READ ARTICLES (10)

News
Copy
'——————————— .1.<1 ItHEOLI GWLAD OR DAFARN. PE bjddai angen am rywbeth i'n Jlwyr ar- gyhoeddi ei bod yn rhywyr bryd i'r wein. yddiaeth anfad bresennol ddiflanu dros y gorwel, a cbael ei cbladdu, yr hyn a ddy- wedodd y Prifweinidog nos lau, yn Nhy y Cyffredin, ar gwestiwn Trwyddedau y Tafarnwyr a fyddai hyny. Yr ydym wedi ein rhyLuddio ga.nddo, mewn cynnifer a hyny o eiriau, raai un o'r pethau cyntaf a wna efe a'i Lywodraeth, pan ymgyferfydd y senedd y fiwyddyn nesaf, fydd rhyddbau y tafarnwyr oddi wrth y llyffetheiriau sydd am danynt hwy yn awr. Wrth gwrs, nid yw yn barod-am na fyn neu am nas gall -i ddadguddio manylion brad y glymbIaid yn erbyn dirwest a moes. Ni ddywed pa un a fydd y tafarnau, os dygir y cvnllun i weithrediad, yn cael eu gosod, fel Eglwys ac ysgolion y parsoniaid, yn faich newydd ar drethi y wladwriaeth. Ni ddywed chwaith a ydys, y dwthwn hwnw, i roddi blwydd-daliadau i'r tafarnwyr os digwydd rhyw ddamwain i'w trwyddedau. Ond am gynghaws nodedig Farnham, yn yr hwn y barnodd barnwyr cyfarwydd nad oes gan dafarnwr fudd yn ei drwydded ond yn unig am un fiwyddyn; ac am yr hyn a ddilyn- odd mewn canlyniad i'r farn onesb a chyf- iawn hon, Ilefarai Prifweinidog 'athron- yddol' Prydain Fawr gyda dycbryn yn gymmysgedig ag adgasedd. 'Digwyddiad- au' oedd y rhai hyny, meddai efe, a bar- asant syndod a dirfawr fraw.' Diffyg am- ser yn unig a'i ilesteiriodd of i ddymchwel- yd y byrddau ar elynion y dafarn hyd yn oed y flwyddyn hon. Galwodd y Philistiaid am SAMSON i chwareu' iddynt. A alwodd y tafarn- wyr am Mr. BALFOUR i chwareu' iddynt hwy? Canys chwareu—a dim yn amgen— yw peth fel hyn §g un o gwestiynau difrif olaf ein teyrnas. Ie, chwareu, y darllen- ydd mwyn, o blegid unig amcan yr ymffiam- ychiad baldorddus diweddaf hwn ydyw sicrhau cefnogaeth y tafarnwyr i'r blaid Doriaidd yn yr etholiad cyffredinol ag y gwyr y Prifweinidog fydd wedi cymmeryd lie cyn byth y caiff efe cgwyl i ddadlenu unrhyw fesur yn ffurfiol ar y mater. Yn y gwrthwyneb i'r ffolineb dybryd hwn dym- unem osod yr hyn a ddywed un o awdur- dodau meddygol uchaf yr oes-y Dr. FORBES WINSLow-am y berthynas agos sydd rhwng gwallgofrwydd a'r ddiod, fel ei dadguddir yn adroddiad Dirprwywyr y Gwallgofdai. Pa beth a feddylia y Llywodraeth bleidgar i'r dafarn a'i diod o'r ffaith syml, ond ofn- adwy hon; sef, fod o gyfanrif nifer y rhai sydd wedi eu cofrestru yn wallgofiaid yn y wlad hon yn agos i un yn mhob tri—36,000 allan o 113 000—wedi myned yn wallgof trwy y ddiod fedd wo] ? Gan bwy y mae gallu i ddycbymygu y ddegfed ran o'r tru- eni a dybir, o angenrheidrwydd, gan y ffig yrau hyn? Nid gan Mr. BALFOUR, de- bygem, yn anad un gwr. Ac etto, pa beth ydyw hyn o rif o'i gymmharu a nifer y tyrfaoedd annifeiriol sydd yn ein carcharau ac yn ein tlottai 1 A'r tyrfaoedd annhraeth- ol liosocach fyth sydd ;l'u traed yn rhydd- ion i barhau i fod yn feddwon, ac yn fell- dith iddynt eu hunain, eu teuluoedd, a chymdeithas? Nid yw hyn namyn rhyfel- gyrch dan arweiniad ein Prifweinidog di- betrus, o blaid yr hyn y dywed adroddiad y ddirprwyaeth o weithwyr a fa ychydig fis- oeddynol yn gwneyd ymchwiliad i ammodau' gwaith a clirefFt yn Unol Dalaethau yr America ydyw y prif achos, os nad yr unig achos, pa