READ ARTICLES (9)

News
Copy
DINBYCH. Wrth y Groes.—Nos Fercher y Parchedig Hugh Pdgh oedd y pregethwr. Y gynnulleidfa ydoedd yn lliosog iawn, ac eneiniad mawr ar yr oedfa. Hir gotir y syhvadau miniog ar 'yr Ym- droi i'w trofeydd' gan ugeiniau o'r gwrandawyr. Nid yw y piegetlmu wrth y groes eleni, y mae yn dda genym ddyweyd, yn lleihau dim yn eu 'poblogrwydd; ac am y daioni a wneir trwydd- ynt y dydd a'i dengys' yn unig. Nos Feicher nesaf y Parch. Thomas Jones (A.), y Green, a ddisgwylir i bregethu.

News
Copy
FFORDD HAIARN YSGAFN BEODGELERT. GWNAETH ysgrifenydd Cwmni y Ffordd Haiarn uchod gais, yr wythnos ddiweddaf, at Gynghor Glaslyn am ganiatad i newid ychydig ar gynllun y ffordd yn ymyl y Rhyd-ddu. Yr oedd y tir yno yn feddal a gwlyb, a gofynid am ganiatad i wneyd y ffordd haiarn ar hyd darn o dir arall, lie yr oedd ffordd gyhoeddus heb lawer o draf- nidiaeth arni. Caniatawyd y cais.

News
Copy
GCHCUBIC (EPMRA. Nos SADWRN, Awst 8fed, 1903. (Oddi wrth ein Gohebydd fleillduol.) NODIADAU AR YR EISTEDDFOD. PRIN yw arnaf am newyddion heddyw. Aeth creawdwyr hanes oddi cartref ddechreu yr wyth- nos, i'r eisteddfod yn Llanelli, ac yno y buont hyd neithiwr. Ni pherthyn i mi roddi hanes yr eisteddfod yn y golofn hun gwneir hyny yn helaeth ac yn fedrus gan ohebydd arbenig, mewn colofnau eraill. Felly, nodiadau ar yr eisteddfod fydd genyf fi y tru hwn, ac nid ei hanes. Rbydd i bob meddwl ei farn, ac i bob barn ei lIafar. Yr oedd 11awer yn pjtruso, a rhai yn pryderu, am lwyddiant yr eisteddfod eleni; nid oedd yr oil o'r rhag-argoelion yn addawol. Trodd allan yo well La'r ofnau, eithr nid llawn cystal a'r go- beitbion goreu fe dybir fed y rhai sydd dan y cyfrifoldeb cyllidol allan o'r coed, os nid ar yr ariandy. Mae eisteddfod yn un ddrud, ac yn un anhawdd ei gwneuthur i dalu drosti ei hun. Nid yn fynych y bu yr Eisteddfod Genedl- aethol yn un fwy talaethiol nag y bu hi eleni. Yr oedd y Saeson o'r ochr hwnt i'r Clawdd, bob copa walltog o honynt, wedi cadw draw. Nid Saeson oedd y rhai a ddaethant iddi o Lynlleif- iad, eithr Cymry yn byw oddi cartref. Ac am wyr Llundain, rhai o honom ni yma ydynt hwy canys fe benderfynodi yr Undeb Cynnnlleidfaol yn Llanelli, ycbydig flynyddoedd yn ol, fod Caerludd, fel Caerdydd, yn rhan o Ddeheudir Cymru. Ychydig o wyr Gwynedd oedd yn cystadlu, o'r hyn lleiaf, ychydig iawn o honynt fa yn llwyddiannus i wthio eu hunain i'r golwg. Eisteddfod yr Hwntws, i raddau pell iawn, oedd Eisteddfod Llanelli. Corau y Deheubarth oedd yn myned a hi rhag blaen. Teimlent nad oeddynt mewn unrhyw berygl i gael eu curo gan gydymgeiswvr o Lun- dain, o Liverpool, nac o'r Gogledd chwaith. Un rheswm, os nid pob rheswm, am lwyddiant corau y Debeu yn Nghantref Carnwalion yw eu bod hwy gartref, Mae yr adar i gyd yn canu yn rhagorach gartref nag oddi cartref. Mae pob ceiliog yn feistr ac yn frenin ar ei domen ei hun. Wrth gefn y berth, i raddau pell, y bu beirdd y Gogledd yn Llanelli. Dichon eu bod yn bre- seunol, yn nghysgod y llwyn, yn diagwyl galw ond prin y cafodd neb ofeirdd Gwynedd gyfleus- dra trwy alwad i ddangos ei drwyn. Beth sydd i gyfrif am hyn 1 Yr oedd y beirdd ar safle gwahanol i'r corau nid oedd bod oddi cartref yn un anfantais iddynt hwy. Mae y bardd, fel y crydd, yn gwneyd ei waith gartref, ar ei eis- tedd yn y gweithdy. Wrth ysgrifenu fel byn, nid wyf heb gofio fyned o'r gadair i Bethesda, yn Arfon; eithr nid ydyw hyny yn cyfnewid dim ar y pwogc; o blegid nid Gogleddwr ycllw y Parch. John Thomas Job, ond Hwntw pur, a Sirgar diledryw o'i ben i'w draed. Myfi a glywais rai pobl yn siarad fod eistedd- fod 1903 yn un go Fethodistaidd yn ei buddug- wyr barddonol; ac yr wyf yn coelio nad oes neb pobl yn fwy parod, os mor barod, i gyhoeddi hyny a'r Methodistiaid eu huuain. Chwareu teg iddynt. Onid yw yn beth caturiol i bob math o ddynion ganmawl ammheuthyn ? Eithr nid am eu bod hwv vo Fethodistiaid. vn fwv na phe buasent yn F^riaidj yr anrhydeddwyd y ddau John, trwy roddi y Goron i'r naiil, a rhoddi y gadair i'r llall-nid am eu bod yn feibion Sion Gorph, meddaf, y bu hyn, ond am eu bod yn blaat Ceridwen, ac yn fwy o feibion athrylith na neb o'r lleill oedd ar y maes. Beirdd Gwlad Myrddin aeth a'r l.