Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

IfEWYBDION CYMREIG.

News
Cite
Share

Ysgrifenydd dewisedig Mr. W. T. Hughes, (Tegerin) ni a ymataliwn. Am 2 o'r gloch yr un dydd cyn- haliwyd cyfarfod i ymgynghori ar wahanol bethau yn dal cysylltiad a'r achos yn y sir. Llywyddodd y Parch. W. Griffith, Caergybi, a phcnderfynwyd :—1 Fod y cyfarfod yn mabwysiadu y cynllun gwreiddiol yng-hyd a'r gwelliant o gasglu tuag at ddyledion ein haddoldai, ac yn mawr lawenhau yn llwyddiant y brodyr a fu oddiamgylch, yr hyn sydd galondid o'r mwyaf i'r eyfeillion eraill ag sydd bwriadu ymweled a'r cynulleidfaoedd yn ddioed. 2. Fod y Cadeirydd tros y cyfarfod i arwyddo yr anerchiad i'r Prif Wein- ldog yn cyfleu ein syniadau, &c., ynglyn a'r Beibl Addysg yn awr ofiaen y Senedd. 3. Fod y cyfarfod yn llawen groesawu y Parchn. Evans, Cana, a Jones, Bodedern i'n plith gan wir ddymuno eu llwydd a'u cysur. 4. Fod y eyfarfod nesai wgynal, yn Qana, ar LluBi a Mawrth, yr 8fed a'r, 9fed o »Awst. BOys- bysodd y Parch. Rd. Hughes, Gwalchmai, yr helynt drallodus a ymgyfarfu a'r brodyr yno. Adeiladwyd yr Addoldy ar lanerch a brynwyd gan hereon oedd wedi cau darn o'r cyttir allan ers 34 o flynydaau ond, honai y lly wodraeth ei hawl yn y tir, a bygythiant ei werthu oni thelir am dano yn uniongyrchol. Arwyddodd y cyfarfod eu cydymdeimlad a'r eyfeill- ion yno, ac ar anogaeth un o'r brodyr, derbyniwyd cyn ymadael agos i lOp. o roddion gwirfoddol gan ewyllyswyr da i'r achos ag oedd yn bresenol. Gal- wodd y Cadeirydd sylw y cyfarfod at' Hanes Anni- byniaeth yn Nghymru' gan y Parchn Dr. Rees, o Abertawe, a J. Thomas, Liverpool, fel gwaith tra theilwng o gefnogaeth ein cynulleidfaoedd. Hefyd at 'Bywyd ac ysgrifeniadau y diweddar Barch D. Rees, Llanelli,' gan y parch T. Davies, Llandilo. Yr oedd yn bresenol 12 o Weinidogion, 60 o Bregethwyr Cynorthwyol, a nifer luosog o ymwelwyr o Eglwysi yr ynys.-Thos Williams. RHOSLLANERCHRUGOG. Gellir lloffa Uawer ar bwnc Addysg mewn meusydd toreithiog o ffrwythau da a drwg yn y dyddiau hyn. Y mae dau Dori wedi hynodi eu hunain yn siroedd Caernarfon a Meirienydd trwy eu ffrwythau. Dau ficer ydynt hefyd, ac y maent wedi peri tipyn o wrthwynebiad o du Ymneillduwyr yno ac oddi yno i'w syniadau o barth ymddygiadau presenol yr Ymneillduwyr a'r Pabyddion o barth i alltudio y Beibl o'r Ysgolion Dyddiol! Yn nghanol cryn gynhwrf mewn cyfar- fod yn Nollgellau, neu yn hytrach wedi cael Ron- yddwch oddiwrth yr ystorm a godwyd oherwydd geiriau y ficeriaid hyn, gwnaeth y Parch. E. Jones, gweinidog Annibynol, sylwadau pwrpasol tebyg i hyn:—Yr ydoedd efe wedi bwriadu peidio dyfod i'r cyfarfod ar Addysg yn Nolgellau, am ei fod wedi clywed son am yr yspryd a ddangoswyd mewn cyf- arfodydd blaenorol. Etto, wedi dod i'r cyfarfod, yr oedd yn disgwyl gan ddau foneddwr gael clywed o leiaf rywbeth ar Addysg ond siomwyd ef. Dang- osodd