Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

------___-."---"---_'--_'_----_----_-----_.._-._,.--NODION…

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. Mae prinder athrawon drwy'r wlad, a gor- fodir yr awdurd'odau i gymryd merched yn lie dynion, ac mewn llawer lie rhaid boddIoni ar rai is-raddol ac anghymwys iawn. Tua diwedd y mis hwn bydd tysteb Mr. Owen Owen, M.A., Caerdydd, yn cau. Deall- af fod eisoes, o chwech i saith gant o bunnau wedi ei gyfrannu ati, ond ychydig- yw rhif y tanysgrifwyr. -+- -+- Mr. Ervan-Jones, B.A., B.Sc. (Llundain), a ddewlswyd yn brifathro ysgol ganol Llanfair- calereiniion. Am flynyddoedd bu yn is-athro yn ysgol Machynlleth, ac enillodd barch y dref am ei weithgarwch gyda phob achos da. -+- -+- -+- Mae adroddiad y Pwyllgor ar reoldddiad y fasnach feddwol yng Nghymru wedi ei bara- toi, a'r tebyg yw y gwelir cwtogiad mawr ar ryddid y tafarndai yn fuan. Nid ar y pwyll- gor y bydd y bai os na wneir hynny. -+- -+- -+- Mewn dwy flynedd mae eglwys y M.C., Rhosddu, Wrecsam, wedi cynhyddu 60, yr hyn sydd yn dangos fod y Parch. J. T; Jones, B.A., B.D., yn llwyddo. Ac y mae yn yr ad- roddiad lawer o broftbn eraill i'r un cyfeiriad. Mae mwy 0 fabanod yn marw 0' ddiffyg ymgeledd bob blwyddyn yn Sir Gaerfyrddin nag a laddwyd er dechreu'r rhyfel gan Zep- pelins. Ie, ond nid yw y ffaith yna yn apelio at ddychymyg neb, nac yn creu dicter sanct- aidd yng nghalon neb Mae'r Parch. T. E. Davies, Treorci, wedi argraffu ei Wersi Eisbooiadol ar yr Ail Epistol at y Corinthiaid yn Ilyfr destlus ac er cymaint ysgrifenwyd ar y maes yma, dywedir fod y Lladmerydd" yn cadw'r blaen. Mae llawer yn hoffi cael yr esbeniadau ar wahan, a gellir cael y llyfr oddiwrth yr awdwr am is. 3c. 00 Fedi, 1914, hyd Rhagfyr, 1915, talwyd £3,487 14s. 5c. yn gyflogau i'r Dirprwywyr Eglwysig sydd yn g'ofalu am igyllid yr Eglwys pan y dadgysylltir hi. Yr oedd holl gostau y dirprwywyr yn ^4,435 7s. 8c. Mae yr Eg- lwyswyr yn cwyno; ond dylent gofio nad yw hyn ond tua'r un faint a chyflog un esgob. -4-- Dywedir fod mwy 0 efrydwyr yn rnynd o Fbrgannwg i Goleg- Cenedlaethol Aberyst- wyth nag o holl Siroedd y Gogledd gyda'u gilydd, a gofynnir paham a Choleg Caerdydd yn bod, Ai tybed nad yw'r ateb i'w gael vn ystad fwy Gymreigaidd awyrgylch y dref a thraddodiadau crefyddol cysegredig y Coleg. Onibai am Drysorfa'r Gweinidogion, "medd- ai y Parch. T. "'E. Roberts, M.A., Aberyst- wyth, fe fyddai yn rhaid i lawer gweddw i vreinidog ddiweddu ei hoes yn y tloty. Profa hyn. werthfawredd g'wasanaeth y Gymdeithas. Yn wyneb hyn y mae yn bechadurus fod cynifer 01 weinidoigioo ieuainc yn gallu bod mor ddifater o honi, ac war esgeulus i ymuno a hi. -+- Os am enghraifft o'r hyn all yr eglwys ei wneud pan yn un a, chytun a'u gilydd, oeir ef yn Abertawe yr wythnos ddiweddaf. Blinid pawb gan y ffaith fod yn y fwrdeisdref yn agos i bedwar cant a hanniero, siopau yn a gored ar y Sul, ac nid ymyrai yr afwdurdodau yn y mesur lleiaf a hwy. Ond 01 hyn allan, mewn canlyniad i apel unol yr Eglv/ys, oeir cyfnewid- iad er g*well. Gellir yn awr gosbi'r prynwr yn ogystal a'r gwerthwr. Dywed y Glorian (Blaenau Ffestiniog), "Nid yw y Parch. Joseph Jenkins wedi cael galwad fel