READ ARTICLES (2)

News
Copy
TY Y CYFFREDIN. Y Dreth Eglwys. Mai 19 — Dywedodd Mr. Sotherton Estcourt, mewn atebiad i Syr J. Trelawny, ei fod ef yn ys- tyried ei fod wedi ymrwymo i gario allan y pender- fyniad ar bwnc y dreth eglwys, trwy roddi cyfleus- dra i'r t9 i fabwysiadu rhyw egwyddor ar y pwnc ac os na chymmerai y llywodraeth y pwnc i fyny, bwriadai roddi rhybydd dydd Gwener nesaf i ddwyn ysgrif i mewn. 1Ysgrif y Tollau a'r Trethi Cartrefol. Ar y cynnygiad fod i ysgrif y Tollau a'r Trethi Cartrefol gael ei darJlen y drydedd waith, Galwodd Mr. Disraeli sy!w at sefyllfa cyllid y wlad, a beirniadodd dreuliadau y llywodraeth mewn dullllym, gan eu hannog i fabwysiadu cynnildeb. Dywedodd Arglwydd Palmerston fod y gallu ntitwraidd sydd yn awr yn yr Unol Dalaethau yn llai nag yr honai Mr. Disraeli a'i gyfeilliOn eu bod yn angenrheidiol er amddiffyD y wlad hon. Gyda golwg ar draul y llynges, aelod o lywodraeth Ar- glwydd Derby oedd yn gyfrifol am y symudiad cyntaf i'w chynnyddu.gyda'r amcan o'i gosod ar yr un tir a Ffraine o ran llongau haiarn, ond nid "oeddym hyd yma wedi cyrhaedd y tir hwnw. Add- efai fod gan Ffraine bawl i gynnyddu ei llynges i'r graddau y mynai; ond dylai Lloegr, pa un bynag a gymmer rhyfel !e rhyngddi a Ffrainc ai peidio, nid yn unig fod ar yr un tir a hi, ond uwchlaw iddi ar y mor. Nid oedd un perygl i Ffrainc wneyd ymosodiad arnom tra y byddem mewn sefyllfa i amdditfyn ein hunain. Am ei fod yn ewyllysio bod mewn heddwch a chynghrair a Ffrainc, yr oedd yn dymuno na roddid un demptasiwn i'w dori trWy ddangos gwendid y wlad hon. Yr oedd gan Ffrainc ar y mor, neu yn cael eu hadeiladu, 36 o longau haiarn, tra nad oedd genym ni ond 25 ac felly yr oedd ganddi fwy na ni o 11. Wedi yehydig ddadl, darllenwyd yr ysgrif y drydedd waith, a phasiwyd hi. Mai 20.-Gofynodd Syr Minto Farquhar ai gwir oedd fod y Persiaid yn myned i wneyd ymosodiad ar Herat? Dywedodd Syr C. Wood nad oedd dim gwirion- edd yn yr adroddiad. Wedi peth ymddyddan, tynwyd ysgrif y Banciau Cynnilo yn ol. Ysgrif Gwerthiad Gwirodydd. Mai 21.-Cynnygiodd Mr. P. W. Martin yr ail ddarlleniad o ysgrif Gwerthiant Gwirodydd, amean yr hon ydoedd newid adran o'r gyfraith a elwir y Tippling Act, yr hon, meddaiMr. Martin, nid oedd yn awr, o herwydd y gwelliant sydd wedi cym- meryd lie yn moesau y trigolion, ddim yn amgen na pheiriant i dwyllo." Ar ol peth ymddyddan, darllenwyd hi yr ail waith gan fwyafrif o 29, mewn Ty yn cynnwys 135 o aelodau. Mai 22.-Ail ddarllenwyd ysgrif Cwmpeini Pellebyr Trydanol y Deyrnas Gyfunol. Y Dreth Eglwys. Gofynodd Syr J. Pakington i Brif Arglwydd y Drysorfa a oedd llywodraeth ei Mawrhydi yn bwr- iadu dwyn ysgrif ar y dreth eglwys i mewn. Atebodd Arglwydd PalmerstOa fod cymmaint o anhawsder o amgylch y pwnc, fel nas gellid ar hyn o bryd ei benderfynu yn foddhaol. Cvmpeit.i Chdawl Columbia Brydeinig. Gofynodd Mr. Malcolm i Is-Ysgrifenydd y Tref- e^igaethiu a oedd sylw llywodraeth ei Mawrhydi wedi ei alw at hysbysiad yn y Times am y 17ego'e mis hwn, o eiddo Cwmpeini Cludawl Columbia Brydeinig, yn cynnyg cario ymfudwyr o Loegr i Canada, ac oddiyno dros y tir i Columbia Brydein- ig, a gwneyd yr holl daith mewn pum wythnos, am £42, ac a oeddynt yn debyg o gyflawnu y daith yn