Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
II"Ii CYNNWYSIAD: II
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
i CYNNWYSIAD: I Pryn]aodeb yr Wythnos. 1 X'-W'Yrth Ztchry. o'i,Gadaii Wellt 2 ^lythyrau f Cristion' 2 ^ethesda Gan' Mlynedd yn ol. 8 2l°a Isaac. 3 *"ersoiuaid, aPhersonau,.a Fliethau 4 ^oesau da. 4 i^ynhodob Sonoddol. 4, a 5 ■^e^vyddion Cymreig 6»a7 ■nrthyglaitr—Moegoldeb ac Addysgyn Nghymru 8 a^lythyr y Meudwy 9 ^wyliau mis Mai. 9 "■«'hebiaetfiau—Llythyr at y Parch. Dr. Edwards, Bala 10 ^gofion am Q-ymry Liverpool .11 ^arddoniaeth, a Llof&on, 11 ^arwolaethau, &c. 12 M-archnadoedd 12 tty?bysia.dau.. 16 -=-
,,'CRYJSTODEB YR WYTHNOS.
News
Cite
Share
CRYJSTODEB YR WYTHNOS. Disgwylir y cymer priodas le yn fuan rhwng Iarl Derby a Mary, Ardalyddes Salisbury. Ail Wralg y diweddar Ardalydd. Salisbury ydyw ardalyddes hon, ac y mae hi yn chwaer i jarll Delaware. Ganwyd hi yn y flwyddyn Ar y 5ed o'r mis hwn, cymerodd damwain ddychrynllyd le mewn pentref bychan ar dueddaugorllewlllol Derry, Iwerddon, trwy yr hon y collwyd pump o fywydau. Cafwyd baril o paraffine oil ar y traeth. Cludwyd hi i dy cyfagos, lie yffrwydrodd gan chwalu yr adeilad, lladd pump o bersonau, ac archolli eraill. :Boreu y Sul cynhaliwyd gwasanaeth yn y apel Brehinoler cyssegru y Parch. Josuah ^•p-ghes, rector, Llanymddyfri, a'r Parch, Richard Durnford, Archddiacon Manchester, W swydd fel esgobion newydd Llanelwy a ^Wchester. Gweinyddwyd ar yr Achlysur Archesgob Caerefrog, ac esgobion Llundain, jJ^Jichester, Lichfield, Llandaf, Bangor, a Th £ ^dewi. Traddodwyd y bregeth gan y Parch, .^as Shadwell, Rector "Washington, Durham. 94 trwy. y seremoni o gadamhau apwyntiad y.^arch Josuah Hughes, dydd Sadwrn yn f^resenoldeb Syr Travers Twiss, yn eglwys M^yfol Sant Marylebone, Llundain. 3T Sabboth diweddaf oedd y diwrnod ar yr Wn yr oedd Napoleon yn apelio am bleidlais ?!* genedl y Efrancod o blaid neu yn erbyn y pytnewidiadau a wneir yn y ffurflywodraeth. j ^ngys yr adroddiadau y rhai sydd wedi dyfod law—-ac y maent wedi dyfod o bob dosbarth pump yn dangos fod mwyafrif mawr wedi pleldleisiowrth foddyr Ymerawdwr. Ond y Peth sydd yn syn, yn ddifrifol, ac yn. arwydd- caol ydyw, y mwyafrif mawr o bleidleisiaii Yel erbyn yn Paris. « Paris ydywFfrainc" ^en ddiareb yn y wlad hono; ac os ydyw yddiareb hon yn wir yn awr fel yn y dyddiau ^^y ttiae pethau ryn edrych yn aywyll ar aé Edinburgh a'r byd gwareiddiedig oil To»!r co^e^- drom drwy farwolaeth Syr flo?e9,SimP80n- Safai Syr James yn y radd eiiaf fel llawfeddyg a physigwr, ac vstyrid yn un o'r gwyr mwyaf anrhydeddus a berthynai i brif ysgol Edinburgh. Cychwyn- odd ei yrfa mewn amgylchiadau cyfyng, gweithiodd ei ffordd trwy anhawsderau, a thrwy ei dalentau disglaer ac ymroddiad didor cyrhaeddodd enwogrwydd mawr yn y wlad hon ac mewn gwledydd eraill. Efe a ddygodd chloroform