Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

NODION CYMREIG.

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. Ar ol y daw Mr. Asquith yn ol 0"r Cyfandir y daw enwau'r Ddirprwyaeth ar Gol,egau a Phrifysg'ol Cymru. Ond y mae'r rbestr eis- ocs yn barod, ac enwau amryw oi'r aelodau yn ddigon hysbys mewn cylch neilltuol. +- Mae eglwys, fechan Suffolk Street, Birming- ham, wedi manteisio ar y prysurdeb mas- nachol prcsennol i dalu'r ddyled oedd yn aros ar y capel newydd. Llwyddwyd i'w chlirioi'n llwyr,—^320. Gresyn na buasai yr un ysbryd yn meddiannu llawer o'r eglwysi. A glywodd rhywun son am Mari Jones, y Gymraes fach 0 Bryncrug, a gerddodd yr holl ffordd i'r Bala i ymofyn Beibl gan Mr. Charles? Wei, y mae ei diarluni yn y Drych, a gair gan olygydd y Rhyl Journal yn tystio fod y darlun yn un cywir! Gobeithio na wel fy hen gyfaill Mr. Jenkins o Ddlinbychi mo'r darlun na'r sylw! "'+- "'+- .-+- Preg'etha y Parch. Richard Roberts, Llun- dain, mab y diweddar Biarcb. David Roberts, Rhiw, am hum Saboth yn y Church of the Pilgrim, Brooklyn, New York. Yr. oedd i ddechreu ar yi 12fed o Fawrth, ond, ni chyr- haeddodd y llong' yn ddigon buan, ac felly dechreuodd ar y igeg 0' Fawrth, ac aiff ym- laen hyd y trydydd Sul yn Ebrill. "'+-+ Un o'r arwyddion pruddaf yn hanes E'g- lwys Loegr yng Nghymru yw y dirywiad amlwg sy'n cymryd' lleyn;addysg a diwyll- iant y rhai sy'n myn'd i'r weinidogaeth. Eithriad erbyn hyn yw cael personiaid o'r hen brifysgolion. Daw y doreth 01 Lanbedr, ac eraill o golegau1 eglwysig Seisnig, ac yn rhestr ddiweddaf y rhai a, ordeiniodd ESigob Llanelwy nid oes yr un o raddedigion Prif- ysgol Cymru! "'+- Mae'r Parch. T. M. Charles wedi rhoddi i fyny ofalaeth canolfan, y Forward Movement yn y Memorial Hall, Caerdydd. Bu'n llafur- io yno am ddeuddeng mlynedd a hanner. Cyflwynwyd amryw anrhegion iddo ar ei ym- adawiad mewn cyfarfod cyhoeddus, y Parch. J. M. Jones yn y gadair, ac Arglwydd1 Tre- degar a, Syr Thomas Hughes ymhlith y siar- adwyr. Myned i Waverton, ger C'aier, y mae Mr. Charles. Pwnc mawr y dyfodol agos fydd, nid sut i gael arian, ond sut i gael dyn- ion at gario ym'laen y Symudiad Ymoisodol. 0 ran hynny dyna fydd y broblem ymhob man o ysgubo'r heol i ofalu am gerbyd y Brenin. Ym mhapurau dydd Iau ceir hanes dau deulu ym Mangor, un yn' byw yn 20, Wells Street, a'r Ilall yn Ingham Buildings^ Glan- adda, penteulu, y ddau yn cael eu herlyn o flafea ynadon y ddinas am greulondeb at eu plant. Ni chyhioeddwyd dlisgrifiado ddim mwy aflan mewni papur erioed, ao, ynghanol y cyfan yr oedd hanner dwsin o blant bach. Nid yn Llundain na Manchester yr oedd y budreddi a'r anfoesoldeb, ond yn nina,s Bangor, lie y mae esgob, deon, a glwysigor wedi bod yn efeng-ylu er ys canrifoedd, lie y nlae capelau dirif, a phob trefniadau ag y gall gwareiddiad elF darpar ar v/aith i geisio> codi' r tlawd o'r llwch. Eto, (lyrria'r hyn welir ac a glywir yn y dyddiau diw'eddarf hyn! Hanner Y'la dwsin 0 blant bach yn cael eu magu mewn pwll aflan, ac yn. ymgv:7iy:;gu a'r creaduriaid lseIaf ar ddaear Duw! Gerllaw y mae'r Hglwys Gadeiriol a'r cor a'r gynau gwynidn. I Ycbydig iawn yw rhif y gwir ddlarlithwyr. Mae y Parch. Wynn Williams, Llanystum- dwy, yn