Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
Two DEITHS FROM SUCKING COMMOK LUCIFEE MATCHES.—"The two children of Mrs. Staller, Ely Place, Stepney, died this mornig from the effects of phosphorus taken into the system. It appears that the children, who were six years and nine months old, got possesrion of some lucifer matches in the absence of their mother, and sucked the phosphorus off the ends. On the return of the mother they were at once put un- der medical treatment, but as already mentioned, without effect. A post mortem examination has been I ordered by the Coroner."—Standard. This is a strik- ing illustration of the value of Bryant and May's Patent Safety Matches, which are not poisonous, and light only on the box.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
Genedigaethau, Priodasau. Marwolaethau. PRIODASAU. Ebrill 6ed, yn y Tabernacl, Penybont ar Ogwy, gan y Parch. J. B. Jones, B.A., drwy, drwydded, zlrr. William David, Grocer, Llangewydd, a Miss Elizabeth Lewis, Penycoed. 26ain, trwy drwydded, yn Bethesda Chapel, Hanley, Swydd Stafford, gan y.Parch. Mr. Willshaw, Mr. Robert Jones, Bailiff, a Miss Sarah Hammersley, Upper Hanley. Mai 3ydd, yn nghapel Melincwrt, trwy drwydded, gan y Parch. R. Morgan, Gweinidog, yn cael ei gyn- northwyo gan y Parchn. P. Howells, Ynysgau, Merth- yr; a J. Davies, Taihirion; y Parch. J. Miles, Beth- esda, Merthyr, a Miss Evans, Melincwrt. 9fed, yn Crescent Chapel, gan y Parch. W, Roberts, Mr. Hugh Roberts, Howe Street, Everton, a Mrs. Ellen Jones, William Moult Street, o'r dref hon. MARWOLAETHAU. Ebrill 29ain, yn 43 mlwydd oed, Mr. Thomas Price, Three Horse Shoe, Llanwrda. Claddwyd ef y Llun canlynol, Mai 2il. Ymgasglodd torf luosog o berth- ynasau a chyfeillion er hebrwng ei weddillicn i fyn- went Cynwyl Caio.D. C. Mai 9fed, Mr. W. W. Lloyd, Draper, Porthmadog, yn 35 mlwydd oed. Yr oedd y bravid anwyl hwn yn un o ddiaconiaid yr eglwys yn Salem. Pum' wythnos i'r un dydd y bu farw ei fam. Anaml y colledwyd eglwys e ddau aelod mor ddefnyddiol, mor agos i'w gilydd. Teimlir galar cyffredmol yn y dref ar eu hoi. Yr oedd Mr. Lloyd yn frawd i'r Parch. D. Lloyd, Margate. Bu yn nychu ynhir, o clan effeithiau anechyd poenus, ond dioddefodd y cwbl yn deilwng o Gristion. Yr oedd y pwyll, a'r sirioldeb a'i nodweddai drwy ei oes, yn ei ddilyn i'r eiliadau diweddaf o'i fywyd. Yn ei farwolaeth, collodd yr Ysgol Sabbothol arolygydd da; collodd y cymdeithasau drysorydd gofalus; coll- odd yr eglwys swyddog da; ond yr oedd yr elw iddo ef yn gorbwyso y cyfan yn nghyd. .¡;£;:=.'S:<¡.
MARCHNADOEDD YR WYTHNOS.
