Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

HANESION CYFFREDINOL.

News
Cite
Share

fynu cyflawnu y weithred ofnadwy sydd wedi cytnmeryd lie. Saethodd hi yn ei morddwyd, a bu farw yniuhen ych. ydig fynydau wedi derbyn yr ergyd angeuol. MRS. BEECHER STOWE.—Mae y foneddiges hon, aw. dures Caban F'Ewythr Twm, wedi talu ymweliad drachefn a r wlad hon. Dydd Sul cyn y diweddaf, aeth yn nghwm- ni Duces Sutherland, fel y nodir mewn man arail, i wran- daw Mr. Spurgeon, ynNgerddi Surrey. Yr oedd Mrs. Stowe yn bwriadu dychwelyd i America dydd Sadwrn diweddaf, ar fwrdd yr Europa. MR SPTJRIIEON.—Dydd Sulgwyn diweddaf, pregethodd Mr. Spurgeon yn Neuadd Gerddorol Gerddi Surrey, felar- fer; ac er fod y cerbydresi ar y rheilffyrdd yn orlawn o deithwyr i wahanol fanau ar y dydd hwnw, etto yr oedd tuag un fiL ar ddeg yn y Neuadd, a channoedd lawer yn yn y gerddi y tu allan, yn methu dyfod i mewn. Yn mhlith y gwrandawwyr yr oedd Duces Sutherland, y Fon- eddiges Truro, y Foneddiges Biantyre, Mrs Peel, Arglwvdd a'r Foneddiges Biantyre, Mrs. Beecher Stowe, Argl. Gros- venor, Argl. Bolton, Argl. Calthorpe, Argl. Shirley, Syr J. Paxton, Mr. Peel, y Llyngesydd W. Dundas, Mr. Massey, Mr. Donald Nicol, ac amryw o foneddigion a boneddiges- au ereill. SYMUDIAD ADDYSGIADOL NEWYDD.—-Y mae ei Uchel- der Breninol y Tywysog Albert wedi cydsynio i fod yn llywydd yn nghyfarfod cyntaf y symudiad addysgiadol newydd, yr hwn a gymmer le yn Llundain, ar y 221in o Fehefin. Cefnogir y symudiad hwn gan y Marquis o Lans- downe,Iarll Granville, Arglwydd Lytleton, Arglwydd Stan- ley, A. S., y Gwir anrhydeddus W. Cooper, A. S., Syr J. Shuttleworth, Syr T. Philips, Deoniaid Westminster a Salisbury, Archddiacon Sinclair, Mr. Edward Baines, a boneddigion tra hysbys am eu hymdrechiadau yn achos addysg. Cymmer y eyfarfod cyntaf le yn Willis's Room, dydd Llun, Mehefin 22ain a'r prif bwnca gymmerir o dan ystyriaeth fydd, Yr oed cynnar yn mha un y cymmerir plant y dosparthiadau gweithiol o'r ysgol. Y dydd caniyn- ol, dygir dan ystyiiaeth :—1. I chwilio i mewn i ffeithiau, achosion, ac effeithiau symudiad cynnar plant o'r ysgol. 2. Sefydlu ymchwiliadau cyffelyb yn mhertbynas i addysg mewn gwledydd tramor. 3. Ystyried y moddion neu v cynlluniau a gynnygiwyd i gadw plant y dosparthiadau gweithiol yn hwy yn yr ysgol. 4. Chwilio i mewn i deil- yngdod y cyfryw gynUuniau ereill ag a gynnygir i ystyr- iaeth y gynnadledd, ac yn neittduol y rhai hyny a adna. byddir fel cynlluniau banner amser. Gosodir adroddiadau y dosparthiadau hyn gerbron cyfarfod a gynnelir dydd Mercher, Mehefin 24ain, yr hwn hefyd a lywvddir gan y Tywysog Albert. Y PELLEBYR ATLANTAtDD.