Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

GWERTH MASGNACHOL YMENYN.

News
Cite
Share

GWERTH MASGNACHOL YMENYN. [Talfyriad o araeth Mr. Thomas. Maggnachydd, o'r dref hon, gerbron Cymdeithas Amaethyddol Caerfyrddin.] FONEDDIGION,-CybeIled ag y mae yn wybodus i mi, nid yw y mater o fwyhau gwerth ymenyn mewn casgeni wedi tynu sylw cymdeithasau amaethyddol Deheudir Cymru hyd yn hyn. Arddengys hyn, naill ai nad yw y rhan hon o ffermwriaeth o werth mawr i'r wlad, neu ei bod wedi cyrhaedd y gradd hwnw o berffeithrwydd fel nad oes angen am ragor o ddiwygiad. Nid wyf yn cydweled ag un o'r golygiadau hyn. Yn sefyllfa bresenol amaethyddiaeth y wlad hon, y mae ymenyn yn un o'r nwyddau pwysicaf a gynnyrchir gan y ffermwr ac hyderwyf y byddaf alluog i ddangos hefyd, nad yw y modd y gwneir ymenyn wedi cyr- haedd y fath berffeithrwydd fel nad oes angen'cael diwyg- iad yn hyny. Y mater ag wyf i sylwi arno yw, Y mo4od i fwyhau gwerth masgnachol ymenyn mewn casgeni yn y wlad hon." Pan ddewisais y term gwerth masgnachol," Did oeddwn yn bwriadu sylwi ar gyssylltiadau fferyllawjt y cwestiwn, nac i ddweyd dim mewn perthyuas i'r modd i gynnyrchu ymenyn, a gorchwylion y llaethdy, ond ynunig sylwi ar ymenyn fel nwydd masgnachol. Fodd bynag, ar ail-ystyriaeth, tueddir fi i feddwl, nas gallwn wneyd cyf- iawnder a'r pwnc heb ddwyn hyny dan sylw hefyd, yn ol y wybodaeth ag wyf wedi gasglu ar y mater. Dywed un ys- grlfenydd)-" Ymenyn yw yr enw. a roddir ar y defnydd bras a seimlyd a geir o hufen wrth gorddi. Yn ystod y gweithrediad hwn, y mae y tymheredd yn mwyhau 4 gradd; llyncir y nwy surbair (oxygengas), a chynnyrchif surni yn y canlyniad." Y proffeswr Way a ddywed fod ymenyn yn cynnwys tri math o. ddefnyddiau, y rhai a feddant wahanol bwyntiau toddadwy, ac o ganlyniad mwy neu lai o wlybrwydd ar wahanol dymhereddau yr hyn a gyfrifa am galedrwydd gwahanol ymenyn, o herwydd gwa. haniaeth yn yr ymborth, neu bethau ereill eyssylltiedig a'i wneuthuriad. Yr oedd un neu ragor o'r defnyddiau hyn yn agored,drwy weithrediad yr awyr, i gyfnewid i gymmysg- ddefnydd arall, anhyfryd ei flas a'i sawyr; mewn gair, y mae yn agored i gyfnewidiadau braenedig fel defnyddiau anifeilaidd ereill." Dylid, ynte, fod yn dra gofalus gyda golwg ar dymheredd, glendid, a gwyntylliad, y llaethdy. Tymheredd oherwydd rhwyddheid y cyfnewidiadau a nod. wyd i raddau helaeth pan y byddai y tymheredd uwchlaw pwynt neillduol. Glendid o herwydd yr oedd pob peth a dueddai i ddadgyfansoddi mater anifeilaidd, yn cael yr un effaith ar y llaeth a'i gynnwysiad. Gwyntylliad mewn gwirionedd nid yw ond yr un peth a glendid, gan mai y weithred o lanhau yr awyr ydyw, yr hyn sydd anhebgorol er eadw y llaeth rhag suro. Er gwneyd hyn, byddai yn beth da fod glolosg (charcoal) newydd losgi yn cael ei gadw mewn basgedi yn y llaethdy, gan ei fod yn llyncu y def- nyddiau dadgyfansoddol o'r awyr. Ar dywydd twymn, byddai yn ddoethineb hefyd i gael dwfr mewn cistau yn y Ilaethdy, er cadw y tymheredd yn oer. Deuwn yn awr i sylw ar ymenyn ein sir ein hnnain, ae heb fod yn euog o hunan-glod gormodol, credwyf y gallaf ddweyd, ein bod yn alluog i gynnyrchu cystal ymenyn ag un sir arall yn y deyrnas. Ymddengys fod ein ymenyn gynt yn cael enw da, ond nid yw ei wneuthurwyr yn cadw i fyny a'r amseroedd,—a pha beth yw yr aclios o hyn? Pa fodd y saif ein cymmeriad yn nghyfrif dynion ereill t Nid pa fodd yr ydym yn sefyll yn ein cyfrif ein hunain yw y cwestiwn, ond pa beth a dybia ereill am danom ? Mewn ymddydilan a gymmerodd Ie ar y mater yn Arddangosfa Amaethyddol Llanelli, ar yr 20fed o fis Medi diweddaf, syhvai Mr. Buckley, fod ymenyn y wlad lion yn cael ei niweidio i raddau helaeth drwy y modd diffygiol oedd yn cael ei halltu a'i osod mewn casgeni. Yr oedd ymenyn Gwyddelig, drwy gael ei halltu a'i bacio yn rluigorach, yn fwy gwerthadwy. Nid felly yr ymenyn Cymreig, gan na chadwai fel yr helltid ac y pacid ef yn bresenol; ac er ei fod gystal, os nid yn well, nag ymenyn Gwyddelig, nid oedd cymmeriad da iddo oddicartref. Yr oedd yr arfer- iad o roddi ymenyn mewn hen gasgeni yn d ra ehyffred- in mewn rhai parthau o Gymru, y rhai oeddynt yn debyg o anafu yr ymenyn. Yr oedd arolygwyr ymenyn yn yr Iwerddon, a'r casgeni yn cael eu dosparthu yn ol cymmer- iad yr ymenyn." Mae y sylwadau hyn o eiddo Mr. Buck- ley yn deilwng o sylw; ac mewn ychwaneg-iad at yr hyn sydd wedi ei nodi, tybiwyf mai yr hyn a dueddai i godi cymmeriad ymenyn y wlad lion yw,—1. Rhagor o ofal wrth halltu. 2. Casgeni gwell. 3. Dospartliiad yn ol gwerth.—(I'w barhau.) -♦

[No title]

YR AFIECHYD AR WARTHEG.