Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

HANESION CARTREFOL.

News
Cite
Share

Gatecism y Parch. Titus Lewis; ac ar eu hoi, ysgol llamoth, Cwmfelin, a adroddasant bwncarUndeb Eglwys Crist, gan y Parch. G. Ilavard, eu gweinidog, Ysgol Hermon oedd y nesaf; eu pwnc oedd, Yr Adgyfodiad." Am hanncr awr wedi dau, ysgol Bethel a adroddasant bwnc ar y Beibl, o waith y Parch. T. Price, Aberdar ac yna pregethodd y Parch. T. Thomas, Bwlchgwynt, oddiar y geiriau, Cofia gadw yn santaidd y dydd Sabboth," mewn modd goleu, syml, a godidog dros ben. Yna ym- wasgarodd y dorf, wedi eu boddhau yn fawr gan gyflawn- iadau y dydd. IORWERTH. C\ERGYBI.—Dydd Sadwrn, Mai 30ain, gwnaeth dir- prwyaeth— yn gynnwysedig o Syr C. Rowney, prif arolvg- wr ffordd haiarn y Grand Trunk, Canada, Mr. Yates, ca- deirydd ac arolygydd cwmpeini yr Eastern Steam Naviga- tion, Cadben Harrison, llywydd y Great Eastern, yn nghyd a Mr. Binger, Mr. Mansell, a Cadben Hirste, llywydd un 0'1' agerlongau sydd yn rhedeg rhwng Caergybi a'r Iwerdd- on-ymchwiliad i borthladd newydd Caergybi, i'r dyben o sicrhau yn ymarferol a gwyddorol gyfaddasrwydd y lie i fod yn borthladd i'r Great Eastern i deithio rhwng Caergybi a'r America. ABEHTAWE.—Pwmc y glarldfa.-Dydd Llun, Mai 25ain, cynnaliwyd cyfarfod neillduol Bwrdd Claddedigaethol Aber- tawe, yn Guild-hall, i dderbyn cofeb yn mherthynas i'r ymrafael anffodus sydd rhwng y bwrdd, Esgob Ty Ddewi, a licer Abertawe. Yr oedd y cyfarfod yn llawn o aelodau v bwrdd y maer yn y gadair. FFRWYIJRIAD MEWN GWAITH GLO YN SIR FYNWY.— Pedwar ar ddeg o fywydau wedi colli.-Boreu dydd Mer- cher, Mai 27, taflwyd trigolion pentref a chymmydogaeth Abertillery a Chwmtillery i ddychryn mawr gan yr hysbys- iad fod ffrwvdriad tanchwa wedi cymmeryd lie yn ngwaith glo John Russell, Ysw., a adnabyddir wrth yr enw Syr Nicholas "-pwll a ddeehreuwyd oddeutu-pedair blynedd ar ddeg yn ol gan Thomas Brown, Ysw., ac a gymmerwyd i fyny gan Mr. Russell oddeutu naw mlynedd yn ol. Gellir crybwyll fod dau neu dri o ffrwydiiadau bychain wedi cymmeryd lie yn y gwaith atp hwn er pan ddechreu- wyd ei agor. Oddeutu 7 o'r gloch yn y boreu, gwelwyd cwmwl o fwg yn ddisymmwth yn esgyn o'r pwll dan sylw. Gwelodd John Carpenter, overman, yr hwn oedd ar y wyneb, yr arwydd yma o ffrwydriad, a ddisgynodd i lawr i'r pwll yn ddioed. Yr oedd oddeutu 80 o ddynion yn gweithio dan y ddaear, ond yr oedd y gwaith wedi ei ddosparthu yn ddwy ran wahanol. Gwelai Carpenter resymau i ofni fod v ffrwydriad wedi cymmeryd lie yn y wythïen pum troed- fedd." Galwodd ar y dynion o'r gweitbleoedd ereill, a ehyda gwroldeb mawr aeth i chwilio am y meirwon a'r clwyfedigion, yn nghanol perygl mawr oddiwrth y tagnwy fchoice damp) ac yn mhen ychydig, cawsant hyd i gyrff wyth o ddynion. Wedi chwilio ychydigyn mhellach, caw- sant hyd i gyrff dau ddyn a dau fachgen. Yr oedd tri wedi marw trwy losgi. Yr oedd y taniwr, Samuel Merrifield, dyledswydd yr hwn oedd blaenori ei gydweithwyr i sicrhau sefyllfa y pwll, wedi syrthio yn aberth i'r ddamwain. Cod- Avyd y cyrff meirwon allan mor fuan ag oedd rnodd ac yr oedd yr olygfa a welid wrth enau y pwll, fel yr adnabyddid liwynt gan weddwon, plant, a pherthynasau ereill, yn wir ofidus a thorcalonus. Canfyddwyd yn mhlith y meirw feistr ty, a dau ddyn lettyent gydag ef, gyda'u gilydd. Gwnaeth swyddogion y gwaith bob p eth a allent i gyn- northwyo y rhai byw a niweidiwyd. Dydd Gwener, cad- wyd trengoliad ar y cyrff yn ngwestdy y Bridge End, ger- bron W. H. Brewer, Ysw; ond ni wnawd dim y diwrnod hwnw, ond tyngu. y rheithwyr, ac edrych y cyrff, gan y dysgwylid arolygwr y Llywodraeth i lawr dydd Mercher. Cynnaliwyd y trengholiad gohiriedig dydd Mercher; ac ar ol cydymgynghori am awr a hanner, dychwelodd y rheith- wyr v ddedfryd ganlynol:—" Fod John Hawkins wedi ei ladd trwy fygu mewn tanchwa, a achlysurwyd gan ddiofal- wch Samuel Merrifield aeyr ydym yn mhellach yn annog Mr. Russell i adferu y ffwrnes, neu fabwysiada rhyw gyn. Hun arall i wyntellu y gweithfeydd yn briodol, yn Dghyd a drysau dwbl y eyfeiriwyd atynt ar y prawf-holiad ac hefyd bod i'r rheolau a anfonwyd gan ysgrifenydd y llywodraeth gael eu eadw o hyn allan." Bwriedid i'r ddedfryd fod ya gymhwysiadol at y personau ereill a laddwyd. Gyda golwg ar achos Samuel Merrifield, y ddedfryd oedd, Llosgwyd i farwolaeth trwy ffrwydriaid tanchwa, a achoswyd gan ei esgeulusdra ef ei hun," CYMMANFA BL^ENAU GWEKT.