READ ARTICLES (2)

News
Copy
TY YR ARGLWYDDI. Mai 19.—Darllenwyd Ysgrif Rhestriad Etholwyr y drvdedd waith. Mai 20.-Gosododd larll Russell gopi o'r cytun- deb a wnaed rhwng Lloegr a Uywodraeth yr Unol Dalaethau i ddarostwng y gaethfasnach, gan egluro ei amcanion, a rhoddi canmoliaeth uchel i Vm- drechion llywodraeth y Llywydd Lincoln i roddi attalfa ar y fasnach. Yr oedd y cytundeb yn rhoddi bawl ymchwiliad i wiblongau rhyfel y ddwy wlad, ac yr oedd efe yn gobeithio y deilliai daioni mawr oddiwrth hyn. Dywedodd Esgob Rhydychain fod yn dda gan- ddo glywed fod y fath gytundeb wedi ei wneyd, a'i fod yn gobeithio y byddai yn efièithiol i roddi terfyn ar y gaethfasnach. Amlygodd Iarll Stanhope ei gymmeradwyaeth o'r cytundeb, a gofynodd am ba faint o amser y parhaai mewn grym. Atebodd laril Russell mai am ddeng mlynedd. Mai 22. — Ail ddarllenwyd ysgrif Hawlfrain Gweithfeydd Celfyddydol. t Pasiodd ysgrif RheoJaeth y Canghell-Iys trwy bwyllgor. Mawrth 23.-Cyflwynodd Arglwydd Redesdale niter o ddeisebau oddiwrth berchenogion tiroedd ymddiriedolwyr ffyrdd, ac ereill, yn erfyn am gyf- raith gytfredinol ar y pwnc o Bellebrau Trydanol. Cwynai ei arglwyddiaeth fod y gallu a roddwyd eisoes gan y Senedd wedi ei arfer mewn dull ni- weidiol i fanteision y cyhoedd, ac annogodd y Uywodraeth i basio rhyw gyfraith gyffredinol ar y pwnc. Wedi peth ymddyddan, gorchymynwyd rhoddi y ddeiseb ar y bwrdd. Mai 26.-Cyfarfu eu harglwyddiaethau am bump o'r gloch. Tynai Argl. Brougham sylw y Ty at y cytundeb a wnawd yn ddiweddar rhwng y deyrnas hon a'r Unol Daleithiau i ddarostwng Caethwas- aeth; a gofynai paham y gadawwyd Porto Rico allan o'r cytundeb. Dywedai Iarll Russell nad oedd yn alluog i roddi eglurhad ar y mater, ond gallai sicrhau fod yr Unol Daleithiau yn dra awyddus i gydweithredu a Uywodraeth ei Mawrhydi i ddarostwng v drafnid iaeth mewn caethion. Wedi i addysgiaeth yn yr Iwerddon fod dan sylw darllenwyd ysgrif yr ardrethi yr ailwaith. Pasiodd ysgrif Amddiffyniad Heddwch yn yr Iwerddou drwy bwyllgor, a darllenwyd ysgrif Rheoleiddiad y Canghell-lys y drydedd waith, a phasiwyd hi. Deddf Unffurfiaeth. Mai 27.-Cynnygiai Argl. Ebury ail ddarlleniad ysgrif Diwygiad Deddt Unffurfiaeth. Dywedai ei Arglwyddiaeth fod pob offeiriad perthynol i Eglwys Loegr yn rhwym i arJystio i ddwy furf. Nid oedd efe yn ymyraetb a'r gyntaf olr rhai hyn, sef yr ardystiad i'r Litani; ond chwennychai ddifodi yn hollol yr hyn a'i gwnelai yn angenrheidiol i gyd- synio a'r oil a gynnwysai y Llyfr G-weddi Cytl'- redin. Cynnygiai Argl. Dungannon, fel gwelliant fed i'r ysgrif gael ei darllen yn mlien chwech'mis. Llefarodd