READ ARTICLES (2)

News
Copy
HANESION CREFYDDOL. CONWAY. -Cynnaliwýd cyfarfod tra dyddorol mewn llong o'r enw Emily Agnes, prydnawn Sabbath y 19eg o Fai, pryd y pregetbodd y Parch. W. E. Watkins, gweinidog y Bedyddwyr yn y lie, oddiwrth LucS.21—25. Cafwyd cyfarfod gwir werthfawr; yr oedd y bregeth yn rbagorol, a'r gwrandawwyr yn llu- osog iawn-oddentu 700. Gobeithio y bydd dylanwad ac effeithiau i'w gweled etto. Mae yn dda genyf ddy- wedyd fod acbos y Bedyddwyr yn gwisgo agwedd newydd, ac mewn sefyllfa flodeuog iawn er pan ddaeth y brawd i'r He. Duw Israel a'i amddiffyno, medd fy enaid.—J. H. HENSOBD.—Nos Lun, Mai 5ed, traddodwyd darlith gan y Parch. R. Williams, y gweinidog, yr. yr addoldy uchod, ar yr Y sgol Sabbothol. Aeth drwy banes ysgolion crefyddol o amser Thomas Gouge hyd yn bresenol. Desgrifiodd yn fanwl gyfansoddiad yr ysgol fel y dylai fod a dangosodd yn eglur ei dylanwad mawr ar y genedl a'r eglwys. Cymmerodd ddwy awr i'w thraddodi, yr hyn a wnaeth gyda medrusrwydd an- rhydeddus, gan brofi ei alluogrwydd i sefyll yn ymyl prif ddarlithwyr yr enwad. Yr oedd yr addoldy wedi ei lanw o ieuenctyd yr ardal, ac nethant hwy a'i henaf- gw9r ymaith wedi eu boddloni i raddau anarferol. Llywyddodd y Parch. B. Thomas, Gelligaer, ar yr ach- lysur dyddorol.LL.. CEFNBYCHAN. -— Anrhegu Gweinidog. Nos Fercher, Mai 14, cynnaliwyd cyfarfod yn y lie uchod i anrhegu y Parch. J. Jones a phwrs, yn nghyd a swm rhagorol o arian ynddo, fel arwydd bach o barch ar ei ymadawiad oddiyma i Lanfyllin.. Cymmerwyd Than yn y gwasanaeth gan wahanol weinidogion. Llyw- yddid y cwrdd gan Mr. Howells, gweinidog y He, yr hwn a sylwai fod Mr. Jones yn ddyn o gymmeriad dysglaer, wedi ei eni a'i fagu yn y gymmydogaeth, He y derbyniwyd ef yn aelod o eglwys Crist, ac hefyd lie. y dechreuodd bregethu, ac y parhaodd ati, heb un brych- euyn ar ei gymmeriad; ac wele yr eglwys, ar ei ym- adawiad, yn ei goroni, megys arwyddlun o'r goron an- niflanedig yr ochr draw. Dywedwn o'n calon, Duw yn rhwydd lddo gan obeithio y bydd ei lafur dan fendith y Nef yn yr eglwysi a'r ardal lie y mae yn myned.— JONATHAN. MOUNTAIN ASH.—Nos Lun, Mai 5ed, traddod- wyd darlith yn nghapel y Rhos, yn y lie uchod, gan y Parch. J. R. Morgan, Llanelli, ar Amryw tathau o bobl." Yr oedd y ddarlith yn deilwng o Llaurwg, ya wir ddoniol ac o duedd dda. Yr oedd y darluniadau o'r amryw fathau o ddynion i'r dim—yn anmhosibl. peidio eu hadnabod. Yr oedd y gynnulleidfa yn un dda, ac ystyried yr amseroedd gyda ni y gwrandaw- iad yn astud, prydfertb, a boddhaol, ac yn ami yn cyf- odi l hwyl fywiog, nes oedd pawb yn cyfaddef