READ ARTICLES (6)

News
Copy
BEDYDDIADAU. Llwydcoed.—Mai lleg, 3. Mae yma ereill etto yn aros am yr un fraint. HeolyfeUn. —Chwefror 2il, 3; Mawrth 2il, 3; Mawrth 30aln, 7; Ebrill 27ain, 1. Mae yr achos goreu yn Uwyddo yma, a'r gwirionedd yn ffynu. Rhwydd hynt iddo. Felinfoel.-Fel y canlyn y mae ein derbyniadau trwy fedydd oddiar pan y danfonasom atoch o'r blaen —Medi ISfed, 1861, 4 HydreflSeg, 5 Rbagfyr8fed 3; Chwefror 2il, 1862, 4; Mawrth 2il, 10; Ebrill 30ain, 6 Mai 27ain, 4. Gweinyddwyd yr oil gan y Parch. M. Roberts, ein gweinidog.—D. T.

News
Copy
.1. r'i 1 = ABERDAR. MAEN COFFADWRIABTHOL YKYSLWYD. Prydnawn dydd lau, Mai 29ain, cawd cyfarfod dyddorol iawn, iawn, yn yr Ynyslwyd, lie rhyw banner milltir o Gapel Calfaria, lie y gweinidogaetha Mr. Price. Am cbwech o'r gloch ffurfiwyd gorym. daith yn ymyl y capel, ac awd i lawr yn drefnus, ac fel llu banerog, y cor yn adsain moliant oln blaen yr holl ffordd. Wedi cyrliaedd y fan, caw- som bob peth yn barod. Esgynlawr gyfleus i'r ar- eitbwyr, ac ychydig o gyfeillion ymweliadol, gyda theulu parchus yr Ynyslwyd. Wedicanutdn gyff- redinol, ac anerch gorsedd gras gan y Parch. D. Adams, Aberdar, agorwyd y cyfarfod gan Mr. Price, yr hwn a gyfeiriai yn ol hanher can mlynedd, pan godwyd y capel bach cyntaf gan y Bedyddwyr yn Aberdar. Pryd hyny nid oedd ond saith neu wyth o Fedyddwyr yn y plwyf; ond y mae hwn yn gwneyd un ar bumtheg o gapeli wedi deillio o'r bycban gynt, tra y mae yr wyth aelod wedi cyn- nyddu i 2,561 yn y plwyf, a deiliaid yr ysgol Sul yn rbifo 3,282! Mae gan y Bedyddwyr yma yn awr gapeli ac eiddo perthynol iddynt ag sydd yn wertn Jl0,940. O'r Arglwydd y mae hyn, a rhyfj|dd yw yn ein golwg ni. Y fath gynnydd o fewn cof rbai yn y cyfarfod. Wedi cael ton ar- dderchog gan y cor, daeth Miss Davies o'r Ynys- lwyd, or.wyres i Griffith Davies, Ysw., yr hwn banner can mlynedd yn ol a roddodd y tir i adeil- adu y capel cyntaf (mae hwn y pedwerydd ar yr ystad gan y Bedyddwyr), yn mlaen er gosod i lawr y maen coffadwriaethol. Cynnorthwyid hi yn hyn gan Griffith Davies, Ysw., ei tbad, a chan Mr. David Morgan, a Mr. Abraham Davies, yr adeiladwyr. Aeth Miss Davies trwy y gwaith yn gampus dros ben. Daeth y Parch. Thomas Nich- olas yn mlaen wedi hyny, a thraddododd anerchiad hynodo bwrpasol; dilynwydefgany Parch. J. Owen, mewn araeth fer a tliarawiadol. Canwyd 44 Duw a ddaeth o Teman yn gampus. Ar hyn aeth ein hen gymmydog anwyl, Mr. Evans, Castellnedd, yn mlaen, a rhoddodd i ni mewn ychydig eiriau hanes crefydd yn Aberdar a'r cylchoedd er pan daeth ef yma ugain mlynedd yn ol. Yr oedd efe yn llawen- hau i feddwl mai ffrwyth cariad, undeb, a heddwch oedd holl gapeli newyddlon Aberdar—dim