ê.J,' meddai un gwr o Gaerphili. Da, meddaf finnau mae'n burion i feirdd Gwlad Myrddin ddangos yr odds weith- iau Mae llawer o ddigrifwch, a mwy na hyny o bleutyneiddiwcb, yng1:9'n ag eisteddfod. Fe allai mai cymmeriadau mwyaf penwan yr oes hon yw ei beirdd hi nid ar bob pryd, yn inhob man, ond pan fyddont wedi ymgrynhoi, ac yn gweled eu gilydd yn eu gwisgoedd amryfatb, o amgylch y mae'n Hog, yn cyfansoddi yr hyn a alwant hwy yn orsedd. Yr oedd cyrchu mawr gan y werin o bob cyfeiriad i Geufaes y Bobl yn Llanelli, erbyn naw o'r gloch bob boreu Gorsedd, er mwyn bod yn llygaid-dystiou o'r gweithred- iadau a'u dadganiad unllais hwy ar ol dychwel- yd oedd, fod yno fwy ra hanner llonaid y Ceu- faes o ddifyrioa babanaidd, yn gymmysgedig a hen arferion paganaidd, yn cael eu chwareu gan biant wedi gordyfu, wedi ymwisgo mewn llïein- iau, ac yn dioddef yn dost oddi wrth anhwylder y gellir ei alw yn I benserch.' Ar y diwedd yr oedd yno nifer mawr o urdd- edigion newydd o bob math, yn teimlo yn dra balch o'u haurhydedd ond gallasai y nifer fod lawer yn fwy, ac o rhyw gymmaint yn well mewn ansawdd, pe buasai pobl Liansaint wedi meddwl mewn pryd am ddwyn eu hasynod yno, fel y gellid urddo y rbai hyny hefyd. Barn gyffredin gwyryfon a gw.tr ieuaingc Carnwallon yw--oddi gerth y rhai hyny sydd wedi cael eu swyn-dynu gan olwg ar yr ysnodenau sidan-fod graddau ac rnddau Gorsedd Beirdd Ynys Pryd- ain yn gyfartal mewn gwerth, ac yn gaffaeladwy ar yr un ammodau, a maddeuantau John Tetzel yn yr Almaen, yn nechreu yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn y brif gystadleuaeth gorawl trwch blewyn yn unig fu rhwng cor Dowlais a cholli gwobr o 200p., a dim ond yr un faint o drwch a fu rhwng cor canolbarth Rhondda a'i hennill hi. B in, yn dd'iau, i deimlad Mr. Edward Hughes yw meddwl am y blewyn hwnw, ac na ddigwydd- odd efe fod yr ochr arall iddo ond y mae yn flewyn gworth i Mr. Harry Evans ddioich am dano. Rhyfeddol y pwysigrwydd sydd mewn trwch un blewyn o wahaniaeth ar lawer amgylch- iad Ksteddfod 1903, a'i chymmeryd yn ei chwbl, oedd yr oreu a gyunaliwyd erioed. Yr oedd ei chanu yn uwchraddol, ac arweinwyr Cymreig y corau wedi dysgu gwneyd eu gwaith heb fen- thyca cynnorthwy eu coesau yr oedd y fardd- oniaeth yn uchelryw, yn gynnyrch awen fyw yr oedd y rbyddiaeth yn ganmoladwy ac yr oedd yr holl gynnyrchion yn nosbarth y celfau yn dangos cynnydd tu hwnt dim a allesid ddis- gwyl. Nid fy marn i yw hon, eithr barn y beirniaid a phwy a wyr, os na wyddant hwy ? Rhaid i mi beidio a'r eisteddfod ar byn yna, nid am nad oes chwaneg o ddefnyddiau wrth law, ond yn hytrach am y rheswm nad da gor- mod o ddim. Cospedigaeth drorn ar ddyn o Waencae-gur- wen.—Yn mrawdlys Abertawe, dydd Llun, ded- frydwyd George Drummond, 41ain mlwydd oed, haliwr, Gwaencaegurwen, i bum mlynedd o benydwasanaeth, am archolli Mary James, gwraig yr oedd efe wedi bod yn llettya gyda hi, gydag amcan i'w llofruddio. Mae pum mlynedd o benydwasanaeth yn gospedigaeth drom, etto prin y gellir ei golygu yn gospedigaeth rhy drom ar ddyn a gynnygiodd gymmeryd ei bywyd oddi ar wraig ddiniwed, na wnaeth ddim iddo ond gommedd ei dderbyn fel Ilettywr. Damwain ddifnfol yn chivareuon Gaerfyrdd- in.-Yn hwyr prydnawn dydd Mawrth, ail ddydd y chwareuon yn Nghaerfyrddin, digwydd- odd damwain ddifrifol i wr ieuangc o'r enw Rignold, o New Brighton. Yr oedd efe ar y Ceufaes yn cystadlu a g\Vr arall mewn gyrfa tair milldir ar ddeugylch modur; a phan yn ymyl ennill y gamp, ac yn gyru yn arswydus, o blegid rhyw auffawd, chwyrndaflwyd ef oddi ar y peir- iant rai llatheni o bellder, ac yn erbyn un o bystion y railing. Derbyniodd niweidiau mor drymion ar ei ben fel y buwyd yn ofni am ei fywyd ond yn ol yr hanes diweddaraf am dano y mae seiliau i obeithio am ei adferiad. Boddiad yn Mhenbre. Prydnawn dydd Mawrth boddodd John Morse, bachgen deunaw mlwydd ood, mab Mr. Charles Morse, Williams Terrace, Burry Port, tra yn ymdrochi yn ngenau hen borthladd Penbre. Daetbpwyd o hyd i'r corph yn hwyr dydd Mercher, yn agos i'r fan lie y suddodd efe. Yr oedd yn facbgen crefyddol, mwy addawol na'r cyffredin ond machludoddei haul yn ddisymwtb, cyn cyrhaedd canolddydd. Boddiad arall yn Nghaerfijrddin.