READ ARTICLES (1)

News
Copy
ffgggjfgfmnrffmmmm■■ itaggfT^ffrTW TEAETHAWD AR YR ANNHEBYGOLRWYDD I DDYN GAEL EI GYNNYRCHU GAN NATUR. PEN. III. HWYRACH y dylid ceisio egluro ychydig ar nod- weddion y meddylddrychau y sylwasom arnynt yn mhellach. Eu bod yn feddylddrychau greddfol," sydd yn amlwg oddiwrth y ffaith eu bod yn meddu hanfodiad annibynol ar natur. Ond y mae eu bod- olaeth hwy yn hollol angenrbeidiol i lianfodiad natur. Mewn lie, ac mewn amser, yr hanfoda natur allanol, ac y dvga yn mlaen ei holl weithred- iadau. Y mae bodolaeth gwrthddrychau natur, ar unwaith, yn rbagdybied fod amser a lie, yn y rhai y bodolant. Onid yw y meddylddryebau hyn yn dilyn pob canfyddiad a wnawn ar natur yn ei gwa- hanol ymddangosiadau ? Gwir mai y meddylddrych o wrthddrych allanol sydd yn dyfod i'r meddwl gyntaf; ond y mae y syniadau am amser a He yn cymmeryd ar unwaith, mewn canlyniad i hyny. Ac am hyny, myn rhyw rai mai casgliadau oddiwrth brofiad ydynt, yr hyn sydd lawn mor gamsyniol debygid, a phe dywedid fod canfyddiad gwrthddrych allanol yn gasgliad oddiwrth y synwyr o weled. Mwy cywir yn ddiammheu, fyddai dweyd fod profiad yn achlysuru eu dygiad i'n hymwybodaeth. Diau, mai wrth sylwi ar amgylchiadan yn dilyn eu gilydd, y deuwn yn ymwybodol gyntaf am y drychfeddwl greddfol am amser; ac o ganfod gwrthddrychau allanol y deuwn yn ymwybodol o le Felly, gwelir gyda'r athronydd hwnw ddywedodd fod i "bob meddyldrych ddau wreiddyn arbwyllegol (logi- cal), ac am seryddol rcho-onological). Hyderir ei fod bellach yn dra eglur nad ein syn- wyriaeth yw rhiaint ein dirnadaethau greddfol ond eu bod yn gorwedd yn nyfnderoedd ein meddwl fel sylfaen i adeiladu tftr gwybodaeth arnynt. Ond, tuag at i ni adeiladu t*r gwybodaeth, rhaid i ni wrth y math arall" o angenrheidiol y soniwyd am danynt yn flaenorol; sef, gwirioneddau casgliadol, neu ymresymu. Y mae ein synwyr a'n deall yn hollol ddiffygiol o ran gallu i ddwyn ein gwybodaeth i ffurf cyfundraetb, neu wjddor. Ac yr ydym wedi ein cynnysgaethu a rheswm i wneyd y cyfryw ddiffyg i fyny. A'r fathywcyaawndery gynneddf hon, fel y mae'r bydysawd, mewn rhan helaeth, yn ddarostyngedig i'w gweitbrediad. 01- rheinia ddygwyddiadau y cyfnodau yn ol i bellder annghyfrifadwy, ac ymwthia yn mIaen Tbwng plyg- ion y blynyddoedd i'r dyfodol tywyll. Esgyna fanau byd a neidia oddiarnynt i'r cwmwl bolwyn dring oddiyno drachefn i'r bydoedd wybrenol; a dilyna y rhai hyny yn eu symudiadau cyflym yn ddigyffro a diofn. Disgyna etto i ddyfnderoedd isaf y ddaear, gan arolygu eu thoriadau, a'i chyssyllt- iadau; ei haenau dyfnion, a'i cheiloedd tywyll; a noda flynyddoedd oed haenau y ddaear, megys y dywed marchogwr oed ei anifail. Y mae gweith- rediadau y rheswm dynol, yn y cyfeiriadau yma, yn ddiderfyn braidd. Trwy y gynneddf resymiadol a feddwn y