Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
CONGL YR EFRYDYDD.
News
Cite
Share
CONGL YR EFRYDYDD. ATEBION. Atebiad i Ofyniad Catws Cotdy'r Undeb. f Yn Chwefror chwith er byred yw, Canfyddwyd pump dydd Mercher Un fil wyth cant a thri'gain Hawn, Paw etto yn ei wychder. Caerfyrddin. B. WILLIAMS. .53. Bydded hysbys i Dewi Dawel (er ei holl dawelwch), ei fod yn feius pan yn condemnio atebion IlL D. a D. E. i ofyniad G. R. Cipin Fawr. yn nghyd ag yn ei atebiad ei hun hefyd. Yr oedd atebion y ddau flaenat yn gywir, a'r diweddaf, pan yn eu collfarnu, a roes ateb- iad annghywir.—RHYWUN. Ateb i Ofyniad Dewi Ebrill. Ge!lir pwyso o'r pump darn canlynol un nifer o bwysau o un i gant, sef lib., 3lb., glb,, 27lb., a 811b.—IEUAN MAJ. Ateb i Ofyniad Gofynydd. Bydd ongl y ddwy law yn 75° ar ddau amser gwahanol rhwng wyth a naw, sef am hanner awr wedi wyth, ac am 2 fynyd 43 7-11 eiliad cyn naw. Hyd y mynyd law yw 3 18-100 modfedd.—W. T., Ystalyfera. GOFYNIAPAU, At loan Emlyn. Paham y geitw'r Saeson Drefhedyn, neu y rhan o Gastellnewydd Kmlyn sydd yn gorwedd ar du de yr afon Teifi, ac yn swydd Geredig- ion, yn Adpar? Pa beth yw ystyr yr enw, o ba le y deillia, a pha Vryd y dechreuwyd ei arfer'!—CEREDIGIONWK. 08. Carwn gael gwybod oddiwrth beth y cafodd Kilgerran yr enw presenol? a phwy a'i galwodd gyntaf ar yr edw uchod ?—TEWDWR.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
GENEDIGAETHAU,— Mai 29, priod Mr. William Rees, New Inn, Croesyceiliog, ar fab. Mai 29, Mrs. Ellis, priod Mr. R. Ellis, Gwlanenwr, Llanidloes, ar ferch. Meh. 3, Mrs. Mills, priod Mr. John Mills (Maldwynfab), Argraff- vdd, Llanidloes, ar ferch. Meh. 7, priod Mr. John Morgans (loan ab Gwilt/m), Gweydd Llandyfeiliog, ar ferch. Meh. 9, priod Mr. John Howells, o'r dref bon, ar fab. PRIODASAU,— Mai 27, yn Eglwys Llandudoch, gan y Parch. H. J. Vincent, Ficer rtle, Mr. Evan Lloyd, mab Tyllwyd-bach, a Miss Elizabeth James, y ddau o Llandudoch. Mai 30, yn Eglwys Cwmaman, gan y Parch. T. Thomas, periglor y lie, Mr. Jacob Jones, Fol, a Miss Margaret Thomas, Heol y tidau o'r lie ucliod. Peth hardd iawn ydoedd gweled Rhoi Jacob fwyn a Marged, Mewn glan briodas, gweddus syw, Mor liapus yw eu tynged.-T. M., Cwmaman. Meh. 7, yn Methlehem, Abertawy, gan y Parch. W. E. Jones, gweinidog y lie, Mr. A. Gray, â MissE. Thomas, y ddau o'r drefhon. Goreu yw Gray, gywir gred, o un dyn aeth i'r undeb, i Hiroes, fel teiroes da, Melusion i Elwa.