ham y mae y gweithiwr Prydeinig yn cael ei drecliu yn nghystadleuaeth llafur gan ei frawd hwnt i'r Werydd. Nid ydym yn petruso na wnaed yn Mrydaia, er's ugeiniau o flynyddoedd, appel fwy annheilwng a diraddiol at deimladau iselaf yr etholaeth na hon gan M. ARTHUR JAMES BALFOUR, Prifweinidog ein teyrnas, ac arweinydd y Tornid. O'i gymmharu a chrwysgad Mr. BALFOUR o blaid y bit- a'r gwirod, a'u marchnatwyr, ymddangys rhyfelgyrch Ysgrifenydd y Trefedigaethau yn erbyn Masnach Rydd, ac o blaid Diftyn- dolliaeth, yn un bychan a diniwed. Os yw Mr. CHAMBERLAIN yn myned i ymladd y frwydr etholiadol nesaf gyda'r dorth fechan yn ei law, myn Mr. BALFOUR wynebu yr un frwydr, ac ennill anfarwoldeb, fel Prifwein idog y Tafarnwyr. Mawr dda iddo ar yr enw! Onid yw yn rhyfedd, ie, yn aruthr o syn, mai y dyn oedd y llynedd yn gwaddoli ysgolion Eglwys Loegr, er mwyn diogelu yr hyn a al IVai yn addysg grefyddol, sydd y fiwyddyn nesaf yn myned i wneyd gorchest- ion yn mhlaid y Fttsnach Feddwoi ? Yr hwn a fynodd gyfraith, dan yr hon yr ataf- aelir ac yr arwerthir eiddo pobl gydwybod- ol, er mwyn tywallt arian i arffedogau parsoniaid ac offeiriaid Pabaidd, a esyd ei fryd ar wneuthur cyfraith arall o dan yr hon y ceir bwrw yr arian fydd yn weddill i logellau tafarnwyr. A wado berthynas boliticaidd y Beibl a'r Bir yn ngwladwein- iaeth Toriaeth Brydeinig gwaded godi haul! Yr ydym wedi awgrymu y dichon fod Mr. BALFOUR yn eithaf tawel ei feddwl ynghylch pa un a gaiff ai ni chaiff efe gyfleusdra i osod 1 Bil Trwyddedol' o flaen y senedd y flwyddyn nesaf. Dylai ef wybod yn well na neb arall pa obaith sydd iddo i gyfliwni ei addewid i'r tafarnwyr, a'i fygythiad yn erbyn achos sobrwydd. Ac efe yn gallu dyfalu y dyfodol oddi ar saflo fwy manteisiol na neb arall, nid yw yn ammhosibl, gan nad pa beth am annhebyg- ol, mai taflu llwch i lygaid tafarnwyr a llymeitwyr yn mysg yr etholwyr, er mwyn eu rhwymo yn ddall wrth olwynion ei ger- byd y mae efe. Os dyma ei ystryw, rhaid i ninnau ddyweyd nad yw efe yn gymmaint o blentyn' ag y myn ef weithiau i ni gredu ei fod. Arddengys gyfrwysder neillduol. Yr oil a wnaeth lliaws o ynadon trwydded- ol y flwyddyn hon ydoedd cyfyngu eu hun- aiD. i ymchwiliadau a pharotoadau gogyfer a gwne/d gwaith yn y ilvsoedd yn Chwefror y fiwyddyn nesaf. Ond, cyferfydd y Prif- weinidog a hwy yn y peth hwn. Oy mm hell a y tafarnwyr i appeiio yn erbyn eu dyfarn- iadau i'r Brawdlysoedd Ohwarterol, athrwy hyny oedi y perygl hyd nes y gall y Llyw- odraeth estyn llaw o gymmhorth iddynt. Yn awr, tybier fod y Llywodraeth, tra y byddo pethau yn yr ystad anmhenodol hon, yn appelio at y wlad. Yn eu cyfwng fe deimlai pob tafarnwr, os bydd gobaith iddynt o gwbl, mai oddi wrth y blaid Dori- aidd y bydd. A gwnai hyny i fyny am wrthgiliad y Rbyddfasnachwyr yn ei blaid. Y tafarnwyr i wneyd i fyny am ddifiyg y Toiiiid ystyriol a ddychrynid ymaith gan ryfelgyrch Mr. CHAMBER LAIN ar eu bara beunyddiol Diogelwch y tafarnwr i wneyd i fyny am golli bara rbad i'r gweith iwr Cadw y Llywodraeth ar ei thraed, a sicrhau y torthau a'r pysgod' iddi am chwech neu saith mlynedd eraill. Gwallgof- rwydd yn myned ar gynnydd: troseddau yn amlhau trueni yn trymhau! Pw Pa waeth ? Nyni wrth y llyw, a'r Eglwys a'r Dafarn yn ddiogel!