lisgobion Llundain, Ty Ddewi, a Rhyd- ychain, yn erbyn yr ysgrif. Tybiai Idrll Shafies- bury y gwnelai yr offeiriaid eu hunain, os tynai ei arglwyddiaeth ei ysgrif yn ol, ryw dremiadau a atebent y dyben. Nid oedd Arglwydd Lyttleton yn erbyn gwneyd cyfnewidiadau yn ngwasanaeth yr Eglwys, ond credai na ddylid diforii yr oil o'r safon sydd gan gynnulleidfaoedd i brofi fod yr offeiriaid yn cydnabod y Llyfr Gweddi Cyffredin. Ciedai larll Russell fod Argl. Ebury wedi gwneyd gwasanaeth mawr i'r cyhoedd, wrth ddwyn y mater i sylw. Nid oedd ammheuaeth nad oedd amryw ddynion o dduwioldeb a set Gristionogol yn y dyddiau hyn nad allent yn gydwybodol ardystio i'r

News
Copy
marnau y peiriannwyr yn nghylch y gwaith. Dywed peiriannwyr Ffrengig nad oes un ammheuaeth na chwblheir ef yn llwyddiannus, ac y ceir gweled agerlongau a llongau hwylio yn tramwy ar hyd-ddo; ond barna y peiriannwyr Prydeinig fod yr anhaws- derau yn fwy nas gall gallu dynol ea gorchfygu, o leiaf, heb gost arathrol; ac yn y diwedd, nad oes un tebygolrwydd y ceir chwarter digon oddiwrtho i dalu Ilogau, ac y bydd raid gwario llawer arno yn barhaus er ei gadw mewn trefn ac adgyweiriad priodol. DAU LOFRUDDIAETH YN IWERDDON.—Oddeutu cliwech o'r gloch prydnawn dydd Iau wythnos i'r diweddaf, llofruddiwyd John Herdman, Ysw., un o fasnachwyr cyfoethocaf a pharchusaf tref Belfast, o fewn can llath i'w dy ei bun yn Cliftonville. Saethwyd ef trwy ei galon. Y llofrudd tybiedig yw ei gefnder ef ei hun, William Herdman, yr hwn a gymmerwyd i fyny. Prydnawn dydd Sadwrn canlynol, llofruddiwyd dyn or enw Charles Wilgar, llifiwr, ar ei tfordd i dy ei dad yn Ballyiesson, swydd Down, o fewn oddeutu tair milltir i dref Belfast, gan un o'i gydweithwyr, fel y tybir, yr hwn, ar el yspeilio y dyn tlawd o'i oriadur, a'i taflodd ef i'r afon Lagan, lie y cafwyd ef prydnawn dydd Mercher. LLEIHAD TROSEDDAU YN IWERDDON. Y mae wythfed adroddiad cyfarwyddwyr carcharau Iwerddon newydd ei gyhoeddi. Yr oedd nifer y dedfrydogion yn 1853 uwchlaw 3000. Yn lonawr, 1861, yr oedd eu nifer wedi gostwng i 1492, ac yn nechreu y flwyddyn hon, nid oedd y niferond 1314. Dywed yr adroddiad eu bod yn bresenol yn gofyn i'r senedd bleidleisio llai o £60,000 yn y flwyddyn Dag a ofynid chwe blynedd yn ol, er fod traul pob un yn awr yn fwy nag oedd y pryd hwnw, o her- wydd fod yr un nifer o swyddogion yn arolygu dros nifer llai. Nid yw y gost hyd yn awr ond JE24 10s. y pen, tra yn Lloegr y mae yn £35. Yn y pum mlynedd cyn 1853, alltudid dedfrydogion dros y moroedd o'r Iwerddon yn ol 1000 bob blwyddyn. Ni alltudiwyd neb ar ol y pryd hwnw. Yn y cyf- amser, rhyddhawyd 6121 o