Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

- .LLYTHRYAU AT FAMAU.

News
Cite
Share

LLYTHRYAU AT FAMAU. GAN MRS. SIGOURNEY. RHAGORFREINTIAU Y FAM.—(PARHAD.) Diau fod dynes dan lawer mwy o rwymau i'r llywodf- aeth sydd yn ei hamddiffyn, na dyn, yr hwn a ddwg yn ei berson ei hun elfenau hunan-amddiffyniad. Ond sut mae oreu i ddwyn ei diolchgarwch i weithrediad ? Gan ei bod wedi ei chau allan, a hyny yn ddoetli, rhag un rban yn ngweinyddiad y llywodraeth, sut y caiff ei gwladgarwch ei ymarfer yn gyfreithlon ? Ni fyddai y cyd.gymmysgedd o feddwl benywaidd yn nghynhwrf uchelgais politicaidd, yn ddiogel, pe yn cael ei 'genadu, na chwaith yn ddymunol, pe yn ddiogel. Mae cenedloedd a gefnogent hyny, wedi arfer cael eu cynghorwyr yn gythryblus gan ddichellwaith, neu yn derfysglyd gan ymryson. Mae haraesiaeth wedi cofnodi enghreifftiau, lie y darfu i'r rhyw fwynaf draws- feddiannu teyrnwialen y brenin, neu ruthro i swydd y rhyfelwr. Ond edrychwn arnynt naill ai gyda syndod, fel planed yn rhuthro o'i chylchdro, neu gyda thosturi, fel tra o'r twr ser, wedi syrthio, yn diflanu o'i chwaeroliaeth dedwydd a dysglaer. Etto, y mae gwladgarwch yn rhinwedd yn ein hystlen, ac y mae swyddogaeth, He y gellir ei dwyn i weithrediad, yn rhagorfraint ag y gall y pendefig uchelaf genfigenu wrthi. Nid yw yn ymddibynu ar radd na chyfoeth, swydd-gais plaid, na chyfnewidiadau ewyllys y bobl. Ei gorsedd yw y galon, a'i chyllid yn nhragywyddoldeb. Y swydd hon yw eiddo athrawes famol. Mae yn eiddo iddi drwy bawl etifeddiaetbol. Bydded iddi ei gwneyd yn feddiant an- nhrosadwy. Gosododd natur hi ynddi, pan, wrth rodfii iddi allwedd yr en aid babanaidd, y gorchymynodd iddi gymmeryd meddiant o honi drwy y serchiadau. Mae ei hawl i'r cariad cyntaf, ei dirnadiaeth cynreddfol o'r ew- yllysau a'r cyfFioadau, ei medr yn darganfod y cysgodion lleiaf 0 wahaniaeth yn y dymher, ei medrusrwydd mewn ffurfio y galon at ei phwrpas, yn brofion o'i huchelfraint, ac o'r darddell ddwyfol o'r hon y dylifa. Gall y fam osod terfyn i genllif llygredigaeth, a gwyl. iadwriaeth ar amddifFynfeydd gwybodaeth a rhinwedd, yn ei gwaith yn gwylied dros ei bachgen yn y crud. Bydded idd ddyfod allan gyda gofal ac egni wrth alwad ei gwlad, nidfel Boadicea yn ei cherbyd, ond fel mam Washington, yn teimlo mai y wers gyntaf i bob llywodraethwr yn y dechreu ddylai fod, sut i yfyddhau. Y diwydrwyddagy bydd hi yn ei arfer wrth barotoi ei plant i fod yn ddeiliaid da i lywodraeth gyfiawn, yw gwir fesur ei gwladgarwch. Tra y mae yn ymdrechu i dywallt ysbryd pur a nefolaidd i'r calonau sydd yn ymagor o'i chylch, nid yw yn gwybod llai nad yw wedi ei phenodi i godi un a fydd mewn amser dyfodol yn lywodydd, i lywio ei chenedl, neu yn weinidog yn nheml Jehofa. Ond bydd uchelgais mwy ardderchog yn ysbrydoli y fam gristionogol, sef parotoi "cyd. ddinasyddion a'r saint mewn gogoniant." Dylai pob gobaith arall fod yn ail beth, pob rhagoriaethau ereill gael eu cyfrif yn bethaoi damweiniol a darfodedig. Er mwyn ei galluogi i gyflawnu gwaith mor gyssegredig, mae y Nefoedd wedi rhoddi. blaenoriaeth a gallu iddi; ac, er mwyn iddi ddeall natur yr enaid yr ordeiniwyd hi i'w gyflwyno, caniafciiodd iddi hi gael bod y gyntaf i edrych i mewn iddo, fel i flodeuyn yn ymagor, newydd ddyfod o'r llaw a'i Huniodd. Nid yw mawredd ei swydd yn caniatau iddi roddi neb yn ci lie. Iddi hi y perthyna Uafurio nos a dydd, gydas: amynedd a gobaith gorfoleddus. Iddi hi y perthyn arwain y serch- iadau yn mlaen mewn hyfrydwch bywiog, a chynnorthwyo ei huchel dremiadau tua'r nef. Iddi hi y perthyn maethu tynerwch cydwybod, ac i drefnu ei chlorian fel na fyddo iddi wyro yn nghanol temtasiynau bywyd anmhrofiadol. Iddi hi y perthyn sicrhau yr egwyddor, fel y byddo iddi gadw ei phurdeb, o dan y cwmwl ac yn y mor." A thra y mae yn Uafurio dros Dduw, felly y mae yn Uafurio dros ei gwlad,

CYNNADLEDD Y CRYDDION.