—Rhwng saith ac wyth o'r gloch yr hwyr dydd Mercher boddodd llangc, 12eg mlwydd oed, wrth ym- drochi yn yr afon Tywi, yn agos i dref Caer- fyrddin. Mab i un Mr. Lewis, o Abertawe, oedd y llange, ac ar ymwebad &'i fodryb, Mrs. Rogers, Stag aud Pheasant Ion, Caerfyrddin. Yr oedd llangc arall gyda'r trangcedig yn y dwfr a gwnaeth hwnw ei oreu i'w achub pan oedd efe yn sudio, ond methu a wnaeth. Tan dinystriol yn agos i Bontypridd. -Nos Iau, yn Dyfnder y nos, canfyduwyd fod tao wedi tori allan yn ydlan Ty'nywern, Bad Uchaf, preswylfod Mr. Thomas Thomas ac ni allwyd ei ddiffoddi hyd nes iddo ddinystrio tri thaswrn o wair, a'r tai allan cyssylltiedig a'r ydlan. Pan ddychwelodd y gwasanaethyddion o'r capel nos Iau nid oedd argoel am dati yn un man ond yn ddiweddarach, pan oedd bachgen a ddaethai gyda hwynt yn ymadael i fyned adref, efe a welodd fod y taswrn gwair nasaf allan yn cynnea. Cafwyd gwasanaeth tân-ddiffoddwyr o Bont-y- pridd a Chaerdydd mor fuan ag oedd yn ddi- chonadwy, ac yr otad digonedd o ddwfr yn gyfleus ond er pob psth, methwyd cael y Haw drechaf ar y tan cyn ei fod wedi Hosgi tua 40 tynell o wair, a dau o'r tai allan. Nid oes wybodaeth pa fodd y dechreuodd y tan, ond y mae pob argoel yn erbyn y dybiaeth ddarfod i'r gwair danio o hono ei hun. Nid oedd y gwair na'r adeiladau wedi eu hyswirio.

News
Copy
CYNGHOR SIROL SIR DDINBYCH. Y GYFRAITH ADDYSG. PENDERFYNU NAD OEDD DIM O'R TRETHI I FYNED AT GYNNAL YR YSGOLION GWIRFODDOL. DYDD Gwener cynnaiiwyd cyfarfod chwarterol Cynghor Sirol sir Ddinbych yn Ngholwyn Bay Llywyddid y gweithrediadau gan Mr. E. Hooson, y cadeirydd. Cyflwynwyd adroddiad Pwyllgor Ymchwiliad y Gyfraith Addysg gan Mr. W. G. Dodd, Llan- gollen, er iddo gael ei fabwysiadu. Yr oedd y cynllun a barotowyd gan y pwyllgor yn darparu fod y Pwyllgor Addysg i gynnwys 36 o aelodau a bennodid gan y Cynghor Sirol, o ba rai yr oedd 27 i fod yn aelodau o'r cynghor, a'r gweddill i fod yn aelodau detholedig, a bod dwy, o leiaf, o honynt i fod yn ferched. Ym- ddangosai crynodeb befyd yn yr adroddiad o'r cyfrifon dderbyniwyd gan y clerc o berthynas i ysgolion elfenol y sir. Oddi wrth y rbai hyn gwelid fod yna ar lyfrau Ysgolion y Bwrdd 13,329 o vsgolheigion, a 9,845 o ysgolheigion yn yr Y sgolion Ceaedlaethol, yn gwneyd cyfanrif o 23,174. Y presennoldeb ar gyfartaledd ydoedd 10,217-1 o ysgolheigion yn ysgol y Bwrdd, a 7,567'9 mewn ysgolion gwirfoddol, yn gwneyd cyfaurif y presennoldeb ar gyfartaledd yn 17,785. Yr oedd cyllid ysgolion y Bwrdd yn cyrhaedd y cyfanswm o 38,728p., a chyfanswm yr ysgolion gwirfoddol yn cyrhaedd l7,4C3p. y rhoddion blynyddol ac eraill yn y rhai cyntafyn cyrhaedd 15,871p., ac yn y diweddaf i 13,310p. Pender- fynwyd yn unfrydol gan y pwyligor nad oedd y bwrdeisdrefi (heb fod yn rhai sirol) a'rcyngborau dosbartb dinesig i gael cynnrychioliad, trwy enwi personau, ar y pwyllgor addysg lleol. Ar gynnygiad Mr. J. Watkin Lumley, yn cael ei gefnogi gan Mr. E Roberts, penderfynwyd gan y pwyllgor, trwy wyth o bleidleisiau yn erbyn tair Fod y Cynghor Sirol yn cael ei argymmhell i beidio defnyddio unrhyw dreth at gynnal ysgolion gwirfoddol oddi eithr i'r ysgol- ion gael eu trosglwyddo drosodd yn ddiammodol i'r awdurdod addysg,' Galwodd Mr. Dodd sylw at y ffaith nad oedd o'r braidd 77 y cant o'r plant yr oedd eu henwau ar y llyfrau yn rhoddi eu pre3ennoldeb ar gyfar- taledd. Yr oedd byny yn fater a ddylai gael sylw mwyaf difrifol y pwyllgor addysg newydd (cym.). Pe gellid cynnyddu y presennoldeb i 10 y cant, golygai hyny godiad o 4.000p. yn rhoddion y Llywodraeth, ac ennill o 2g yn y bunt i drethdalwyr. 