Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Hide Articles List
12 articles on this Page
Llyfrau.
News
Cite
Share
Llyfrau. Y Parch. B. T. Salmon, Is-Oruchwyliwr y Llyfrau, a ganmolodd Berorydd y Plant" i sylw, gan annog yn daer i'w bwrcasu. Yn Sol-ffa ceir ef am is. 6c., yn yr HBen Nodiant as. 6c. Gwerthwyd 1,500 yn Sir Aberteifi. Hysbysodd fod' tair cyfrol rad yn ychwanegol i'w cael o'r Book Room, ond i'r eglwysi sydd a llyfrgelloedd ddanfon am dlanynt. Y Parch. Wm. Thomas, Maesteg, a gyflwynodd i sylw Bedwaredd Gyfrol Dr. Cynddylan Jones ar "Gysondeb y Ffydd." Ei phris yw 4s. 6c. Y mae yn fwy na'r cyfrolau bla)enorol. Y Parch. W. Jones, Aberdulais, a ddiangosodd werth" Crefydd y Teulu," o eiddo y Parch. Samuel E. Prytherch, a Hanes Ebenezer, Casnewydd, o waith Mr. Abraham Morris, F.R.H.S. Y cyntaf i'w gael am ychydig geiniogau, a'r llall am 2,g;. 6c. Y Parch. M. H. Jones, B.A., Ton, a hysbysodd fod llyfr newydd o Gyfres Cylchgronau Hanes y Cyfundeb, gwerth 2s. 6c., wedi ymddangos, a thaer anogodd i'w bwrcasu. Dr. Phillips, gydag arddeliad, a dystiolaethodd i werth cyfrol o eiddo y Parch. M. IH. Jones, B.A., a elwid yn Hyfforddiant i Athrawon." Pryner yr oil a darllener hwynt. Y Parch. J. M. Jones hefyd a hysbysodd' y gellid cael Rhaglen Dathlu Chwarter Canrif y Symudiad Ymosodol am 2-g.
Amrywion.
News
Cite
Share
Amrywion. Galwodd yr Ysgrifennydd sylw at y Gymdeithas Gyd-Genedlaethol Ysgrythyrol sydd wedi trefnu rhannau o'r Ysgrythyr i'w darllen yn ddyddiol, a'u bod i'w cael yn y ddwy iaith, ac addawodd ychwaneg o hysbysrwydd i unrhyw un a ddymunai ei gael. Darllenodd Mr. J. Davies, Caere Rd., Casnewydd, ei bapur ar ei destun dewisedig, sef "Üariad Brawd- ol," a chafwyd ganddo anerchiad gwresog iawn, ym. arferol, a llawn o arabeda a nawsi ysbrydol. Ar gynhygiad Mr. Jones, Skewen., ac eiliad Mr. Ceredig Evans, Y.H., diolchwyd iddo yn gynnes am ei bapur gwerthfawr, a gofynwyd iddo ei argraffu. Penodwyd Mr. W. G. Roberts, Maesteg, i ddarllen papur yn y Gymdeithasfa nesaf, a'i fod ef i ddewis ei destun. Diweddwyd trwy weddi gan Mr. Howells, Pencoed.
Cydymdeimlad.
News
Cite
Share
Cydymdeimlad. Pasiwyd i ddanfon llythyrau o gydymdeimlad a'r Parch. Rhystyd Davies, Brynaman, yn ei gystudd, a 'Dr. Thomas, Llandovery, mewn cystudd; a Dr. Dr. Dewi Jones yn wyneb marwolaeth ei briod ac a theulu y diweddar Mr. Thomas Thomas, Caerdydd, yn eu galar.
Hanes yr Acho,s.
