READ ARTICLES (4)

News
Copy
"Y DDWY FIL PURITANIAID." At Oljgydd SEREN CYMRU. MR. GOL.,—Ystyriwyf mai tipyn o annhegwch tuag ataf ydyw na chai fy llythyr ymddangos yn y SEREN. Gan fed y brodvr Parry a Jenkins wedi cael rhyddid ardudalenau SEREN CYMRU i ymosod arnaf, teg fyddai i minriau, trwy yr un cyfrwng, gael amddiffvn fy hun yn ngwyneb eu hymosod- iadau. Ond gan fod fy llythyr yn rhy ddiweddar i ymddangos yn y SEREN ddiweddaf, ac fel yr aw- grymweh, y bydd y dckdl wedi colli ei dyddor- deb i raddau cyn yr vmddangosa y SEREN nesaf, a chan eich bod yn barllu y "galtwn wneyd heb ddadltilr egwyddor" (er fod yr egwyddor yn fwy pwysig na dim arail), rhoddaf i fyny i'ch decision chwi, sef i adael dadlu v pwnc. Ond gobeithio y caniatewch i mi wneuthur dau neu dri o sylwadau cyn gadael y pwnc mewn perthynas i'r ysgrifau ag sydd wedi ymddangos yn y SBREN yn fy nghon- dsrnnio a fy niarn. Yn ■( i>{>' •• v,ijn'-i- ■ I •» .»UM: '»y nTOTTi' yv.-i.yra- 1. Cyhuddir fi o fod yn erbyn y Drysorfa, ac yn erbyn yr Athrofa. Nid oes dim yn fy llythyr yn cyfiawnhau y fath gyhuddiad. Yr ydwyf dros y ddau symudiad a'm holl galon, dnd nid fel coffad- wriaeth a>n y Ddwy Fil," teithr fel pethau gwir deilwng ynddynt eu hunain. 2. Awgryma Mr.1!Jenkins fy mod wpdi cael fy nigio mewn cyssylltiad a sefydliaœ'yr 'A.tbrofa. Byddai yn dda ac yn ddoeth i'r henafgwr profiadol o Lanfachreth gadw ei insinuations disail hyd nes y gall eu profi. Arwydd o wendid a llwfrdra (cow. ardice) mewn dadleuvdd ydyw gwneuthur defnydd o insinuations anwireddUs er mwyn ceisio planu rhagfarn yn meddwl y cyhoedd yn erbyn ei wrth- wynebydd. y 3. Da genyf gael ar ddeall ftid yr eglwysi a'r cyfeillion yn dechreu codi eu llais yn erbyn yr enw Bartholomeus i fod ar Athrofa y Gogledd. Dadl- euer a fvner drosto, y mae yn sawru yn gryf o bab- yddiaeth. Vn awr, Mr. Gblv, gan eich bodyngwrthwynehu i'r egwyddor goffadwriaethol gael ei dadlu ar dudalenau y SERNN, a fyddwch chwi neu rai o'ch goheliivyr mor garedig a dangos y berthynas ag oedd rhwng y Ddwy Fit & Chymru, sef pa nifer o honynt oedd yn Ngliymru, y llefydd yn mha rai yr oeddynt yn llafurio, eu henwau, &c.; pa nifer o honynt oedd yn Fedyddwyr, yn nghyd a'r llefydd yrt)eddynt,&c., yr erlidigaethau a gyfarfuasant pan adawsarit yr eglwys, pa rai o'r eglwysi ymneill- duol a fodola yn bresenol yn Nghymru a sefydlwyd ganddynt hwy, See. Byddai ychydig o lythyrau ar y pethau a nodwyd yn bur ddyddorol i lawer o ddarllenwyr SEREN CYMRU. Gan mai y Ddwy Fil" yw pwnc y dydd, ni ddylai yr un SEREN ddyfod allan am y misoedd dyfodol, heb gynnwys rhywbeth am y Ddwy Fil." Yr eiddoch, &c., Ruthin. EVAN JONES. [Mae yn hyfrydwch genym gyhoeddi yr ysgrif eglurhaol hon. Ni a derfynwn y ddadl yn y fan hon, os gwel ein brodyr yn dda unrhyw beth a fyddo o duedd i hyrwyddo amcanion Pwyllgorau y Drysorfa a'r Athrofa,, a fydd yn diierbyniol genym. Os bydd rhyw un neu rhyw rai yo dewis ysgrifenu, yn ol awgrym ein brawd yn niwedd ei lythyr, bydd yn dda genym osod tudalenau y SBREN ateu gwalî. anaeth.—-GOL.]..