News
Cite
Share
MARCHNADOEDD YR WYTHNOS. Y FARCHNAD YD. LLUNDAIN, Dydd Llun.—Ychydig o wenith oedd ar werth yn y farchnad, ond yr oedd y samplau cystal a rhai y marchnadoedd blaenorol. Yr oedd cynulliad y melinwyr yn llawer, a'r gofyniad am wenith gwyn a choch yn sefydlog am brisiau y Llun blaenorol. Gwn- aed masnach lied dda mewn gwenith tramor am bris- iau diweddar. Haidd yn sefydlog. Brag yn araf. Pys a Ffa yn sefydlog. LIVERPOOL, Dydd Mawrth.-Cynulliad lluosog yn y farchnad heddyw. Galwad da am wenith am 2g y cant o godiad. Blawd o 6c i Is y sach yn ddrutach. Ceirch a Blawd Ceirch yn sefydlog. Pys Is yn ddrutach. Grawn Indiaidd yn gwerthu yn dda am 6c y chwarter o godiad. MARCHNADOEDD ANIFEILIAID. LLUNDAIN, Dvdd. Llun.-Cyflenw-,td da o anifeiliaid, a'r fasnach yn farwaidd, a'r prisiau am bob math o ganlyniad yn is. Ychydig ychwaneg o ddefaid na'r Llun blaenorol. Wyn ddim yn gwerthu cystal ag yn y marchnadoedd blaenorol. Lloi yn gwerthu yn dda, ond y fasnach ar gyfartaledd yn waeth. Rhif yr ani- feiliaid yn y farchnad 4,012, defaid ac wyn 30,300, lloi 205, a 120 o foch. LIVERPOOL, Dydd Llun.—Y cyflenwad o wartheg, defaid, ac wyn yn fwy na'r Llun blaenorol. Y gofyn- iad am wartheg yn araf am brisiau is. Defaid yn farwaidd, a'r prisiau yn is. Wyn mewn sefyllfa gan- olig. Yn y farchnad 2,039 o wartheg, ac 8,609 o ddefaid.
Advertising
Advertising
Cite
Share
OXTON & CO.'S 114, BOLD STREET, LIVERPOOL. YR uchod ydyw yr unig Sefydliad yn Lloegr lie y cedwir dros ugain math o Beirianau Gwnïo i'w gwerthu, a lie y gellir cael SEWING MACHINES ALL KINDS GYDA GOSTYNGIAD MAWR YN Y PRISIAU. Anfonwich am Restr Newydd sydd i' w chael yn rhad tr wy y Post. TELIR CLUDIAD pob peiriant i unrhyw Railway Station yniMhrydain Fawr, a fyddo wedi ei dalu am dano, heb goel. GWERTHIR IIR TLODION ar delerau esmwyth i dalu. OXTON & CO., 114, BOLD STREET, LIVERPOOL. YN AWR YN Y WASG. Pris Is. 6ch. mewn amlen. COFIANT Y PARCH. HUGH PUGH. YN cynwys hanes ei fywyd gany Parch. W. Rees, D.D. Neillduolion ei gymeriad a'i athrylith, gan y Parch T. Roberts, (Scorpion), a chasgliad o detholion gan Pedr Mostyn, a Barddoniaeth Goffa- dwriaethol gan Gwilym Hiraethog, Gwalchmai, Mawddwy, ac eraill. Anfoner archebion i P. M. WILLIAMS, 41 Old Hall Street, Liverpool.
CRYNHODEB SENEDDOL.
News
Cite
Share
ereill. Ar raniad y Ty, cafwyd mwyafrif o 33 dros yr ail ddarlleniad. Nos IAu.-Mr Bouverie a roddodd rybudd ybydd- ai iddo, pan ddelai y cynhygiad yn mlaen i'r Ty ymffurfio yn bwyllgor ar fesur yr Etholfraint i Perched, gynyg gwrthodiad y mesur. Mr Bruce, mewn attebiad i Mr Stapleton, a ddywedodd fod yr adroddiad a dderbyniasai efe mewn perthynas i ddygiad allan Gyfraith Hen Droseddwyr mewn trefi mawrion, megis Birmingham, Liverpool, a Man- chester, ar y eyfan yn dra boddliael. Mr Otway a attebodd Mr M. Guest, ei fod y dydd hwnw wedi derbyn telegram o Athen yn hysbysu fod deg o ddynion yn y carchar ar y cyhuddiad o fod yn