News
Cite
Share
Hanes yr Acho,s. Rhoddwyd Hanes yr Achos o fewn y Cyfarfod Misol: (a) Yr Ystadegau, gan y Parch. D. E. Thomas, Treforris; (b) Y Wedd Ysbrydol, gan y Parch. Wm. Thomas, Maesteg. Y Parchn. R. J. Rees, M.A., a W. D. Rowlands, Caerfyrddin, a ddywedent ei fod yn drueni mawr fod y brodyr da hyn wedi myn'd i gytnaint trafferth i barotoi Ad'roddiad o Hanesi yr Achos, ac mor ychydig yno yn gwrando arnynt yn ei gyflwyno. Gofynent ai nid oedd modd cael yr adroddiad yma yn gynt yn yr eisteddiad yn y diyfodol? Y Parch. T. Powell, Cwmdar, a ddywedodd y dylai y cynrychiolwyr ymhob modd aros i fewn hyd ddiwedd1 yr eisteddiad. Y Parch. John Morgan a hysbysodd fod yn rhaid dilyn y Standing Orders, y rhai a newidir bob pum' mlynedd, ac fod y pum' mlynedd ar ben yn awr, a chynhygiodd1 eu bod yn sefyll uwchben y mater. Pasiwyd hyn, ac enwyd y Parchn. R. T. Rees, B. T. Jones, Ysg., John Morgan, T. M. Jones', a'r Llyw- ydd, yn bwyllgor i wneud y trefniadau Diolchwyd' yn gynnes i'r ddau frawd am eu had- roddiad.
Adroddiad y Pwyllgor Dirwestol.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Adroddiad y Pwyllgor Dirwestol. Cyflwynwyd hwn gan y Parch. John Morgan, Aberdar. Pasiwyd y penderfyniadau canlynol, a'u bod yn danfon copiau o honynt at y gwahanol ael- odau mewn awdurdod — (a) Nationalisation of the Liquor Traffic.—" That this Quarterly Association of the 'Calvinistic Meth- odists of South Wales deeply deplores the fact that the question of the Nationalisation of the Liquor Traffic has again been revived, and we are still of the conviction that such a procedure would be detri- mental to the social, moral, and religious welfare of the country." (b) Compensation Levy.—" The Association while rejoicing that several counties in South Wales have imposed the full Compensation Levy for the ex- tinction of superfluous licences, and deplores the action of the Glamorgan Compensation authority in only levying 10 per cent., and earnestly requests it to carry out the spirit of the 1904 Act by imposing in future the Maximum Levy." (c) The South Wales Association of the Calvin- istic Methodists desires to re-affirm the resolution already passed at its previous meeting at Twyncarno, Rhymney, in Oct., 1915, and to urge afresh on the Central Control Board Liquor Traffic the desira- bility and necessity of strengthening the restriction Regulations already in force in Wales so as to make Wales and Monmouth a unit for the entire prohibition of the Liquor Trade during the period of the war inasmuch as Wales would be ripe for such a measure. It also strongly requests that the Welsh Sunday Closing Act be extended to, Mon- mouthshire. Whilst the Association is grateful for the prohibition of canvassing in connexion with the Flagon Trade from the 17th inst., it nevertheless prays the Central Control Board! to abolish such trade altogether for the period of the -v.Fr, inasmuch as it is a grave menace to the family life, and a cause of increased drunkeness in the homes of the people.
Adroddiad Pwyllgor Archwilwyr.
News
Cite
Share
Adroddiad Pwyllgor Archwilwyr. Dygodd Mr. Wm. Williams, Pontygwaitli, dystiol- aeth i gywirdeb cyfrifon y Trysorydd, a phasiwyd derbyn yr adroddiad. Y Parch. Rhys Evans, Llanwrtyd, a wahoddodd y Gymdeithasfa nesaf i Llanwrtyd, i'w chynnal Mehefin 6, 7, a'r 8. Y cyfarfod cyntaf i gychwyn am 5.30 p.m. ddydd' Mawrth. Y Parch. W. D. Morris a gynhygiodd, a'r Dr. Dewi Jones a eiliodd, era bod yn derbyn y gwa- hodd'iad, a phasiwyd ef. Rhoddwyd croesaw y Gymdeithasfa. i'r Parchn. Williams, Llanfair P.G., a T. E. Jones, Dwyran, Yn herwydd ei gwerth, ac am fod Dr. Cynddylan Jones ac eraill yn foddlawn dwyn y draul, pasiwyd i argraffu mewn pamphledyn ysgrif o eiddo y Parch. T. Powell, Cwmdar, yn y Drysorfa' ddiweddaf.
Adroddiad Cyfarfod y Blaenoriaid.