News
Copy
ADOLPHUS A'I NODYN. MR. GOL.Mewn Rhifyndiweddar o'r SBREN, gwelsom ryw Adolphus wedi cymroeryd arno ei hun i anfon i mewn hysbysiad am gyfarfod chwar. terol dosparth uchaf Ceredigion i'w gynnal yn Tal- ýbont. Gan mai gorchwyl pennodol yr ysgrifen ydd perthynol i'r cylch yw anfon y cyfryw hysbys- iadau, nid oedd yn perthyn i Adolphus ytnyrid a'r gorchwyi; a thebyg na fuasai yn gwneyd oni fuasai fod ganddo ryw amcan anfoneddigaidd mewn golwgf-nid amgen diystyru un o'r gweinidogion parchusaf a mwyaf gweithgar o fewn y cylch, trwy adael ei enw allan o restr y gweinidogion a ddys- gwylid i'r cyfarfod. DylasaiAdolphus ystyried nad oes gan eglwys Talybont fwy o hawl i gau allan y gweinidogion dan sylw nag sydd ganddi i gau allan yr eglwys i'r hon y perthyna, ac nad oedd ganddi hawl i wneyd y naill neu y Ilall heb gyd- henderfyniad yr eglwysi ereill perthynol i'r cylch. Buasai yn dda genym allu, credu nad oedd gan Mr. Hywel un Haw yn y gorchwyi. Gwyddom y tystia nad efe yw yr awdwr, Diciion hyny; ond a wyddai efe am dano cyn ei antoniad i mewn ? A geisiodd efe attal ei gyhoeddiad ? A amcanodd efe ymrydd- hau o fod a lIaw yn y gorchwyi, uu ai wrth Mr. Jones yn bersonol, ynte trwy gyfrwng y SEREN ? Gwyddom na wnaeth yr un o'r pethau hyn ac o ganlyniad pa un ai efe yw yr awdwr ai peidio, mae yn atnlwg ei fod yn eu gymmeradwyo; yr hyn a'i gesyd ar yr un tir a'r Rwdwrei hun. Pe buasai Mr. Hywel yn cael ei ospd i bregethu yn front y cyfar 4. '¡ ¡,' i, ¿ --no- fod diweddaf, tebyg na chlywsid son am y diystyr- wch hwn. Nid un sarhad ar Hywel oedd ei osod i brQgethu yr amser y gwnaed. Os oes rhyw rai o'r cyfarfodydd yn fwy o front tieu gilydd, yr oedd yno ddyeithriaid, ac hyd yn oed gweinidogion ereill o fewn y cylch, o ran oedran a pharchusrwydd, yn llawn mor deilwng o'r lie. Ac hyd yn oed pe buasai rhyw sarhad wedi ei fwriadu i Hywel, yr oedd yn hollol anfoneddigaidd, heb sdn am an- nghristionogol, ynddo i ad-dalu mewn modd mor gytioeddus, ac mewn dull mor wahanol, yr hyn a dderbyniwyd mewn cylch llawer cyfyngach, yn enwedig tra yr oedd ganddo gyfle i dalu yn pi yn yrun coin. Mae yn ofidus genym siarad fel hyn am weinidogion efengyl ond mewn gwirionedd, pa ddbfnydd a ddysgwyliri wrandawwyr efengyl wneyd o foddion gras, pan y mae eu gweinidogion yn mfedru cam-ddefnyddio eu swyddi, ac annghofio pwysigrwydd eu galwedigaeth, i'r fath raddau, fe) ag i fod yn fwy pryderus am gael eu gosod i siarad yn.yr amser mwyaf cyfleus i gael eu gwrando a'u gweled gan y dosparth mwyaf genteel o'r gwran- dawwyr—y rhai ydynt yn rhy swrth i godi er myn- ychu yr odfaon boreuol, ac yn rhy delicate i oddef awyr yr hwyr, er mynychu y rhai nosawl; beth a ddysgwylir, meddwti, oddiwrth wrandawwyr efen. gyl, paay mae yn amhvg fod eu gweinidogion yn gofulu mwy am y pethau hyn nag am eu heneid- iau ? Pa fodd y medr y dyniou hyn, gyd ag un gradd o onestrwydd, alw am ddadgyssylltiad yr eg- lwys oddiwrth y wladwriaetli, ar gyfrif fod eu gwaddoliadau yn peru fod llawer yn ymuno a hi er mwyn y dorth, tra with bob tebygolrwydd nad ydynt eu hunaiu yn eithriaid, ïe, ac yn eyssylltu at byny y fath fyfiaeth (egotism) croes i ysbryd eu Rhagflaenor bendigedig? Mae y wlad yn gwybod mai dyma yr ail ym- gais o eiddo Mr. Hywel er pardduo cymrrieriad Mr. Jones; ac wrth ystyried mor aflwyddiannus fu yr ymgais cyntaf, a'r parodrwydd cristionogol a am- lygodd Mr. Jones i faddeu iddo, nleddyliai na fuasai byth yn gwneyd ail gynnyg. Ac y mae yn rhyfedd i ni fod un a hona ei hun y fath athronydd heb ddeall etto, beth bynag all dichell a chyfrwys- dra. wneyd am ennyd tuag at droi cymmeriad di- argyhoedd yn wrthddrych gwawd, fod y byd yn ormod o hen scholar i gymmeryd ei arwain yn hir yn y cyfryw gyfeiriad, a bod y gwarth a deflir at y diniwed, o'r diwedd, o angenrheidrwydd yii dych- welyd ac yn glynu wrth yr ymosodwr. Mae yn ddrwg genym fod yr ymddygiadau anfrawdol dan sylw yn tueddu at nychu y cyfarfod chwarterol a fu unwaith mor flodeuog yma. Yr eiddoch, &c. CEREDIGWYN.

