Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

:::J."-"¡"';':'-.M,-"",",:""............--...…

News
Cite
Share

:J. "¡"M, MEIRION A'R GLANNAU. Bu'r Tribunlys Sirol ar ei gylch drwy'r sir yn gwrando apeliadau. Amaethwyr gan mwyaf oedd yn apelio, ond daeth nifer o wrthwynebwyr cydwybodul i'r Uys hefyd, yn enwedig o gymydog- aeth Dinas Mlawddwy. Ond dilyn y dyfarniadau lleol a wnaed fynychaf, ac yr oedd yn amlwg nad oedd y thai a ddywedant eu bod yn gwrthod o gydwybod yn ennill cydymdeimlad y Ilys. Eglwyswyr Dolgellau wedi rhoi rhybudd i'r Belgiaid oedd dan eu nodded i ymadael, ac y mae'r Ymneilltuwyr wedi penderfynu eu cynnal am fis o leiaf nesgweled beth ellir wneud. Gwrthododd yr Eglwyswyr ymuno a'r Ymneilltuwyr yn y gwaith graslon hwn ar y cychwyn. Cynhaliwyd Cyfarfod Dosbarth y Dyffryn yn Tal- sarnau, dydd Mercher diweddaf, o dan lywyddiaeth y Parch. William Evans, yn absenoldeb y llywydd y Parch. Robert Thomas. Cafwyd agoriad rhagorol gan Mr. John Davies, Glanymorfa, ar y testun, "Lie ffydd ym mywyd y Cristion." Ddolchwyd yn wresog iddo am ei anerchiad. Yn dilyn caed cyn- hadledd yr Ysgol Sul o dan lywyddiaeth Mr. Samuel Williams, Harlech. Dewiswyd Mr. Morris Jones, Cynfal, Abermaw, yn llywydd at y flwyddyn nesaf, ac ail-ddewiswyd Mr. Robert Griffith yn Ysgrifen- nydd. Yn Hendre Hall, yr Abermaw, y bu" The Fellow- ship of Reconciliation" yn lletya ac yn cynnal eu cyfarfodydd yn ystod eu arhosiad yn y dref. Y Parch. Theophilus Lewis, Llanbedr, a Mr. Ivor Jones, Harlech, fu yn ymweled a Christ Church, Abermaw, nos Fercher dros y Cyfarfod Misol. Cyfarfu gweinidogion yr Abermaw yr wythnos ddiweddaf yn Sunny Side, preswylfod y Parch. E. Afonwy Williams. Caed trafodaeth frwd ar beth ydyw Ysbrydoliaeth. Yn y ddadl rhanwyd y brodyr yn gyfartal, a buddiol a fuasai rhagor o'r 'illumina- tion y soniwyd cryn lawer am dano. Drwg oedd gan y cynulliad am absenoldeb y Parch. E. J. Parry, Epworth Villa, oherwydd gwaeledd. Diolchwyd yn wresog iawn i Mr. a Mrs. Afonwy Williams am eu croesaw siriol a charedig gan bawb o'r brodyr. Hysbyswyd fod gwahoddiad caredig wedi ei dderbyn gan y gweinidogion oddiwrth Mr. 'Griffith Griffith, Ty'nycoed, Dolgellau, i gynnal eu cyfarfod nesaf yno, ac oddiwrth Mrs. Morgan, Ballymacora, Aber- maw, y cyfarfod dilynol yn Ballymacora.

NODION 0 FON.

EGLWYSFACH.

,;_A,",""";¡";':'kJ!O:,"¡''''''"",-,"""'.",.BJ:::'::':::!f!:::J!,':…

GAIR YN EI BRYD.

Family Notices