i wasanaeth llawfeddyginiaeth, ac i liniaru y poenau a achosir gan wahanol ddolur- iau. Derbyniodd anrhydedd mawr gan y French Academy of Medicine, a'r French Aca- demy of Sciences. Derbyniodd urdd marchog oddiwrth frenin Sweden; ac yny flwyddyn 1866 crewyd ef yn farwnig yn y wlad hon fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth yn darganfod chloroform. Diwedd yr wythnos o'r blaen, taenwyd y ne- wydd unwaith fod y gwir Anrhydeddus John Bright wedi amlygu. ei fwriad i roddi i fyny ei swydd fel Arlywydd.Bwrdd Masnach, o her- wydd fod ei afiechyd yn ei analluogi i gyflawni ei ddyledswyddau yn y cylch pwysig hwnw. Dywedai yr Observer mai Mr. Mundella a fydd- ai yn Olynydd i Mr. Bright. Gwelsom nod- iadau beirniadol mewn newyddiaduron eraill, yn traethu ar gymwysderau Mr. Mundella fel Arlywydd Bwrdd Masnach; ond y mae yn dda genym gael ar ddeall fod iechyd Mr. Bright yn well, ac nad oes seiliau digonol i famu ei fod ar hyn o bryd yn bwriadu ymryddhau oddi- wrth gyfrifoldeb ei swydd. Nid oes dim yn neillduol yn amgylchiadau Bwrdd Masnach ar hyn o bryd yn galw am lafur mawr oddiwrth Mr. Bright. Ac heblaw hyny y mae ysgri- fenydd Bwrdd Masnach yn ddyn o brofiad a gwybodaeth a barnuwchlawycyffredin. Colled drom yn ddiau i Mr. Gladstone ar hyn o bryd ydyw absenoldeb Mr. Bright o'r Ty; ond byddai gwaith Mr. Bright yn rhoddi i fyny ei swydd yn golled ychwanegol, gan y gwnai gwrthwynebwyr y weinyddiaeth i argraffu ai' feddyliau gweiniaid, fod rhwyg yn y cyf- ringyngor, ac nad ydyw Mr. Bright yn cym- eradwyo mesurau Mr. Gladstone. Dywedir fod Mr. Bright yn anewyllysgar i dderbyn ei gyflog am nad ydyw yn alluog i wneyd holl waith ei swydd: Os gwir hyny, gall ef fod yn dawel ei feddwl, canys y mae yn ddiddadl fod cydwybod yr holl wlad yn tystio fod ei wasanaeth i'r genedl yn anrhaethol fwy na'r tal y mae ef wedi gael er pan dderbyniodd y swydd. Mae y mynegiadau a wneir mewn cyfarfod- ydd cyhoeddus, a thrwy y wasg, ar bwnc addysg yn nodedig o ddyddorol ar hyn o bryd, gan y bydd mesur addysg y llywodraeth yn cad ei ystyried yn fuan gan bwyllgor o Dy y Cyffredin. Dydd Sadwrn cynaliwyd cynad- leddo athrawon ysgolion yr holl enwadau, ac aelodau Seneddol yn y Palace Hotel, West- minster, i ystyried taflen amser adran cydwy- bod. Llywyddwydgan Mr. Whitwell, A.S., ac yr oedd yn bresenol Arglwydcl F. Cavendish, A.S., yr anrhydeddus W. Cowper Temple, A.S. Mr. K. Shuttleworth, A. S,, Mr. Dent, A.S.,Mr. Peuse, A.S., Mr. Baines, A.S., yn nghydanifer mawr o athrawon. Cydunwyd fod yn angen- rheidiol i holl blant ysgol ymgyfarfod ar yr un pryd) pa un bynag a fyddant yn cyfranogi o'r addysg grefyddol, ai na fyddant. Y dylai y plant na fyddant yn derby nyr addysg grefyddol, fod yn gwneyd rhyw waith arall yn yr ysgol tra y byddo yr addysg grefyddol yn cael ei rhoddi. Y dylai yr amser y rhoddir addysg grefyddol mewn