Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

HANESION CARTREFOL.

News
Cite
Share

HANESION CARTREFOL. GWOBRWYO TEILYNGDOD.— Bu y Parch. Lewis Evans, Liandiio, yn ymweled a rhai o eglwysi Mynwy y mis diweddaf, i gasglu at addold^ Bedyddwyr Crughywel, a chafodd gyrnheJljadtaer a gwresog gan eglwys Llatigynidr (ei hen gyleh esgobaethol) i dreulio Sabboth yn ei mysg. Cydsyniodd a'i chais, a mawr y boddhad a gafodd yr eglwys a'r gymmydogaeth with weled a gwrando Mr. Evans; ac fel teyrnged o gydnabyddiaeth iddo am hen tvasanaetb, darfu iddynt ei anrhegu a Dr. Rees's Ency- clopedia, llyfr tra gwerthfawr a diammeu fod eglwys Llangynidr, wrth gyfhvyno y llyfr i Mr. Evans, yn meddwl yn gryf i gael ei weled yn ol yn defnyddio ei tlalent yn eu mysg; ond fy nyrnuniadyw, gan fod eglwys Llandilo wedi prynu Mr. Evans yn wrr rhydd o'r caeth- iwed Rachelaidd, y bydd i'r eglwys hono fwynhau ei ddefnyddioldeb, ac y Ifurfir undeb ar seiliau cedyrn rhwng eglwys Llandilo a'i gweinidog, ag na byddo ond angeu a'i gwahano a bydded i'r Arglwydd goroni ei weinidogaeth a llwyddiant mawr, nes cael ugeiniau lawer i. gredu y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu. WYR I JACK DAFYDD RHYS. r FFORDD NEWYDD I DALLT DYLED ADDOLDAI.— Eglwys y Bedyddwyr sy'n ymgynnull yn Methania, Maes- teg, a benderfynodd yn ddiweddar ar gynllun i symud ymaith y ddyled arosol ar yr addoldy y cynilun oedd rhanu y ddyled yn rhanau cyfartal rhwng yr aelodau, a'u cyplysu yn ddau a dau, un o radd uwch gydag un o radd îs, fel y buasai yn fwy manteisiol iddynt eu talu. Yr oedd rhan pob un felly yn 13s. 6ch., rhwng pob dau yn 27s. Yn mhlith y cyfryw aelodau, mae hen bererin lied selog, fel y dywedir. Yr hyn mae yn ei ennill wrth ei orchwyl naturiol yw lis. yr wythnos; o hyny, mae gan- ddo wraig i ofalu am dani, 10s. o rent, a 4s. 6ch. am lo, idd eu talu bob mis. Felly, yr oedd yn anobeithiol iawn i gael 13s. 6ch. oddiwrtho ef tuag at dalu dyled y capei. Ond nid ein meddyliau ni oedd ei feddyliau ef. Os oedd yn anmhosibl braidd iddo allu eu talu o'i eunill, mynodd ei ffyddlondeb ryw ifordd i ddod o hyd iddynt. A dyma hi myned ar hyd y perthi i chwilio am fedw, a'u gweithio yn ysgubelli, a'u gwerthu am 2s. 6ch. y dwsin a thrwy fyned â'i wialen a'i linyn ar hyd glanau yr afon, i ddal pysgod, a'u gwerthu am 6ch. y pwys. Drwy hyn, nid yn unig casglodd ei ran, sef 13s. 6ch., ond 17s. mewn llai na saith wythnos o amser. 0, na welem y fath ben- detfyuiad yn meddiannu pob Cristion yn Ngliymru Gallein ddweyd yn galonog wedi hyny, gyda golwg ar ddyled ein tai cyrddau,-Beth wyt ti, y mynydd mawr, o flaen Sorobabel ein penderfyniad ? Maestey. EI FAB-YW-NGHYFRAITH. EBENEZER, ABERAFON.—Rai wythnosau yn ol, aw- grymwyd gan ein gweinidog, y Parch. Comelius Griffiths, y byddai anrhegu plant ein hysgol Sabbothol a the party yn debyg o gynyddu eu rhif, a sicrhau dyfodiad personau iddi yn fwy cysson. Yr awgrym hwn a gymmerwyd i fyny gyda llawer o unoliaeth a sel gan y chwiorydd a'r boneddigesau e.reill perthynol i'n cynnulleidfa. Pryd- nawn dydd Mawrth y Sulgwyn cyfarfuasom yn y capel; ac wedi myned am orynidaitii cyn belled a'r Taibach, eisteddodd tua thri chant a banner i lawr i gyfranogi o'r 18 a'r deisen ragorol oedd wedi eu parotoi yn rhad gan y boneddigesau caredig. Am saith o'r gloeh, cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus; ac wedi i'r Parch. Isaiah Davies gael ei neiilduo i'r gadair, ac iddo, trwy araeth ler 14 phwrpasol, agor y cyfarfod, galwodd ar Mr. John James, yr hwn oedd wedi cael ei neillduo gan yrysgol i gyflwyno i'n gweinidog y llyfrau canlynol yn anrhegam ei ymdrech gyda'r Ysgol Sabbothoi :—Esboniad Mathew Henry holl waith Andrew Fuller; a gwaith Benjamin Keach ar y Damavegion." Teilwng yw nodi i Mr. James fwy na llanw dysgwyliad pawb, a gobeithiwn yr arosa ei sylw- adau yn hir ar ein meddyliau. Yna Mr. Griffiths a gyd- lIabyddodd y rhodd gyda llawer o deimlad ac eflfaith; a dywedai nad oedd yn edrych gymmaint ar faint y rhodd, ag ar y teimlad caredig a ddangosid ynddi. Wedi hyny, galwwyd ar y personau canlynol i anerch y cyfarfod, yr hyn a wnaethant gyda llawer o ddyddordeb, sef y Meistr- iaid Henry Harris, Edward Hopkins, David Rees (All Tewdwr), William Grey, a William Morris; a'r Parch- edigion John Rowlands, Cwmafon; a J. R. Morgan, Llanelli. Ein cor hefyd a ganasant rai tonau dewisedig yn gymmysgedig a'r areithiau. Wedi i ddiolchgarwch y cyfarfod gael ei roddi i'r cadeirydd, a'r boneddigesau, am eu haelfrydedd yn parotoi y ti, ymadawsom; ac nid gormod yw dywedyd, nad ydym yn cofio bod yn bresenol erioed mewn gwell cyfarfod o'r un natur. Hir oes a gaffo ein hanwyl wcinidog i fod yn llafurus a llwyddjan- nus yn ein mysg. JOHN JONES. CYMMANFA YSGOLION SABBOTHOL. — Cynnaliwyd cymmanfa ysgolion ar ddydd Llun Sulgwyn diweddaf, yn Login. Yr oedd y boreu yn fwynaidd, a siriolai anian fel pe byddai yn awyddus ddysgwyl am weithrediadau y dydd. Am hanner awr wedi naw, ysgol Login a osodas- ant eu hunain yn drefnus ar yr esgynlawr a godwyd i'r perwyl yn y fynwent, ac a adroddasant y 12fed bennod &

SPURGEONIAETH. -' :'1