- Y mae y Niagara, Hong ryfel yr Unol Daleithiau, wedi cychwyn o Gravesend i Liverpool, i lwytho ei chyfran o'r rhaff bellebrol sydd i uno Lloegr a'r America, yn gynnwysedig o 1,500 o dunelli. Ae y mae yr Agamemnon, agerlong ryfel Lloegr, i gychwyn ar unwaith a hi o Liverpool, wedi ei llwytho a'r un swm. Ac wedi iddynt gyrhaedd i ganol yr Atlantic, dechreuant roddi y rhaff i lawr nolia y Niagara tua glenydd yr Ame- rica, a'r Agamemnon tua Lloegr. Y mae yr agerlong Cyclops i ddilynyr Agamemnon i'r dyben o fesur dyfnder y YMWELIAD YR UCH-DDUC CONSTANTINE AG Os- BORNE. Cyrhaeddodd ei Fawrhydi Amherodrol, yr Uch- Ddue Constantine, prif lywydd y Llynges Rwsiaidd, i Gas- tell Osborne, am banner awr wedi un dydd Sadwrn, Mai 30ain, ar ymweliad a'n Grasusaf Frenines. Gadawodd borthladd Cherbourgh ar doriad gwawr boreu dydd Sadwrn, yn y bleser-long Osborne, yr hon a lywyddid gan y Com- mander Bower. Cafodd fordaith gyflym a phleserus iawn dros y cyfyngfor. Pan gyrhaeddodd y llestr Osborne, yr oedd y Tywysog Albert, Tywysog Cymru, Due Caergrawnt, Count Cbreptowitch, ycenadwr Rwsiaidd, i dderbyn ei Fawr- hydi. Wedi iddodirio, arweiniwyd ef gan y Tywysog Albert i Gastell Osborne, lie yr oedd ein Grasusaf Frenines yn barod i'w roesawi. Yr oedd cyfran o'r 93fed gatrawd o'r Uchdirwyr wedi ymffurfio yn warchodfu iddo ar ei fynediad tua'r Castell, a'r cerddorion (lertbynol iddiyn chwareu alaw Rwsiaidd. Y gatrawd hon a roddodd y cilgwthiad enwog bwnw i'r meirch-filwyr Rwsiaidd ar faes Balaclava. Heblaw y personau a enwwyd, gwneid y cwmni a breswylient Gas- tell Osborne ar y pryd i fyny o'r Dduces o Cent, Arglwydd Clarendon, ei hen gyfailI Arglwydd Palmerston, &c. Ymad- awodd y Due boreu dydd Llun, gan gyfeirio yn yr Osborne tua phorthladd Calais, yn yr hwn le yr oedd cludres neillduol yn barod i'w gymmeryd i Hanover, lie y cyfarfyddid ag ef gan yr Ueh-dtluces. WHISKEY A STRYCHNINE-Mae gohebydd y Times yn New York, mewn llythyr a ysgrifenodd yn ddiweddar i'r newyddiadur hwnw, yn gwneyd yr adroddiad hynod a gan, lyn "Tra y mae y fwren yn anrheithio yn Ewrop, y mae ein hamaethwyr gorllewinol yn dyoddef oddiwrth af- iechyd yn mhlith y moch. yr hwn agynnyrchir gan y def- nyddiad o Strychnine yn ngwneuthuriad whiskey. Ym- ddengys fod y brag a adewir ar ol gwneuthuriad y whiskey yn cael ei roddi i'r moch. Ac y mae gwneuthurwyr whiskey yn arfer strychnine i'r dyben o dynu mwy o nerth o'r grawn. Y mae y dynion yn yfed y whiskey, ac yn byw ond y mae y moch yn bwyta y brag, ac yn marw Y mae y peth wedi dyfod mor bwysig, fel y bu raid i Senedd Talaeth Ohio basio deddf, yn gwneyd yr arferiad o ddefnyddio strychnine i wneyd wiskey yn drosedd CJspadwy gan y gyfraith." DAL DYN GWVLI,T YN MISSOURI.