Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

TRAETHODAU.

News
Cite
Share

TRAETHODAU. EDWIN POWELL, NEU, Y R ARWR CYMREIG. GAN JOHN LL. JAMES (Clwydwenfro). PMNOD XII. Rhag gwenau rhagrithiol bob amser ymochel, Gwell sarff yn yr amlwg na gelyn yn ddirgel. Y BOREU canlynol i ddygwyddiadau y bennod ftaenorol, cyfododd Edwin gyda gwawriad y dydd, gadawodd ysta- fell ei nosol orweddle, ac aeth allan am rodianfa i'r maes- ydd cyfagos. Nid oes dim yn well gyferbyn a chael gwyneb gwridgoch, cyfansoddiad iachus, ac archwaeth dda at foreufwyd, nag ymrodio allan, i syllu ar yr haul- wen yn codi yn ei harddwch, i anadlu arogl falmaidd y cynran dyddiol, ac i yfed awyr adfywiol y boreu. Wedi bod allan am beth amser, fel yr oedd yn dychwelyd i'r t9, canfu hogyn byehan ar gefn corfarch yn brysio yn mlaen ato yr hwn, wedi dyfod i fyny ag ef, a dynodd Bodyn allan o'i logell, ac a'i hestynodd i'n harwr, yr hwn, wedi ei agor, a ddarllenai iddo ei hun, ac a redai fel y eanlyn Plasnewydd "DEAR EDWIN,-In case you have no previous engagement, will you come and dine with us to day without ceremony ? Mr., Miss Pritchard, and myself will be very happy to see you. Believe me, yours, &c. W. PRITCHARD." Wel, wel, (ebe Edwin, wedi ei ddarllen) nid oeddwn yn meddwl fy mod gymmaint yn sylw Williain-nid wyf yn gwybod am un rhwystr; ond rhaid i mi fyned i'r ty yn gyntaf, i gael gwybod a esgusodir fi." Yna efe a aeth i'r t £ ac wedi cael gafael yn Mrs. a Miss Morgan, ceis- iodd eu caniatad, ac wedi ei gael, ysgrifenodd nodyn ca- darnhaol, ac a'i rhoddes i'r dygiedydd. Yn ol ei addewid, yr oedd Edwin erbyn haner-dydd ar ei ffordd i'r Plasnewydd, yr hwn a gyrhaeddodd erbyn dau. Wedi cael o hono ei ddangos i mewn, derbyniwyd ef yn garedig gan William, yr hwn a ddangosai lawenydd nid bychan yn ei ddyfodiad, gan ddywedyd,—" Diolch yn fawri chi, Meistr Powell, am ddyfod drosodd da iawn genyf eich, gweled; 'rwyf yn teimlo yr hen le yma mor unigol wrthyf fy hun o ddydd i ddydd gobeithio y cewch eich hun yn gysurus yma." "Mae genyf finau (ebe Edwin) lawer o ddiolch i chwithau am yr anrhydedd hyn nid ystyriaf fy hun yn deilwng o'ch sylw chi, Meistr Pritchard." Nonsense, Edwin (oedd yr ateb), 'r wyf fi yn teimlo mwy o anrhydedd i mi gael eich cwmpeini o lawer. Pe buaswn I yn canlyn eich llwybrau chi yn Glasgow, buase yn llawer gwell i mi heddyw sut y liuoch cyhyd cyn dy- fod adref eleni ? Ond mae'n debyg i chi fod ynglaf, ond do fe ?" Wrth ddywedyd y geiriau hyn, syllai William yn ngwyneb Edwin gyda manyldra-trem o'r fath a wna dyn pan fyddo yn holi rhywbeth mewn awydd i wybod yr hyn fyddo yn ofni fod arall yn ei wybod. Ni ddarfu i'n harwr fynegu dim o'r gwir achos iddo, ond rhoddodd ei esgus; ac wrth edrych yn ol yn ei wyneb, gwridiodd William (fel y dywedir) yn goch hyd ei glustiau-gwrid a amlygai euogrwydd am rywbeth, ond ni ddarfu i'n har- wr sylwi llawer arno ar y pryd—euogrwydd am beth, caiff y darllenydd wybodaeth etto. Ar ol iddynt ymddyddan ychydig fel hyn, aethant i waered i'r ystafell giniaw, yr hon oedd wedi ei pharotoi, ac wrth y bwrdd eisteddai Mr. a Miss Pritchard, y rhai a roddasant roesaw caredig i Edwin. Yr oedd Mr. Owen