Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

TY YR ARGLWYDDI.

News
Cite
Share

TY YR ARGLWYDDI. Mas 28.—Is-Iarll Dundas a ddymunai gynnyg gofyniad i Esgob Llundain, mewn perthynas i'r cyfarfodydd crefyddol ag oeddynt wedi cael eu cynnal yn Neuadd Exeter, gan esgobion ac offeiriaid perthynol i'r Eglwys SefydIedig. Yr oedd ef yn sier fod y cyfryw arferiad yn hollol groes i farn amryw o aelod- au yr Eglwys; a chan nad oedd y Neuadd wedi ei neillduo at wasanaeth crefyddol, dymunai ef gael gwybod pa un a oedd y gweithrediadau hyn yn cael eu cario yn mlaen dan ei gymmer- adwyaeth ef fel esgob.—Mewn atebiad, dywedai Esgob Llan- dain fod cyfarfod o'r natur a nodwyd wedi cael ei gynnal prydnawn dydd Sul diweddaf, a bwriedid parhau i'w cynnal. Yr oedd y cyfarfodydd hyn nid yn unig yn gyfreithlawn, ond yn wir angenrheidio). Yr oedd miloedd o bobl yn awr yn preswylio yn Llundain nad oeddynt byth yn myned i un Ile 0 addoliad, ac amcan y cyfarfodydd hyn ydoedd gwneyd rhyw ddarpariaeth ysbrydol ar gyfer y personau hyn. Yr oedd y cyfarfodydd a gynnelid yn Exeter Hall yn cael ei gefnogaeth a'i gymmeradwyaeth hollol ef fel esgob y dalaeth.-Dywedodd Arglwydd Kinnaird ei fod ef yn bresenol yn y cyfarfod. Nid oedd nifer y dyrfa ymgynnulledig ddim llai na 4,000 o berson- au, y rhai a ymddangosent fel pe yn mwyuhau mawr les o dan weinidogaeth Esgob Carlisle.—Wedi i Archesgob Caergaint amddiffyn yr ymddygiad, ynghyd ag amlygu ei gymmeradwy- aeth iddo, terfynodd yr ymddyddan yn ei gylch.-Darllen- wyd y mesur perthynol i werthiant gwenwyn yr ail waith. W edi ymdrin a rhai mesurau ereill, gohiriodd y Ty hyd ddydd Iau.

TY Y CYFFREDIN.

TY Y CYFFREDIN.

TY YR ARGLWYDDI.

TY Y CYFFREDIN.

[No title]

TY YR ARGLWVDDI.