—G. ARMON, Abertawy. MARWOLAETHAU,— Mai 25, wedi blynyddau 0 afiechyd dirboenus, Joshua Jones James, mab hynaf David James (Myrddinwyson), Llanelli, yn 25 oed. Yr oedd y trengedig o'i fabandod yn medddu ar synwyr gorfawr; mal, pe cawsai iechyd corfforol, y buasai erbyn hyn yn addurn i'w wlad ali genedl. Ll £ nyddiaeth a fu yn destun ei sylw manylgraff; a gwyddai cryn lawer mewn rhifyddeg, cerddoriaeth, a barddoiiiaeth. Duivin- yddiaeth oedd yn barchus ac yn anwyl ganddo hefyd. Ennillodd iddo ei hun serch a chariad cymmydogol, a syrthiodd i'w fedd a'i goron ar ei ben.—GALARYDD. Mai 1, Mr. Benjamin Davies, Towin, ger Aberteifi, yn 70 oed. Yr oedd yn aelod gyda'r Bedyddwyr yn Siloara, Ferwig; a bydd mewn cóf yn hir gan weinidogion yr enwad am y cartref .cysurus, a'r der- byniad croesawus oedd iddynt bob amser yn ei dy. lIhi 6, Mr. W. Lloyd, aelod,tawel a gostyngedig o eglwys Bethle- hem, Abertawy, yn 52 oed. Gadawodd bedair o ferched (beb fam) i alaru ar ei ol. Claddwyd ef y dydd Llun canlynol, yn y Twyn. Mai 39, yn 57 oed, y Parch. Thomas Pierce, gweinidog yr eglwys r Annibynol Gymreig yn nghapel Bethel, Bedford-st., Llynlleifiad. Mae enw Mr. Pierce fel bardd a lienor gwycb, pregethwr sylweddol a phoblogaidd, a gweinidog ffyddlawn a diwyd, yn adnabyddus trwy Gymru oil, er ys blynyddau lawer bellach. Bu yii gystuddiol a nych- lyd gan beswch a diffyg anadl dros y pedair blynedd diweddaf o'i fywyd. Gorfu iddo roddi ei weinidogaeth i fyny tua blwyddyn yn ol. Gadawodd ein cyfaill weddw a thri o blant i gydalaru a chydhiraethu ar ol y priod tirion a'r tad tyner; ae y mae cylch lluosog o frodyr a chyfeiilioti, yn Llynlleifiad a Cbymru, a gydgyfranogant & hwy yn yr .1i!1I teimladau.
1NEWYDDION Y PITHEMOS.
News
Cite
Share
1 NEWYDDION Y PITHEMOS. YCHYDIG 0 waith sydd wedi ei wneyd yn y Senedd y pythefnos diweddaf. Llyncwyd un wythnos i fyny braidd yn llwyr gan ddifyrwch. Rhaid oedd cadw gwyliau y Sulgwyn, a gwyl dydd genedigaeth ei Mawrhydi; a gwedd. us hefyd oedd myned i redegfeydd ceffylau Epsom Syndod fod dynion dysgedig a gwybodus yn cael eu denu gan y fath arferion gwael a ffol. Holl athronyddiaeth y rhedegfeydd yw, gweled pen un ceffyl 0 flaen y llall! Mae Argl. Palmer. ston wedi hysbysu ei tod yn bwriadu dwyn ysgrif i mewn er penderfynu y dreth eglwys ac os boddlona ei ysgrif y rhai a achwynant o'r herwydd, colla Syr J. Trelawney yr anrhydedd o ryddau yr Ymneillduwyr o'r gorthrwm hwn ond ni fydd ein rhwymedigaeth yn llai i'r Barwn anrhyd- eddus er hyny. Nid ydym heb ein hofnau gyda golwg ar fes- ur y Llywodraetn fodd bynag, mae yn sicr na foddlonir y wlad yn awr heb gael diddymiad llwyr a diammodol. Mae Mr. Berkeley wedi enwi diwrnod pany bydd iddo efddwyny Tugel gerbron y Ty. Nid yw y Prif-weinidog wedi dweyd gair etto ar y pwnc hwn. Mae cael y Tugel o'r pwys mwyaf; a dylai y wlad anfou deisebion