0 berthynas i'r pender- fyniad yn erbyn rhoddi cynnorthwy o'r trethi tuag at ysgolion gwirfoddol, gallai ymddangos yn sefyllfa galed i\v chymmeryd i fyny, ond yr oedd y pwyllgor yn teimlo Das gallai fod yn gyfrifol am weithrediad unrhyw ysgolion oddi eithr eu bod yn cael rheolaeth briodol drostynt (clywch, clywcb). Cefnogodd Mr. Simon Jones, Gwrecsam, y penderfyniad. Mr. W. G. Rigby, Llandyrnog, a gynnygiodd fod y penderfyniad yn erbyn cynnorthwy o'r trethi tuag at ysgolion gwirfoddol yn cael ei daflu allan. Yr oedd y cyfryw benderfyniad yn groes i ysbryd y gyfraith, yr hon a basiwyd er mantais i'r holl ysgolion, ac nid un adran yr oedd yn anghyfreithlawn yn achos ysgolion oedd yn cydymffurfio a'r ammodau gofynol; yr oedd yn annheg am fod y cyngbor yn cymmeryd mantais ar ranau o'r gyfraith, ac yn anwybyddu rhanau eraill oedd yn ammhoblogaidd. Gwrth- odent roddi cynnorthwy arianol i'r ysgolion gwirfoddol, tra yr oeddynt yn cymmeryd man- tais ar y cynnrychioliad i lywodraethu v cyfryw ysgolion. Yr oedd y cwrs a gynnygid yn awr yn un annheg a'r trethdalwyr mewn rhanbarthau lie na byddai ysgolion y Bwrdd, gan y byddai galw arnynt bwy i dalu tuag at ysgolion na byddent hwy yn derbyn unrhyw fantais oddi wrtbynt. Yn mhellach, yr oedd yn hynod o greulawn ymosod ar yr ysgolion gwirfoddol n y modd y gwneid. Daliai ef nad oeddynt yn haeddu y fath ammharch a dygasedd ond i'r gwrthwyneb, yr oeddynt wedi bod o wasanaeth mawr i'r wlad. Y Milwriad West a gefaogodd y gwelliant. Nid oedd efe yn dymuno dyweyd gair tram- gwyddus, ond ei safle ef ydoedd nas gallai bleid- leisio droa yr hyn oedd yn anghyfreithlawn. Nid oedd un ammheuaeth nad oedd yna fonedd- igion yn Nghymru yn edrych ar y gyfraith gydag anfoddlonrwydd, ond cawsent hwy amser i wella pethau rhywbryd neu gilydd. Hyd nesy byddai i'r gyfraith gael ei chyfnewid, nid oedd ganynad heddweh unrhyw bawl i argymmhell ei bod yn cael ei hanufuddhau. Gobeithiai ef na byddai i'r Cynghor Sirol ddilyn y cynghorwyr hyny yn Nghymru y rhai oedd wedi cael eu hethol i'w harwain hwy, a'r rhai, yr oedd ganddo awdurdod dda dros ddyweyd, a deimlent yn awr eu bod wedi myned yn rhy bell (0 !'). Yr oedd efe yn cydymdeimlo i raddau neillduol & golygiad y rhai a gefiiogent weithrediad y pwyllgor, ond nid gwrthod cydymffurfio a chyfraith seneddol oedd y ftordd i fyned yn mlaen, Mr. J. Watkin Lumley a ddywedodd ei fod yn meddwl fod y Milwriad Cornwallia West wedi ymosod arno yn bersonol fel un oedd yn ynad heddwch dros y sir, gan mai efe oedd wedi cyn- nyg y penderfyniad yn y pwyllgor. Yr oedd ganddo gymmaint o barch i'r gyfraith a'r Ar- glwydd Raglaw ac am ei fod ef, ac eraill oedd yn coleddu yr un syniadau ag yntau, yn credu eu bod o fewn terfynau y gyfraith yr oeddynt yn cefnogi y penderfyniad dywededig (clywch, clywcb). Yr oedd personau mewn awdurdod uchel yn tori y gyfraith yn barhaus-yr oedd Mr. Balfour yn un o honynt (clywch, clywch). Yr oedd y Mil. West wedi ymuno ag Arglwydd Esgob Llanelwy mewn ymgais i ddwyn cydgord oddi amgylch. Pe wedi llwyddo, buasai yn rbaid gwneyd hyny trwy gyttundeb hanner y ffordd; a buasai y cyttundeb hanner y ffordd, a siarad yn fanwl, yn anghyfreithlawn, ond cawsai ei gario allan (cym.). Mr. Thomas Williams, Llewesog, a ofynodd a oedd y cynnygiad i wrthod cynnorthwy o'r trethi i ysgclion gwirfoddol yn gyfreithlawn. Y Clerc (Mr. W. R Evans) a ddywedodd fod y Cynghor Sirol yn ihwym o gymmeryd drosodd a cbynnal yr holl ysgolion elfenol yn y sir ar y dydd pecnodedig. Yr oeddynt yn rhwym o'u cadw i fyny i safon o effeithiolrwydd a foddlonai y Bwrdd Addysg Pa un a allent wneyd hyny ar y rhoddion oddi wrth y Llywodraeth heb droi at y trethi, mater o ffigyrau yn hollol oedd byny. Nid oedd efe yn dadgan unrhyw farn o berthynas i hyny. Os gallent wneyd hyny ni byddai angen, wrth gwrs, defnyddio y trethi. Gallai na byddai y safon yn un y boddlonai y Cynghor Sirol aruo mewn cyssylltiad fig ysgolion eraill (clywch, olvwchV Syr R. A, Cunliffe a ddywedodd ei bod yn ymddangos yn esiampl ddifrifol i'w gosod i wrthod cydymffurfio a'r gyfraith