un o'r ycbydig. Mae ganddo. ddar- lith ragoroi ar ei daith i America. -+- -+- -+- Clywais fod rhywrai yn gwrthod tanysgrifio at rai o'r colegau diwinyddol am fod,yr efryd- wyr yn gwrthod myn'd allan i ymladd. A'r bob! hyn sydd newydd fod yn crochlefain am gael hawliau cydwybod gydag addysg a threth! "'+- -+- -+- Os yw Cwm Rhondda yn euog o ysbeilio Siir Gaer o'i Gweinidogion, penderfyna'r hen Sir beidio cysgu heb geisio dalu'r pwyth yn ol, canys dywedir foid Llanstephan wedi gwa- hodd y Parch. Dianiel Davies, Pentre, i'w bugeilio. O'r ymyl y cawsant ei gweinidog blaenorol, ac hyderant y llwyddant eto. Beth tybed fydd y canlyniad? -+- Gesyd Ynad Cyflogedig Pontypridd ei wyneb fel callestr yn erbyn y gwerthwyr llaeth gymysgant ddwfr ag ef, ac yn ei lys diwedd- af dirwyodd un i gan' punt a'r treuliau am y trosedd, ac ni chelodd ddim trwy ddywedyd mai ei amcan: oedd gyrru pobl or fath allan yn llwyr o'r fasnach. Mawr dda iddo am roddi ei droed i lawr. -+- "'+- Mater Cynhaliaetli y Weinidogaeth yw y mater mawr dan1 sylw yn y Sasiwn ym Maes- teg yr wythnos hon, ond oddieithr i rywun gyfryngu, neu i rywbeth ddigwydd, ni ddaw dim o bono. Elr i' r Uong gychwyn allan o borthladd Sasiwn Twyncarno mewn llawn hwyliau, mae lie i ofni na chyrhaedda ben ei mordaith, a rhaid i'r dioddefwyr barhau i ddi- oddef eto mor dawel ag y gallant. "'+- Chwe' mlynedd ar hugain yn gadeirydd Bwrdd y Gwarcheidwaid, a chwe' mlynedd a deugain yn warcheidwaid:! Dyma hanes Mr. J. T. Jones, Parciau, Criccieth, yn ei ber- thynas a bwrdd gwarcheidwlaid Pwllheli; ac nid yw y bennod wedi darfod. Egwyl gym- erwyd i roi dau ddarlun a hoho ei hun i'r hybarch henaduf,— un i'w grogi ar fur ystafell y igwarcheidwaid, a'r llall yn y Parciau. Gwr ymroddgar a gonest yw Mr. Jones, wedi rhoi oes i wasanaethu'r wlad1; a haedda y cyfan a. ddywedwyd am dano,-a llawer yn rbagor. -+- D'yma ddarlun Agnes Ei. Slack, is-lywyddes Cymdeithas Ddirwestol y Merched, 01 Rhymni ar y Saboith —- This morning I walked to the village of Rumney. Firom-II-30 to 12.30 I passed to and fro in the village. During the whole time a continuous stream of hundreds of men walked past me. Several taxis full of men passed us and returned empty a few minutes later. Over 150 men stood wedged closely together by two public- houses. and eagerly pushed their way in as soon as the doors opened. For a quarter of an hour the stream of men continued, all going in one direction. Not more than a dozen men passed us going to Cardiff. It was Wales' husbands, fathers, and brothers streaming towards England's licensed bars in Monmouthshire. Soon after 2 o'clock the 'march' home began. It was a sad sight, crowds of men, not so many of them drung, but numbers of them in a maudlin condition, and none of them looking as fit as they were a couple of hours earlier. Respectable women and girls are obliged to avoid being on this publlic, highway on Sunday afternoons. It would be an enormous gain for the homes, child- ren, arid. best interests, not only of Cardiff and all the towns and villages of Glamorganshire bordering on Monmouthshire, but also of all the vast. industrial areas in Monmouthshire, if Sun- day closing could be extended by the