gyf- ranog yn y gyflafan ddiweddar yn Groeg, a bod tri o ustusiaid heddwch wedi eu hanfon allan i'r wlad i gasglu tystiolaethau. Canghellydd y Trysorlys a ddywedodd na ddeuai y cyfnewidiad yn y dull presenol o gasglu trethi yr Incwm a threthi ereill i Weithrediad hyd 1872. Mr Gladstone a ddywedodd ei fod yn gobeithio y byddai yn gallu enwi pwyll- gor detholedig i wneud ymchwiliad i fynachdai a Ueiandai y deyrnas ddydd Llun nesaf. Mr B. Os- borne a alwodd sylw at lythyr o eidde Mr Whalley, a ymddangosodd yn y Times, ddoe yn cwyno ei fod Wedi cael ei aflonyddu pan yn siarad mewn perth- ynas a'r mynachdai, a bod y geiriau 1 Kick him' a 'Strangle him' yn glywadwy yn ystod y terfysg. Mr Whalley a ddywedodd mai efe a ysgrifenodd y llythyr, ac yr oedd yr hyn y cyfeiriwyd ato yn y llythyr wedi cymeryd lie, a chwanegodd, ei fod yn amlwg i bob aelod anrhydeddus nad oedd perffaith ryddid wedi ei ganiatau yn y ddadl ar y mater hwnw. Ar yr un pryd, nid oedd efe yn ei ystyried yn ddim mwy na chanlyniad y rhyddid tafod yr oedd y Ty wedi ei adael i gynyddu yn ddioruchwyl- iaeth am flynyddoedd. Y Llefarydd a gyfododd i egluro fod yr aelod anrhydeddus wedi herio ei ben- derfyniad ef ddwy waith; ond na chlywsai ef yn gwneud hyny y drydedd waith, fel yr oedd yn rhwym o wneud,'os oedd yr aelod anrhydeddus wedi egluro ei feddwl yn eglur. Yr oedd yr hyn a gym- merodd le yn enghraifft o'r pwysigrwydd o setlo materion mewn perthynas k threfn yn y fan ac yr oedd yn gofidio yn ddwys am fod yr aelod anrhyd- eddus, yn lie galw sylw y Ty at y peth ar un- waith, wedi ysgrifenu ei gwyn i newyddiadur- cwrs oedd yn anweddus i urddasolrwydd y Ty, a chredyd yr aelod anrhydeddus ei hunan. Ail ddy- wedodd Mr Whalley ei achwyniad, a darllenodd y geiriau y dywedai ei fod wedi eu harfer yn ei bro- testiad yn erbyn penderfyniad y Llefarydd. Y Llefarydd a ddywedodd fod yr aelod anrhydeddus wedi protestio yn erbyn ei benderfyniad ef ar ol i'r ewestiwn gael ei roddi, ac yr oedd hyny yn rhy ddi- weddar, ond ni chlywsai y geiriau y dywedai yr aelod anrhydeddus ei fod wedi eu harfer. Mr For- tescue a Mr Crawford a ddywedasant eu bod hwy yn eistedd yn agos i'r aelod anrhydeddus, ac na chlywsant y geiriau yn cael eu harfer o gwbl. Ga- dawyd y mater i syrthio. Yna ymffurfiodd y Ty yn Bwyllgor ar Fesur Tir yr Iwerddon. Dygwyd yn mlaen amrywiol welliantau a chynhygion, a hysbyswyd fod y Llywodraeth yn myned yn mlaen gyda'r mesur. Ymwasgarodd y Ty am ddau o'r gloch y boreu. Nos LUN. Hysbysodd Mr Bruce ei fwriad i ddwyn i mewn fesur ar undebau y crefftwyr, cyn gynted ag y gwelai ryw debygolrwydd y gellid ei basio trwy y Ty. Dadleuwyd amryw o adranau ysgrif y tir yn yr Iwerddon mewn Pwyllgor. Ond pwnc mawr y Roson oedd dygiad i mewn fesur Ar- dalydd Hartington ar ETHOLIADAU SENEDDOL. Wrth egluro ei ysgrif cyfeiriai yn gyntaf at y nominations eyhoeddus y rhai y cynhygid gwneud ymaith yn Uwyr a hwy. Yn lie hyny cynhygiai fod enw pob ymgeisydd