un wedi ei godi fel effaith annghydfod; ond yr oil wedi eu codi yn unig i'r gwir ddyben o helaethu acho* y Gwaredwr. Cawsom yn nesaf anercbiad barddonol gan Mr. Humphrey James, un o bregethwyr ieuainc yr eglwys a gorphenwyd y cwbl trwy ganu un ae oil yr oen bennill, "0 Sion, dinas Duw, Meithrinfa plant y uef." Mae eglwys Calfaria wedi cael yr anrhydedd o fod yn llawen fam plant, a da genym feddwl ei bod hi a'i holl blant mewn undeb cariadlawn &'u gilydd. Mae yn yr anturiaeth o godi dau gapel yn awr, a'r ddau o fewn tri chwarter milltir i'r fam eglwys; ond trwy ffyddlondeb daw trwy y baich etto. Duw yn rhwydd iddi. r t

Detailed Lists, Results and Guides
Copy
PWYLLGOR Y GOFFADWRIAETH." Yn ol gosodiad cyfarfod Aberdar, cynnaliwyd cyfarfod o'r Pwyllgor uchod yn y Tabernacl, Caer- dydd, y 14eg o Fai, 1862, y Parch. N. Thomas yn y gadair. Y mae y Pwyllgor yn dymuno galw sylw difrifol at y penderfyniadau canlynol, ar y rhai y cytunwyd yn unfrydol Cynnygiwyd gan LJ. Jenkins, Ysw., Maesy- cwmmwr, ac eiliwyd gan y Parch. T.Lewis,Rumni. I. Fod y Parch. E. Evans, Dowlsis, a'r Parch. E. Thomas, Casnewydd, yn cael eu hychwanegu at y Pwyllgor Gweithiol. Cynnygiwyd gan y Parch. J. Rowlands, Cwm- afon, ac eiliwyd gan y Parch. T. Price, Aberdar, II. Fod B. Evans, Ysw., Cidigill, ac Asa J. Evans, Ysw., cyfreithiwr, Aberteifi, yc cael eu hychwanegu at y Pwyllgor Cyffredinol. Cynnygiwyd gan y Parch. B. Evans, Castell- nedd, ac eiliwyd gan y Parch. J. Emlyn Jones, A.C., Caerdydd, III. Fod y Pwyllgor Gweithiol yn parchus appelio at Gynnadleddau y gwahanol Gymmanfa- oedd enwadol trwy y dywysogaeth i'w cynnorthwyo i gario allan yr amean mawr o gasglu y ^2,000 at y dybenion pwysig a nodir yn y cylchlythyrau ag ydynt wedi eu danfon at yr eglwysi, ac y bydd y Pwyllgor yn wir ddiolehgar i'w brodyr trwy Gymru a Lloegr am awgrymiadau o'r modd goreu i gael yr amcanion i ben. Cynnygiwyd gan y Parch. T. Price, ac eiliwyd gan W. Jones, Ysw., Caerfyrddin, IV. Fod y Pwyllgor yn deisyf ar y brodyr can- lynol i osod yr achos o flaen y gwahanol Gynnad- leddau, sef, yn Mynwy, Parch. E. Thomas, Cas- newydd Sir Benfro, Parch. W. Owen, Felinganol; Caerfyrddin, Parch. J. R. Morgan (Lleurwg), Llanelli; Morganwg, Parch. N. Thomas, cadeirydd y Pwyllgor; Yr Hen Gymmanfa, Parchn. D. B. Edwards a J. W. Evans, Aberhonddu; Mon, Parch. E. Thomas, Casnewydd; Dinbych, Dr. Prichard, Llangollen; Caernarfon, J. G. Owen, Rbyl. Cynnygiwyd gan y Parch. T. Price, ac eiliwyd gan y Parch. J. Rowlands, V. Gan fod y Pwyllgor yn canfod yn eglur nad yw yn ddichonadwy i'r ysgrifenyddion gyflawnu y gorchwylion perthynol i'r gweithrediadau pwysig hyn, ystyriant yn angenrheidiol i ddewis gorchwyl- iwr (agent) pennodol a chyfaddas at y gwaith, yr hwn, dan gyfarwyddyd y Pwyllgor, a fyddai yn alluog i ddwyn i weithrediad yr boll benderfyn- iadau, rboddi cyfarwyddiadau gyda golwg ar ddar- lithio a chasglu, <iwyn y casgliadau i Jaw y Trysor- ydd, a theithio mor bell ag y bydd yn alluadwy a rheidiol. Wedi dwys ystyried y mater hyn, cytun- wyd yn unfrydol i ofyn gan Mr. Llewelyn Jenkins i argymmeryd y gorchwyl hwn; ac y mae yn dda genym hysbysu ei fod wedi cydsynio a cliais y Pwyllgor. N. THOMAS, Cadeirydd, D. MORGAN, "j J. R. MORGAN, I- Ysgrifenyddion. B. EVANS, J O.Y.—Y mae y Pwyllgor yn teimlo yn ddioleh- gar i eglwys y Tabernacl am ei cbaredigrwydd yn darparu ciniaw iddynt yn rhad.

News
Copy
CWRDD CHWARTER DOSPARTH ISAF SWYDD GAERFYRDDIN. Cynnaliwyd y cyfarfod uchod yn Llanstephan ar y Mawrth a'r Mercher, yr 20fed a'r 21ain o Fai. Am 6, y dydd cyntaf, gweddiodd Mr. Evans, o Goleg Caerfyrddin a phregetbodd y Parch. John Lloyd, Caerfyrddin. Ar ol hyn corffolwyd yr eglwys gan y Parch. H. W. Jones, yn cynnwys51 o aelodau. Wedi darllen y llytbyr o gais am ollyng- dod, a'r llytbyr o atebiad iddo, wedi ei arwyddo gan y diaconiaid, gosodwyd y cyfammod eglwysig ger eu bron, ac annogwyd hwynt i fod yn fFyddlon i'w gadw, ac fod eu Uwyddiant yn ymddibynu ar hyn i raddau pell. Wedi hyn, cafwyd pregeth gan y Parch. John Davies, Llandyssil. Dydd Mercher, am 10, gweddiodd y Parch. D. Davies, Bwlch- newydd; a phregethodd y Parchedigion Thomas Richards, Felinwen, a H. W. Jones, Caerfyrddin. Am 2, gweddiodd y Parch. M. Griffiths; a phre- gethodd y Parchedigion D. Williams, Salem, a D. Davies, Bwlchnewydd. Yn yr hwyr, y Parchedig- ion Daniel Davies, Login, ac M. Griffiths, Pont- brenllwyd. Codwyd stage er mwyn pregethu allan ond o herwydd y cawodydd trymion, cafwyd ben- thyg addoldy y Trefnyddion Calfinaidd, i ba rai y dychwelwyd diolcbgarwch am y gymmwynas. Am 9, dydd Mercher, cynnaliwyd cynnadledd, pryd y penderfynwyd ar y pethau canlynol 1. Cymmeradwywyd achos y Flacied fel un teil- wng i gael casglu drwy y Gymmanfa y flwyddyn hon tuag at leihau dyled eu baddoldy newydd. 2. Derbyniwyd llythyr oddiwrth Seion, St. Clears » yn arwyddo dymuniad i gael ei hadferyd yn ol fel cynt, ac yr ydym ni, fel cwrdd trimisol, yn llawen. hau yn ngwyneb yr hysbysiad, ac yn ei chefnogi i wneuthur cais yn y Gymmanfa am y flwyddyn hou am aelodiaeth. 3. Derbyniasom lythyr parchus o gymmeradwy. aeth i'r Parch. John Lloyd, gynt o Lanhiddel, oddiwrth y Parch. Timothy Thomas, Bassaleg, yagrifenydd Cymmanta Mynwy, a derbyniwyd ef i'n hundeb gyda gwresogrwydd. 4. Fod y lie y cynnelir y cwrdd chwarter nesat i gael ei benodi yn Nghymmanfa Hebron. D. WILLIAMS, Cofiadvr.

