Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

HANES DYNION ENWOG.

News
Cite
Share

pob mantais a ddelai yn ei ffordd, ac heb olhvng dim amser i'w golli, a sicrhaodd feddiant diogel o hollamddiffynfaoedd y Piedmont mewn yspaid pythefnos o amser. Pa fodd bynag, ni bu Nelson ddim yn fyr o'i siomi yn rhai o'i am- canion y pryd hwn. Yr oedd chwech o longau wedi hwylio tuag at fyned i osod gwarchae ar Mantua; ac yiitan, trwv gynnorthwy y Cadben Cockburn, a ymosododd arnynt, ac a'u cymmerodd bob un. Yn rhai o'r llestri hyn cJtodd rai or darluniau (maps) a'r cyfarwyddiadau ag oedd llywodraeth Ffrainc wedi en hanfon at wasanaeth Bona- parte. Er i'r golled uchod lesteirio gwarchaead Mantua, etto, o herwydd hwyrfrydigrwydd y galluoedd cynuhreiriol 1 gydweithredu a Lloegr i wneutiiur y defuydd goreu o'r fantais, canfu Bonaparte tod hon yn adeg gyfleus i oresgyn yr Eidal, ac heb ofalu am ammodau nac iawnderau, aeth rhagddo yn ddioed, a chymmerodd feddiant o Leghorn. Pan ganfa Lloegr fod y parthau hyny yn dewis go. gwyddo at Ffraine, a bod Yspaen r un pryd yn ymgyng- hreirio a'r wlad hono, barnwyd yn well gadael Corsica, a chyfeirio y rhyfel yn erbyn Yspaen, sef er airiddiffyniad Portugal. Felly Nelson a ymbarotodd i adael Mor v Ca- noldir, a dychwelyd tua Gibraltar, at y Llyngesydd Syr John Jervis. Ond yn ngheg y cul-for uehod, cyfarfu a llyn ges yr Yspaeniaid ond diangodd o'u gafael, a chyr- haeddodd at y Llyngesydd yn Cape St. Vincent, ar y ISng o Chwefror, 1797, mewn pryd i roddi iddo ddesgrifiad o'r llynges Yspaenaidd a chyn machlud haul y dydd hwnw, rhoddwyd rhvbydd allan i barotoi i'r frwydr yn ddioed ac erbyn boreu dranoeth, yr oedd y gelynion yn y golwg. Y llynges Frytanaidd ydoedd gynnwysedig o ddwy long, yn dwyn cant o ynau bob un, dwy yn dwyn deunaw a phed- war ugain, dwy yn dwyn deg a phedwar ugain, 8 o rai pedwar ar ddeg a thriugain, ac un yn dwyn pedwar a thri- ugain, yn nghyd a 4 o ysgafn-Iongau (frigates), a 1wy o rai llai-i gyd yn 21 o lestri. Y llynues Yspaenaidd yd- oedd yn gynnwysedig o un long chwech ugain ac un ar bumtheg o ynau, 6 o rai yn dwyn cant a deuddeg bob un, 2 o rai pedwar ugain a phedwar, 18 o rai yn dwyn pedwar ar ddeg a thriugain, a 10 ysgatn-longau-y ewhl yn 37 o lestri; felly yr oedd y ddwy Ivnges yn annghvfartal iawn i'w gilvdd. Yn awr, ar y boreu crybwylledig, cyn cael o'r Yspaeniaid amser i osod eu llestri mewn trefn reolaidd i frwydr, aeth Syr J. Jervis a'i lestr drwy eu canol, ac felly didolodd naw o'u llongau oddiwrth y lleill. A'r rhai hyn a wnaethant ymgais i wneyd yr un modd a'r llynges Seisonig; olld methasant oil ond nn fyned trwodd; a'r lleill a driniwyd mor ddrwg, fel y ffoisant ymaith, ac ni welwyd hwynt drachefn hyd onid oedd