eu bod yn cael eu llwyr foddio trwy eu mynych guro dwylaw yn ystod y traddodiad. Talwyd. diolchgarwch gwip gynhes i'r darlithiwr talentog, gyda y dymuniad o'i weled a'i glywed etto, a hyny heb fod yn hir. Talwyd diolchgarwch twymgalon hefyd i David Davies, Ysw., Maesyffynnon, Blaengwawr, ein cadeirydd rhagorol, yr hwn a wnaevh nodiadau effeithiol iawn ar d\ledd rhagorol y ddarlith i bob math o ddynion, yn enwedig yr ieuengtvd. Yr oedd ei syhvadati yn deilwng o'r yr i(, gwr boneddig Ciistionogol. Ymadawodd pawb o'r amryw fathau, pob un tua'i Ie, gan sdn am y ddavlith ar hyd y ffordd, ac am ddyddiau lawer yn olllaw. Athrylith y darlithiwr—a'n boddiodd, Ni bu hawddach traethwr Teulu'r byd i gyd o'i gwr—ddyg i'n gwydd, Mor gyfarwydd i'n, mir gyfeiriwr. Agwedd a sylwedd siolau-go hynod Y gwahanol hvythau Llawn ardeb eu hwynebau-yn llechres A ryw hanes ddifyr am drwynau. Trieiau a donian dynion-amrywiol, Rhagorol a geirwon, [ Ar brawf a roddes gerbron, Er gweled beth yw'r galon. *■'•* Dityrwch er adferiad—iechyd ( f' O achos chwerthiniad, t jty < Ca'dd pob nn rhyw adfywiad, -j-O Hwyl o'i swllt, a mawr leshad. ;i Addysg ddigymmysg emau-a roddodd Er addam iln moesau, Mur ucheler gochel gaii arforion Annuwiolion, ynfydion fodau. Coron i Went wyt, dalentog-Leurwg, Fet araith odidog Rhoi flys mewn torf luosog-ilth ddysgwyl, Hylithr anwyl ddarlithiwr enwog. Mawr yw dy ddawn, Gymro dyddanus, Deni filoedd a d'awen felus Llawnion ddyferion gwir ddifyrus Rhed o afon eiriau dy wefus. Dy Iwyddiant, frawd diiuddias,—da genyf Dy gynnydd yn nheyrnas Oleu gref efengyl gras,—pregethwr, le, cyhoeddwr wyt, un cu addas. GWRHIR. CYNGHERDD YN YSGOLDY Y TRAP, GER SOAR, LLA.NDYFAEN.—Yn gymmaint nad oes neb wedi cym- meryd mewn Haw i anfon hanes y cyfarfod yma i SEREN CYMRU, er y dysgwylid wrth amryw, ettoesgeuluswyd, a chafodd fyned yn ddisylw am hyny, rhag i gyfarfod da o'r fath hyn fyned i ebargofiarit yn anamserol, cyn- nygiaf roddi hanes byr o hono, er mvned o honi yn d.rrt diweddar. Nos Lun, y 7fed o Ebrill, cynnaliwyd, cyngherdd am y waith gyntaf erioed yn yr ardal yma,. yn y lie uchod, gan gor canu Soar, Llandyfaen-^y' mynediad i mewn am 6ch. y pen, a'r elw at gynnorth-i wyo ysgol ddyddiol y lie. Wedi cyrnmeryd y gadair gan y Parch. L. Evans, gwnaeth y cor ei ymddangosiad ar yr esgynlawr,pryd ydadganwyd, 1. Anthem, Mot-; iant cyffredinol." 2. Y Gydgan Gorfoleddm. 3. Hardd Lusern yw y Gair. 4. Spread the News. 5. Yr Amddifad. 6. Praise the Lord. 7. Haleliwia. 8. The Trumpet." 9. I bawb gwnaeth Duw y ddaear. 10. Deuawd, "The Minute Gun at Sea." "llJ Or dewch i'r Mynyddoedd. 