yr hysbyswyd mewn rhai papur- au, ond y mae ar ei law ef a gymer yr alwad o Llanymddyfri ai peidib. Gobeithiwn y gwel ei ffordd yn iglir i aros gfydia ni." -+- -+- Bu Mr. Haydn Jones, A. S., yn annerch cyfarfod o amaethwyr yn Llanbedr, ac yn egluro- cwestiynau 0 bwys ynglyn a'r rhyfel. Treuliwyd amser dyddorol a buddiol a chaed llawer o oleuni ar bynciau dyrus. Pwy oedd yn holi ymha le yr oeddl Mr. Haydn Jones 1 Mae efe bob amser wrth law pan y bydd galw am ei wasanaeth. Dywedir fod cylchg'rawn Cymraeg anen- wadol i ddyfüd allan yn fuan. Ei enw yw Y Deyrnas." Diau fod yr amcan yn un rhagor- ol, ond barn pawb wyr rywbeth am hanes mewnol gwasig Cymru ydyw fod y papurau a'r misolion yn lladd eu gilydd. Drwy fwyta'r hyn gynhiliwyd flynyddoedd yn ol y mae am- ryw o'r cylchtgromau crefyddol yn byw, ac y maecrogbris papur yn debyg o ladd amryw yn fuan. -+- Y Parch. R. J. Rees, M.A., addewiswyd yn gadeirydd llywodraethwyr ysgiol sir Aberyst- wyth, am y flwyddyn hon. Wrthi gymryd y gad'air, dywedai mai dyma y, tro cyntaf iddo wneud hynny yn y byd. Ar un olwg mae hynny yn rhyfedd, oblegid mae Mr. Rees, yn ddeheuig" a phrofiado,l. Ond wrth gofio g-ynifer o wyr rhaig'orol sydd yn Aberystwyth, nid yw mor syn. Prinder cadeiriau sydd yno fel mewn llawer tref arall y gwyddom am danynt, ac nid prinder dynion i "w llanw. Gwr sy'n gwe-ithio, yn igyson, a distaw yw y Parch. R. W. Jones, Aberangell. Er ys amser bellach mae'n cyhoeddi Pulpud Maldwyn, yn cynnwys crynhodeb o bethau pwysicaf pob Cyfarfod Misol. Mae'r rhifyn dîiweddaf yn rhoi crynhodeb o bregethau tri Chyfarfod Misol, a phregethgyflawn y Parch. R. Davies, B.A., Tref eglwys, gyda darlun. Dywedodd gwr ddylai wybod' y dydd o'r blaen' fod dos- barth gweddol luosog yn y wlad eto sydd yn cael mwy o, flas ar ddarllen pregeth nag ar bapur newydd. Mae llwyddiant anturia,eth Mr. Jones yn brawf 01 hynny. Aeth y Parch. J. Puleston Jones, M.A., i'r tribunlys ym Mhwllheli dydd Sadwrn diwedd- af, a rhoddodd dystiolaeth ymhlaid gonest- rwydd amcan rhai o'r bedhgyn oedd yn gwrth- wynebu ymuno a'r fyddin ar dir cydwybodol. Pan oed'd yn myned i eistedd wedi gorffen ei dystiolaeth, gofynodd un o'r aelodau iddo, Faint sydd er ys pan ydych yn eu hadnabod, Mr. Jones ? A dyma yr atebiad1 ar amrant^ iad-" Er dechreu y miri yma, pan o-edd pobl a chydwybod ganddynt yn dod i adnabod eu gilydd." Nid yn fuan yr anghofir y g-ymerad- wyaeth fyddarol ddlilynodd1. Naw 01 aelodau sy'n ffurfio'r Comisiwn a benodwyd i edrych i mewn i drefhiadau Prif- ysgol Cymru a'r Colegau Cymreig. Arglwydd Haldane yw'r cadeirydd, a'r aelodau eraill ydynt Proffesor Bragg, yr Anrhyd. W. N. Bruce, Syr O. M. Edwards, Dr. Hadow, Mr. A. D. Hall, Syr Henry Jones, Syr William Osier, a Miss Penrose, gyda Mr. A. H. Kidd o'r Swyddfa Adldysg yn ysgrifennydd. Am- hosibl cael dirprwyaetb gyflawnach, yn cyn- rychioli pob agwedd ar addysg, gyda dau Gymro ag y mae gan, y wlad bob ymddiried ynddynt. Ond dylasai fod rhywun yn cyn- rychioli1 addysg ddiwinyddol ar adeg pan y mae arhbliadau B.D. Cymru yn' cael cymaint o sylw? Gadawyd allan yr enwau canlynol 01 adrodd- iad Cymdeithasfa Maesteg. Oedfa Bregethu —Mercher—Trinity, Nantyffylion, Parch. T. Bowen, Caerdydd, a'r