i gael ei anfon i'r swyddog dychweliadol (returning officer), a hyny heb i'r ymgeisydd na'r neb fyddai yn ei nodi ymddangos yn bersonol. Gofynai fod enw yr ymgeisydd yn cael ei anfon i mewn ar ffurf wedi ei harwyddo gan ei gynhygydd a'i gefn- ogydd, a chan wyth o etholwyr ereill. Nid oedd un bwriad i wneud unrhyw gyfnewidiad gyda golwg ar gostau etholiadol; am y tybid y bydd gadael pethau fel y maent yn atalfa ar enwi ymgeiswyr ffugiol heb un amcan ganddynt na thebygoh-wydd y gallent gael eu dychwelyd. Cyfeiriodd yn helaetk at yr hyn a gymeradwyai y pwyllgor neillduol a benodwyd- i ymchwilio i'r mater gyda golwg ar lwgrwobrwyaeth a'r dylanwad anheg a arferir ac Dí phetrusai ddweyd fod y drygau hyn y fath ag sydd yn galw am feddyginiaeth uniongyrchol. Yr oedd tri pheth wedi eu hawgrymu-defnyddiad pa- purau pleidleisiol-ychwanegu lleoedd i bleidleisio a mabwysiadu y Ballot. Gyda golwg ar y cyntaf credai ef ei fod wedi ei brofi y tueddai i ychwanegu yn hytrach na lleihau y drwg-am yr ail er ei fod yn ddefnyddiol y byddai yn annigonol—ac mai y Ballot yn unig a fyddai yn effeithiol. Aeth i mewn T? i'r gwrthddadleuon a ddygir yn erbyn P^isio yn ddirgelaidd, y penaf o ba rai ydoedd, mai ymddiriedaeth gyhoeddus ydoedd ac y dylesid ei dd/M ag°re<i- Cydnabyddai nerth y gwrth- adleuon, ac addefai mai pleidleisio agored yw y Wyaf dymunol pe gellid ei wneud gyda thawel- oertd Pur<^eb> a rhyddid etholiadol. Ond gan nad a "yny yn bosibl o dan y drefn bresenol, teimai a chredai y cydolygai y Ty ag I ef fod y drefn bresenol wedi methu rhoddi tawelwch, rhyddid, a phurdeb mewn etholiadau a bod eu sicrhau o fwy pwys na'r fantais a geir oddiwrth bleidleisio agor- ed; a chredai y sicrheid hwy trwy bleidleisio dir- gelaidd. Yr oedd yn benderfynol o'r farn na byddai i bleidleisio dirgelaidd ychwanegu llwgrwobrwy- aeth; ac er y byddai hwyrach gynhygion i ffugio personau, byddai yn hawdd diogelu moddion a sicrhai mai y person sydd yn ymddangos ydyw y pleidleisiwr mewn gwirionedd. Yna disgrifiai y cynllun a gynhygiai y llywodraeth i'w fabwysiadu. Yr oedd y swyddog dychweliadol i ddarparu nifer digonol o orsafoedd i bleidleisio, ar bob un o'r rhai y bydd is-swyddog i gael ei osod gyda nifer o ba- purau pleidleisio. Nid yw y swyddog dychweliad- ol ei hun i arolygu unrhyw bleid-fwth. Mae y papurau pleidleisiol i gael eu rhifo yn olynol, a'u rhoddi gyda rhan fyddo yn cyfateb, fel mewn check book. Ar y rhan fyddo yn cyfateb, nodir rhif y pleidleisiwr ar y cofrestr; ac yna a y pleidleisiwr i ystafell o'r neilldu, ac a ysgrifena enw yr ym- geisydd y dymuna bleidleisio drosto ar ei bapur, a'r rhif sydd ar y rhan a fyddo yn cyfateb, ac wedi hyny rhydd ef yn y box. Agora y swyddog dychweliadol y boxes oil yn ngolwg yr ymgeiswyr, ac wedi didoli y papurau, gan roddi y papurau a fyddo yn cynwys enw pob ymgeisydd gyda'u gil- ydd a'u gwynebau i fyny, eir yn mlaen i'w cyfrif. Ar derfyn y pleidleisiau selid i fyny y rhanau