Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

[No title]

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y mae rhai awduron yn defnyddio B leddf wrth esgyn y raddfa uchod o D leiaf, ac y mae ereill yn cadw yr C Ion wrth ddisgyn. Ni fabwysiadir yr amrywiaethau ereill yn gyffredinol, canys nid cystal y tarawant i amcanion cyng- hanedd, ac y maent yn Ilawer mwy is-raddol gyda golwg ar felodiaeth. Pan y byddo y nodau ag sydd yn gwneuthur i fyny y raddfa fwyaf neu leiaf yn cael eu hystyried yn gyffredinol, ac heb unrhyw gyfeiriad at un drefn neu olyniaeth neill- duol o honynt, gelwir hwy, gyda'u gilydd, yn gywair, a gelwir gwreiddyn y raddfa yn gyweirnod. Cynnwysa y daflen ganlynol lofnodau yr uwch a'r is- gyweiriau, ac y mae pob uwch ac is-gywair ag sydd a'r un llofnod iddynt wedi eu dosparthu gyda'u gilydd cyweiriau ag sydd yn perthyn felly, a elwir yn berthynolion. TAFLEN. Yn y daflen uchod, nid yw y cyweiriau a nodir a seren yn cael eu defnyddio nemawr fyth fel prif gywair dernyn, er y gellir eu dwyn i mewn i gyd yn nghorff y dernyn hwnw. Gan hyny, gwelir fod saith ar hugain o gyweiriau mewn arferiad cyffredinol. Modd bynag, nid yw rhai o'r cyweiriau yma ond plygion o gyweiriau ereill, gan eu bod yn cynwys yr un olyniaeth cywir o seiniau, er y gelwir hwynt ar enwau gwahanol; megys, er enghraifft, cyweiriau cft a DL-L, neu F# a G4: dywedir am y fath gyweiriau eu bod yn perthyn yn oseiniol i'w gilydd. Wrth sylwi yn fanwl ar y daflen uchod, nyui a ganfydd- wn- 1. Mai y lion gyntaf bob amser yw F#, mai'r ail, bob amser, yw C#l mai y trydydd, bob amser, yw Gtj:. &c.; ac nad yw yr ail lonnod byth yn dygwydd yn y llofnod heb y cyntaf, na'r trydydd heb y cyntaf a'r ail, &c. 2. Mai trefit y llonnodau yn ddieithriad yw F#, C#, G:ij:, Djfe, Ajt, E;, Bjfe, &c., yn myned yn mlaen wrth y pummedau pan yn codi i fyny. 3. Mai cyweirnod, neu ddnnod, yr holl gyweiriau rnwy. nf gyda llonnodau, bob amser, yw y nodyn ag sydd yn se- fyll hanner ton uwchlaw y lion nod diweddaf yn y llofnod er enghraifft, os yw y llofnod yn cynnwys pedair llonnod, yna, yn ol y rheol flaenorol, y llonnod diweddaf yw D#. o ganlyniad y eyweirnod yw E. 4. Fod tonnod neu gyweiruod yr holl gyweiriau lleiaf gyda llonnodau yn sefyll, bob amser, don gyfan islaw y llonnod diweddaf yn y llofnod fel hyn, gyda llofnod o bedwar llonnod, y llonnod diweddaf yw D+fcs o ganlyniad y cyweirnod yw C 5. Mai'r lleddfnod cyntaf, bob amser, yw BJj, mai yr ail, bob amser, yw EIJ-, mai y trydydd, bob amser, yw Ab, &c. ac nad yw yr ail leddt'nod byth yn dygwydd yn y llofnod heb y cyntaf, na'r trydydd heb y cyntaf a'r ail, &c. 6. Mai trefn y lleddfnodan, yn ddieithriad, ywBjjj Ell:, At, DI2., Gb:, Cfe, FI2., &c., ac y maent yn myned rhag. ddynt drwy godi i fyny wrth y pedwarau. 7. Mai cyweirnod, neu donnod yr holl allweddau mwy of gyda lleddfnodau, bob amser, ydyw y lleddfnod diweddaf ond un yn y llofnod er enghraifft, os bydd y llofnod yn cynnwys pedwar lleddfnod, y lleddfnod diweddaf ond un, yn ol y rheol flaenorol, yw Afo; o ganlyniad At yw y cy- weirnod 8. Fod tonnod, neu gyweirnod, yr holl allweddau lleiaf gyda lleddfnodau yn sefyll dwy don gyfan uwchlaw y lleddfnod diweddaf; er enghraifft, gyda llofnod o bedwar lleddfnod, y lleddfnod diweddaf yw Db:, ac, o ganlyniad, y cyweirnod yw F. 9. Fod graddfa leiaf unrhyw nodyn yn cynnwys, bob amser, dri lleddfnod yn fwy, neu dri llonnod yn Ilai na graddfa fwyaf yr un cywair: fel hyn, y mae gan F fwyaf un lleddfnod, ac F leiaf bedwar lleddfnod; y mae gan D fwyaf ddau lonnod, a D leiaf un lleddfnod gan fod dau nodyn o'r raddfa fwyaf wedi cael eu hiselu gan nodau na. turiol, y rhai yn yr achos yma sydd yn ateb yr un dyben a lleddfnodall. Yn lie dywedyd y radd gyntaf, yr oil radd, &c., y mae gan ysgrifenwyr damcanol enw penodol ar bob nodyn yn y raddfa, fel y canlyn :— Gelwir y radd gyntaf yn donnod cyweirnod, neu wreiddyn. Gelwir yr ail radd yn uchdonnod. Gelwir y drydedd radd yn giifryngnod. Gelwir y bedwerydd radd yn is-lywnod. Gelwir y punamed gradd yn lywnod. Gelwir y chweehed gradd yn is-g&fryngnod, neu yu uch- lywnod. Gelwir y seithfed radd yn arweinnod, ac yn achlysurol yr ls-donol.

[No title]