deuwn o hyd i'r bodau hyny nad ydynt yn dyfod i'r medd- wl trwy y synwyrau. "Trwy archwilio gwrth- ddrychau hysbys-weladwy ac ymddangosiadau," meddai Arglwydd Brongham, y galluogir ni i sicrhau y deddfau o oleum ac o welediad." Trwy yr unrhyw gynneddf y deuwn i wybod mai yn yr amrywiaeth lliwiau a fedda pelydrau goleuni, yr hanfoda prydferthwch y greadigaeth; heb yr hyn, troai dysgleirdeb ac amrywiaeth golygfa yn dywyll- 'ni brawychus. Ein rheswm etto sydd yn cwbl- hau i ni y syniad am wres. Y mae ein synwyr yn gweled ac yn canfod gweithrediadau rhywbeth ar fater, yn ei doddi, ei helaethu, a'i ddadgyfansoddi. Cynnyreba effaith ar ein teimlad. Eithr trwy resymu a chyfatebiad, y deuwn o hyd i'w hanfod fel sylwedd gwabanedig." Yr un inodd yn union y mae gyda golwg ar yr awyr. Yr ydym yn gweled Dr. Dick. fed rhywbeth yn dylanwadu yn effeithiol ar wrth- ddrychau o'r tu allan i ni; ac weithiau, byddwn ein hunain yn nghanol Ilif o awyr yn methu rhwyfo yn mlaen gan ei ymchwydd. "Ond casglu oddiwrth hyny hanfodiad hylif ysgafn, anweledig, annheiml- adwy, a godidog, sydd yn eglur yn weithrediadau rheswm." Ac felly gyda Uawer o bethau ereill, na oddef y terfynau presenol eu cyffwrdd. Ond cyn gadael llwybrau ein rheswm yn y cyf- eiriad hwn,nodir enghraifft arall yn dal perthynas a daeareg. Rhoddir darn o asgwrn hanner malled- ig un o'r creaduriaid hyny sydd yn gladdedig er cyn cyfrif yn ngwaelodion dwfn y ddaear; rhodder darn cyfan o asgwrn un o'r creaduriaid anferthol yma yn Haw difynwr myfyrgar (comparative anato- mist), acefe a'ch anrhega yn ol achreadur cyfiawn, yn ei hon ranau. Dywed ei faintioli, a'i ddull, trefnei berfedd, a'i arferiadau yn gyffredinol," wrth. ym. Casgla oddiwrth ansawdd y darn asgwrn, mai 11 gwddf byr oedd gan yr anifail; a thrwy hyny fod ganddo dduryn (trunk) a'i fod yn cnoi cul o herwydd diffyg yn y dannedd. Onid yw gweithred- iadau mor rhffeddol a'r rhai hyn, yn cyhoeddi an- nibyniaeth drwyadl i'r meddwl ? Ein bod yn gallu presenoli creadigaeth cwbl wahanol i ddim a welsom nac a glywsom son am dano erioed Etto y mae y ffaith yn anwadadwy. Wrth ymgyrhaedd yn ol i ororau y mynedol fel yma, y cyrhaeddwn gyfnod pan oedd y cyfan yn ddwfr, liaid, Uaca, a difrod heb na phlanigyn na dyn, ond yn lie gorphwvsfa bwystfilod anferthol, megys Hewod, elepbantiaid, ac afon geffylau pan yr oedd y dwfr yn cael ei bobl- ogi gan fudrchwilod o faintioli y morfil, yn driugain neu driugain a deg o droedfeddi o hyd; a chan ereill yii meddu llygaid dirfawr, y rbai aamddiffynid gan darian o asgwrn caled, gan serenu o wddf deg troedfedd o hgd; ac y tywyllid yr awyr gan ymlusg. iaid hedegog, yn orchuddiedig acbregin, yn agor eu satnan fel crocodile, ac yn lledu adenydd, wedi eu harfogi yn eu blaenau gyda pbawenau llewpartiaid." Torodd y Proffesor Buckland