ddedfrydogiou yn Iwerddon. Priodolir y lleihad hwn yn nhroseddau y Gwyddelod i wahanol achosion, yn benaf i gyn- nydd addysg gyffredinol, a llwyddiant Protestan- iaeth, heluethrwydd o waith a chyflogau da i'r dos- parthiadau gweithiol, yn enwedig llafurwyr amaeth- yddol, a gofal manwl yr heddgeidwaid. MABWOLAETH DR. WOLFF. Drwg genym hysbysu marwolaeth y Parch. Ddr. Joseph Wolff, y teithiwr Dwyreiniol adnabyddus, yr hyn a gym- merodd le yn y Ficerdy, Ynys Brewers, ger Taun- ton, personoliaeth pa le a ddelid ganddo. Yroedd efe yn fab i Rabbi, a ganwyd ef yn Weilersbach, yn 1795. Derbyniwyd ef fel efrydydd i Goleg Romano, ac wedi hyny i Goleg y Propaganda, o 1816 i 1818; ond pan y cafwyd ailan fod ei syn- iadau yn gyfeiliornus, bwriwyd ef allan o Rufain. Daeth drosodd i Loegr, a gosododd ei hun o dan ofal y Parch. Charles Simeon, a'r diweddar Mr. H. Drummond, A.S. Wedi hyny, efe a aeth i bregethu yn y Dwyrain, a gwnaeth ddwy daith i Bohara, i'r dyben, os gellid, o ryddhau y Milwriad Stoddart a Cadben Connolly. CYMDEITHAS Y TRAETHODAU CREFYDDOL.— Dechreuodd Cy mdeithas y Traethodau Crefyddol ei tnasnach yn 1799, ac ar.fonodd allan y flwyddyn gyntaf 200,000 o draethodau. Y flwyddyn ddi- weddaf, anfonodd allan 20,870,074 o draethodau yn yr iaith Seisnig, a 537,729 mewn ieithoedd tramor. Y mae ei chyllid oddiwrth werthiadau a rhoddion yn agos i £ 100,000 yn flynyddol. Y mae y gymdeithas lion newydd gyhoeddi y gyfrol gyntaf o weithiau John Howe, y Duwinydd Protestanaidd mawr, a eh wblheir yr argraffiad mewn chwech o gyfrolau, y rhai a ddeuant allan yn lied fuan y naill ar ol y Hall. Y golygydd yw Mr. Henry Rogers, awdwr yr Eclipse of Faith," ac mewn seithfed cyfrol ihydd fywgraffiad newydd a chynnwysfawr ofywyd Howe. ARGL. PALMERSTON AC UNDEB TTALI.—YM- ddengys fod amddilfyniad gwrol Argl. Palmerston yn Nhy y Cyffredin i Undeb Itali wedi cynnyrchu y teimlad mwyaf diolchgar tuag ato yn mhlith yr holl Italiaid. Y mae Garibaldi, fel Llywydd Cym- deithas Rhyddhad Itali, newydd anfon yr anerehiad canlynol at ei arglwyddiaeth :—" Fy Arglwydd- Clywsom gyda llawenydd a diolchgarwcli am yr araeth a draetliasoch chwi fel cynnrychiolydd opin- i) nau y Prydeiniaid, yn Nhy y Cyffredin, o blaid undeb Itali a'r egwyddor o anymyriad. Yr ydych wedi cydnabod y ffaith fod gwaith Napoleon yn cadw meddiant o Rufain yn drosidd o'r egwyddor o anymyriad. Y mae yn rhwystr i undeb Itali, ac yn bygwth heddwch Ewrop. Os peru Lloegr yn ei hymdtechion i fynu parch i'r egwyddor hon, bydd yr Italiaid yn ddigon galluog eu hunain i ryddhau eu gwlad. Derbyniwch, fy arglwydd, ein hanerch paichus." Dyddiwyd yr