y frwydr drosodd. Erbyn hyn, yr oedd v Llyngesydd Jervis a'r llynges Ys- paenaidd oil ger ei fron, yr hon oedd etto yn llawer uwch- law i'r eiddo ef mewn rhifedi a grym a'r dull a osodai efe i lawr i frwydro a hwynt ydoedd, bod i'r llestri Brytanaidd danio arnynt ar gylch. Yr oedd Nelson y pryd hwn ar fwrdd y Hong a elwid Cadben, yr hon oedd yn sefyll yn nghwr 61 y llynges, ac felly, o ran cvlchdro, i ddyfod yn mlaen yn olaf i yinosod ar y gelynion. Ond wrth iddo ganfod yr Yspaeniaid felpe buasent am ysgoi yr ymosod- iad, efe yn ddioed a benderfynodd weithrpdu yn wahanol i drefn y Llyngesydd, gan ddwyn ei long yn rrilaen i wneu- thur yinosodiad uniongyrchol ar y gelynion; ac felly yn ddiattreg wele efe mewn ymryson a saith o'u llestri mwyaf. Yn ebrwydd daeth y cadben Trowbridge, yn y llong Cullo- den, i'w gynnorthwyo a'r ddwy long hyn eu hunain afyn- tumiasant yr ymdrech am tua awr, pan y daeth un o'r llestri ereill rhyngddynt a'u gwrthwynebwyr, fel y cawsant ychydig ddyspaid. Yn y cyfamser, yr oedd y Cadben Coliingwood yn ymollwng yn ddiarbed ar ddwy o longau mwyaf y gelynion, tra ar yr un pryd yr oedd tair ereill "Wedi ymosod ar long Nelson yn ffyrnig iawn, nes iddynt ei diosg o bob rhaff a hwyl a feddai; ac felly nid oedd yn ngallu Nelson wneuthur dim ychwaneg o wasanaeth yn y eefyllfa hono. Eithr gan fod dwy neu dair o longau yr Yspaeniaid yn awr wedi dyfod yn bur agos, efe a bender- fynodd anturio ar fwrdd un o honynt, ac a roddes orchym- yn i'r perwyl. Y cadben Berry oedd y cyntaf a neidiodd i fwrdd y gelynion, a dilynwyd ef gan filwr yn perthyn i'r 69 gatrawd ac yn nesaf Nelson ei hun. ac wedi hyny gan amryw ereill cyn gynted ag y gellid. Yr oedd y swyddog- ion Yspaenaidd wedi cau eu hunain yn y caban, ac yn saethu at y Saeson trwy y ffenestri; ond torwyd y drysan, a'r swyddogion a ddaethant yn mlaen i gyfarfod Nelson, gaii- gyflwyiio iddo eu cleddvfau ac felly yr oedd y llong erbyn hyn yn meddiant y Saeson yn gwbl. Nid oedd Nelson yn foddlawn ar hyn; ondbarnodd y gellid gwneuthur yr un moiid k Hong Yspaenaidd arall oedd yn yr ymyl, ar fwrdd yr hon yr oedd y Llyngesydd ei bun felly, ar ol gosod gwylwyr i gadw merldiant o'r 1 lestr a gymmerasid eisoes, yn ddiattreg dringodd i fwrdd llong y Llyngesydd, eadben yr hon yn ebrwydd a roddes iddo ei gleddyf fel arwydd o ymostyngiad, gan fJ negu ar yr un pryd fod y Llyngesydd Yspaenaidd islaw, yn mron marw o'i archollion. Yn ddioed gelwid yr boll swyddog- ion gerbron Nelson, ilr liwn yn ddinacad y rhoddai pob un ei gleddyf, y naill ar ol y Hall; a Nelson a'u rhoddai i ofal Wm. Fearney, un o'i hen ddwylaw ar fwrdd yr Agamem- non, yr hwn yn ddigon digyffro a'u cymmerai oil dan ei gesail, fel cynnifero brici. u crinion Yn awr, yr