fel y gosodwyd hi i lawr gan senedd y Deyrnas Gyfunol. Go- beithiai ef y byddai iddynt ail ystyried y cyfryw we.thrediad. Y Mil. C. S Mainwaring a ddywedodd ei fod yn edrycb yn mlaen at yr adeg y gwelid cyn pen hir yr oil o'r ysgolion Eglwysig wedi eu tros- glwyddo i'r Cynghor Sirol (cym.). Yr oedd llawer o lywiawdwyr y cyfryw ysgolion, ac yr oedd rhai o honynt yn glerigwyr, wedi dadgan y dymuniad hwnw wrtho. Yr oedd efe yn awr wedi cael dros naw mlynedd o brofiad o'r Corph o Lywiawdwyr Sirol, ac yr oedd adran 85 o gyollun Addysg Ganolraddolyn dyweyd—'Bydd i addysg grefyddol unol clg egwyddorion y ffydd Gristionogol gael ei gyfranu yn yr ysgolion.' Yr oedd yr adran hono wedi cael ei chario allan yn yr oil o'r ysgolion sirol, ac nid oedd efe wedi clywed un gair o wrthwynebiad. Yr oedd efe yn tueddu at feddwl y byddai llywiawdwyr yr Ysgolion Cenedlaethol mewn ychydig amser yn hollol foddlawn ar y geiriau hyn, ac yr oedd efe yn gobeithio y deuai yr amser yn fuan (cym ) Ar yr un pryd, yr oedd efe yn teimlo fod yn rhaid iddo bleidleisio dros y gwelliant, am y byddai gwrthod cynnorthwy o'r trethi at ysgol- ion gwirfoddol yn beth mor annheg. Yr oedd y drydedd, os nad y bedwaredd ran o'r plant, yn yr ysgolion hyny yn blant i Ymneillduwyr, Mr. Simon Jones, Gwrecsam, a ddywedodd fod y senedd wedi rhoddi gorfod ar y cynghor hwnw i gyflawni y ddyledswydd annymunolo gario allan gyfraith seneddol oedd yn wrthwyn- ebol gan fwyafrif mawr o'r cyhoedd, yn enwedig yn Nghymru. Yr oedd yr oil o'r siaradwyr dros y gwelliant wedi myned heibio i'r rhan bwysicaf o'r penderfyniad yr oeddynt yn ymosod arno, mewn pertbynas i gynnrycbioliad Hawn. Y ddadl fawr a ddefnyddiai Mr. Balfour i wthio y gyfraith trwy D £ y Cyffredin pan yr oedd y cwestiwn o reolaeth yn cael ei ystyried ydoedd, mai gaii y Cynghorau Sirol y byddai C gallu y pwrs.' Yr oedd Cynghorau Sirol Cymru wedi derbyn cynghor Mr. Balfour, ac yr oeddynt yn awr yn defnyddio gallu y pwrs er gweled eu bod yn cael y rheolaeth deg, i ba un yr oedd y treth- dalwyr yn meddu hawl (cym.). Yn Nghymru, ac yr oedd efe yn credu trwy Loegr, ni byddai iddynt roddi i fyny ar y pen hwnw (cym.). Ni roddent i fyny chwaith ar y pwngc o athrawon (cym ). Yr oedd efeyn gwybod am achosion yn agos i Wrecsam lie yr oedd ts-athrawon mewn ysgolion Cenedlaethoroeddynt wedi bod yn Ym- neillduwyr, na chaeut heddwch hyd nes iddynt wadu ffydd eu tadau, cael y bedydd esgob, ac ymuno a'r Eglwys. Y eymmhelliadau oedd yn cael eu dal allan i'r rhai hyn ydoedd y deuent yn mlaen yn well fel Eglwyswyr. Beth oedd gwerth crediniaeth person o'r fath hwnw (cym.) 1 Yr oedd yn rhaid i'r Cynghor Sirol ymdrechu rhyddhau y bobl oddi wrth y camwri hwnw. Yr oedd Esgob Llanelwy wedi cydnabod fod y pwyntian y cyfeiriwyd atynt yn gwynion, ac yr oedd wedi dyweyd mai dyledswydd pobl yr Eglvrys ydoedd gwneyd eu goreu i'w lliniaru (cym.). Yr oedd y cwynion amlwg hyn yn ddeg gwaith mwy na'r rhai a gawsent eu cario allan trwy attal y tretni o'r ysgolion gwirfoddol (cym.). Yr oedd yn amlwg fod yr esgo. yn parhau i obeithio y gellid cario allan rhyw gydgord (cym.). Gwnaed cyfeiriad at dori y gyfraith, yr hwn a ddisgrifiai yr esgob fel I difyrwch heintus' (chwerthin). Pan yr oedd y gyfraith yn ddrwg, ac yn groes i gydwybod dyn, yr oedd wedi cael ei ddal allan trwy yr oeaau fod yn rhaid ei thori (cym. mawr). Ar y pwynt hwn yr oedd yr esgob wedi anghofio gryn lawer. Y clerigwyr oedd y torwyr cyfraith mwyaf o fewn y deyrnas yn ystod y pum mlynedd ar hugain diweddaf (' 0 a chwerthin). 