News
Cite
Share
Adroddiad Cyfarfod y Blaenoriaid. Cyfiwynwyd hwn gan Mr. Thomas, Aberystwyth, yr Ysgrifennydd. Llywydd, Mr. H. W. Evans-, Y.H., Solfa. Arweiniwyd mewn gweddi gan Mr. T. Williams, Morriston. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cwrdd blaenorol. Etholwyd i fod ar y Pwyllgor Ariannol am y ddwy flynedd nesaf, sef un 0 bob C'.M.Gogledd, Aber- teifi, Henadur Dl. Thomas, Aberystwyth; De Aber- teifi, Mr. Ceredig Evans, Y.H., Aberteifi; Penfro, Mr. Ben. Powell Y.H., Penfro; Caerfyrddin, Mr. W. Eynon Llanelli; Gorllewin Morgannwg, Mr. Ll. D. Howell, Aberdulais; Dwyrain Morgannwg, Mr. W. Thomas Porth; 'Gorllewin Morgannwg (S.), Mr. D. E. Thomas, Gastellnedd; Dwyrain Morgannwg (S.), Mr. T. Maddocks, Ferndale; Mynwy, Mr. J. Dtavies, Casnewydd; Brycheiniog, Mr. D. Morgan, Ynys Mynach; Llundain, Dr. Phillips, Charing Cross. Coffhawyd am Mr. D. Edwards, Cwmdar, gan Mr. Wm. Thomas, Porth; am Mr. W. Thomas, Aberyst- wyth; gan Mr. Wm. Williams, Pontygwaith; am Mr. Thos. Thomas, Caerdydd, gan Mr. John. Davies, Ebenezer, Casnewydd; Hen. Richard Lewis, Pont- ypridd, gan Hen. S. N. Jones, a Mr. D. T. Davies, Rhondda. Yna canwyd, "Mar ddedwydd yw y rhai trwy ffydd," &c. Pasiwyd i anfon ein cydymdeimlad a theuluoedd y brodyr ymadawedig.
Coffad.
News
Cite
Share
Coffad. Coffhawyd am y diweddar Barch. John Owen, Burry Port, gan y Parch. D. E. Jones, B.A., Pem- brey, a Mr. D. Eynon, Llanelli. Am y Parch. Wm. Morgan, Garn, gan y Parch. R. J. Reesl, M.A., a Mr. W. Edwards, Penygarn. Am y Parch. D. Rees', Defynog, gan y Parchn. Thos. Hbwat, B.A., a Rhys Evans, Llanwrtyd. Soniwyd1 am lawer o rinwedd- au y brodyr ymadawedig ganddynt.
Diolch.
News
Cite
Share
Diolch. Trefnwyd i'r Llywydd! ddiolch ar ran y Gym- deithasfa i gyfeillion y lie am eu caredigrwydd. Terfynwyd gan y Llywydd.
Y MODDION CYHOEDDUS.
News
Cite
Share
Y MODDION CYHOEDDUS. Dydd Mercher.—Am 3, yng nghapel Ebenezer (A.), Parch. Philip Jones, Llandilo. Am 6, yn Libanus, Parchn. W. Jones Williams, Llanfair P.G., a W. E. Prytherch, Abertawe. Dydd lau.—Am 7, yn Libanusi, Parch. Walter Daniel, Hafod, Pontypridd. Am 10, Parchn. Phylip Jones, Llandilo, a Dr Cynddylan Jones. Am 2, Dr. Phillips, Tylorstown, a'r Parch. Rhys Evans. Llanwrtyd. Am 6, Parchn. Phylip Jones a Howell Harries Hughes, Lerpwl. Am 10, yn Ebenezer (A.), Parch-n. R. J. Rees, M.A., Aberystwyth, a H. Harries Hughesi. Am 2, Parchn. Daniel Davies, Pentre, a John M. Jones, Caerdydd. Am 6, Parchn. John Thickens, Llundain, a Dr. Williams, Casnewydd. Am 10, yn Bethlehem (S.), Parchn. D. L. Jenkins, Bargoed. Am 2, Parch. D. M. Rees, Tredegar. Am 6, Parch. W. Mendus, Hwlffordd. Yn y cylch pregethwyd gan y rhai canlynol: — ,No! Fawrth, Penuel, Caerau, Parch. 0. H. Jones, B.A., B.D., Llanilar; Nantyffyllon, Parchn. John Morgan, Aberdar, a Pumsiaint Jones Treharris; Moriah Pontrhydycyff, Parchn. Deri Morgan, Hop- kinstown, a J. O. Jones, Caerfyrddin; Mynydd. Cyn. ffig, Parch. Michael Williams, C'lfynydd; Bryn, Parchn. W. D. Rowlands, Caerfyrddin, a Lemuel Jones, Goppa. Nos Fercher, yn Tabor, Parchn. John Roberts, M.A., Caerdydd., a Rhys Morgan, Llanddewibrefi; Dinam, Nantymoel, Parch. D. H. Lloyd, Cwmystwyth; Tabernacl, Blaengarw, Parch. T. E. Roberts, M.A., Aberystwyth; Bethel, Pont- ycymmer, Parch. John Thickens, Llundlain.