i'r Senedd, i wasgu ar y gweinidogion yr angenrheidrwydd o'i basio yn ddioed. Mae y llywodraeth o'r diwedd wedi penderfynu ymaflyd yn nghyfarwyddwyr twyllodrus y British Bank, a'u dwyn i brawf. Mae dau neu dri eisoes mewn dalfa; a bernir y byddant oil yn ngharehar cyn pen nemawr 0 ddyddiau. Bydd i brawf y dynion hyn greu cryn ddyddordeb drwy y deyrnas. Bu cyfarfodydd lluosog yn Neuadd Exeter wythnos cyn y diweddaf, er pleidio achos Dirwest a'r Maine Law. Prif lVreithydd y cyfarfodydd hyn oedd yr Anrhyd. Neil Dow, o America, dechreuydd Cyfraith Maine, yr hwn sydd ne- wydd dalu ymweliad â'r deyrnas hon.—Mae parotoadau mawrion yn cael eu dwyn yn mlaen yn Llundain yn awr, gyferbyn a'r Handel Festival fawr sydd i fod yn mhatas gwydr Sydenham yr wythnos -nesaf. Bydd y festival hoa y gyfryw na chlybuwydam ei batli or blaen yn holl oesau y byd. Cynnwysa y cydgan dros ddwy fil o leisiau, a thros bum cant 0 cliwareuwyr gwahanol offerynau cerdd. Mae o-rgan anferthol ei maint—y fwyaf yn y byd-wedi ei hadeiladu yn y palas erbyn yr achlysur. Mae Belgium a Ffrainc mewn cyffro gwleidiadol-y flaehaf o herwydd yradrech yr offeiriaid i adfeddiannu en gallu a'u hawdurdod, a'r olaf 0 herwydd yr etholiadau. Darfu i'r Brenin osod terfyn ar y cythrwfl yn Belgium, drwy dori i fyny y Senedd. Fodd bynag, ofnir y bydd i swyddogion diflino Rhufain ail-ymaflyd etto yn eu gwaith; a chan fod ganddynt fwyrif yn y Seoedd, na fyddant ya llonydd hyd nes y cynhyrfaut y bobl i dori allan mewn gwrthryfel, yr hwn a siga ben y sarff, ac a sierha i'r Belgiaid y rhyddid crefyddol hwnw a wir deilyngant. Mae ei Uchelder Due Constantine, y Muscofiad sarug, c^rmrychiolydd Rwsia Santaidd." gyda'i holl ragfamau a'i'barbareiddiwch, wedi talu ymweliad a Brenines Prydaia Favvr, ac wedi cael derbyniad groesawgar. Braidd y gellir dweyd iddo yinweled a Lloegr oil, gan nad arasodd yma ond prin 48 o oriau. Yr oedd cryn wahaniaeth rhwng byrdra ei ymweliad a Phrydain a'r amser hir a dreuliodd yn Ffrainc; a dechreua dynion ofyn, pa beth oedd yr achos 0 hyn ?—pa un ai diffyg parch, neu ddiffyg ymddiried yn mhobl tloegr, oedd yr achos ? Os rhyw ofnau felly a Jywyddai fudiad ei Ucbelder, rhaid i. ni ddweyd ei fod yn camgymmeryd cymmeriadpobl Prydaia yn fawr. Mae yn wir, yn ystod y rhyfel diweddar, nad oedd un dyn yn Rwsia a ddymunai pobl y wlad hon ei orchfvgu yn f«y na'i Uchelder ond gyda therfyniad y rhyfel, terfynodd gelyniaeth pobl Lloegr'tuag ato a phe ymwelai a Llundain, nid oes ammheuseth ynom na dderbynid ef yn gyfeillgar a charuaidd. Nid oes un peth o bwys wedi dygwydd yn ddiweddar yn Canton. Dywedir fod Yeh mewn cyfyngder o eisiau arian,