Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

RIIYWLE YN FFRAINC."

News
Cite
Share

RIIYWLE YN FFRAINC." ANNWYL MS. EVANS, Fel derbynydd cyson c,'r CYATRO, teimLais mai nid annyddorol efallai gan lawer o'i ddarllenW3T fuas- ai cael g.ar o'n hanes wrth adael cartref am faes y gad. Un o'r pethau diweddaf ofynais oedd am iddynt ddanfon y CYMRO imi bcb wythnos, a Thry- sorfa'r Plant' bob mis, a deuant i law yn gyson yn en tro, a mawr y bias geir wrth eu darllen. Daw y cyfle hwnnw pan bydd amser yn caniatau, a swn y magnelau yn ddistaw. Yr ydym wedi treulio tri mis yma bellach, ac wedi gweled a theimlo pethau mawr. Ac os cawn fyw i wel'd yr helynt blin drosodd, yr ydym wedi dysgu gwersi pwysig, fydd yn fantais inni yn y dyfodol ar lwybr dy'l'edswydd. Daethom yma ddau ddiwrnod cyn y Nadolig, ac i gyrraedd y fangre lie y gwersyllwn yn bresennol yr oedd yn dri diwrnod o daith. Ac oddiar hynny hyd y dyddiau diweddaf mae yr hin wedi bod yn ddifrifol yn ein herbyn. Ond mae y gwaethaf dros- odd mor bell ag y mae a fynno y tywydd a ni. Ond er y cyfan i gyd mae ysbryd y bechgyn wedi dal yn rhagorol, neb yn cwyno, ond pob un yn teimlo ei gyfrifoldeb ac yn gwneud ei oreu dros ei wlad, a'i Dduw. Lie rhyfedd i blant y cwrdd gweddi, y seiat, a'r Ysgol Sul, yw maes y frwydr. Ond nid yw Duw yn gadael y cyfryw sydd yn hiraethu ac yn sychedu am dano. Cawn ei gwmni, a gwedd Ei wyneb yn barhaus:, a'r hedd nas gwyr y byd am dano, y nefol hedd ddaeth trwy anfeidrol loes." Mae Duw CymTu yn Dduw mewn gwirionedd i blant Cymru yn Ffrainc. Y diwrnod sydd yn codi fwyaf o hiraeth ynom. yw y Saboth. 0', mae yn ddiwmod caled yma. Enaid yn hiraethu am swn caniadau Seion, ond dim i'w glywed ond swn magnelau. Ond. y Sul diweddaf, a hwn sydd wedi codi awydd ynof i ysgrifennu, fe gawsom Saboth bendigedig, yr unig gyfleustra ydym wedi ei gael yn ystod yr holl amser. Yn hwyr nos Sadwrn cawsom wybodaeth os byddai pethiau yn dawel, y buasai y Capl.an Havard,' o Abertawe, yn gwein;dogaethu. Felly y trodd pethau allan. Cafwyd tawelwch yng nghanol y cythrwfl. Yr oedd yn fore hyfryd, yr haul yn gwenu, y blodau yn ym- agor, ac ambell i aderyn bach yn canu. Cafwyd lIe mewn gardd, ac yno yr aethom gyda'n gilydd i dalu teyrnged i'r Hwn sydd yn taenu ei aden dyner a thadol d'rosom ddydd a nos. Wedi cyrraedd yr ardd, ac eistedd ar y glaswellt, dyma'r Caplan yn dod, a'r peth cyntaf a wnaet11. oedd gofyn i'r bechgyn os oedd ganddynt ryw emyn a garent i'w rhoddi allan i ganu. Gofynodd ysgrifennydd y llythyr hwn iddo am roddi allan Oleuni mwyn, trwy dew gysgodau'r nef, 0 arwain fl." Cafwyd y goleuni a chwmni'r Ysbryd, nid yn unig canwyd y geiriau, ond ■g.allaf eich sicrhau eu bod yn ca-el eu gweddio hefyd. Wedi dechreu yr oedfa yn afael- gar, pregethodd yn rhagorol ar y geiriau yn Ezeciel, "0 ana,dl, tyred." Dywedodd fod gan Brydain Fawr heddyw bopeth oedd yn eisian arni er sicrhau buddugoliaeth, mor bell ag o.edd y ddaear yn y cwestiwn. Ond gyda'r pethau hyn 'roedd yn rhaid iddi gael Du'v, a goreu po gyntaf iddi fyn'd yn isel i'r llwch i erfyn ac i hiraethu am wedd ei wyneb. Gwasgai ar y bechgyn i ddal cymundeb a'r anweledig, ac i ddyheu am fendithion mawr y byd a ddaw. Jacob yn Bethel oedd ganddo yn yr hwyr, a chymerodd yr un pwynt a'r bore. Gwnaeth sylw mawr o ddywediad Douglas H.aig" ar ddiwedd cynghrair milwxol y dydd o'r blaen. Y lie olaf i ddisgwyl son dim am bethau byd arall, dyma ddywedodd yr Arweinydd M'ilwrol er syndod i bawb oedd yno, "I am a man of prayer," meddai. Nid efe yn unig sydd. Na, mae yna filoedd o fechgyn De a Gogledd Cymru heddyw yn: Real men of Prayer." Buasech yn synnu clywed y Saboth diweddaf yr Amenau yn dod o galon llawer fu yn ddigon anystyriol cyn dod yma. Ond mae y Rhyfel yma megis wedi dod a hwy wyneb yn wyneb a'r byd a ddaw, ac i deimlo wedi'r cyfan fod Barn, Duw, a byd arall yn bod. Gorffenwyd Saboth bendigedig gan ganu All hail the power of Jesus name." Cewchi air eto yn y man. Gofion goreu, B.Q.M.S. W. TEIFY JONES.

"TU DRAW I SWN Y STORM."

Advertising