News
Copy
Y PAB NEWYDD. Y MAE gorseddfaingc hynaf Gwledydd CrSd wedi ei llanw, a g&r cadarn o gorph a meddwl yn eistedd arni. Ei enw ydyw GUISEPPK (JOSEPH) SARTO, Cardinal Batri- arch Venice. 0 ran oedran y mae efe heb gyrbaedd ei 69ain mlwydd o rai misoedd. Gyda llaw, dyma oedran, neu o ddeutu, y mwyafrif o'r rhai a ddewiswyd yn babau -dechreu ar eu dyledswyddau yn addfed- rwydd oedran a phrofiad, ond pan oedd henaint wedi eu dal. Eidaliad yw yntau o genedl. Prin y gallesid disgwyl i neb o genedl arall gael ei ethol, pan gofiom fod y mwyafrif mawr o aelodau Coleg y Oardin- aliaid, y rhai yn unig a feddant hawl i bleidleisio, o'r genedl. Tybiodd rhai, mae yn wir, y gallasai Yspaeniad neu Awstriad, os nad Sais, gael ei ddewis y tro hwn, o herwydd eu bod yn gwybod am yr eiddig edd angerddol a flyna rhwng gwyr mawr y penguwchion cochion;' a bod llawer o'r brodyr hyn yn teimlo yn fwy llidiog y naill tuag at y llall lawer nag y teimlant y naill tuag at estroniaid. Ond bu eu cenedlaeth- oldeb yn gryfach na'u rhagfarnau; ac ar Eidalydd 'y syrthiodd yr etholedigaeth,' yn unol a'r dyfaliad cyffredinol. Y gwir yw, nid oes genym ond digon o enghreifft- iau i'w cyfrif ar fysedd un Haw o rai y tu allan i'r cylch Eidalaidd yn caei eu hethol; a dim ond un Sais erioed yn cael ei osod dan y meitr ar hyd cyfnod o ryw ddeunaw cant, neu chwaneg, o flynyddoedd. Yr un- igolyn hwnw ydoedd NICOLAS BREAKSPEAR, yr hwn a flodeuai rywbryd o ddeutu y ddeu- ddegfed ganrif. Eidaliaid a eisteddant yn nghadair PKDR yn Rhufain ar hyd yr oes- oedd. Yr ydym, wrth gwrs, yn deall y rheswm am hyn. Gwyr o'r genedl hon ydyw y mwyafrif o'r cardinaliaid yn dig- wyddo bod yn wastad. Am bob un o genedl arall a urddir yn gardinal, urddir dau o'r genedl Eidalaidd. Hyd yn oed yr wythnos hon urdda y Pab newydd wyth o gardinaliaid; ac os nad ydym yn camgym- meryd yn ddirfawr, y mae chwech o'r wyth o'r un gwehelyth cenedlaethol ag ef ei hun, Nid mantais i'r gadair, yn ddlau, ydyw cael ei chyfyngu i'r fath raddau a hyn i un genedl. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r pabau sydd wedi bod yn llywyddu y Fatican, gftr o drais isel, mewn cymmhariaeth, ydyw y ne wydd-etholedig. Fel rhe"»l, rhai yn hanu o deuluoedd uchel a phendeiigaidd a ddewis- id. Rhai felly oeddynt y ddau olaf o'i rag- flaenoriaid. Ond, I dyn wedi codi o ddim' ydyw y Ptab newydd; yn gwybod yn dda am haenau isaf cymdeithas, a'i gydymdeiml- ad yn llawn & hwy. Am y rhan fwyaf o'i oes, offeiriad y plwyf yn ei ardal enedigol oedd ef. Yn nerth talent naturiol, ac ym- roddiad i lafur, gwnaed ef yn esgob, ac wedi hyny yn batriarch, yn ninas Venice Rhoddir iddo y gair o fod yn weithiwr difefl. A'r gair o fod yn drefnydd dihafal, hefyd. Ei fywyd cyhoeddus a chyfrin a nodweddid gan burdeb diiychwin, a symledd urddasol. Pan wnaed ef yn esgob, yn y fan ymroddodd i ddiwygio bucheddau offeiriaid ei esgobaeth, y rhai oeddynt, meddir, yn ymroddi i dryth/llwch i raddau mawr. Dysgold ef iddynt gredu yn bur fuan mai yr unig lwybr iddynt i gadw eu lleoedd yn ddiogel ydoedd trwy fyw yn bur, ac ymdaflu i'w dyledswyddau Wedi ymgymmeryd & phatriarchaeth Venice, yr un ysbryd pur a phenderfynol a'i nodweddai. Yn fuan daeth ei ddylan- wad er daioni i'r golwg yn ddiammheuol. Yn y ddinas yn gyffredinol, hefyd, yr oedd efe yn Wr poblogaidd, yn annibynol ar ei swydd urddasol yn yr Eglwys. Nid ymyrai a phyngciau gwleidyddol. Ystyriai fod y rhai byn allan o'i gylch neillduol ef. Ond, yn nghwestiynau cymdeithasol y ddinas cym- merai ddyddordeb mawr. Ei thlodion a edrychent arno fel cynnorthwywr yn eu cyfyngderau, yr hyn a brofai yntau mewn mil a mwy o ffyrdd ymarferol. Hyd yn oed cychwyr yr afon — y gondoliers — a ddiosgent eu cuwchoedd, ac a foesymgrym- ent i'r Patriarch SARTO pa bryd bynag y deuai ei gondola (ei fad) yn agos, am y gwyddent fod ganddyut gyfaill ynddo ef. Yntau a'u bendithiai. A dyma y math ar ddyn, offeiriad, a