-Cynnaliwyd y gym- manfa uchod. ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, Mai 26ain a'r 57ain,pryd y pregethodd y Brodyr James Ro. berts, Nevin; Henry Thomas, Rumni John Robinson, Llansilin; Richard Williams, Hengoed; Edward Roberts, Bethel; Morgan James, Beulah; Nathaniel Thomas, Caerdydd William Thomas, Casnewydd Evan Thomas, Tredegar; Benjamin Williams, Llundain; William Rich- ards, Caernarfon Daniel Morgan, Pontypwl; Jas. Rowe, Risca; Levi Thomas, Narberth; George Cousins, Isling- ton William Thomas, Pisga; David Edwards, Cendl; Thomas Morgan, Machynlleth Timothy Thomas, Bassal- eg; a D. D. Evans, Pantrhydyryii. AXTYN, SWYDD FFLINT.—Cynnaliodd y Bedyddwyr eu cyfarfod bivnyddol yn y lIe uchod ar y laf a'r 2il o'r mis presenol. Hwyr dydd Llun, am saith, pregethodd y Brawd T. R. Davies, Llanwvdde Dydd Mawrth, am ddeg, dechreuodd y brawd Daniel Davies, Penyfron; a phregetliodd y Brodyr Levi Thomas, Narberth, a W. Mor- gan, Cuergybi. Am ddau, dechreuodd y Brawd Moses Roberts, Treffynnon a phregetliodd y Brodyr DI. Davies, Penyi'ron, a T. R. Davies, Llanwydden. Am chwech, dechreuodd y Brawd T. R. Davies, Llanwydden; a phre. getliodd y Brodyr Moses Roberts, Treffynnon, a Levi Thomas, Narberth. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol. BACHGENYN YSMALA.—Dydd yr etholiad diweddar ya Aberdar, pan wyhu rhyw fachgen i C. Bailey, Ysw., A. S., bleidleisio dros Vaughan, edrychodd yn ei lygaid, gan waeddu, O'r hen Dory." Y Tories sydd yn cadw bar* yn dy ben di," ebe yutau. Os felly," ebe'r bachgen, '"yr ydych yn ei gfadw yn ddigon drud."—BETSY. CYMMANFA YSUOLION.—Cynnaliwyd cymmanfa ys- golion yn Mhenybont, Llandyssil, dydd Sulgwyn diweddaf, pryd y dechreuwyd y cyfarfod gan y Brawd Jenkin H. Charles, trwy ddarllen a gweddio, Yna daeth ysgol y lie yn vnlaen. ac wedi iddynt ganu, adroddasant yr 2il bcnnod o Jugo. Holwyd hwy gan y Brawd Charles. Yna daeth ysgol Ebeneser yn mlaen, ac wedi iddynt ganu, adroddas- ant y 7fed bennod o'r Actau. Holwyd hwy gan y Brawd Charles. Terfynwyd y cvfarfod boreuol drwy weddi. Ymgynnullwyd drachefn am ddau, ac wedi i'r Brawd Emanuel Lewis ddarllen, canodd ysgol Hebron, Moriah, gweddiodd yr un brawd. Adroddasant bwnc ar Droedig- aeth Paul. Holwyd hwy gan y Brawd Emanuel Lewis. Yr olaf ar faes y gymmanfa oedd ysgol Peniel (W.) ac wedi iddynt ganu tôn, adroddasant y 17eg Dosparth o'r Dosparthydd Wesleyaidd. Holwyd hwy gan y Brawd J. H. Charles. Terfynwyd y cyfarfod drwy weddi gan y Brawd J. H. Charles. Cafwyd cyfarfod rhagorol o'r dechreu i'r diwedd, a dangosodd y gwahanol ysgolion fod ymdrech a llafur inawr wedi bod yn eu mysg.-DBWI CREUDDYN. Y PAUCHN. S. ROBERTS A D. PRICE.—Mae y Cir- cassian, yr agerlong yn mha un yr oedd y Parchn. S. Ro- berts a D. Price yn lnyned allan, wedi cyrhaedd America. yn ddiangol. Dywed S. R., mewn llythyr at ei frawd yn Llundain, Yr ydym hyd yn hyn wedi cael mordaith an- nghyffredin offafriol. Daethom o Lynlleifiad i St. John's, Newfoundland, mewn naw diwrnod a naw awr." Cry- bwylla iddynt gael dydd Sadwrn i edrych o'u cwmpas y" St. John's iddynt ada.el yno am chwech o'r gloch y pryd- nawn, a chyrliaedd Nova Scotia yn gynnar dydd Llun, Mai 18fed. Oddiyno yr oeddynt yn ysgrifenu. Yr oedd ganddynt, wedi hyny, ryw gymmaint o fordaith cyn cyr- haedd hafan Portland-Maine. Dywed ddarfod i un or mamau o Lanbrynmair roddi genedigaeth i faban braf noson gyntaf y fordaith; a bod y fain a'r baban yn dyfed yn mlaen yn dda.