Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

BETHESDA IFEL YR YDOEDD GAN'MLYNEDD…

News
Cite
Share

BETHESDA IFEL YR YDOEDD GAN'MLYNEDD YN OL, AC FEL Y MAE YN BRESENOL. Y DRYDEDD RAN. Efallai fod rhai o'ch darllenwyr yn barod i ofyn pahltm yr ydwyf yn defnyddio fy mhin dur i bigo eymaint ar y clerigwyr ? I'r rhai hyny yr ydwyf yn atteb, mai am mai hwynthwy oedd Yn arwain y bobl i'r unrhyw ormod rhysedd,' ac yn eu cadw yn eu tywyllweh, ac yn blaenori lne\Vn erlid, a baeddu, a drwgliwio, ie, a char- charu y rhai oedd yn ceisio darbwyllo ac argy- noeddi dynion, a'u dwyii allan o fagl y diafol at y gwir a'r bywiol Dduw. Ie, ddarllenydd, lneiddiaf ddyweyd yn mhellach, mai felly y bu- asent etto onibai i'r Hollalluog godi duwiolion arn gyflog bychan.' Ond nid duwiolion am og bychan' o'r fath ag a oedd ficer parch- edig Bangor yn son am danynt, ond duwiolion o stam.p yr hen William Prichart o Lasfryn fawr, 2,' ten Ddafydd Cadwaladr o'r Bala, a'r hen lias a Christmas o Fon, &c. Dyna'r dynion a ysbeiliasant y cryfarfog, ac a fuont yn offeryn- fu yn llaw y Goruchaf i ddwyn ei garcharorion i ryddid gogoniant plant Duw.' Maddeuer i mi am fyned i grwydro oddiwrth y mhwnc. Yn sicr, anghofio a wnaethum; ac 5^ awr, wele fi yn dychwelyd ato yn ol fy addewid, sef eu PRIODASAU A'U CLADDEDIGAETHAU, pa rai, drwy fod y boblogaeth yn deneu, oedd yn digwydd yn ariaml. Fe allai ar lawer amser "a byddai mwy nag un briodas ac un cladded- Raeth yn digwydd mewn blwyddyn, neu o'r ^^bellaf dri amgylchiad mewn dwy flynedd. Fel y soniais o'r blaen, yr ydoedd y preswyl- f °U y pryd hwnw yn berthynasau agos i'w ° felly priodasau rhwng perthynasau oeddynt oil. Felly, o ganlyniad, yr ydoedd Pawb^ yn cymeryd dyddordeb neillduol yn °hosion y priodasau, drwy eu bod yn briodasau rh ??r^ynasau o'r ddwy ochr; ac yr ydoedd yn aid dangos eu parch a'u hewyllys da i'r bobl name. Ond cofier fod yr amcan yn dda, fel dd f 0^r -0^ on y moddion a'r dull a einyddid i gyrhaedd yr amcan hwnw sydd ac a oedd i'w feio. fer iT J? ^au neu ° bersonau,yn feibion ac yn o'Y-v ° ^>0^) y11 y plwyf yn mhob priodas eTxrh°j Vn ddieithriad, felly byddai yn rhaid s wieua. darpariaeth helaeth ar eu cyfer. v. y^nelid y priodasau bob amser yn nghartref r&ig ieuanc; ao os byddai y ty yn digwydd bod yn dy lied fychan, ceid benthyg ty helaeth- ach gan eu cymydog caredig, ac fe allai y bydd- ai yn perthyn i'r ty hwnw ysgubor helaeth, yr hon a fyddai o wasanaeth mawr er cynal y wledd a'r ddawns. Cyn y byddai i briodas gymeryd lie, byddai pobl yr holl blwyf yn hysbys o'r peth o leiaf chwech neu saith mis cyn i'r peth gymeryd lie, ac felly fe fyddai pawb yn parotoi er ei gyfar- fod, er anrhydedd iddynt eu hunain ac er lies i'r bobl ieuainc ac