phrelad, sydd er's wythnos yn eistedd yn mhrif gadair y Babaeth, dan yr enw Pius y Degfed. Etholwyd ef dydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf. Bu y cardinaliaid bedwar diwrnod yn taraw ar eu dewisedig. Pwy bynag a fyddai darparai y rheolau sefydlog ei bod yn rhaid iddo gael dwy ran o dair o bleidleisiau y rhai a feddent yr hawl i'w cofrestru. Yr oedd yn bresennol ddau a thrigain o gardinaliaid; oil yn ystafelloedd y Fatican gyda'u hysgrifenydd- ion a'u cogyddion; oil dan glo; hefyd, a milwyr yn gwylio na chaffai neb fyned i mewn atynt, na neb o honynt hwythau fyned allan i'r byd, chwaith, hyd oni fydd- ent wedi gorphen eu gwaith, pe yn gorfod aros yno iis, ac hyd yn oed bedwar mis, fel y digwyddodd unwaith yn y bymthegfed ganrif. Y dau a thrigain cardinal hyn a flurfient y coleg. Hwy yn unig a feddent hawl i bleidleisio. Sonir am amryw gardinaliaid wedi methu cyrhaedd yr ystafelloedd mewn pryd, megys y Cardinal MORANT o Awstralia; ond, ni chaniateid iddynt anfon eu pleidleisiau i mewn. Neb i bleidleisio ond presennolion! Dyna y rheol. Ac un resymol a doeth-i arbed llawer o anhunedd ac ymgecru yn ol Ilaw- yw hi. O r trigain a dwy pleidleisiau hyn cafodd yntau, yn y I balot' diweddaf, banner cant, digon o fwyafrif i ddarostwng pob cyndyn ddadleu yn y dyfodol. Ond, nid heb bleidleisio eilwaith a thrachefn— saith o weithiau, meddid-y llwyddwyd i sicrhau y mesur hwn o unfrydedd. Pan oedd dorau ystafelloedd y Fatican yn cael eu cloi nid oedd neb yn meddwl am dano ef fel un tebyg o gael myned dan I dywalltiad olew ir yr eneiniad' Y Cardinal RAM POLLA, hen ysgrifenydd y diweddar LEO XIII. am flynyddoedd, a enwid gan bawb o'r bron fel y tebycaf o gael ei ddewis. Llyw- odraethau Ffraingc ac Yspaen, yn enwedig, a ddisgwylient am ei etholiad ef. Y Cardinal GOTTI ydoedd y ffefryn' gan eraill, yn arbenig felly gan ymherawdwr yr Almaen, canys er ei fod ef yn Brotestant, y mae y ddau yn gyfeillion personol, ac yn meddwl yn uchel y naill o'r llall. Rhwng y ddau hyn yr ystyrid y byddai y rhedegfa. Ond, daeth un arall i mewn yn gryf ar ol dechreu pleidleisio, nad oedd ond ychydig siarad blaenorol yn ei gylch, nid amgen y Cardinal VAUNOTELLI. Gyrodd hwn GOTTI (i'r hwn nid oedd pleidgarweh y Caisar GWILYM ond anfantais wirioneddol) allan o'r maes; ac aeth y gystadleuaeth rhwng RAMPOLLA ac yntau. Dechreuwyd ar y gwaith foreu Gwener. Hyd prydnawn LInn rhedai y ddau I wddf a gwddf' yn mron RAMPOLLA yehydig ar y blaen ond, heb gael o gryn lawer, er hyny, I y ddwy ran o dair' y gofynai y rheol am danynt. Rywbryd tua chanol dydd Llun, daeth gair swyddogol i mewn i'r cylch cyfrin—cym- n mundeb a'r byd allanol nad oedd dichon ei attal-a osododd wedd newydd ar yr amgylchiadau, ac a darawodd ymgeisiaeth RAMPOLLA â maildod. Gair o Awstria ydoedd hwn. Oddi wrth lywodraeth y wlad hono y daeth. Ym- dder) gys fod gan Awstria, er's canrifoedd, hawl i wneyd gwrthdystiad yn erbyn etholiad Pab, os bydd hi yn dewis. A chan Awstria yn unig y mae yr awdurdod hon. Nid ydyw RAMPOLLA, am ryw resymau, yn ei llyfrau hi. Pan y deallodd hi, gan hyny, mai efe oedd ar y blaen, anfonodd i bysbysu, os mai efe a ddewisid, y byddai iddi hi arfer ei hawl i wrthdystio yn erbyn ei etholiad, ac hyd yn oed i'w wneuthur yn ddi-rym, Yr oedd hyn megys taranfollt yn disgyn yn nghanol y Conclaf,' fel eigelwir. Dywedodd RAMPOLLA ychydig eiriau min- iog ar yr elyniaeth Awstriaidd tuag ato ef. Ond, yr oedd ei dynged wedi ei phender- fynu. Yn y chweched pleidlais yr oedd achos' y Patriarch SARTO wedi cryfhau yn ddiifawr; ac yn y seithfed, a'r olaf, wele daeth allan yn fuddugoliaethui. Fel hyn, yn broffesedig, o dan arweiniad uniongyrch- ol yr YSBRYD GLAN, y dewiswyd y Pab hwn, fel yr ugeiniau a ddewiswyd o'i flaen. Weithian, y mae efe wedi cymmeryd yr awenau yn ei law. Dodwyd y meitr ar ei ben y Sabbath diweddaf. Amser yn unig, wrth gwrs, a ddengys pa fath Bab fydd Pius y Degfed.