Board of Control to Monmouthshire, for, truly, "the sight to do ill deeds makes ill deeds done." Newyddion da ehcda yng nghymydogaetb ,0, Merthyr yn y dyddiau hyn. Un newydd da iawn yw y dywedir fed gwaith Cyfarthfa sydd wedi sefyll am lawer o flynyddoedd i gael ei ail-gycbwyn. Profa hyn yn godiad pen i lu o'r ardalwyr. Newydd gwerthfawr arall yw yr adroddiad fod yfed yn lleihai yn y dr.e'. Diolch am belydryn, bychan ynghanol cngon o dywyllwch. -+- -+- "'+- Dywedir fed yna lawer 01 bethau cyffelyb rhwng Prifweinidog, Awstralia sydd. yn awr ar ymweliad a'r wlad hon a Mr. Lloyd George, ac un o'r pethau hyn yw hoffter y ddau i ddifynnu ymadroddion a chymhariaethau o'r Ysgrythyrau. Prawf yw hyn 01 nodwedd magwraethi y ddau, ac enghraifft fyw o'r ffaith fed cyfarwydd-deb a chynnwys y Beibl yn talu'r ffordd mewn mwy nag un ystyr. -+- -+- Ie, gorcbwyl hawdd yw pasio penderfyn- iadau mewn Cyfarfod Misol a. Sasiwn, ond pwy rydd wrandawiad iddynt? Dyddorol fyddai casglu1 y penderfyniadau marw hyn at eu gilydd. Gwnaent gyfrol os nad gyIrolau trwchus. Penderfynodd Cyfarfod Misol Gor- Hewin Morgannwg ddanfon at yr holl Eglwysi a fewn ei gylch i geisia ganddynt roddi bonus ar y Sul i'r pregethwyr. A all rhywun fynegi pa nifer ufuddhaoddl Ceisiodd offeiriaid a, gweinidoigion tref bwysig yn y Dehleudir ganiatad i ymddangos o flaen y Cyngolr Trefol yr wythnos ddiwedd- af, er cael cydymddiddan ar fater y Saboth, ond barn y Maer oedd fod gan y Cyngor am- genach ^gwaitb i'w wneud. Wrth ddatgan ei syniad am reolau dynnwyd allan gan awdur- dodau y Llywodraeth, cymharai yr un gwr hwy i reolau ellid eu gwneuthur gan asynod. Ie, Maer y Drp'! Eglur y dengys dyn o ba radd y bo-'i wreiddyn. Wrth ymdrin a mater Cynhialiaetb y Wein- idogaeth yng Nghyfarfod Misol, Dwyrain Morgannwg, nid oedd weledigaeth eglur am y modd, ond cytunai pawb ar yr egwyddor, ac ar yr egwyddor y buwyd yn siarad. Yn y diwedd gofynodd y Parch. Phillip Gelly ai nid oedd yn boisibl bellach cael rhywbeth heblaw egwyddor—nad oedd honno yn hulio bwrdd neb, nac yn ei ddilladu. Ie, ffordd rhad iawn yw cefnogi'r egwyddor. Hysbysa y Parch. Edward Roberts, ysgrif- ennydd y Genhadaeth Americanaidd, fed y cenhadlwr Mr. Lewis Evans a'i briod wedi cyrraedd yn iach a diogel i Calcutta, Rhag. 9fed, 1915. Cafodd bob rhwyddineb i fyned heb orfod aros am long fel yr of nid yn Hong Kong, China. Daeth Miss Davies i'w cyfar- fod i Calcutta; ac wedi treulio agos i wythnos- yna i bwrcasu pethau ar gyfer y gwaith, cychwynasant am y maes. Yr oedd y cen- hadon oil mewn iechiyd da ar y pryd. Teim- lai Mr. a Mrs. Evans yn iach a chalonnog. Cefais lawn cystal mantais a neb o'r tu allan i weled sefyllfa pethau yn y Fyddin, a dywedaf yn ddibetrus hollolmai ynfydrwydd yw son fod diwygiad crefyddol i fod yn un o gynh yrchion y Rhyfel. Yma ac acw ceir ycbydig yn codi i ryw ystad o, frwdfrydedd, a gelwir hynny weithiau yn "ddiwygiad." Ond yn F'frainc y mae pethau1 yn wahanol iawn i'r pictiwr osodir o'n blaen gan rhai dynion. Llawer gwell fyddai edrych ffeithiau yn eu gwyneb. Nid oes neb wyr. yn well na'n ( bechgyn goreu faint a gollodd Cymru wrth i weinidogian yr efengyl droi yn recruiting sergeants" yn lie cadw at eu gwaith eu hunain.