Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

.SIWR A PHLAEN 0 SIR FFLINT.

News
Cite
Share

SIWR A PHLAEN 0 SIR FFLINT. Caiff Sir Ffiint gryn sylw yn y Cymro," a theim- laf finnau awydd dyfod i gynorthwyo. Ceisiaf fod mcr siwr ag sydd modd o ffeithiau, a byddaf yn blaen. Gwn na allaf fod yn rhy siwr, ond o bosibl y byddaf yn rhy blaen, yn ol syniad rhai. Er' gwell, ac ya sicr er y mae'r clawdd terfyn fu rhwng y byd a'r eglwys wedi ei chwalu. Ebrill yr ail, wedi'r gwasanaeth n yr addoldai, ym 'Mwcle, caed darlith lusernol ar Dr. Livingstone, yn y Plas Dariuniau. Yr oedd y testun yn dda. Ond, onid cedd modd cael y gyfryw ddarlith ar ryw adeg arall, Yn sicr y mae peth fel hyn yn effeithio'n ddrwg ar bregethiad yr efengyl. Caed caneuon gan Miss Kate Peters a Mr..Hayes. Darlith lusernol yn y Plas D'arluniau, a chaneuon. Ie, y mae y peth yn iawn ynddo'i hun efalla.i. Ond pair i ni ofyn- A yw Satan yn peidio ymrithio yn angel goleuni yn ein plith. Y mae'n un drwg a pheryglus iawn yn ei ddillad ei hun, ond y mae'n waeth lawer, ac yn fwy peryglus pan yn ymrithio'n angel goleuni. Ebrill y 6ed, ym Mwcle, lladdwyd Gwen Mount- fort, saith ced, merch Arthur Mountfort, gan fodur, Damwain dost a phrudd iawn. Gobeithio nad oedd y bai o ddiffyg gofal am dani yn unman. Os oes rhywun yn rhyfeddu fed cynifer yn cael eu lladd, ni ddylai, oherwydd y rhyfeddod fawr y dyddiau hyn yw fod cyn lleied o blant yn cyfarfod a damwein- iau, ym Mwcle, ac ymhob man arall bron. Y mae lliaws y rhieni yno, fel ymhob lie arall, yn gadael gofal eu plant, yn naturiol ac ysbrydol, i bawb ond iddynt hwy eu hunain fel rhieni a Duw. Cynhaliodd Gobeithlu y M.C. ym Mynydd Isaf, ei gyfarfod diweddu'r tymor Ebrill y 6ed. Gofalwyd am amrywiol waith y Gobeithlu yn ystod y gaeaf gan y Parch. J. H. Williams, Mrs. J. H. Williams, Miss M. Lloyd Jones, a Miss Enid Jones. Caed cyfarfod diweddu'r tymor da iawn, canwyd, adrodd- wyd, cystadleuwyd. Beirniadwyd yr adrodd cystad- leuol gan Mrs. Wm. Hopwood, Mrs. Hooson, a'r canu cystadleuol gan M;ri. Michael Lewis a John Hewitt. Y mae y rhai a gymerodd ran yn rhy lu- osog i'w henwi. Rhanwyd meluskm, afalau, ac eur- afalau i'r plant ar y diwedd felly, er pasio i beidio cael te a bara brith eleni, oherwydd y rhyfel, nid aeth un ohonynt adref yn waglaw. Ymddengys mai ychydig o bobl a ddeall fywyd a gwaith gweinidog. Ychydig yw y rhai a wyr y gwaith y gofynnir iddo ei wneud y tu allan i'w gylch lleol. Y mae llawer yn meddwl nad oes ganddo ddim i'w wneud ond ei waith yn ei eglwys ei hun. Os yw gweinidog yn ymdaflu i waith y Deyrnas D'ragwyddol yn ei holl agweddau o'i amgylch, fel rheol gofyrinir iddo wneud llawer iawn o'r tu allan i gylch ei eglwys ei hun, a gwaith sydd yn gymaint o wasanaeth i wir grefydd, ag ymweld o dy i dy i ioddhau babanod crefyddoL Profa a ganlyn pa mor brysur yw ambell un.