unwaith asgwrn yr hyaena, er mwyn dyfod o hyd i'r mer, ac wrth ei archwilio, penododd fan ei wladychiad, ac i'r crea- dur gael ei ddifetha yn gydyn trwy foddiad.J Trwy yr un gynneddf yr ydym yn gallu canfod y bertbynas hono sydd rhwng sylwedd a'i briodol. aethau. Yr ydym yn esgyn oddiwrth un briodoledd at briodoledd arall, ac oddiwrth houo at un arall eil- waith, nery gorphwyswn yn y diwedd yn ymyl eu gwrthddrych, sef yr enaid, lie yr y mgyfarfyddant i gyd. A thrwy gynnorthwy yr un gallu yr ymgyr- haeddwn yn ol, trwy ymddangosiadat natur, at y bjdysawdfel substratum i'r pethau a welir. Ond wedi i ni fel hyn gyrhaedd dau bwynt eitliaf ein vmarchwiliad-wedi i ni weled priodoleddau syl- wedd yn diweddu yn yr enaid, a clianfod o honom holl ymddangosiadau natur yn olrheiniedig i'r bydysawd rhaid i ni wedi y cwbl ffurfio y medd. ylddrych arall" o'r ddau feddylddrych yna, sef y meddylddrych am Dduw. Wedi i ni lwyddo i gael afael ar Achos, a hwnw yn Achos deaUgar i'r ymddangosiadau rhyfeddol a gyflwynir i'n sylw yn y greadigaeth, nid oes genym yr un warant (gan mai ar dir gwyddoregol yr ydym yn myned yn mlaen) i waeddu uwchben yr Achos hwnw, Dyma Dduw Na, y mae yn rhaid i Dduwinyddiaeth Naturiol, fel gwyddor, gasglu y defnyddiau yn ngbyd, a chyfan- soddi y syniad am Dduw." Yr ydym yn eario ein hunain tucetn i'r petbau hyny ydym yn eu teimlo a'u gweled."meddai Arglwydd Brougham;' 'yr ydym yn olrhain eu dechreuad a ni ein hunain yr ydym yn ymgodi oddiwrth fyfyrio natur a'r ysbryd sydd ynom at yr Achos cyntaf o bob peth." Ond pa un yw y llwybr ar yr hwn y gwneir hyny ? Pa fodd y mae Duwinyddiaeth yn ein harwain i yrnyl gor. seddfainc yr Anfeidrol ? Caitt awdwr galluog sydd yn fy ymyl ateb y gofyniad yna. Wedi gweled fod yo angenrheidiol i ni fel' hyn wrth elfenau a phriori tuag at osod i lawr sylfaen yr ymresymiad, Lord Brougham's Discourses. ceisiwn ddangos fod yn rhaid i ni wrth yr un def- nyddiau i berffeithio yr oruwch-adeilad. Megys ag oedd yn rhaid i ni wrth egwyddorion tufewnol medd- yliaeth tuag at olrhain y greadigaeth i Achos deallgar, y mae yn rhaid i ni wrth yr un egwyddor- ion i wisgo yr Achos hwnw, wedi ei gael, a'r brio- doledd o anfeidroldeb. Nid yw natur yn rhoddi i ni y syniad hwn; er fod naturyn Ilawn awgrymiadau o hono, ac o fynegfysedd yn cyfeirio tuag ato. Y mae y greadigaeth yn cyflwyno i'n sylw gyfres o wrthddrychau meidrol, cyfnewidiol, a dibynol. Nis gall yr hyn sydd feidrol fod yn hunan-hanfodol ac fel hyn y mae ein rheswm, tra yn cychwyn oddiwrth y meidrol, yn methu cael gorphwysfa ond mewn Bod digyfnewid, hunan-ddibynol, ac anfeidrol, ac yr hwn y mae yr oil yn gorphwys. Y mae yr an- nherfynoldeb sydd mewn natur drachefn yn rhyw arwyddlun (symbol) o'r anfeidrol; y mae yn gysgod ac yn adlewyrehiad allanol o'r anfeidroldeb ae, i