12. Triawd, Cyfarchiad y, Wenol. 13. Can, Y Bardd yn ei Awen. 14. Triawd, T'rewch, t'rewch y tant. 15. Can, Cymru lan, gwlad y gan. 16. Can a chydgan, "Beautiful Star." 17. The old Folks are gone." 18. Rosalie, the prairie Flower. 19. Deuawd, A.B.C." 20. Can a chyd- gan, Hen Wlad fy Nhadau. Ail-ganwyd amryw o'r daman ar gais y dorf. Cafwyd amryw areithiau difyrus gan y cadeirydd ac ereill. Cyn terfynu, galwyd ar Mr., J. Evans (Bardd Gwyn), Cefncoed, i anerch y dorf a ffrwyth ei awen, yr hyn a wnaeth yn ddoniol fel y canlyn Deffrown, gyn'lleidfa serchog, Cydunwn yn ddiysgog ,t r I ro'i clod i'n llywydd glaiT," '• A gwyr y gan wiw enwog. > i Mawr giod i'n doeth gadeirydd, Am wneyd mor dda 'i ddyledswydd, Hyn eglurwn iddo ef, Trwy godi lief yn arwydd. Mae'n haeddu diolchgarwch ;'i I'w roddi 'nawú..udu.wveh, Awgrymwn hyny yn ddifraw, Eich deheulaw dyrchefwch. Mawr glod rho'wn i'r cantorion, Hwy wnaethant fawr orchestion, Fe'i dyrebefir trwy'r holl dir Yn mhlith y gwir enwogion. .:<;1:, ¡" Pob II wyddiant boed i'ch athro s I fyned etto rhagddo, Ei eirchion oil cvflawnvvch chwi, A gwnewch mewn bri ei bleidio. Llwydd t gantorion Soar, Gochehvch ddrygau hagar, Yn eich plith teyrnased-hedd, A lion f'och gwedd a hawddgar. Os bernir cbwi'n anfoesol t Gan ryiv feirniadydd pcnifol Ni wnawn gasgliad eVil b'o hir, > I'w ddodi'n wir me;'n ysgol.

News
Copy
ydyw y cyfirnfeoedd ag sydd wedi eu corffoli yn ein gwlad; a dymunem weled pob gweitbiwr yn mawrhau sefydliadau o'r fath er eu mwyn eu hunain, eu teuluoedd, a'u gwlad yn gyffredinol. Fe dden- gys yr adroddiad byr canlynol ar un olwg faint o les.y mae cyfrinfa Iforaidd Taliesin, Trefdraeth, wedi ei wneyd, i'r rhai ag sydd wedi bod mor ddar- bodol ag ymuno a hi yn yr:ugain mlynedd ddiweddaf, sef oddiar pan y sefydlwyd hi yn 1842 hyd yn bre- senol. Talwyd allan o'r Drysorfa JEH31 14s. 8c. at yr achosion canlynol: I'r cleifion, j6761 19s. 8e. I wragedd ar enedigaeth plant, jE65 14s. 6c., ac at ddwyn treulion angladdau a chynnorthwyo teulu- oedd yr aelodau ag sydd wedi meirw, jg304. Der- byniodd un aelod yn ystod ei afiechyd y swm o £ 85 17s. 6c., ac y mae yn awr yn bensioner ar y gyfrinfa; ond etto, wedi y cyfan, y mae genym rai cannoedd o bunnau mewn Haw, a'r gyfrinfa yn myned yn mlaen yn llwyddiannus a Ilewyrchus, a rhywrai o'r newydd yn ymuno a hi yn barhaus, yr hyn sydd yn gwneuthur ein rhagolygfeydd yn hynod o lewyrchus a chysurlawn wrth edrych yn mlaen.—DAN Y CRYDD. YSTALYFERA.