READ ARTICLES (2)

News
Copy
GOHEBIAETHAU. NID YDYM TN YSTYRIBD IUN HUNAIN YN GYFRIFOL AM 8YNI&DA.TI KtN GOHEBWY*. Y DREFACH A'R CYMRO » ETTO. MR. GOL.-Dywedir fod rhai mor ftol na wydd- ant pa bryd y maent yn cael eu gorchfygu. Ym. ddengys mai un o'r frawdoliaeth hyny yw Llan- gelerian," y dynsawd hwnw ag y bum yn cymhwyso y fflangell ato rai misoedd yn ol yn SEREN CYMRU, am ei ymosodiad enllibus ar Fedyddwyr y Drefach, ac Ymneillduwyr yn gyffredinol. Oni buasai yn hurtyn ffol, cwfel analluog i wahaniaethu rhwng rheswm ac ynfydrwydd, gwirionedd a chelwydd, ni ddywedasai air mwyach, rhag cywilydd, wedi y driniaeth chwerw a gafodd. Ond fel Demetrius & Co. yn Ephesus, y rhai yr oedd gobaith eu helw mewn perygl, mae y cadafael hwn yn penderfyuu gwaeddi tra fyddo anadl ynddo, •« Mawr yw yr eg- Iwys a sefydlwyd gan Harri VIII., ac a gadarnha- wyd gan Siarl II." Gwelais, yn ddiweddar, yn y eymrO adolygiad ar fy llythyrau I yn y SEREN, yn mha un y mae Llangelerian" yn ymhyfhau yn fwyfwy mewn haeriadau anwireddus, gwagfostiol, a maleisus. Achwyna yn ddifrifol ac yn sobr iawn yn nghylch yr anfri a daflwyd ar ei eglwys trwy stori y fresh herrings, gan wadu yn ffyrnig na fu y fath beth erioed yn eglwys Llangeler. Ond y mae yn ddrwg iawn genyf ddweyd nad ydyw yn ddyn i'w goelio mewn dim. Mae ei lythyr yn llawn o }ae"*°aa anwireddus. Dywed fod ysgol y Drefach flynyddau yn ol wedi bod yn adrodd pwnc ag oedd yo galw Rglwys Loegr yn butain lawn o grach, a m bod I yn ddigon caled fy nghalon i amddiffyn hyny yn SSREN CYMRU. Barned y darllenydd-dyma fy ngeiriau, Os gwir i chwi, bobl y Drefach, i alw Eglwys Loegr yn butain lawn o grach, wfft i chwi am eich haerllugrwydd brwnt, eich chwaeth isel, a'ch tafodau atgas a ffiaidd I Gadawer serthedd budreiriol i'r offeiriaid a'u cyfeillion yn y Cymro." Nid amddiffyniad ond condemniad sydd yma. Dyna brawf amlwg fod "Llangelerian" yn ddyn celwyddog. Megys y gofynais mewn llythyr blaen- orol, yr wyf yn gofyn etto, A ydyw dweyil anwiredd yn ddefod yn mhlwyf Llangeler ? Onid ydyw yr offeiriaid yn darllen y gorchymyn, Na ddwg gam- dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog ?" Bydded hysbys i bobl y Drefach, mai un o blant y diafol, tad y celwydd, ydyw eu henllibiwr. Ond nid wyf yn rhyfedda at hyn: gan fod eglwYlyddiaetb ya sylfaenedig ar dwyllhoniadau ac annghyfiawnde » ryfedd fod ei hamddiffynwyr y fath elyuion 1J & „ ionedd, fel ag i wneyd haeriadau anwireddu bechod mor barod i'w hamgylchu. Ond er na ddarfu i mi amddiffyn y chwaetn doethineb o ddefnyddio y frawddeg yr ac^ Ijn cymmaint o'i herwydd, etto, ynddi ei hunan, to* eitbaf gwir fel darluniad o Eglwys SefydledJB deyrnas hon. Os gellir cymhwyso y gair puta' un eglwys ar y ddaear, yn ddiau gellir ei gymk" yn ei ystyr ysgrythyrol at Eglwys Loegr, yr hoo sydd wedi ymadael a symlrwydd a phurdeb y 9drot ionedd—taflu Crist fel priod a phen ei eglwys y bwrdd, ac ymgyssylltu yn halogedig a'r g gwladol; gwerthu ei hunan. ei rhyddid, ei huf> dod, a'i gwarogaeth, at wasanaeth y llywodraet'» mwyn budrelw, esmwythdra cnawdol, |' balchder, a thrais-awdurdod, yr hyn a eilw y "a guddiad, yn eistedd ar gefn y bwystfil." YMWY' bodolrwydd o wirionedd hyn svdd yn peru i Llan- gelerian" a'i frodyr i fymigo mor ofnadwy J. ngwyneb y cyhuddiad, fel ag i droi gwyn eu i fyny, a chodi eu dwylaw mewn dychryn santai a gwaeddi fel Dominie Samson, Pro-di-gi-oif • -fel Dr. Miller o Birmingham, Astounding lies. —haerllugrwydd erchyll, a