News
Copy
ABERNANT, ABERDAR. Y mae yn hysbys i lawer fod gan eglwys luosog a chyfrifol Calfaria, Aberdar, ganghen weithgar yn y lie uchod, a chanddynt addoldy bychan cyfleus i addoli ynddo. Ond yn gymmaint a bod gweinid. ogaeth ddylanwadol ac effro Mr. Price a'i gynnor- thwywyr mor dderbyniol a llwyddiannus yn y lie, gyda bod y brodyr yn weithgar, a'r Arglwydd yn gwenu, fe aeth Bethel yn rhy fychan o lawer, fel y gorfu i'r brodyr dynu i lawr y rhan fwyaf o'r adeilad blaenorol, gan ei helaethu i raddau mawr. Dydd Mawrth, Mai 23fed, awd yn mlaen & gosod i lawr gareg sylfaen, neu yn hytrach gareg gotfad- wriaethol newydd i'r Bethel newydd. Cyn cbwech o'r gloch, yr oedd ysgolion Ynyslwyd a'r Gadlys, yn gystal a'r fam eglwys, wedi cwrdd yn nghyd yn llu mawr yn Ngbalfaria, ac fe aed yn dorf fawreddog o dan arweiniad y Parchedigion T. Price, Aberdar; T. E. James, Glyn Nedd a W. Williams, Moun- tain Ash, tuag Abernant. Yr oedd yr olygfa yn ysplenydd, tel y gallesid dweyd yn ngeiriau y di. weddar Mr. Caleb Lewis, Aberteifi, wrth ganfod gorymdaith gyffelyb, Hawyr bach, a yw yr holl fyd wedi myned yn Faptistst" Canwyd eraynau cyfaddas ar y ffordd. Erbyn cyrhaedd pen y daith, yr oedd yno lawer yn ein haros; ac wedi cael trefn dda, anerchwyd gorsedd gras gan y Parch. T. E. James, Glyn Nedd. Yna anerchwyd y dorf gyda golwg ar ddyben y cyfarfod yn fedrus iawn gan Mr. Price, nes oedd ein calonau yn llosgi ynom. Wedi hyn, galwodd ar foneddiges barchus, o'r enw Mrs.

News
Copy
ydym yn hyderus gredu y gwnant, yn ol v cyfarwydd- iadau roddwyd iddynt, byddant o fawr gymhorth i ddal breichiau'r gweinidog, yn wasanaeth i'r eglwys, ac yn addurn i achos Iesu Grist. Ac ar ol hyn pregethwyd i'r gynnnlleidfa mewn modd hynod o effeithiol gan y Parch. B. Watkina, Maesyberllan. Cawsom gyfarfod wrth ein bodd, a diau nad annghofir mo hono yn fuan. Mae yr achos yma yn bresenol yn gwisgo agwedd tra chysurus.—D. OLIVER EDWARDS. CYMMANFA BBDYDDWYU MOItGANWG. — Cynnelir y Gymmanfa hon aleni wythnos yn ddiwedd. arach nag arferol, yn ol penderfyniad ycwrdd chwarter, ar gais eglwys Bethania, Castellnedd, sef ar y Mercher alr Ian, y 25ain a'r 26ain o Fehefin, yn lie y Mawrth a'r Mercher blaenorol, o berwydd fod amgylchiadau perthynol i'r dref yn galw am hyny. Dros y cwrdd chwarter,—BENJAMIN EVANS.