News
Copy
Y GWRTHWYNEB IAD GODDEFOL YN TUNBRfDGE WELLS DYWED gwefreb a dderbyniwyd o Tunbridge Wells na bydd i un arwerthwr yn Tunbridge ymgymmeryd a gwerthu nwyddau y gwrthwyn- ebwyr goddefol dydd lau nesaf ac felly, y bydd i arwerthwr o Lundain ddyfod yno. Attafael- wyd nwyddau dau o weinidogion, bargyfreith- iwr, ac Eglwyswr Efengylaidd blaenllaw, gan yr heddgeidwaid. Cynnelir cyfarfod mawr o Ym. neillduwyr Kent a Suffolk ar ot yr arwerthiant. Y mae Dr. Clifford wedi addaw siarad yn y cyfarfod.

News
Copy
LLYTHYR 'SYLWEDYDD' LLANGOLLEN. ADDOLDY NEWYDD YR ANNIBYNWYR HEDDYW [dydd Sadwrn], bu y peasaer; sef Mr. Morris Roberts, Porth Madog, cyallunydd addoldy yr Annibynwyr yn Llangollen, yn edrych a oedd Mr. David Roberts, yr adeilad ydd, wedi gorphen ei waith yn foddhaol; ac ar ol edrych yn fanwl dros y gwaith sef. yr addoldy, yr ysgoldy a thy'r capel, cyhoeddodd ddarfod i Mr. David Roberts, yn gyntaf orphen ei waith "cyn ei amser — peth anfynych yn Nghymrn; yn ail, fod yr oil o'r gwaith wadi ei orphen yn gwbl a hdlol fodihaol; a'i fod yn ystyried fod yr addoldy yn un o'r rim rhataf a harddaf yn Nghymru. Yfory, sef y Sabbath, y mae y Parch. J. T. Rees, y gweinidog, i bre- gethu ynddo am y waith vyntaf; a Sabbath wythnos i hyny y mae y cyfarfodydd agoriad- ol i gymroeryd lie, pryd y disgwylir y Parehn. H. M, Hughes, Caerdydd; O. L. Roberts, Liverpool; R. Roberts, Rhos, ac eraill, i was- anaethu. Cynnaliwyd y gwasanaeth olaf yn hen addoldy Glan'rafon nos Wener; as roedd y teimladau ynddo yo gyffelyb i'r hyn a gym merodd leyn Jerusalem adeg y dychweliad o'r gaethglad, pryd yr oedd Zorobabel yn gosod i lawr sylfeini yr ail dem!. Un closbuth o'r bobl a floeddiasant a bloedd fawr, gan foliannu yr Arglwydd am sylfaenu t.^ yr Arglwydd,' ond yr hen bo 1)1, 1 y rhai a welsant y ty cyntaf, a wylasant â lief uchel.' Yma yr un modd, yr oedd yr hen bob!, wrth feddwl am ganu'n iach a'r hen addoldy, yn teimlo yn lied alarus wrth gofio llawer o gyfarfodydd lie yr oedd amlyg iadau amlwg o bresennoldeb Duw wedi cael eu teimlo o'r man lie yr oeddynt wedi bod yn cyd addoli yn nghwmni llu o hen bereriuion oeddynt wedi blaenu. Er hyny, nid oes am mheuaeth nad oedd ar yr enwad Annibynol wir ansren am addoldy newydd mewn man mwy cyfleus; ac y mae yr un mor amlwg, hefyd, fod Duw wedi bendithio ymdrecbion yr eglwys mewn modå arbenig, o blegid mae bron fel gwyrth y swm mawr o arian sydd yn barod wedi eu casglu at gario allan yr anturiaeth. A rhyfedd mai yr un dydd ag agoriad ein haddoldy newydd yn Llangollen y mae y PAB I GAEL Ef GORONI yn Rhufain; sef, Cardinal Sarto, gynt o Venice Dywedir el fod nid yn unig yn ysgol- haig a duwinydd enwog, ond ei fod yn na o'r dynion [^s cymmhwys galw olynydd yr apostol ion yn ddyn !] mwyaf caredig, hynaws, ac elusengar, y gellir ei gyfarfod; a gwelais sylw y byddai yn fynych dan orfod yn Venice i wystlo ei fodrwyau aur a'i emau gwerthfawr pan y byddai yr oil o'r arian wedi eu rhanu. Ii A phan grybwyllwyd wrtno am y priodoldeb o neillduo lleoedd arbenig i fawrion y gwledydd ddydd y c Jtoni, dywedodd fod yn rhaid i'r mawrion gyd gymmysgu a'r bobl, am fod pob gradd yn gvdraddol ger bion Duw; felly bydd yn rhud i Royalty eistedd wrth ochr y cardot- tyn yn y corotd, neu aros gartref. Go lew Sarto, y Pab newydd, onid e 1