—Dydd Gwener, Mai y 9fed, cyf- arfyddodd dynes ieuanc, o'r enw Mary Jenkins, ag anffawd druenus, yr hon a weithiai wrth rolls clai yn y lie uchod. Mae yn debyg iddi daflu darn o wn i'r rolls yn gymmypg a'r clai, ac yn ddiystyriol fddi estyn ei Haw i'w dynu allan, pryd y gafaelodd iy rolls ynddi. a briwodd ei braich yn druenus, fel y gorfu i Mr. Rogers, y meddyg, ei chymmeryd ymaith yn y benelin yn ddioed.—GWYDDON. MARWOLAETH DDISYMMWTH.—Felyr oedd un o'n cydweithwyr o'r enw George Hughes yn brysur gyda'i waith yn ngwaith arian H. H. Vivian, Ysw., A.S., dydd Ian, y 24ain o Ebrill, yn ddisymmwth syrthiodd mewn Mewyg. Tybiai ei gydweithwyr a'r meddyg galluog, Mr. Slater, yr hwn a ddaeth i'r lie yn mhen ychyrlig fynydau, fod y wreichionen fywiol wedi ebedeg ymaith. Pa fodd bynag, darfu i Mrd. B. Thomas a J. Rees, goruchwylwyr y gwaith, trwy gynghor a chyfar- wyddyd y meddyg, fynu ei amgylcbynu a phethau poethion er ei wresogi; acyn mhen ychydig, dec h- reuodd y gwaed gylchredeg yn wanaidd trwy ei wythienau. Deallwyd ei fod yn fyw j yna clydwyd ef i'w breswylfod galarus. Gwelodd yr Arglwydd yn dda estyn ei ddyddiau hyd y laf o Fai. Yn ei gystudd trwm, ni wnai nemawr sylw o neb na dim. Bu farw wythnos i'r diwrnod y cymmerwydef yn glaf yn 41 oed, gan adael gweddw a 6 o blant bach heb eu magu i alferu ar ei ol. Boed i Dad yr am- ddifaid a Barnwr y gweddwon ofalu am y teulu galarus, a diamddiffyn hwn. Y mae yr amgylch- iad sobr hwn yn siarad yn ucbel a hyglyw a ni, ei gymmydogion, a'i gydweithwyr; "am hyny, byddwch chwitban barod, canys yn yr awrni thyb- joch y daw Mab y Dyn." Llawer o s6n sydd genym ni yn y gweithiau am nos y cyfrif; ond y mae miloedd yn anngbofio y eyfrif manwl sydd raid ei roddi i Farnydd yr hollddaear. Wrandaw- wyr efengyl, darllenwyr SEREN CYMRU, pa hyd yr oedwch ac y cysgwch ar draeth anufudd-dod, a llanw mawr digofaint y Duwdod yn eich ham- gylchynu 1 A ydyw symudiad disymmwth David Charles, ac nn o blant y Werdd-ynys, a George Hughes i fyned heibio heb adael eu hargraff bri- odol ar ein meddyliau ? Boed i bob un o honom ofyn i'w enaid y cwestiwn yn bwysig—" Ai tnyfi yw y nesaf ? Boed i ni ffoi tra mae- drws y noddfa ya agored; a hoed i bob un o honom sydd wedi cymmeryd enw Crist arnom, fyw yn dcilwng o'r broffes dda ydym wedi ei wneyd. o George, pa le dihangaist? Hir weithiaist gyda ni; 0 dan fanerau dirwest L' Ennillaist hefyd fri Fel rifleman galluog, Ac nid anenwog chwaith Fel cv&ill mwyn a difyr Fo tj)' gofir amser majth. Mor sydyn daeth y gwysiad Odd'wrth y Ceidwad mawr, Dy nerth a'th boender giliodd, Dv haul fachlndodd lawr. A gefaist rhyw oleuni Cyn trengu dan dy bo'n, T- Rhyw obaith gwan cael uno A'r dorf sy'n moli'r Oen? D. EVANS.