—'Does dim dadl nad un o ddynion prysuraf y Cyfundeb M,ethodistaidd-nid yn Sir Fflint, ond yng Nghymru, yw'r Parch. G. P. Williams, M.A., 'r Wyddgrug. Beirniadai y canu mewn eisteddfod yn Ninbych MaAvrth y 30aill gwnai yr un gwaith gyda'r Parch. Thos. Morgan mewn eisteddfod yn Nhreffynrion, Ebrill y 5ed. Y mae yn arholydd arholiad yr Ysgol Sabothol yng Nghyfarfod M'isol Manceinion, ac yn Henaduriaeth Lancashire a Fflint, &c., a rhyngddynt bu cannoedd o bapurau yn ei dy; y mae yn un o'r ymwelwyr eg- lwysig yn y dosbarth,ac aiff trwy'r dosbarth i gynnal mag-gyrddau canu at sassiwn y plant; a daw'r peth- au hyn ato mor agos ag y mae modd. Er y cwbl, y mae ei feddwl yn glir a'i ysbryd yn dan byw cref- yddol. Edrychwn ymlaen at y Groglith. Disgwylir y Parch. John Williams, Brynsiencyn, a D. Cwyfan Hughes, B.A., Bryndu, i Goedllai i gynnal y eyf- arfod preg,ethu blynyddol. A 'does dim dadl na chynhelir ef i fyny yn ei nerth gan y gwyr grymus hyn. Disgwylir i'r Wyddgrug y Parchn. D;r. Gwylfa 'Roberts, Llanelli, a D. Stanley Jones, Caernarfon, i gynnal i fyny, ac i godi'n uwch, os oes modd, wyl bregethu yr Annibynwyr. A diau na siomir neb. Y mae'n siwr a phlaen yn Sir Fflint yr ymdrechir cadw'r hen wyhau cys-egredig i fyny, er nad yw cyf- arfod pregethu yr hyn y dylai fod ynddi. Penderfynodd M.C. y Mynydd Isaf, roddi eu te a'u cyngerdd blynyddol heibio ddydd Gwener y Groglith am eleni. Ac wedi penderfynu hynny pen- derfynasant gadw'r dydd yn eiddo iddynt hwy. A diau mai doeth iawn yw hyn. Oherwydd yno fel mewn llawer lie arall gwneir llawn mwy o ymdrech gan rai pobl i ddenu o gapeli eraill, nac i geisio dwyn rhai nad ant i unrhyw le o addoliad, i'r capel. Trefnir i gynnal cyfarfod gweddi yn y prynhawn, a phregeth yn yr hwyr gan y gweinidog,—y Parch. J. H. Williams. Mawr yw'r gwyn yn erbyn ysbryd gwrth-Gymreig y sir. Ac nid heb achos y cwynir. Ond y mae yn Sir Fflint ami Gymro twym galon, yn caru iaith a cherdd ei wlad "yn angerddol." Un ohonynt yw'r Parch. T. Miles Jones, Treuddyn. Un o blant Meirionydd yw Mr. Jones, ac y mae can ei hen sir yn wefr yn ei enaid ar fryniau Fflint. Bu yn hynod o brysur ar hyd y gaeaf yn darlithio ar ganu gyda'r delyn, ac yn canu gyda hi. Y mae yn fwy lwcus na'r cyffredm, y mae ganddo ddwy delynores at ei alwad, set Telynores Maldwyn a Thelynores Tegid. Gwledd i bob Cymro yw gwrando arno ef a'i delyn- orion.

Preg-ethwr Ffyddlon.

Cydymdeimlad.

parhau i Ddringo.

Cyfarfodydd Pregethu.

O'R YSTWYTH I'R DDYFI.

Advertising