ddiogel. Dywedodd Mr. C. Fortescue fod sylw y llyw- odraeth wedi ei alw at yr hysbysiad y cyfeiriwyd ato, ac fod rhai wedi gwneyd ymholiadau yn ei gylch. Yr oedd efe yn credu fod pob trefniadau wedi eu gwneyd, a chan mai dynion gan mwyaf oedd y 500 oedd yn bwriadu cychwyn gyda'r ager- long o Glasgow, yr oedd efe yn meddwi y gallent gyflawnu y daith yn ddiogel. Addysg yn yr lwerddon. Pan ddygwyd y cynnygiad yn mlaen i ymffurfio yn bwyllgor arianol, Galwodd yr O'Connor Don sylw at sefyllfa bre- senol addysg yu yr Iwerddon. Adolygodd gyn- nydd Colegau y Frenines yn y wlad hono, a honai, er eu bod wedi eu sefydlu gan y llywodraeth i addysgu pob dosparth o'r bobl, ac yn cael eu cef- nogi gan eu holl ddylanwad, eu bod wedi methu yu hollol yn eu ffurf bresenol, ac nad oeddynt mewn un modd yn rhoddi boddlonrwydd i'r Pabyddion. Cwynai hefyd o herwydd diffyg addysg genedlaeth- ol yn yr Iwerddon, a thaer annogodd y llywodraeth i gymmeryd y pwne i fyny, fel y buasent yn gwneyd a Lloegr o dan yr un amgylchiadau. Dywedodd Syr R. Peel nas gallai efe mewn un modd addef fod y gyfusdrefn o addysg genedl- aethol wedi methu yn yr Iwerddon. Yn 1831, pan sefydlwyd hwynt gan Iarll Derby, nid oedd yno ond 700 o ysgolion, a 107,000 o ysgolheigion. Yn 1841, gyda phoblogaeth o 7,000,000, yr oedd yno 2,337 o ysgolion, a 281,000 o ysgolheigion. Yn 1851, gyda phoblogaeth o 8,552,000, yr oedd yno 4,740 o ysgolion, a 520,000 o ysgolheigion ond yn 1861 yr oedd y cynnydd yn rhyfeddol, canva gyda phoblogaeth o 5,764,000, yr oedd yno 5,632 o ysgolion, a 804,000 o ysgolheigion. Gyda golwg ar Golegau y Frenines, honai eu bod wedi bod yn llwyddiannus iawn, oblegid yr oedd yn awr fwy o astudwyr ynddynt na'r cwbl a fu erioed yn Ngholeg Maynooth, ac yr oedd yn eu plith nifer mawr o Babyddion. Y Dreth Eglwys. Mai 23. Rhoddodd Mr. Sotheron Estcourt rybydd y byddai iddu ar y diwrnod eyfleus cyntaf ar ol y Sulgwyn gynnyg fod i'r holl dy ymffurfio yn bwyllgor, i'r dyben o ystyried y gyfraith berthynoi i'r Dreth Eglwys. Y Bermuda. Gofynodd Mr. Mildmay pa fesurai y bwriadai y llywodraeth eu cymmeryd yn achos y Bermuda, yr hon oedd wedi ei chymmeryd gan long rhyfel yr Unol Dalaethau. Dywedodd Mr. Layard fod y llywodraeth wedi derbyn hysbysrwydd am attafaeliad y Bermuda, ac yr oedd yr achos wedi ei rhoddi o dan ystyriaeth swyddogion cyfreithiol y goron. Traul y Llywodraeth. Rhoddodd Mr. Horsman rybydd y byddai iddo ar yr 2il o Fehefin, pan ddygai M. Stausfield ei gynllygiad yn mlaen i leihau treuliadau y Llywod- raeth, gynnyg y gwelliant eanlynol Tra y mae y Ty hwn yn teimlo yr angcnrheidrwydd am gyn- nildeb yn holl Swyddfeydd y Llywodraeth, yn enw- edig wrth ystyried sefyllfa bresenol y wlad a'i chyllid, ei fod a'r farn nad oedd y symiau a bleid- leisiwyd o dan y llywodraeth bresenol i'r un flaen- orol at wasanaeth byddin a llynges y wlad yn fwy nag oedd yn angenrheidiol. Mai 26.—Ar gynnygiad Mr. Brand, gorcliymyn- wyd gwys newydd i fwrdeisdref Shrewsbury. Rhoddodd Syr L. Palk rybydd, y byddai iddo, ar ffurfiad y Ty yn bwyllgor cyflenwadol, ddwyn gerbron losgiad y cotwin yn New Orleaiis,la'r effaith a gelai hyny ar ein llaw-weithfeydd. Yna darllenwyd ysgrif Addysgiaeth Ysgotland. Wedi hyny, ymffurfiodd y Ty yn bwyllgor ar ysgrif y Ffyrdd Mawrion. Wedi ychydig ddadl, pasiwyd ei wahanol adranau. Pasiodd ysgrif Deddf Llongau Masnachol drwy bwyllgor darllenwyd ysgrif Ar- olygwyr (Surveyors) Sirol (Iwerddon) yr ail waith, a gwthiwyd rhai ysgrifau ereill gam yn mlaen. ■•■■■■ Y Tuget. Mai 27.