0 fewn y cyfnod hwnw gallai ef gofio fod Eglwys Brotestanaidd LI Y Mil. Cornwallis West a ofytiodd a oedd Mr. Simon Jones mewn trefn wrth siarad ar Eglwys Brotestanaidd Lloegr. Y cadeirydd a ddywedodd ei fod yn meddwl ei fod mewn trefn. Mr. Simon Jones a ddywedodd ei fod yn ceisio cael gan y boneddigion hyn i edrych i mewn i gwynion gw" ,¡ loi yr Ymneilldu- wyr. O fewn y pnm m, < arhaga-ia di- weddaf gaUai gofio Ha.WN jlengwyr yn tori y gyfraith, ac ya cael e;* 'ir. < n i garchar, ac yr oeddynt wedi cael ««>i fiaeth trwy wneyd hyny. Nis gallai yr ^obion yrt awr roi Daddf Unffurfiaeth mewu cyiti yn y wlad [cywilydd]. Yr oedd yr esgobion wedi bod yn wingcio ar holl arferion torwyr y gyfraith o dan eu rheolaeth. Yr oeddynt wedi bod yn gofyn am fwy o reolaeth, ac nis gallent el pael; a phan gawsant ychydig chwaneg o reolaeth, nid oeddynt yn meddn ar ddigon o I nerf nae ysbryd i fynn gweled ei bod yn cael ei chario allan. Yr oedd y wlad yn llawn o dor- wyr cyfraith [cym ], y rhai a ddylasent osod gwell esampl. Mr. W. G. Rigby. Y mae y Cynghor Sirol yn myned i ddilyn y clerigwyr.' Mr. T. Williams, Llewesog, a ddywedodd eu bod, wrth wrthod cario y gyfraith allan, yn gosod eu hunain yn agored i deyrnwys (man- damus), a byddai iddo ef ochel y rhwymedig- aeth aadedwydd o orfod treulio rhan o'i amser yn ngharchar lihuthyn trwy bleidleisio dros welliant Mr. Rigby [cbwerthin]. Mr. Isgoed Jonesj Llanrwst, a ddywedodd el fod yn gredwr mawn rheolaeth cyhoeddos gyf. lawn. Nid oedd eyfraith seneddol a wthiwyd trwy y Ty gan y eloadur yn gyfraith onest. Buasai yr adran mewn perthynas i addysg grefyddol yn nghyftaith Addysg (Janolraddol, pe cawsai ei chorphori yn nghyfraith 1902, yn pendeifynu yr holl ddadl. Mr. Cromar, Gwreesim, a ddywedodd fod yna achosion o ddylanwad yn cael eu dwyn ar deulnoedd Ymneilldaol o fewn ei gylch ef ei hun, mewn cyssylltiad a'r alwedigaeth o athrawon. Mr. W. G. Dodd, with atteb y gwahanol ddadleuon, a ddywedodd nad oeddynt yn dy muao gwneyd dim anghyfreithlawn, Daliai ef fod y gyfraith wedi cael ei gwthio trwy y T, trwy foddion anfoesol, ac nid eedd efe yn meddwl y dylai Mr. Rigby ddarlithio wrthynt yn y modd yr oedd wedi gwneyd. Mr. W. G. Rigby.—' Ai ni allaf fi siarad heb ddyweyd wrthyf fy mod yn ddarlithiwr V (chwerthin). Y cadeirydd, wrth osod y gwelliant ger bron y cyfarfod, a ddywedodd ei fod wedi bod mewn, cyssylltiad âg achosion addysg yn mhlwyf Rhiwabon am nn mlynedd ar hugsin, ac yr oedd yna yn bresennol naw o brifathrawon 0' dan y bwrdd. Yr oedd dwy o'r prifathrawes- au yn aelodau o Eglwys Loegr, a dwv yn Ym- neillduwyr, ac yr oedd dau o'r prifathrawon yn aelodau o Egiwys Loegr, a dau yn Ymueill- duwyr. Yr oedd un o'r ddau athraw cyssyllt- iedig a'r dosbarth canolog i ia athrawon yn foneddiges o Eglwys Loegr, a'r Hall yn perthyn i'r Ymneillduwyr. Pan bennodid athrawon, ni chymmerid dim i ystyriaeth ond cymmhwys derau yr ymgeiswyr, a dylid gweithredu yn yr un modd yn yr oil o'r ysgolion oedd yn caal eu darparu trwy arian y trethdalwyr. Fel y canlyn y pleidleiswyd gan y gwahanol aelodau Dros y gwelliant.- Y Milwriad Mainwaring, y Milwriad West, Syr R. A. Cunliffe, Cad- ben Griffith Bosciwen, y Mri. W. E. Samuel, Thomas Willimis, J. A. Chadwick, Richard Middleton, E. Lloyd Jones, A. Ffoulkes, W. G. Rigby, a W. M. Richards—12. Yn erbyn.- Y Parch. R Rawson Williams, Mri. Christmas Jones, Simon Jones, Edward Hooson, O. Isgoed Jones, W. G. Dodd, John- Hughes (Glan Conwy), John Jones, A. 0, Evans, J. Frasar, John Roberts (Minera), R. J o. Powell, Robert Parry, John Allen, J. Stephen. Jones, J. O. Jones. B. Harrison, John HughesSi, Edward Hughes, George Cremer, Howel Gee, E. W. Thomas, Boaz Jones, John Ellis, Gomer Roberts, Edward Roberts, J. A. Harrop, W. Davies, J. E. Humphreys, Evan Roberts, Oweul Jones, a r Dr. Richard Evans.-32 Yr oedd Mr. Wilbraham wedi gadael y cyfar- fod cyn yr ymraniad. Cafodd yr adroddiad ei fabwysiadu, heb fod < dim ond dau yn erbyn. Yna. cynnygiodd Mr. Simon Jones fod y Bwrdd Addyeg yn cael ei ddeisebu i ohirio y dydd pennodedig o Medi 30ain i Ionawr laf., Eglurodd y cymmerai rhyw gymraaint o amser cyn y cawsai y cynllun ei gymmeryd, ac y byddai yn rhaid i'r Pwyllgor Addysg newydd; ddosbarthu yr ysgolion, a phennodi eu cyn- nrychiolwyr ar y pwyllgorau llywodraetholi &c Cefnogodd Mr. Edward Roberts y pender- fyniad. Mr. Thomas Williams, Llewesog, a ddywed- odd ei fod yn gobeithio, cyn y laf o Ionawr, y cawsai rhyw gydgord ei sefydlu. Cafodd j penderfyniad ei gatio.