News
Copy
ATEBION. ;'#1\)1' Ateb iofgniad Teithiwr. Mr. GOL.,—Mae yr hwn a gyfenwa ei bun yn U Deithiwr" yn y Rhifyn diweddaf, ar ei daith yn rhywle wedi dygwydd cael cipol wg ar y Book of Men- suration. ac wedi codi y gofyniad cyfeiriedig ataf o hono (gwel tud. 58, gof. 11). A chan fod yr atebiad i'w weled yno hefyd, rliai-i mai un o dri pheth a achos- odd iddo wneyd hyny. Naill ai er mwyn cael prawf peilach o fy ngalln fel rhifyddwr, er mwyn ceisio dar- bwyllo y wlad ei fod yn ysgolhaig, neu ynte er mwyn cael yr atebiad mewn llawn waith. Fodd bynag, rhag mai yr olaf oedd yn ei olwg, dymuuai i'r hyn a ganlyn gael ymddangos

News
Copy
'.4< eneidiau y bobl-hwynthwv sydd wedi goleuo, efengyleiddio, a moesoli y wlad, ac ar eu gwefusau hvvyut mae rhagor nag wyth o bob deg o'r bobl yn hongian er clywed gair y bywyd. Mae yu wir fod eglwyswyr yn ymysgwyd ac yn ymgynhyrfu er cael gafael yn y bob!, ond ni thyciant; ac am eu bod yn methu, arllwysant gynddaredd eu malais a'u henllib ar wir athrawon a bugeiliaid ysbrydol a llwySdiannus y genedl. Cynhvrfu y werin er mwyn cael bara a chaws." Os cynbyrfu y werin y geiivv vr eglwvswr o Langeler waith yr Ymneilldu- wyr yn pregethu yr efengyl i'r bobl, maent yn gallu gwneyd yr hyn mae personiaid Cyinru yn rriethuei wneyd, trwy bregethu, na thrwy lwgrwobrwyon. na thrwy ddylanwadu ar y mawrion i droi Ymneilldu-, wyr o'u ffermydd, a chyfyngu en ffafrau i fobl y llan. Y c«bl yn failure! Pe collai y rhai hyn eu bara a chaws o law y llywodraeth, byddai yn llawn bryd iddynt druain i chwilio am ryw faes newydd allan o Gymru i gael tumaid trwy offeiriadu—i emigrato i'r antipodes i adeiladu Babilon newydd, neu fyned tua Rhufair. i chanto Te Deum Laudamus, neu tua Thibet i weinu wrth allor v Grand Lama. Pe arosent yn Nghymru, pwy a fayc na fyddai yn dda gan rai o honynt gael pryd o "fresh herrings," 08 byddai deuddeg amchwech. Gwell iddynt beidio dirmygu gormod ar weinidogion hunanymwadol a dewisedig y genedl, y rhai sydd yn llafurio yn galed am gynnaliaeth fach, rhag ofn fod Nemesis a chwpan gofwy yn agoshau, i dalu idynt yn ddauddyblyg am eu holl draha a'u hanwireddau. Cafodd yr egwyddor ddrygionus hon," sef cyn- hyrfu y werin i gael bara a chaws, "ei dangos yn eglur yn helynt Gravell & Co. meddai ein hysbys- ydd o Langeler. Yr wyf yn methu yn lanagweled pa gyssylltiad sydd rhwng helynt Gravell & Co. a'r egwyddor ddrygionus o ymdrechu cael bara a chaws. Buasai helynt y person a'i gurad yn Sir Fon, yr hwn a brofwyd yn ddiweddar o flaen y llys Sirol yn Llangefni, yn llawer mwy perthynasol. Y curad yn hawlio £33 fel rhan dyledus o'i gyflog tuag at gael bara a chaws "-y person yn dweyd nad oeddynt yn ddyledus iddo—y curad yn galw y person yn yr eglwys ar Sul y Sacrament, ac yn ngwydd y gyn- nalleidfa, yn flaidd yn ngwisg dafad, yn filaiu, yn rhagrithiwr, ac yn dwyllwr," ac felly yn y blaen hyd ddiwedd yr yragiprys. Gan fod y lly thy r presenol wedi myned yn barod mor faith, bydd i ni adael y rhelyw o haeriadau gweigion a bostfawr "Llangèlerian" gyda golwg ar orchestion, rhinweddau, a defnyddioldeb yr eg- lwys yn y myned.1 a'r presenol, hyd y rhifyn nesaf o'r SEREN, pryd v bydd i ni roi tro i faes hanes. yddiaeth, a dwyu yn mlaen ychydig o ffeithiau angenrheidiol i'r cvhoedd eu gwybod, yn neillduol yn ngwyneb aingylchiadau y flvvyddyn bresenol. (Pw barhau.) GLANBARGOD.