ysgol, gael ei hysbysu ar furiau yr ysgol- dy lie y rhoddir yr addysg; ac y dylai y cyf- ryw amser gael ei gymeradwyo gan adran addysg. Fod yr athraw, os daw i wybod trwy rybudd ar lafur neu yn ysgrifenedig, fod gan rieni wrthwynebiad i'r addysg grefyddol, i ysgrifenu y gwrthwynebiad yn nghoflyfr yr ysgol. Mae larll Russell wedi llefaru unwaith yn rhagor ar addysg y llywodraeth. Er nad ydyw larll Russell yn arweinydd diogel yn mhob achos gwladyddol perthynol i'r oes gynyddol hon, eto, rhoddir pwys ar ei farn, a pherchir ef yn fawr fol hen wron rhyddid, ac fel hen gyfaill addysg gyffredinol. Prydnawn dydd Llun, cynelid cyfarfod blynyddol cym- deithas yr Ysgolion Prydeinig a Thramor, pryd y llywyddwyd gan Iarll Russell. Yn ystod ei anerchiad, dywedai ei arglwyddiacth, nad oedd yn cyfrif dyn ieuanc wedi ei addysgu, os nad oedd egwyddorion cristionogaeth wedi ci planu yn ei feddwl pan yn yr ysgol. Barnai ef y dylai yr addysg hono fod yn seiliedig ar y Beibl, ac nid ar gatecismau a ffurfiau, y rhai a gyfaddaswyd i amgylchiadau neillduol, ac a arddangosent ddiffygion yr amser y lluniwyd hwynt. Barnai ei arglwyddiaeth y dylai y wlad gael ei rhanu yn ddosbarthau addysgol cyfleus, er mwyn cynildeb, ac na ddylid gosod treth addysg heb gydsyniad y dosbarth; ac y dylai yr addysg fod yn un grefyddol, ond nid yn enwadol. Ni fynegai ei farn a oedd ysgrif y llywodraeth yn cynwys y telerau yma, ond hebddynt, ni bydd i'r mesur dderbyn cymer- adwyaeth y genedl. Os mabwysiedir y drefn enwadol yn yr Iwerddon, y canlyniad fydd gwthio 24,000 o blant Protestanaidd i ysgolion Pabyddol, neu allan o'r ysgolion. Hynyna yn fyr, ydyw syniadau larll Russell yn ei henaint hardd ar bwnc sydd yn debyg o brofi doethineb a nerth gweinyddiaeth Mr. Gladstone, yn fwy nag un pwnc arall. Mae cynghor y Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig wedi anfon cylchlythyr at yr holl aelodau Rhyddfrydig Cymreig yn galw eu sylw at y rhybudd y mae Mr. Watkin Williams wedi ei roddi gyda golwg ar yr Eglwys yn Nghymru. Nid yw y cyngor yn gosod un farn ar y dull a'r amser y rhoddwyd y rhybudd; ond gan ei fod wedi ei roddi-a chan fod teim- lad cryf yn Nghymru gan gorff y genedl o blaid yr amcan, beth bynag yw eu barn am y dull y gweithredwyd-ac yn neillduol am y barna y byddai ei adael yn hollol ddisylw yn rhoddi dadl yn ngenau y Toriaid i haeru nad yw y Cymru am ddadgysylltiad, awgryma iddynt y priodoldeb o gymeryd mantais o'r cyfle i ddwyn hawliau Cymru ger bron; a dangos yr hyn yn hawdd a ellir fod pob rheswm oedd dros ddadgysylltiad yn yr Iwerddon yn dal yr un mor gryf dros ddadgysylltu yn Nghymru. Mae y sylwadau a wnaeth Mr. H. Richard o'r gadair yn nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Rhyddhad Crefydd yn dangos yn eglur ei farn ef ar y mater; ac yr ydym yn disgwyl y datgenir hwy yr un mor groyw yn Nhy y Cyffredin.