ddefnyddio cymhariaeth Isaac Taylor, megys panyr ydym yn gweled cysgod dyn ar gongl yr heol yn y nos, ydym yn teimlo yn sier fod y dyn ei hunan y tucefn er nad oes dim,ond amlinelliad yn y golwg, y mae y meddwl yn eu llenwi i fyny i'r syniad o ddyn pe-ffaith y mae yr hyn sydd ddiffygiol oddi- allan yn cael eu gylienwi gan y meddwl oddifewn; felly y mae y syniad am yr Anfeidrol yn syniad cadarnhaol yn nyfnder y rheswm er nas gall ei gynnwys, nis gall ei wrthod er nas gall ei amgyff- red, nis gall ei feddwl ymaith, nis gall fod hebddo; ac yn ngrym y syniad gwreiddiol hwn, y mae y meddwl yu Ilenwi i fyny bob cysgod ac adlewyrch- iad sydd mewn natur o'r anfeidrol, i'r syniad cyf. lawn am anfeidroldeb, ac yn unol a deddfau cyn- henid ei gyfansoddiad, y mae yn trosglwyddo y briodoledd bon i'r Achos Mawr Cyntaf o bob petb. Ac megys ag y mae dau anfeidroldeb yn wrth-ddy- wediad, y mae y meddwl ar unwaith yn gorfod pri- odoli unoliaeth a thragwyddoldeb i'r un Bod gor- uchaf." Y mae yn rhyfedd meddwl i faes Duwinyddiaeth Naturiol Brydain gael ei adael, yn y blynyddoedd aethant heibio.mor amddifad o'r prawfa priori. Nid yw gwaith gorchestol Dr. Paley yn myned yn y eyf. eiriad yma ddim pellach na therfynau greddf. Cy- hudda Arglwydd Brougham, Denham. a Dr. Paley, mewn iaith lem am y fath ymddygiad. Meddai, "Golygodd y rawdwyr hyn gylchdroadau y cyrff nefol, gwneuthurjad anifeiliaid, cyd-drefniad planigion, a gweitfepgdiadau amrywiol y byd materol, yr hwn garir yn mlaen o'n hamgylch, gan gasglu hanfod. iau bwriad, ac a arweiniwyd i wybodaetb o'r Cre- awdwr. Ond aethant heibio, yn ddigon annghyf- rifadwy o ddystaw, gwaith sydd yn mhell y mwyaf neillduol o ddoeth, dwyfol, a galluog-y meddwl." "Ac,"meddai,mewn man arall o'i waith,"er hyny y mae ysgrifenwyr ar Dduwinyddiaeth Naturiol igyd, o'r hyn lleiaf yn yr amser diweddaraf, wedi esgeu- luso y gangen hono o'r pwnc eang (y meddwl) wrth yr hwn yr ydym yn ymddal yn awr; y mae un gyf- ran o hono wedi tynu eu sylw parhaus—greddf anifeiliaiJ. Y mae hon yn ddiamheuol yn y gyn- neddf feddyliol.* Cydunir yn hawdd i ddweyd gydag Arglwydd Brougham, fod greddfau anifeiliaid yn gynnedd. fan meddyliol." Ond ar yr un pryd dadleuir dros ddweyd fod llinell wahanredol ddigon amlwg wedi ei thynu rhwng y cynneddfau hyn a chynneddfau meddyliol dyn. Y mae dau nodwedd arbenig yn perthyn i reddf. Y nodwedd gyntaf yw ei phurdeb fel greddf. A'r ail nodwedd yw ei dealltwriaeth derfynol. Dynodir y cyntaf gan y pethau can- lynol:— 1. Y mae greddf yn gweithredu heb ddim cyf- arwyddyd." 2. "Y mae yn gweithredu heb unrbyw amcan neu ddyben mewn golwg." 3. Y mae yn gweithredu yn unffurfiol yn yr holl rywogaethau." 4. Y mae yn gweithredu yn ddigyfeiliorn." 5. Nid yw yn gwneyd dim diwygiad na chynnydd." Discourse of Lord Brougham, page 73.