oedd y frwydr drosodd lladdesid 24 o ddynion perthynol i long Nelson, a chlwyfasid 56, yr hyn ydoedd fwy n4 phedwaredd ran colled yr hot! lynges Frj' tanaidd gyda'u gilydd. Ni chawsai efe ei hun ond ych- ydig friwiau ysgeifn. Yr oedd gan yr Yspaeniaid o 18 i 20 o lestri heb fod nemawr gwaeth, heblaw y rhai a ffoi. sant yn y boreu, ag oedd y pryd hwn yn dychwelyd yn ol. Ond "ei llyngesydd, ar ol ymgynghori a'i is^swyddogion, a farnai nad oedd o ddyben yn y byd brwydro dim yn ych- y waneg. Gwedi myned o'r frwydr drosodd, aeth Nelson ar fwrdd llong y Llyngesydd Syr John Jervis, yr hwn a'i derbyn- iodd yn anwylaidd iawn, gan ei gofleidio yn ei freichiau, a chyfaddefei anallu i fynegu y diolicbgarwch a deimlai iddo am ei wasanaeth ar yr achlysur. Cyn i'r newyddion gyr. haedd Lloegr, yr oelld Nelson wedi cael ei wneuthur yn Is-lyngesydd (Rear-admiral) ac fel cydnabyddiaeth o'i orchestion yn y frwydr uchod, etholwyd ef i Raddoliaeth Anrhydeddus Caerbaddon (Order of the Bath), ac anfonid iddo fathodyn aur oddiwrth y Brenin, yn nghyd a breinol. iaeth dinas Llundain mewn blwch o aur! Y Llyngesydd Jervis hefyd a'i cymhellodd i gadw iddo ei hun gleddyf yr Is4yngesydd Yspaenaidd, a ennillasai yn y frwydr; a Nelson a'i gwnaeth yn anrheg i aer a bwrdeiswyr Nor- wich, fel cof-arwydd anrhydeddus i'w gadw yno, o her- wydd mai hono oedd prif-ddinas y sir y ganesid ef ynddi. Ond o'r holl gyfarchiadau anrhydeddus a gyflwynid iddo y pryd hwn, nid oedd un mor hyfryd i'w deimladau a'r un isod oddiwrth ei oedranus dad:— '« Yr wyfyn diolch i Dduw o eigion fy enaid am y dru- garedd a wnaeth efe k mi, drwy eich cadw chwi yn fyw cyhyd. Mae nid yn unig fy nghydnabod yn y lie hwn, eithr hefyd y trigolion yn gyffredinol, yn dyfod i'm cy- farfod o bob parth a'r fath gyfarchiadar. anrhydeddus, fel yr ydwvf yn gorfod ymguddio o'u golwg. Y rylryw ydyw uchder yr enwogrwydd i'r hwn yr ydych wedi eich derchafu, o herwydd eich callineb a'ch gwrolder, trwy nawdd Rhagluniaeth, fel na chafodd ond ychydig fe.bion y fraint o gyrhaeddyd y fath, a llai na hyny o dadau eu eadw yn fyw i weled y cyffelyb. Dagrau o lawenydd a dreiglasant i lawr ar hyd fy ngruddiau rhychiog pwy a allai ymgynnal yn ngwyneb y fath gyfarchiadau ? Mae enw a gwasanaeth Nelson wedi adseinio drwy holl ddinas Caerbaddon-o fonglerwyr yr heol hyd ddadgeiniaidy chwareudy." fna y mae yr hen wr yn gorphen ei gyfarchiad) drwy sylwi fod maes anrhydedd etto yn ago red o fiaen ei fab i fyned rhagddo, ac yn olaf yn ei orchymyn i fer.dith yr Arglwydd. Ar ol brwydr hyglod St. Vincent, Syr Horatio Nelson a dderehafai ei fanier Is-lyngesyddol ar fwrdd y llong Thesus, dwylaw yr hon a fuasent yn euog o gjfranogi yn y gwrthgyfodiad (mutiny) diweddar a fuasai yn Lloegr,