News
Copy
MARWOLAETH PHIL MAY. DRWG genym orfod croniclo marwolaeth yr enwog arlunydd, Phil May, yr hyn a gym- merodd le yn ei breawylfod, Camden Town, Llundain, yr wythnos ddiweddaf. Ganwyd Mr. May yn Leeds, yn mis Ebril], 1864, ac yr oedd yn fab i beiriannydd o swydd Stafford. Bu am ysbaid yn A wstralia; ac ar ol dychwel- yd gwnaeth enw da iddo ei hun yn Llundain fel arlunydd digrifol. Yn ystod y blynydd- oedd diweddaf ymddangosai ei waith yn gysson yn Punch, a phrif gyhoeddiadau eraill. Bu am ychydig mwy na blwyddyn, ar adegau, yn dioddef oddi wrth afiechyd.

News
Copy
TWRCI. PENDERFYNA Llywodraeth Twrcl gymmeryd meauratt llymdoat yn rigwyneb sefyllfa bresennol Gorynys y Balkan. Bydd wrth ei bodd yn arfer creulondeb.

News
Copy
HANES GWARADWVDDUS. YR wythnos ddiweddaf dlangodd merch ieuango allatt o'r Magdalen '—ty diwygiadol a gedwir gan Gorphof* aeth Berlin, prifddinas yr Almaen. Yn ddiweddaf cododd amryw o'r rhai a gedwid yn y lie mewn gwrthryfel o herwydd y bwyd gwael a roddid Iddynt, a'r gam-driniaeth a ddioddefent. Yr eneth o dan sylw ydyw y brif dyat mewn achos gwaradwyddus sydd yn awr o dan yatyrueth un o'r llysoedd cyfreithlol. Ym- ddengys ei bod hi wedi el gosod o dan gospedigaeth. Y mae i bob geneth a gedwir yn y lie el chell neillduol ei hun; ac er mwyn eu hattal i ddlangc ymalth yn yatod y nos rhaid t bob un osod ei dillad y tu allan i'r drws cyn cael ei chlol i mewn. Yn gynnar boreu ddydd Iau dringodd tri o ddynion y mur sydd yn amgylchynu y sefydliad. Aeth y naill ar ysgwydd y llall, a thrwy hyny cyrhaeddasant hyd at ffenestr cell Fiaulein SIt tel, y ferch yr ydym yn s6n am dant. Torasant fariau y ffenestr, ac yna llusgasant hlthau allan drwyddi, gollyngasant hi lawr, a rhoddasant ddillad lddi i ymwisgo ynddynt. Hi a roes y dillad am daDi yn nghysgod y mfir. Yna diflanodd yr oil o honynt, ac nid gwelwyd hwynt mwy.

News
Copy
Cafwyd y Parch. R. J. C. Tillotsou, gweinid- og gyda'r Anaibynwyr, wedi marw yn ei wely, yn ei gartref, yn Grove Park, Chiswick, dydd Mawrth. Darfu i heddgeidwaid Middlesbrough, dydd Mawrth, gymmeryd John Gallagher, hen filwr, i fyny yr hwn a honir a lofruddiodd William Swan, glowr, yn Barusley, Mehefin 6ed.