News
Copy
ONDEB DIRWESTOL DOSBARTH BODEDERN, MON. CYNNALIWYD cymmanfa flynyddol y dos barth uchod dydd Gwener, Awst 7fed, yn ngbapel y Metbodistiald Callinaidd, Bryndu. Am ddau o'r gloch cafwyd cynnadledd, cyn nwysedig o gynnrychiolwyr eglwysi y cylch, o dan lywyddiaeth y Parch. John Jones, Hebron. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. John Roberts, Bodedern. Cafwyd adroddiad o setyllfa yr achos dir westol yn y dosbarth gan yr ysgrifenydd. Yr oedd cyfarfodydd wedi caeleu cynnal bron yn mhob ardal gyda'r plant, a rhai mewn oed, y gauaf dlweddaf, a darparwyd yr nu gwaith i gael ei wneyd etto eleni. Hefyd, yr oedd bron yr: holl eglwysi wedi gwneyd casgliadau at draul y gymmanfa. Crybwyllwyd am t)ender- fjniadau a anfoawyd o'r gymmanfij6 ddiwedd- af yagtyo a deddfwriaeth ddirwestol, acfyr oedd y gwahanol foneddigion wedi cydnabod eu der- byniad, ag eithrio y prifweiaidog. Rhoddwyd derbyniad cynnes i'r Parch. John Evans, Caergybi, i'r gymmanfa fel cynnrychiol- ydd cymmanfa y sir. Catwyd anerchiad rhagorol gan y Parch. J. E. Jones, Hanfwrog, ar • LJdeddtwriaeth a Dirwest.' Ymdriniodd yn llawn &'r cweatiwn yn y wedd hon arno, ac yr oedd lliaws o ffeith- iau newyddion yn cael eu dangos ganddo. Rhoddodd bwylais ar yr aogen am well llyw- odraeth a liais gan y trethdalwyr ar gwestiwn y tai rhwym. Cafwyd gair yn mhellach gan Dr. Edwards, Mynydd y Gof, a'r Parch. John Evans. 'Dirwest a'r Teulu' oedd anercbiad a draddododd Mr. George Jones, Trefor. Yr oedd hwn etto yn llawn Mn, ac yn dyweyd gwirioneddan rhagorol Cymmerwyd rhan yn ydrhfodaethhoa gan Mri. John Lewis. R. Rowlands, Hebron R. Williams, Gronant; P. M. Pierce, Hebron J. Roberts, Bodedern. Cynnygiwyd diolebgarwch i'r siaradwyr gan y Parch. D. D. Davies, Capel Gwyn. Terfynwyd trwy weddi gan y llywydd. Am hanner awr wedi pedwar cynnadledd ddirwestol y chwiorydd, o dan lywyddiaeth Mrs. Dr. Edwards, Mynydd y Gof. Yr oedd lliaws o gynnryuhioiesau yn bresennol, a chymmerwyd rhan yn y cyfarfod gan amryw o honynt. Ni chlywsom beth oedd y materion, I ond canmawl y cyfarfod oedd tystiolaeth j Iliaws o honynt. Am hanner awr wedi chwech cyfarfod j cyhoeddus. Llywydd, Mr. J. Lewis, Llanllibio, gan yr hwn y cafwyd anerehiad rhagorol. Yr areithwyr oeddynt y Parchu. D. Lloyd [3.]. Caergybi, ac Evan Jones, Ciernarfon. Yr oedd yno gynnulliad rhagorol, a chyfarfod da. Y mie y dosbarth hwn yn gwneyd gwaith da, ac yn gwrthwynebu trwyddedaa ar bob llaw, ac wedi Ilwyddo yn ganmolaiwy, a sicr genym mai llwyddiait mawr fydd eu hanes y tymmor dyfodo!. Y mae y dosbarth hwn yn esampl i ddosbarthiadan eraill yn Mon.—Goheh.

News
Copy
DIANGFA GYFYNG I'R THEN CYFLYM 0 GAEEGYBI. i:6 CAFODD y tren cyflym o Gaergybi i Lundain ddiangfa gyfyng, y Sabbath. Yr oedd yn rhedeg gyda chyflymder mawr rhwng Caer a Chrewe, pan y rhuthrodd i ryw liaiani oedd ar y lliii-11. Gwnaecl gryn ddifrod ar amryw o'r cerbydau, a safodd y tren yn sydyn; ac yr oedd y teithwyr wedi cael eu taraw a dychryn mawr. Ar ol cryn oediad gwnaed y difrod i fyny, mewn rhan, ac aeth y tI'ên yn mlaen tua'r deheu. Tybirfodymetel aachosodd yrhwystr- aeth wedi disgyn o dren nwyddau.