Pritchard (tad William) oddeutu ei wythfed flwyddyn a deugain, wedi cael tyfiant uwch na'r cyffredin, o ffurfiad esgyrnog cryf, ond wedi ei deneubau yn fawr gan ofidiau diweddar; ymddangosai yn ddyn meddylgar, caredig, boneddigaidd, ac ychydig mwy gostyngedig na'i fab. Am Miss Henrietta, yr oedd hi yn ei du ar ol ei mam, yr hwn oedd wedi wisgo yn hwy na'r arferiad cyffredin yr oedd hi oddeutu un ar hugain oed, o ffurf fain denau, ond etto yn hynod luniaidd, mwynaidd, a swynol ei hed- rychiad. Yr oedd ei hedrychiad hytrach yn sobr, prudd- aidd, a meddylgar; ei thueddiadau yn grefyddol, a'i holl fywyd yn gwbl wahanol i lwybrau ei brawd nid rhyw handy-dandy delicate young lady, y rhai sydd mor lluosog y dyddiau presenol yn ein gwlad-yn gofalu mwy am eu hedrychiad teg, eu hymddyddanion mwynaidd, a'u moes- au manwl a diwerth, na dim arall. Yr oedd Henrietta yn hynod gyfeillgar pan gyfarfyddai a pberson in teilwng o'i hyrnddyddanion; ae er nad oedd yn feddiannol ar ryw dlysineb naws-wyllt a darawai ddyn nes ei ddifedd- ianriu o hono ei hun ar yr edrychiad cyntaf, etto, yr oedd rhywbeth ynddi a ennillai galon pob un a gyleillachaiâ hi, nes ei wresogi o radd i radd, a dyfod ag ef yn ftawn serch tuag .ati. Arni hi yn awr yr oedd prif ofal y teulu, oddiar pan fit farw ei mam a chyflawnai ei swydd gyda'r gofal mwyaf -ei phrif ymdrech aedd gwneuthur pawb yn gysurus a diofid. Wedi ciniaw, aeth Mr. Pritchard allan i roddi tro tua'r maesydd ac ymesgusododd William ei fod dan angen- rheidrwydd i fod ymaith o gwmpeini y gwahoddedig am yspaid awr, dan amgylchiad an-cheladwy; felly cafodd Edwin a Henrietta eu gadael wrthynt eu hunain am y cyfryw yspaid. Dywed rhai i William wneyd hyn o bwr- pas ond gan nad beth am hyny: wedi canfod ei sefyllfa, nid oedd gan Edwin ddim i'w wneuthur ond gwneyd ei oreu i ddifyru ei gyfeilles. Yr oedd hi ar y cyntaf ychydig yn wylaidd, ond tynwyd hi yn fuan i ymddy- ddanfa fywiog, nes treulio o honyntyr awr heibioyn ddiar- wybod. Achosodd y gyfeillach hon gryn serch i gyfodi rhwng y ddau; a phan oedd ein harwr yn ymadael, taflai Henrietta lygad hiraethlawn ar ei ol. Wrth hebrwng Edwin, perswadiai William ef fod ei chwaer mewn cariad ag ef; a dywedai hefyd na fyddai dim yn fwy hoff ganddo na gweled eu huniad ac wedi iddo ddychwelyd, per- swadiai ei chwaer mai Edwin oedd mewn cariad a hi; yr hyn a berodd i Henrietta wridio, ond gwrid hawddgar ydoedd. Ymddangosai William fel pe yn wirioneddol chwen- nych hyn, ond yr oedd digon o reswm paham ;—yr oedd efe yn eiddigeddus o Edwin, rhag ei fod yn caru Elen, yr hon a chwennychai gael iddo ei hun. Gan nad pa gyhyd yr arosodd ymddyddanion W. Pritchard ar feddwl Edwin, a chan nad faint a derfysgasant ar ei deimladau, gwnaeth dau fis a banner o awyr iachus Bron Dewi effaith cryf ar ei gyfansoddiad er gwell. Yr oedd boreuau hyfryd Gor- phenaf yn cludo awelon iacbus draws ei rodianoedd llais bywiog yr ehedydd uwcbben yn peru i waed ei galon serdded a churo drwy amrywiol ddosranau ei gorff gyda llondra; adsain llais y gweirwyr yn hogi eu pladuriau yn y weirglawdd gyfagos, yn gymmysg a'u huchel-siarad a'u chwerthiniadau iachus, a gyfodai ei ysbryd isel i'w uchder