond sut y mae cael diwvgiad, y mae efallai yn anhawdd dyfalu. Gellid meddwl wrth wrandaw ar rai yn siarad am godi hwn neu arall i "arter ei ddawn," nad oes yn yr eglwys un cylch i dalent heblaw y pwlpud; er fod cymmaint o eisieu talent tuallan iddo weithiau ag sydd ynddo. Dylid arfer gofal a gweddi wrth godi pregethwyr. Nid llawer o ryw fath o bregethwyr sydd eisieu nid y rhifedi ond y quality sydd yn hawlio ystyr- iaeth—dynion na allent siarad ffolineb pe telid hwy am hyny. Dealled ein darllenydd mai nid ein hamcan yw eynnyrchu rhagfarn yn erbyn pregeth- wyr fel dosparth credwn na fu ein gwlad erioed mor enwog yn ei phregethwyr ag y mae yn awr. Y dyben mewn go.wg yw, symud y gwybed meirwon sydd yn peru i enaint yr apothecari ddrewi,—diwygio neu symud y dosparth sydd yn isela yr efengyl, oy