News
Copy
BERTH, TREGARON. LLWYDDIANT YN YR EISTEDDFOD GENJSDLAETHOL. PRYDNAWN dydd Mercber diwedJaf eyrhaedd- odd y newydri lliwen j'n cymmydogaeth fod Mies Mary Davi-cs, EFgermaen, o'r lie hwn, wedi ennill yr ail wobr am yr adroddiad agored yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Nid yn amI y gwelir plentyn pymiheg oed yn meddwl am gystadiu mewn cyetadleuaeth agored ar raddfa mor nchel a'r Eisteddfod Genedlaethol, chwaethacb. cipio yr ait wobr oddi ar adrodd- wyr cyfarwydd a dysgedig. Llwyddiant iddi, a chyd ddywedwn a'r bardd- Yn uwch, uwch, uchach yr êI. Dringed i gadair angel.' W

News
Copy
SYR JOHN WILLIAMS, BARWNIG, AR DDIWYGIO YR EISTEDDFOD. A GANLYN sydd rai o sylwadau Syr John Williams yn yr eisteddfod ddydd Alawith Y mae yn gryn dipyn o feiddgavwoh ynwyf i geisio dyweyd dim b vd am yr eisteddfod mewn lie fel hyn. Yr wyf yn oael fy amgylchu gan hen eisteddfodwyr, y rha! sydd wedi fcnd drwy eu hoes yn golofriau iddf, ac yn melthrin Ilenydcliaeth eu gwlad, ao y mie holl achosion yr eisteddfod ar fhenau ea bysedu. Nid ydyw yr eisteddfod wedi cyfnewid rhyw lawer yn ei r-ull o feithrin barddouiaeth a rhyddiaeth Gymreig. Yr un ffordd sydd mewn grym yn awr ag oedd yn arferedig ddechreu y ganrif ddiweddaf, ac am ganrif- oedd cyn hyny. Dymunaf ofyn i chwi, fel pobl ddeallus, a ydyw yr eisteddfod, fel y mae, yn gwneyd yr oil a allai er mwyn codi llenyddiaeth Gymreig i'r safle uchaf? A ydyw y meddyliau goreu, meddyliau cryfaf, disgleirlaf, a mwyaf eliedo4 y genedl, yn cael eu cynrsyicbu drwy gygtadiu yn yr eisteddfod? A ydyw y moddion a ddefnyddir yn yr eisteddfod ei hun y moddion goreu er gwneuthur ein llenyddiaeth yu ua uwchraddol ? A oes cyfryngau eraill drwy y rhai v gellid eu gwneuthur yn rhagorach? Ell arholiadau cystadteu.)! yn yr yegollon a'r prif- ysgolion, er myned i'r fyddin ac i'r gwasanaeth gwiadol, mewn bri mawr y ganrif ddiweddaf, a gellid dyweyd llawer drostynt, yn enwedig pan y'i cyfyngir i'r leuangc a'r ammhrofiadol. Buont ar brawf am amser hfr ac yn awr, ar 01 y prawf mafth hwnw, y mae pobl ystyriol yn dechreu credu nad ydynt wedi bod mor effeithiol ag y disgwylid iddynt fod. Ond nid trwy gystadleuaeth y mae y darganfydd- iadau mwyaf a phwysicaf wedi cael eu gwneyd, na'r meddyliau ardderchocaf wedi cael eu cynnyrchn. Galwch i'ch cof rat o'r dynion sydd wedi gwneyd rhai o ddarganfyddiadau mwyaf yr oes breaenool. Beth am Arglwydd Kelvin, neu Arglwydd Lister, ueu Pasteur, nen Edison? Nil symbyliad cystadleuat t a'u gyrodd hwy i chwilio am, ac i ganfod y gwirion- eddau mawr ac ysblenydd a gyssylltir a'u henwau hwy. Ac etto, gellid ty bio, pe bae cystadleuaeth yn debyg o gynnyrchu gwaith rhagorach na'r cyffredin mewn unrhyw gylch, mai ya myd darganfyddiadau gwyddonlaeth naturiol y ceid fcyny. Ac etto, gwelir na fu gan gystadleuaeth law yn y darganfvddiadau pwysig hyn. Neu meddylier drachefn am lenyddiaeth a Ilen- orion yr oesoedd. Nid er mwyn cystadlu y canodd Dafydd ap Gwilym Ei gvwyddau eiinuus a'i ganeuon melus, na Burns ei gerddi pryd e;th, rsa Tenoyson ei fugeil-gerddi, na Milton ei Goll Gwy nfa.' Nid er mwyn cystadlu yr ysgrifenodd Ellis Wyn Y Bardd Cws?,' na Morgan Lloyd ei 'Dri Aderyn,' Banyan ei Daith y Pererin, na Moore el Utopi* na Bacon ei 'Organon,' na Gibbon ei Ó Gcdiacl 90 Chwvmp Rhufain.' Os ydych am weled cynnyrchion cystadleu- aeth o'r tu allan i'r eisteddfod, cewch hwynt wedi eu cladda yn ngbyfrolau Prize Poems a Prize Essays Rhydychain a Chaergrawnt. Diolch i'r nefoedd fod ambell un, fel Enic of Hades' Lewis Morris, wedi cael ei godi o'r beddrcd hwn Na, y mae yn rhaid cael amser cyn y gellir gwneu- thur gwrhydri mewn lien) ddiaetb. Bu Spencer un mlynedd ar bymtheg yn stofi'r 'faerie Queen,' Milton ugain mlynedd yn plethu Ooll Gwyufa,' a Tennyson ddeng mlynedd ar hugain wedi dechreu Syr Galabad' oyn gorphen Gareth a Lynette,' a threuiiodd ran helaeth o'r blynyddoedd hyny i deithio Gymru a Chernyw yn ofalus er ymgydnabyddu &'r lleoedd y bu Arthar a'i farchogion yn cyflawoi eu gorchestion ynddynt! Ac etto, disgwylir I feohgyn Cymru gynnyrcbu gwaith uwchraddol ar faes eystaclieuseth yr eiatedd- fod! Ond beth a all dyn ei wneyd mewn decg mis, yn enwedig pan y rhaid iddo lafurio i ennill bara beunyddiol iddo el hun a'i deulu? Er mwyn gwneyd cyfiawnder â, rhai o'r testynau y cyst..dIeuir arnynt yn yr eisteddfod dylai y bardd gael, nid deng mts, eithr deng mlynedd! Ac yn awr dymunwn ofyn owestiwn neu ddau, Ai nid ydyw yn bossibi cyhoeddi, o lelaf, y prif destynau bum mlynedd yn mlaen Haw? At ni eHir cyfyngu y gystadleua.eth i'r ieuafngc, a'r "rbai nad ennillasant raddau gorsedd neu wobrau blaenaf yr Eisteddfod Genedlaetaol? Ac ai nid ydyw yn bossibi, ac yn ddymunol, gwobr- wyo yn deilwng y beirdd a'r lienor ion am weithiau a gyhoeddlr ganddynt, ond na anfonir i gystadleuaeth eisteddtodol? Yn y cysaylltiad hwn y mae o bwya i ni gofio mai y gwaith goreu a wna unrhyw ddyn ydyw y gwaiih hwnw at yr hwn y mae ei feddwl a'i duedd yn naturiol yn ysgogi, ac nid yn ami y ceir hyny mewn cystadleu- aeth.