o'r ochr arall, yr ydoedd y bobl ieuainc yn nghyd a'u rhieni yn brysurach yn darparu ar gyfer yr amgylchiad dedwydd oedd i gymeryd lie, a hyny drwy barotoi gwisg- oedd cyfaddas, a thrwy gadw a phesgi y llwdwn corniog mab yr hen Ra,gsan benfrith, a'rllwdwn cochddu a fyddai yn blaenori y ddiadell dros y cloddiau yn amser yr egin ceirch, ac i drespasu ac i wneud drygau ar diroedd eu cym'dogion, ac hefyd haner dwsin o hwyaid, a dwy wydd, a dwsin o ieir, &c. Wedi hyny, rhaid i ni ofalu am siarad yn ddisdaw bach, rhag i'r exciseman glywed am hyn, sef fod yn rhaid cael pecaid o haidd a'i fwydo er ei wneud yn frag, a myned ag ef ar gyfnos naill ai i felin Goetmor neu i felin Coch- wyllan i'r odyn i'w grasu. Wedi hyny, byddai diwrnod i ddod, a mawr a fyddai y drafferth a'r helbul gyda'r oruchwyliaeth fendigedig hono, er gwneud llifeiriant o gwrw da. A'r Sul can- lynol, byddai y costegion yn cael ei gyhoeddi yn nghlywedigaeth rhyw bedwar neu bump o ryw hen bererinion iach yn y ffydd, a chynifer a hyny o strelgwn a chorgwn, y rhai a ddilyn- ent eu perchenogion i'r Eglwys, yn fisol neu 'n chwarterol, a hyny yn benaf er cael clywed gan eu gilydd dipyn o hanes cwrs y byd o dueddau Aber, a Llanfairfechan, a Phentir, a Llaniolen, a Llanrug, &e. Erbyn hyn, yr ydoedd yn llawn bryd i ymofyn am fficller neu grythwr, yr hwn yn gyffredin a glywai hanes y gostegion, ac a ddeuai i argymhell ei wasanaeth anrhydeddus, ac yn gyffredin a dderbynid gyda boddhad neillduol. Wedi y gostegion cyntaf hyd ddydd y briod- as, byddai y wraig ieuanc a'i mam neu eu per- thynas agosaf, megis chwaer neu fodryb, ar lawn waith a disgwyliad yn croesawu ac yn der- byn rhoddion ei chyfeillesau ieuainc ar gyfer y briodas, yr hyn yn gyffredin a fyddai yn gyn- nwysedig o gostrel o wirod gan un, a chan y llall ddau bwys o siwgr gwyn, yr hwn a gostiai y pryd hwnw Is. 9c. y pwys, a chan eraill gosyn o gaws, a chan y lleill ysnodenau sidan gwyn, &c. Ond yr wythnos cyn y briodas a'r dyddiau dilynol, mawr yr helbul a fyddai yn lladd a blingo, yn pluo a rhostio, a berwi. A phan wawriai y dydd, ceid gweled yn foreu y bobl yn hen ac yn ieuanc yn dylifo o bob cyfeiriad tua chartref yr eneth ddedwydd. A rhwng wyth a naw o'r gloch, gwelid yr orymdaith amrywiog yn cychwyn tua'r Llan, hyd nes y byddai hen furiau llwydion yr hen Eglwys wedi eu llenwi gan y gynulleidfa lawen. Ond wedi i'r gwr parchedig orphen y defod- au arferol, mawr a fyddai y rhuthro allan gan y llanciau ieuainc, er bod yn ymgeiswyr i redeg am y deisen briodas' a fyddai wedi ei pharotoi ar gyfer yr hwn a enillai y rhedeg, sef yr hwn a gyrhaeddai i'r ty gyntaf o'r eglwys. DON AP GWDION. Llys Enfus Afon. (Fw barhau).

S I ON ISAAC.

Advertising

LLYTHYRAU "CRISTION" ,AT Y…