-Wedi i amryw bethau dibwys i'r cy- hoedd fod dan sylw y TjS cynnygiodd Mr. Ber- keley am ganiatad i ddwyn ysgrif i mewn, i beru fod pleidleisiau ar etholiadau seneddol i gael eu cymmeryd drwy goelbren. Eiliwyd y cynnyg gan Argl. Fermoy. Rhanodd y T)}, pan yr oedd Dros y cynnyg 83 Ynerbyn 50 Mwyrif. 33 Derbyniwyd y canlyniad gyda banllefau cymmer- adwygl, a rhoddwyd caniatad i ddwyn yr ysgrif i fewn. Gwrthododd y mwyafrif o'r Ceidwadwyr i bleidleisio, gan adael rhwng y llywodraeth a'i chef. nogwyr rhyddgarol i benderfynu y mater. Cynnygiodd Mr. Augustus Smith am ganiatad i ddwyn ysgrif i fewn, i'r perwyl fod pleidleisiau mewn etholiadau bwrdeisiol i gael eu cymmeryd drwy goelbren, pan y barnai cynghorwyr trefol yn addas. Rhanodd y T £ pan yr oedd Dros y cynnyg 82 Kw*! Yn erbyn 48 Mwyrif. 34 Jtinoauwya caniatad I ddwyn yr ysgrif i fewn. Mai 28.-Ar gynnygiad Syr W. Dunbar, cytun- wyd nad oedd pwyllgorau y Ty i eistedd dranoeth cyn dau o'r gloch, gan ei bod yn Ddydd Iau Der- chalael. Cymmerodd y Milwriad White ei lwon a'i eisteddle dros Kidderminster. Ni fu un petho bwys o flaen y Ty heddyw. Persia ac Afghanistan. Mai 29.-Rhoddodd Mr. D. Griffith gyfres o ofyn:adaui'r Prif weinidoggyda golwg arberthynas Persia ac Affghanistan. Dywedai Argl. Palmerston fod y perthynasau a fodolai rhwng y Shah o Persia a llywodraethwr Herat wedi eu penderfynu gan gytundeb Mawrth, 1857, wedi y riyfel Bersiaidd. Drwy y cytundeb hwnw, darfu i Shah Persia ymwrthod a phob hawl i lywyddu Herat. Cytunodd hefyd i gydnabod annibyniaeth Herat, a pheidio ymyraeth mewn un modd yn achosion Affghanistan. Cytunodd hefyd, os codai unrhyw annealltwriaeth rhwng Shah Persia a Thaleithiau Affghanistan, fod iddo geisio cymhorth y Llywodraeth Brydeinig er gwneyd i fyny rhyngddynt. Ar y Haw arall, ymrwymodd y Llywodraeth Brydeinig i wneyd ei goreu i attal Taieithiau Affghanistan i roddi tramgwydd i Shah Persia; ac os dygwyddai unrhyw annealltwriaeth rhyngddynt, fod y Llywodraeth Brydeinig i ym- drechu penderfynu y water mewn modd boddhaol i'r Shah. Gyda golwg ar sefyllfa pethau yn bre- senol, yr oedd llywodraethwr Herat wedi ymosod ar, a chymmeryd Purrih, am yrhwnle yr oedd dadl wedi bod rhwng Herat a Candahar. Credai fod y lie yn perthyn gynt i Herat, ac yr oedd yn awr wedi ei gyuunervd oddiar Candahar. Cymmerodd y gweithrediadau yma le rhwng Taleithiau Aff- ghenistan ei hunain, ac nid oedd ganddo achos i gredu fod y catrodau Persiaidd wedi ymyraeth yn yr achos o gwbl. Mewn atebiad i gwestiwn ychwanegol, dywedodd Argl. Paliuerston, os byddai i Shah Persia oiesgyn Herat, syrthiai i ran Llywodraeth Lloegr i ystyried pa lwybr a gymmerai yn y mater.

News
Copy
oil a ofynid ganddynt yn y Llyfr Gweddi Cyffredin, ac yr oedd hyny yn golled i'r Eglwys; ond tybiai, ar yr un pryd, fod yr ysgrif bresenol yn myned yn rby bell. Wedi rhai geiriau oddiwrth Esgob Salisbury, tynodd Argl. Ebury ei ysgrif yn ol. Nid eisteddodd y T)} dydd Iau Dyrcbafael.