chabledd ysgeler iaith ac ysbryd twylloffeiriadaeth o ddyddiau Cr» hyd yn awr yn ngwyneb ymosodiadau y wirionedd- j Sonia y moesgar u Llangelerian am yr antmir odoldeb o ddweyd putain grachog yn lyrau boneddigion Glan Teifi." Pa wahaniaeth y mha le y dywedir y gwir, os bydd galw am bynlt Speak the truth and shame the dev-il." O'm rban I, byddai yn well genyf ddweyd y gwir casaf ø mwyaf tramgwyddus i chwaeth cymhenfalch boC* eddigion par excellence Glan Teifi, na sisial wyddau wrthynt, fel y mae yn ymddangos oddiv* ei lythyr fod Llangelerian yn arfer gwileyd-lm chamgyhuddo Ymneillduwyr wrthynt, a gwenwyo eu meddyliau yn erbyn y "sectau" trwy yr byØ nad yw wirionedd, fel y mae offeiriaid, crach-ste** ardiaid, a tithe-factors yn arfer gwneyd tua Teifi a manau ereill. Wlft i'r giwdod atgas Oo dyna ddigon ar ddiagnostics y Babilonish scabs. Ceisia Llangelerian" ddweyd rhywbeth y nghylch y mawr bwys o undeb eglwysig, sef cyd- y ymffurfiad gwasaidd yr holl genedl a honiadau got, meilus, rheibusrwydd gwancus,pabyddiaeth clybryd, a ffurfioldeb enaid-ferwinol y sect sefydledig. y byddai yr undeb yma yn beth dymunol iawn Of I diogelwch y cyfoeth anferth ag y mae y genedl j mor flol a'i ganiatau iddi, ac er parhad ei hesm wytb- dra cnawdol, ei rhwysg a'i thrais Babilonaidd. pe buasai hierarchy Lloegr wedi mwynhau yr undeb a'r heddwch yma, buasem y dydd heddvw mor goel- grefyddol, mor druenus a cbaethiwus dan grafangaji yr offeiriaid, ag ydyw yr Yspaen ac yn wleidyddol. mor orthrymedig ag Awstria. Pe buasai Eglwys Loegr wedi cael llonydd gan Buritaniaeth ac An- nghydffurfiaeth, buasai wedi myned yn ol i Rufaio 1 fynwes ei hen fam er's oesoedd bellach. Heddwcb ac undeb yo wir I byddai hyny y farn drymnf 8 ddisgynodd erioed ar y genedl hon; oblegid i ab- senoldeb y cyfryw undeb yr ydym i briodoli y gwa- haniaeth sydd rhwng y deyrnas hon a theyrnasoedd mwyaf gorthrymedig a thruenus y cyfandir. Na, diolch i'r Nefoedd, ni chymmer y cyfryw undeb a hwn byth le-mae yn myned yn llai bob dydd. Yn ol pob arwyddion, bydd i amgylchiadau y flwyddyn hon i dori pob rhith undeb rhwng eglwyswyr ac Ymneillduwyr. Gall yr hen fam benderfynu fod y fath gyffro egniol yn dechreu y dyddiau hjn na rydd iddi un awr o lonyddwch nes ei thynu i lawr oddiar ei gorsedd i'r common level, a thori yn dragywyddol yr undeb annghyfiawn a niweifliol sydd rhyngddi a'r liywodraeth. Yn ngeiriau un boneddwr dylanwadol a galluog y dydd o'r blaen, I say there can be no unity between the master and the slave, between the despot and the serf, between the men who have acquired privilege and power and those at whose cost that ascendancy has been acquired. Let no

News
Copy
Gwir a ddywed yr hen ddiareb, sef Pob gyffelyb ymgais." Oni bai ein bod yn gwybod nas gall Satan fwrw aHan Satan," buasem yn credu mai ceisio dychrynu'r anffyddlon at ei ddyledswydd oedd amcan Bwbach ond yn lie hyny, gwelwn yn amlwg mai amcan yr hen walch yw cael y creadur ato i'r twll du. Wel, dyna y slips wedi slipio drosodd. Cynnwysa yr ail ddosparth Hen Athraw, Cerni, Anachrisis, Goronwy, Cystenyn, a Hwn-a-hwn. Hawcld yw deall fod yr Hen Athraw yn lied gydna- byddus a'r gelfvddyd o englynu, ac efallai yn ym- foddloni i raddau ar hyny heb ofalu am bertrwydd a ffraethineb etto, mae ganddo englyn i'r Athraw Ffyddlon, ond cofied mai nid digon da He gellir ei well." Mae'r llinell gyntaf i'r anffyddlon yn art- urddo ei gyfansoddiad,— Un diofal ei galon-aruthrol." Pwy *yi- beth yw meddwl