fyddo yn cyfateb, ac anfonid hwy i ysgrifenydd y Goron; ac ar ol hyny gwneid a'r papurau pleid- leisio yn yr un modd. Cynhygiai hefyd na byddai i unrhyw ystafell mewn tafarn i gael ei llogi i gynal pwyllgorau; oddieithr i gynal cyfarfodydd eyhoeddus lie y gallai yr ymgeiswyr fod yn bres- enol i anerch yr etholwyr; ac unrhyw dal heblaw yr hyn sydd yn briodol yn gostau cyfreithiol i gael ei gyfrif yn llwgrwobrwyaeth, ac ymddwyn tuag ato felly. Credai y byddai i'r darbodion hyn er yn llym nid yn unig atal llygriad mewn etholiad- au, ond yn ddirfawr leihau y costau yn nglyn a hwy. Yr oedd y Pwyllgor oedd wedi eistedd wedi cael allan fod llygredigaeth yr etholiadau trefol yn fwy na'r etholiadau Seneddol; ond gan y bydd yn rhaid cael peirianwaith neillduol ar gyfer ethol- iadau trefol, oedir hyny hyd y flwyddyn nesaf, a chyfyngir y mesur hwn at etholiad aelodau Sen- eddol yn unig. Datganai y gobeithion cryfaf y byddai y mesur yn effeithiol; eto nas gallasai un- rhyw fesur fod felly heb iddo gael ei ategu gan farn y cyhoedd. Yr oedd yn llawen ganddo ddeall fod teimlad cryf a difrifol yn mhob cwr o'r wlad am roddi i lawr yn llwyr y drygau diraddiol sydd yn cyfodi o'r llygredigaeth sydd yn bodoli mewn etholiadau. Cwynai MrLeatham fod y mesur yn annigonol, oblegid nad oedd yn cyffwrdd a'r etholiadau trefol. Nid oedd yn barnu fed cynllun y weinyddiaeth mor syml, nac mor effeithiol a'r mesur oedd ef wedi rhoddi rhybudd o hono, yr hwn a gadwai ger bron y Ty. Gofidiai Mr Faw- cett nad oedd un cyfnewidiad yn cael ei wneud yn nhraul yr etholiadau; a dywedodd rai geiriau bryntion ac angharedig am rai o aelodau y wein- yddiaeth a drinient y Balot gyda dirmyg bum' mlynedd yn ol, pan yr oedd y rhesymau dro?to yn llawn mor gryfion ag yn awr; ond ni bu mewn un modd ar ei fantais, canys dywedodd Mr Glad- stone ychydig eiriau fel cleddyfau wrtho; ac wedi rhoddi cenad i ddwyn yr ysgrif i mewn, a'i dar- llen y waith gyntaf, gohiriwyd y Ty. Nos FAWRTII.-Dywedai Mr Childers mewn atteb- iad i Syr John Lawrence fed dwy o longau yn cy- chwyn i Canada yn Mehefin-un ar y laf, a'r llall ar y 7fed—y rhai a ddalient yn gysurus o 1,200 i 1,300 o ymfudwyr. Mewn attebiad i Mr Eustace Smith, dywedai fod y mchwiliad i gael ei wneud i ffeithiau yr achos yn mha un yr oedd Cadben llong ei Mawrhydi Plover yn gwrthod rhoddi cynorthwy i'r Venezuelan. Dygodd Syr W. Lawson gynygiad ger bron y Ty yn gofyn condemniad y Ty i'r dull trwy ba un y mae colled yr India yn cael ei godi trwy opium. Cynhygiodd Mr Grant Duff y cwes- tiwn blaenorol, a dangosodd ef a Mr Gladstone os dileid y dull y byddai yn ofydol codi o 6,000,000p. i 7,000,000p yn flynyddol trwy drethiad ychwanegol yn India, neu byddai yn rhaid attal gweithfeydd eyhoeddus pwysig. Ar ymraniad, collwyd y cyn- hygiad trwy leiafrif o 104 ar y cwestiwn blaenorol. Ar gynhygiad Mr Gladstone, appwyntiwyd pwyll- gor neillduol ar sefydliadau mynachaidd, Pabyddol a Phrotestanaidd.