NODION 0 LEYN.
News
Cite
Share
NODION 0 LEYN. Yn y Frawdlys Chwarterol gynhaliwyd yng Nghaemarfo-n dydd lau, apeliwyd vn erbyn dyfarn- iad Ynadon Pwllheli yn gwrthod adnewyddu trwydded y Sitar Inn, Pwllheli. Gan fod y drwydd- ed wedi ei gwrthod ar y tir nad oedd y ty wedi ei gadw yn briodol cyfyngid y tystiolaethau i'r pwynt hynny, a galwyd nifer fawr o dystion. Ar y diwedd daeth y Llys i'r penderfyndad i gadarnhau gwaith yr ynadon lleol, yr hyn a olyga gau y ty heb ad-daliad. Cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Ysgolion Sab- othol M.C. Dosbarth Pwllheli yn Fourcross-es nos Fawrth diweddaf, dan lywyddiaeth Mr. T. J. Griffith, Fourcrosses. Rhoddodd Mrs. Jones (Oeridw-en Peris) ar ei rhan ei hun a'i chyd-arholwyr adroddiad dyddorol ac a-ddysgiadol iawn ar yr Ar- holiad Safonol. Mynegwyd fod gwaith rhagorol wedi ei wneud yn y rhan hon yn ystod y flwyddyn aeth heibio a rhif yr ymgeiswyr wedi cynyddu, ac ansawdd y gwaith wedi gwella. Cafwyd awgrym- iadau gwerthfawr ar yr hyn ellid wneud eto i ym- gyrraedd at berffeithrwydd. Ar gynygiad Mr. Robert Parry, pasiwyd pl-eidlais o ddiolchgarwch cynnes i'r arholwyr am eu llafur cariad yn y gorchwyl hwn. Yn ddilynol cafwyd agoriad gwerthfawr i'r Maes Llafur yn Efengyl loan gan y Parch. W. Lewys Jones, Babell. M wynhawyd yr agoriad yn fawr, a diolchwyd iddo am ei agoriad dyddorol a gwresog ar gynygiad y Parch. J. Puleston Jones, M.A., a chefn- ogiad y Parch. Thomas Williams. CYFiLWYNIAD I MR. A MRS, O. ROBYNS- OWEN, PWLIJHELI. Gan fod Mr. a Mrs. O. Robyns-Olwen oherwydd eu hagosrwydd at gapel Bethel, Penrhos, wedi pender- fynu myned yn aelodau o'r eglwys yn y lie hwnnw, teimlai aelodau eglwys Salem, Pwllheli, awydd i gyflwyno rhywbeth iddynt fel amlygiad o'u parch tuag atynt, ac o werthfawrogiad o'u gwasana-eth am liaws mawr o flynyddo-edd. 11 Ni wnaed ymdrech at rywbeth mawr, ac ni ofynwyd am rodd gan neb—y cyfan wnaed oedd hysbysu yr eglwys ar nos Saboth y derbynid rhoddion gan unrhyw rai ddymunai gyf- rannu. Penderfynodd y pwyllgor mae Anerchiad oedd fwyaf cyfaddas, a threfnwyd gyda Mr. S. IMaurioe Jones, Caernarfon, i ddarparu anerchiad, yr hwn a gyflawnodd y gwaith yn rhagorol, ac a wnaeth anerchiad sydd yn addurn i unrhyw adeilad. Erbyn noson y cyflwyno hysbysodd y trysorydd (S-upt. Owen) fod mwy na digon o arian wedi dod i law, a phenderfynwyd cyflwyno illyfr Hymnau o'r rhwymiad gor-eu i Mrs. Robyns-Owen gyda'r arian gweddill. Gwnaed y cyflwyniad yn y seiat nos Wen- er diweddaf, pryd y llywyddwyd gan Mr. J. Evans Hughes, a chyflwynwyd y rhoddion gan Mr. J. G. Jones-hwy eu dau wedi eu dewis yn flaenoriaid yr un adeg a Mr. Robyns-Owen yn 1883. Cyfeiriodd y