News
Copy
Addysg, tudal 127, 128, a chwi gewch chwi yno ddisgritiad o Long Tom Lloyd-George, a chyfarwyddiadau manwl sut i'w lodio a'i danio fo.' Chwarddodd yr hogiau, gan cheerio yn uchel. Ond fel 'road"l yn rhaid cael y iYaval Brigade i fyn'd a'r gynau mawrion o'r llongau rhyfel yn erb yn y Bwriaid, gan eu bod yn gofyn gofal m anwl wrth eu trin a'u tanio, felly fedrwn ninnau ddim trystio Long Tom Lloyd-George i ryw volunteers perthynol i'r Pwyllgorau Lleol y sonia Mr. J. T. Roberts a m danynt.' A chwarddodd a chymmeradwyodd y dorf yn uwch nag erioed. QWISG OFFEIRIAliOL TOWYN. Ond distawodd y chwerthin a'r hwre yn sydyn, Gwelwyd dyn yn gwneyd ei ffordd o'r drws tua chymmydogaeth yr esgynlawr, a. gwenwisg oifeiriad am dano. Adwaenid ef ar unwaith gan bawb Y Parch. Towyn Jones, arwr brwydr rhyldid sir Gaerfyrddin, ydoodd. Ond lie cynt yr arferai cael gwen a hwre, ni chaffai yn awr ond cilwg a distaw- rwydd gan gorph y werin. Y clerigwyr, ar y llaw arall, pan welsant eu harch-elyn wedi ei arwisgo yn y wisg offeiriadol, hwythau, hefyd, gan dybied yn sicr fod Towyn wedi ymuno a'r Eglwys, 9,0 wedi cael urdd Eglwysig, a ddechreuasant waeddi hwre, a gwneyd lie i Towyn yn eu plith hwy. Yntau, gan sefyll yn ymyl y llwyfan, a throi at y bob!, a'u hanerchodd:— 'Ha! wyr frodyr l' ebe fe, gan ddisgwyl cael cheers fel arfer, ond distawrwydd dwfn oedd yn meddiannu pawb, ond y clerigwyr yn unig. Mae'n anhawdd dyweyd beth fuasai'r can- lyniad oni bae i Cadfan godi ar ei draed, a dyweyd:- 'Mr. Llywydd! Yr wyf yn ofni nad yw pawb yn adwaen y cyfaill anwyl Mr. Towyn Jones yn y wenwisg yma. Eithr rhag syrthio o neb o honoch i amryfusedd yn ei gylcb, mae genyf i'ch hysbysu nad yw'r wisg yma yn arwyddo fod Towyn wedi newid ei enwad, nac wedi troi ei got.' 'Beth mae e'n neud a'r crys Cgwyn yna, yiite f?' gofynai un o fechgyn y Garnant. 'Mi a ddywedaf i chwi 'rwan,' ebe Cadfan. 'Cafodd y cyfaill dyddan Towyn Jones ei urddo yn dderwydd yn 01 braint a defawd beirdd Y nyg Prydain yn Eisteddfod Genedl- aethol Llanelli y ddoe,. a gwisg Derwydd o Orsedd y Beirdd, ac nid gwisg offeiriad o Eglwys Loegr, yw'r wisg sydd am dano.' A chyda'r gair dyma'r dorf yn gwneyd i fyny yn ddauddyblyg am yr oerfelgarwch a'r hwn y derbyniasant ef o'r blaen. Pan gafwyd distawrwydd drachefn, ebe Towyn-- Mr. Cadeirydd, rhaid i chwi fy esgusodi am dd'od i'r Clwb yn y wisg wen yma, A gweyd y gwir, clieso i ddim amser i'w newid hi oddi ar pan ddoes i o Llanelli; a toeddwn i ddim wedi sylwi nad top coat cedd am danaf hyd nes i fi wel'd yr offeiriaid yma yn fy nghroesawu ncor llawen, a chithau i gyd mor ddistaw.' Chwarddodd yr hogiau wrth feddwl am Towyn yn methu gwahamaethu rhwng top coat a chrys gwyn, er fod ei gyfeillion yn dyweyd fod hyny yn nodweddiadol o hono ar adegau. EHIBUDD YN ERBYN. DICHELLION Y G-ELYNV Oad dyma beth oedd gen' i, Mr. Cadeirydd,' ebe Towyn, I sef gofya i Glwb yr Efail i ro'i pob help allan nhw drwy'r wlad i argymmhell ym- ladd y County Council Elections.o hyn allan ar linellau politicaidd.' Na na 1', llefai'r offeiriaid, dim politics ar y County Cow-wils t Trodd Towyn yn ffyrnig arnynt. Bechgyn neis i ca'i i waeddi dim politics ar y County Councils f ebe fo. 'Dim politics yw eich cri chwi cyn myn'd ar y council, ond politics yw'r cwbl genych unwaith yr ewch yno.' Cwestiwn cwestIwQ llefai'r clerigwyr, tra'r hogiau'n cheerio Towyn. I Na, 'does dim cwestiwn yn y peth o gwbl,' attebai Towyn. 'Ry' ni wedi prcfi hyny drwy brofiad hallt a chwerw. Dyna sir Frycheiniog er engbraiflt. Dim politics oedd y cri gan yr Eglwyswyr a'r Toriaid yno yu yr etholiadau. Ond pan ddaeth cwestiwn gweinyddu'r Ddeddf Addysg ger bron, dyma bob Eglwyswr a phob Tori ar y council yn pleidleisio yn solid dros dreth eglwys newydd at gynual ysgolion yr Eglwys! Dvna i ch'i esampl o ddim politics' Eglwys Loegr A dyma'r dyrfa yn tori allan drachefn mewn cymmeradwyaeth. 'A nawr,' ebe Towyn, I cymmered siroedd eraid Cymru rybudd Fe bregethir yr un heresi ynddynt hwy ag a bregethwyd yn sir Frycheiniog, sef nad oes dim lie i bolitics ar y County Councils. Ond gan nad beth oedd o'r blaen," mae y Ddeddf Addysg wedi ei gwneyd^yn angearhaid i ni fel Ymueillduwyr, fel Rhydd- frydwyr, ac fel Gwerinwyr, i ymladd pob brwydr ar y County Councils o hyn i maes ar linellau politicaidd," gau gymmeryd v Ddeddf Addysg a'i gweieyddiad yn glawdd fiia rhwng y ddwy blaid A thracbefn torodd y dort allan i gymmerad- wyo yn uchel. Mynai Towyn draddodi pregeth gymmanfa ar y testyn yn y fan a'r lie, ond cyfrycgodd y cad- eirydd, gan dd'weyd fod yr amser eisoes wedi rhEdeg ymbell ac er fod y clwb yn cymmerad- wyo cynghor Mr. Towyn Jones i sylw pob sir yn Nghymru, nad oedd angen gwneuthur mwy na hjny ya y cyfeiriad hwnw ar hyn o bryd.