anerchiad hwn yn Trescora, Mai 5ed, ac y mae wedi ei lawntd yn rheoiaidd. Yn YMRANIAD AR YSGRIF Y DRETH EGLWYS. -Pleidleisiodd y honeddigion a ganlyn dros ysgrif Syr John Trelawny :-y Milwr. Biddulph, Syr R. Bulkeley, H. A. Bruce, C. Bailey, L. L. Dillwyn, Arglwydd Grosvenor, Syr G. C. Lewis, David Morris, Arglwydd Clarence Paget, y Milwr. Powell, E. L. Pryse, D. Pugh, C. R. M. Talbot, H. H. Vivian, y Milwr. L. Watkins, C. G. Wynne, a G. H. Whalley. Yn erbyn ysgrif diddymiad y dreth -David Jones, T. Mainwaring, O. Morgan, Major Morgan, yr Anrhyd. Filwr. Pennant, a J. H. Phillips, yr Anrhyd. Filwr. Rowley, yr Anrhyd. W. C. Talbot., Syr J. Walsh, y Milwriad Wynne, Cad- ben J. S. Johnson, a W. W. E. Wynn. Absenol: —Svr W. W. Wynn, Barwn, yr Anrhyd W. O. Stanley, Syr John Hanmer, a'r Milwriad Owen. Y PRIF GYMDEITHASAU CYFEILLGAR.—Y mae Undeb Maneeinion o'r Odyddion, ac Urdd Hynafol y Fforestwyr, newydd gyhoeddi eu hadroddiadau am eleni; ac ymddengys oddiwrthynt fod cynnydd mawr wedi bod yn eu plith yn ystod y ddwy flynedd diweddaf. Yr Odyddion—1860 yn y Deyrnas Gyfunol a'r Iwerddon, 294,695 mewn gwledydd tramor, 10,566. Cyfanrif 305,261. Yn y flwyddyn 1862: yn y Deyrnas Gyfunot a'r Iwerddon, 321,274; mewn gwledydd tramor, 13,871. Ffor- estwyr, 1860: yn y Deyrnas Gyfunol a'r Iwerddon, 166,488 mewn gwledydd tramor, 2,088 cyfanrif, 168,576. Yn y flwyddyn 1862; yn y Deyrnas Gyfunol a'r Iwerddon, 204,072; mewn gwledydd tramor. 3,861; cyfanrif y flwyddyn bresenol, 207,933. Mwyafrif yr Odyddion ar y Fforestwyr y flwyddyn hon, 127,212. ¥SGARIAETHAU.- Y mae yr adroddiad seneddol o'r ysgariaethau a'r gwahaniadau barnol a awdur- dodwyd gan Syr Cresswell Cresswell newydd ei gyhoeddi. Dengys nifer y deisebau a dderbyniwyd nifer yr achosion a wrandawwyd, a nifer y dadgys- sylltiadau a ganiatawyd yn ystod y tair blynedd a hanner, o'r lleg o Ionawr, 1858, hyd y 30ain o Gorphenaf, 1861. Derbyniwyd 781 ogeisiadau am ysgariaethau, sylfaenedig ar odineb yn y tymmor yma. Wrth gymbaru y cyfanrif hwn a'r pump neu y chwe chant a dderbytiiwyd yn Paris ei hun o fewn y ddwy flynedd ar ol pasiad y ddeddf sydd yn rhoddi awdurdod i'r pleidiau i ddiddymu priodas, os eydsynia y ddwy ochr. nid ymddengys yn fawr iawn. Cynnwysa wtddiilion y trueni priodasol oedd wedi ymgasglu er y flwyddyn 1853, y flwydd- yn gyntaf y cyfeirir yn yr adroddiad at weithred o odineb. Nifer y deisebau I'm wahaniad barnol, ar gyfrif godineb a chreulondeb ydyw 248, yr llyn sydd lai na'r drydedd ran o'r rhai a ofynent am lwyr ysgariad. Ni chymmerodd dim llai na 100 o wragedd fantais ar ddarpariaeth y gyfraith er am- ddiflyn eiddo gwraig.