-Gohebydd yn y Republican, newyddiadur a gyhoeddir yn St. Louis, a rydd yr hanes hynod canlynol" Daliwyd dyn gwyllt yr wythnos ddiweddaf, a dygwyd ef i'r dref. Amgylchwyd ef tra yr ydoedd mewn math o lfiiU yn nghanol man.goed tew- ion, tebyg i drigta anifail gwyllt, ac yn llawn o esgyrn a chrwyn cathod, y rhai a yinddangosent fel yn cyfansoddi ei brif ymborth. Y mae ganddo awydd neiilduol at yr ymborth rhyfedd hwn, ac yn gwrthod pob math o ymborth arall o'r braidd. Helai gathod gydag awyddfryd a gyn- hyrtid gan or-wancusrwydd, ac wrth y gwaith o ddifa y creaduriaid hyn y canfyddwjd ef gyntaf. Gwnaed ymgeis- iadau mynych i'w ddal, ond yr oedd ei fywiogrwydd a'i fu- ander y fath, fel yr ymddangosai fel pe yn rhedeg ar hyd y gwrychoedd, ac na roddai y cloddiau un rhwystr iddo. O'r diwedd, amgylchwyd a sicrhawvd ef gan nifer fawr. Ymdiechodd ymladd, ond trechwyd ef. Pan ddygwyd ef i'r llysdy, yr oedd yr olwg arno yn dra hynod. Ei daldra ydoedd tua 5 troedfedd a banner ei wallt yn hir, o liw llwyd-goch, ac yn dra dyryslyd; ei lygaid yn fawrion, llwydion, ac ansefydlog ei ewinedd mor hirion agewinedd dywalgi; ei ymddangosiad yn hanner-ofnus, ac yn banner. bygythiol; ei wisg yn gynnwysedig o filoedd o ddarnau 0 frethyn, lhusgl coed, crwyn cathod, &c., wedi eu cylymu yn nghyd. Dywedai mai un o dalaeth New York ydoedd, a'i fod yn y coed er ys 30 mlynedd. Tra yr arholid ef, ac y gadewid ef i sefyll yn rhydd, rhoddodd naid yn ddisym- mwth dros benau y rhai oedd o'i amgylch, ac aeth ymaith gyda chyfiymdra y carw. Dilynwyd ef gan y dorf ond yn ofer. Rhedodd dros y bryniau o flaen dynion ar eu traed ac ar eu ceffylau, nes o'r diwedd y collwyd ef yn llwyr. Ni chlywyd dim yn ei gylch oddiar hyny. Y mae yn ddiau,' yn fod rhyfedd ac y mae yn llythyrenol yn ddyn gwyllt. Nis gall ei fod o'r braidd dros 40 mlwydd oed ond er hyny, y mae wedi byw cyhyd o gymdeithas dyn, fel y mae agos wedi colli ei iaith, a'r adgof mwyaf annhgywir am betbau. A FYDD I'R COMED DARAW Y DDAEAR ?—Mewn atebiad i lythyr oddiwrth Wr boneddig, dywed Mr. John Hartnup, o Arsyllfa Llynlleiftad, fel y canlyn yn nghylch y comed fawr a ddysgwylir i wneyd ei hvmddangosiad yn tuan Anwyl Svr,— Nid wyf, wedi canfod y darnau y cyfeinwch atynt yn y newyddiaduron, pa rai sydd wedi peru cymmaint o ddychryn i ddynion gwan-galon; ond gallaf sicrhau y cyfryw y gallant chwerthin yn ngwyneb y fath haeriadau disail a diddymiad ein ddaear ni drwy gyffyrddiad ag un o'r cyrff hvnod hyn. Ni ftyr seryddwyr ond ych. ydig am gyfansoddiad comedau, ond eu bod yn ymddangos yn nwyol. Ni fyddai yr effaith o gyffyrddiad corned â'n daear ni felly ddim yn amgen na chymmysgiad y mater nwyol a'n hawyr; a byddai yr effaith mor debyg o fod yn ddaionus ag yn ddrwg."