y frawddeg yna? Hyderaf nad yw'r Hen Athraw wedi myned yn rhy hen i gymmeryd cyngbor, sef yw hyny, meddwl mwy cyn cyfansoddi y tro nesaf. Pe buasai Cerni wedi talu tipyn mwy o sylw i sillebiaeth wrth ysgrifenu ei englynion, buasai ei waith yn llawer mwy cymmeradwy. Er y cyfan, y mae ganddo rai llinellau teilwng o'u rhestru yn mhlith y pigion, megys paladr ei englyn i'r Athraw Ffyddlon,— LIefaru a llafurio-â'i dafod Yn dyfal esbonio." Mae gan Anachrisis a Goronwy amcan da i eng. lynu ond iddynt yfed tipyn o swyddogaeth barn a darfelydd." Er enghraifft, dodwn y linell olaf o eiddo Anachrisis i'r Athraw Ffyddlon,-— Daw efe i'w le mor Ion Trwy gaerawl rwystrau geirwon." .Mae'r gynghanedd yn berffaith yna, ond y meddwl sydd wanllyd a diaddurn. Cynnwysa y dosparth blaenaf dri a banner, sef Patrobas, Silas dan sylw, Un o blant yr ysgol, a banner gwaith Rheta Bach. Mae gan Rheta englyn tlws dros ben i'r Athraw Ffyddlon. Darlunia ffyddlondeb a thynerwch ei athraw tu hwnt i un o'i gyfeillion ac yn wir, yn ol fy marn ostyngedig 1, mae ffyddlondeb wedi ei gyd-dymheru ag addfwyn- der yn brif gymhwysderau athraw. Dyma fe,- Uwch yr egyn chwareugar-onid yw Ryw dad amyneddgar ? Er eu tradwrf a'u trydar, Ni rydd sen neu gerydd sar." Oni bai'r bai cynghanedd bychan sydd yn y drydedd linell, buasai hwn yn debyg o'r flaenoriaeth ond y mae'r gwall cynghaneddol hwn yn anfaddeuol yn ol cyfraith oleulem D. ab Edmwnd. Gwelweh nad oes yr un r i ateb yr r gyntaf yn y llinell. Gelwir y bai yn dwyll gwreiddgoll, gwel R. Davies, Caled- fryn, See. Saif yr ymdrech yn awr rhwng Silas dan Sylw ac Un o blant yr Ysgol. Wele y ddau Englyn :— Hoffeiddlwys Athraw Ffyddlon-yn ddwysgall Addysga blant dynion; Gwelir ef wrth fodd ei galon Yn gweini lies a gwenau Hon." SILAS DAN SYLW. Athraw ffyddlon yn lion gwellha-ei oes, Dros Iesu ymdrecha; Daw llwydd chweg yn deg drwy'r da- Gywir addysg a rodda." UN 0 BLANT TR YSGOL. Mae Silas yn gynghaneddwr rhwydd, er hyny, tybir fod rbywbeth yn swnio yn lied henafol yn rhai o'i gynghaneddion, megys hoffeiddlwys a ffyddlon, &c. Hefyd, gwelir fod gwall cynghanedd bveban yn y drydedd linell. Er enghraitft,- Gwelir ef wrth fodd ei galon." G-elwir y gynghanedd hon yn draws ond y mae'r ef wrth fodd ei ya swnio yn rhy gryfion, nes ydym braidd wedi annghofio y g-l yn gwelir cyn cyrhaedd y g-1 yn y galon; gwel Tafol y Beirdd, &c. Cofled Silas nad wyf yn trafferthu er mwyn diystyru ei englyn, ond yn hytrach i'w annog i ochel rhyw feiau man fel ag y nodwyd, canys mi wn ei fod yn englynwr da, ond iddo gymmeryd tipyn o bwyll. Mae gan Un o blant yr Ysgol englyn da-mae yn ei ddiweddu yn fwy grymus nag un o'i gyfeillion, yr hyn yw prif ragoriaeth englyn, yn enwedig pan na byddo ond un ar destun. Ond cofied fod un bai bach yn ei englyn yntau, sef tor mesur yn y llinell gyntaf. Er »ad yw y bai hwn ond lied ddibwys yn ol fy mam I, nis gellir ei basio yn ddisylw,— "Athraw ffyddlon yn lion gwellha." Gwelir fod yr ail orphwysfa ar lion, sef y chweched sill, lie y dylai fod ar y pummed, gwel Rheolau Beirdd Gwynedd. Etto, mae grymusder ei ddi- weddiad yn gorbwyso rhyw fai bychan fel yna at y llawr, nes gorfodir fi i roddi y wobr iddo. Patrobas yw y goreu o ddigon i'r Anffyddlon. Dyma englyn llithrtg, cynghaneddol, a naturiol. Dymunol fyddai i'r awdwr adrodd ei englyn ar gyhoedd yr Eisteddfod, nes gwridio yr holl anffydd- loniaid a ddygwydd fod yma. Felly, Patrobas ac Un o blant yr Ysgol yw y buddugwyr. IRWERTH MIN ELWY.