News
Copy
Lladdwvd tri o lewodmewn un diwrnod o fewn deng milklir i Buluwayo. Cafwyd I5y. amgroen bob un o honynt. Yn Kettering, y dydd o'r blaen, dirwywyd Albert Thomas Pugh i'r swm o 50p., am ddefu- yddio ei siop i amcanion bet;io.' En farw gweddw yn agos i Limerick yn 105 mlwydd oed. Y mae yu preswylio yn yr un gymmydogaet h ddyn sydd. yn 107 mlwydd oed, yr hwn sydd yn mwynhau xechyd da, ac a barha i fyned am 'dro' bob dydd. Dirwywyd pedwar o hapchwareuwyr yn Brighton. Dywedai y Prifgwnstabl ei fod yn gwyb >d am amryw ddymon yn y dref oedd yn gwneyd 500p. yn y fiwyddyn trwy gymmeryd chwech cheiniogau mewn betio.' Uerddodd dynieuangc i orsaf yr yn Coventry, a3 nid oedd yn gallu dyweyd beth oedd ei enw, ei drigfan, nac.o ba le y daethai. Cotiodd ei enw wedi hyny, a'i fod yn dyfod o Edgbast-onj; ond nis gailai ddyweyd pa fodd y oedd wedi cyrhaedd Coventry.

News
Copy
iadau am helyntoedd llafur difrifol, a brwydrau ¡ gwaedlyd &'r awdurdodau. Pasiodd ei.steddiad cyhoeddus cyntaf Cynghor ] Deddfwrol y Transvaal heibio yn Hwyddiant perffaitb. Dywedir fed y cydgord mwyaf dymunol yn ffynu rhwng y Bftriaid a'r Prydein- iaid, Bwyddol ac answyddol. Cyn yra -birio pasiwyd archeb bwysig yngljhj & meiui g verth- fawr o dan ba un y bydd hanner cynuyrch y mwngioddiau diemwnt a berthyn i'r Goroa yn cael ea defuyddio i dalu yr eebwynion a godir yn y dyfodol, a'r gweddill fel y barno y Llywodr- aeth Leol yn oreu. Aramheaderfynol yw cweatiwn llafur yn y drefedigaeth o byd. Uanlyniad hyn yw gostwng gwerth y cyfranau yn y mwngioddiau yn y farchnad. Nid oea otto ddim wedi ei bonder- fynu yngbylcli dwyn Asiaid i weithio yn y cloddfeydd byn. Os na wneir rhywbeth yn derfynol yn fuan amlwg yw nas gellir eu cario yn mlaen o gwbl. cl Prin y cafodd y Brenin PEDR fod fi3 ar ei orsedd yn Servia na ddarganfyddwyd brM i'w lofruddio. Erys y Parch. It, J. CAMPBELL, gweinidog y City Temple,^Lluudain, ya America yn hwy na'í arfaeth. Iihingyll yn myddin yr Alma-en a ddedfryd- wyd i ddwy flynedd a hauner o garchariad am greulondeb mewn 568 o gyhuddiadau gwahanol, 366 o ba rai a brofwyd. Y eeryddwyr ydynt wedi arlunio Corned Bo relli, i'r hon y mae tair cynfiou amlwg, ac arwyddion pedwaredd. Cynnelir cynnadledd ar bellebru di-wifrau yn Berlin yn y dyddiuu byn, gyda cbyunrych- iolwyr o bob gwlad o bwys. Un a fu nnwaith yn aelod o senedd Pen- rhyn Qobaith Da, Mr. VAN DER WALT, yd- oedd, dydd Mawrth, yn cael ei draddodi i eefyll ei brawf am uchei' deyrnfradwriaeth- Prifweinidog Hungary a ddywedodd, dydd Mawrth, nsd oedd a wnelai efe ddim, yn y graddau lleiaf, a gwaradwydd y llwgrwobr- wyaeth yn y senedd. graddau IIeiaf, a gwaradwydd y llwgrwobr- wyaeth yn y senedd.