ddau at y gwasanaeth mawr a gyflawnodd Mr. a Mrs. Robyns-Owen a'r ddyled fawr yr oedd yr eglwys dani i Mr. Robyns-Owen am yr hyn a wnaeth ynddi ac iddi. Cydnabyddodd Mr. Robyns-Owen ar ei ran ef a'i briod, a rhoddodd ychydig o atgofion dyddor- ol am hanes yr achos a'r brodyr fu yn llafurio yn y He am dros ddeugain mlynedd. Un peth nodedig a fynegwyd oedd nad oes yn yr eglwys ar hyn o bryd (eglwys sydd yn rhifo agos i 500) ond wyth o aelod- au oedd yn aelodau pan dderbyn-iwyd Mr. a Mrs. Robyns-Owen. Siaradwyd yn ddilynol gan Mr. James Griffith-un o'r wyth hynny. Yr oedd y cyf- arfod drwyddo yn ddymunol iawn, a dangoswyd yn amlwg fod y cysylltiad rhwng Mr. a Mrs. Robyns- Owen yn un tyner ac annwyl iawn. We Ie gopi o'r Anerchiad Cyflwyn,edig i Mr. a Mrs. O. Robyns-Owen, Erw Wen, Pwllheli. Annwyl Mr. a Mrs. Robyns-Owen,— Ar eich symudiad i ymuno ag eglwys Bethel, Penrhos, dymunwn ddatgan ein gwerthfawrogiad o'ch llafur a'ch ffyddlondeb yn eglwys Salem, Pwll- heli Buoch eich dau o wasanaeth a chynorthwy mawr yn ein plith ar hyd yr holl flynyddoedd bron. er sef- ydl-iad yr eglwys. Cyflawnasoch eich rhan yn an- rhydeddus ymhob cylch o wasanaeth yn ein plith. Dewiswyd Mr. Robyns-Owen yn flaenor ym Mai, 1883, ac yn ysgrifennydd yr eglwys yn Chwefror, 3 11 1885, ac er y symudwyd ef gan y Cyfarfod Misol am gyfnod i gynorthwyo yn nygiad ymlaen y gwaith mewn eglwysi eraill, ni pharodd hynny i sel y naill na'r llall leihau ynghylch yr eglwys gartref, ond bu eich s-el a'ch brwdfrydedd ar lawer adeg yn foddion i roddi ysbrydiaeth ac yni newydd ynom ninnau. Diokhwn i'r Arglwydd am y gwaith mawr y cawsoch ei gynorthwy Ef i'w gyflawni yn ein plith, ond uwchlaw y cyfan diolchwn iddo Elf am yr ar- weiniad a roddodd i chwi ac am ei amddiffyniad drosoch fel y bu eich cymeriad pur a'ch bywyd un- iawn yn foddion bendith ysbrydol i'r rhai ddaeth i gyffyrddiad a chwi. Ein dymundad a'n gweddi ydyw ar i chwi gael prydnawnddydd tawel a dedwydd, ac ar i amddiffyn yr Arglwydd aros drosoch chwi a'r teulu fel y caffoch eto flynyddau lawer i weithio yn ei winllan Ef. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Arwyddwyd dros yr eglwys :— John G. Jones, John E. Hughes, W. Jones, James Griffith, Robert Murray, Hugh Prit- chard, John Rowlands, Robert Parry, R. Barker Jones, D. Caradog Evans, Blaenor- iaid. William Jones, Thomas Owen, aelod- au 9'r Pwyllgor. Mawrth, 1916.
Adroddiad Pwyllgor y Milwyr.
News
Cite
Share
Cafwyd gair gan yr Athro hynaws J. Young Evans fel un oedd wedi bod ymhlith y milwyr yn Aldershot am chwe' wythnos. Hysbysodd yr Ysgrifennydd fod yr un cyfeillion y wedi addaw codi adeilad yn Kinmel Park i'r holl enwadau, gwerth £2000.