Parch. C. J. Lewis, Barri. -+- -+- -+- Yn wyneb fod y rhan fwyaf o eglwysi y Symudiad Ymosodol yng Ng'haerdydd wedi methu cael dau pen y llinvn ynghyd y flwyddyn ddiweddaf, ac felly yn cael eu llesteirio yn eu gwaith gan 61-ddlyled, y mae Mr. Radcliffe ar ol ymgynghoriad a'r Arolygydd wedi addaw talu hanner diffyg y flwyddyn ar yr amod fod yr eglwsyi yn talu yr hanner arall o fewn tri mis. Bydd yr eglwysi yn sicr o g-ymryd y cyn- hyg'iad i fyny gyda brwdfrydedd. Golyga hyn rodd o ddeu cant o bunnoedd. Nid dyma y rhodd gyntaf 01 lawer 0' eiddo Mr. Radcliffe i'r Symudiad daionus bwn, nac ychwait'h i Gyfundeb y Methodistiaid mewn llawer ffordd. Gobeithio, y caiff fyw yn hir i wneud daioni. Faint o'ch darllenwyr wyr am enw y Parch. J. Llewelyn Hughoes Dichon nad oedd yn adnabyddus i lawer 0 wyr mwyaf blaenllaw Cymru. Gweinidog ar eglwys fechan. ydoedd, yn gweithib'n dawel ac yn d'diwyd, ac yn dar- par llyfrau bychain o ran maint ond rhagorol o ran cynnwys. Mae pump 01 honynt gennyf, —Elfennau Gramadeg,' Gramad,eg, y Lienor,' Geiriadur yr Ysgol Sul,' "Enwogion Cymru,' a 'Capel Clement a'r Cylch.' A dyna waith oes wedi eilgryinboi i'r llyfrau bach cynhwysfawr yna. Brodür 01 Fon ydoedd, ond nid Methodist, ac ni chanwyd ei glodydd yno. Ond bydd ei enw yn byw yn hir ym mwthynod Cymru. Canmolwyd mwy arno mewn awr ddydd ei angladd nag a wnaed yn ystod oes o dros bedwar-ugain-mlynedd. -+- -+- -+- P'asiodd cyngor trefol Aberystwyth yn un- frydol,-12 0 blaid, ac un heb bleidleisk>,— benderfyniad yn anghymeradwyo gwa,ith cyngor Coleg Aberystwyth yn talu blwydd-dal o gyllid y Coleg i Dr. Ethe. Pasiodd yr aw- durdodau i roddi £ 150 y flwyddyn i'r Dr., a dadleuai Mr. T. J. Samuel, wrth gynnyg y penderfyniad, mai polisi Llywodraeth y wlad ymai ydyw peidio> talu dim i dramoriaid sy'n elynion. Cefnogwyd y cynhygiad gan Dr. Harries. Amddiffynwyd y Coleg gan yr Athro Edward Edwards, yr hwn a ddywedai fod Dr.' Ethe wedi talu' i mewn i'r drysorfa, ac felly fod y Coleg yn gwneud yr hyn oedd yn iawn wrth roi blwydd-dal iddo. Dywedai, hefyd, mai rhy brysur gyda'i lyfrau oedd Dr. Ethe i feddwl am ddod yn ddinesydd Prydeinig yn, ystod y deugain mlynedd y bu yn trigianu yn Aberystwyth. Gyda golwg ar y blwydd-dal, onid cwestiwn ydyw i'w benderfynu gan y Llywodraeth ? -+- -+- -+- Mae'r ddau Aelod Seneddol dros Sir Gaer fyrddin, Mri. Towyn Jones a Llewelyn Wil- liams, K.C., wedi codi eu lief yn bur groew'n ddiweddar ynglyn a threfniadau addysg ganol- raddbl ac mvchraddol ein1 gwlad, gan ddweyd mai ychydig 01 help i'r iaith ac i genedlaethol- deb Gymreig ydynt wedi bod hyd yn hyn. Mae i'n brodyr hyn le mawr i weithio yn y cyfeiriad hwn etoi. Nid sel newydd yw hon ychwaith, yn enwedig yn Nhowyn. Ar hyd y blynyddoedd bu'n dyrnu ar yr esgeuluso sydd ar y Gymraeg, ac am ddodi o'r ysgolion' gymaint 0 le,ir Ffrangeg, &c. Gobeithiwn y dalient ati eu dau i ddweyd y drefn cyn hallted ag y dylid ei dweyd. Buasai cystal inni fel cenedl ymron fod heb ein Prifysgol 01 ran dim y mae'r genedl mewn gwirionedd wedi ei dderbyn drwyddi ac ohoni. Rhoi ei sel wrth dystysgrifau'r graddedigion1 yw'r prif waith a wna ymron. Ac wele ni wedi cael cyfundrefn addysg berffaith ymron! "-Gwylfa