Mr J onea i'r gwyr eglwysig hyn, pe buasai ei gydwybod ef mor ystwyth ag eiddo rhai, mai nid gweinidog Annibynol fuasai heddyw. Dywedodd hyn yn ngwyneb y cyhuddiad a roddodd un ficer (Caernarfon hwyrach) nad oedd gweinidogion Ym- neillduol yn gofalu am eu gweinidogaeth ond fel moddion bywioliaeth. Nid oedd gan Mr. Jones, ys dywedai, ddymuniad i ymlid y Beibl o'r Ysgolion Dyddiol. Beth wnaeth Cymru yr hyn ydyw hedd- yw ? Aiyr Ysgolion Cenedlaethol? Nage. Onid y pwlpud a'r Ysgol Sabbothol P Ië, yn ddiau. A phe ni ddysgid crefydd yn yr Ysgolion Dyddiol, a fyddai hyny yn rheswm paham y dylai y wlad ddy- chwelyd i dywyllwch Paganaidd P Onid oes oddeu- tu 18,000 o glerigwyr perthynol i Eglwys Loegr. A oeddynt hwy y clerigwyr i fyw heb wneuthur dim i gadw crefydd yn fyw ? Pe byddai addysgiaeth grefyddol yr ysgolfeistri dyddiol yn ddigonol i'r wlad, oni ellid esgusodi y 18,000 clerigwyr? I ba beth y maent dda ? Gellid meddwl os dysgir y Catecism yn unig yn yr ysgolion, y bydd yr anial- wch yn ddoldir. Eithr pa fodd y mae pethau mewn gwirionedd lie y mae yr Eglwys Wladol yn benaf ? Onid yno y dywedir fod y dosbarth gweithiol bron i gyd yn Anffyddwyr ? Cyhuddir Ymneillduwyr gan y nceriaid o fod yn bechaduriaid allan o undeb a'r Wir Eglwys. Faint well wys ydyw bod yn Golen- S0, neu Voysey, neu Dr. Pusey, neu Williams oddi jnewn i'r Eglwys P Milwaith gwell a mwy ydyw dyfod allan o'u canol hwynt.— Wm. Owen. MANION 0 FYNWY.—Dydd Llun, wythnosi'r dlweddaf, yr oedd cyfarfod te yn Tabor, Maesycwm- Wr, a meddyliais, gan ei bod yn gyfieus, mai peth nyfryd iawn fuasai cael rhan o'r wledd, ac felly cy- jnerais y tren, a ffwrdd a fi. Nid wyf yn meddwl iod agos gymaint o bryder ar Mr. Lowe noswaith y udget ag oedd ar Mr. E. Lewis y diwrnod hwnw. Tiia thri o'r gloch, dechreuwyd ar yfed te o ddifrif, a pharhawyd i yfed yn ddidor hyd 8 o'r gloch; ac yn yr amser hwnw, yfodd o 6 i 7 cant de o'r fath preu- Ychydig wedi 8, cymerwyd y gadair gan y *arch. T. J. Hughes, gweinidog y lie; ac adrodd- wyd, darllenwyd, areithiwyd, a chanwyd hyd nes oedd yn agos i 10 o'r gloch. Yr oedd cor Cefncrib a chor Llanvabon yn cynorthwyo. ac aeth pob peth yn mlaen yn ddoniol a difyrus iawn. Yr wyf wedi aaw yr enwau allan mewn trefn i gael cwpanaid o e gaai Mr, Simon Jones pan af i'r Bala. Da iawn genyf ddeall fod pob peth yn myned yn mlaen mor gysurus yn Tabor. Dymunaf bob llwyddiant iddynt yn mhob daioni.-Bu y cyfarfod misol diweddaf yn Penmain, ar ddydd Mawrth, y 3ydd cyfisol. Pregethwyd am 10, 2|, a 6J, gan y gweinidogion perthynol i'r cylch a Cunllo. Cafwyd cyfarfod ded- wydd iawn. Gallasem feddwl fod gwlith nefol yn disgyn ar yr holl oedfaon; ac hyderwn y bydd y canlyniadau yn dda i'r eglwys a'r gwrandawy. Bydd y cyfarfod misol nesaf yn Moriah, Rhymni, ar y dydd Mawrth cyntaf yn Mehefin. Gosodwyd careg sylfaen synagog Iuddewig newydd yn Lewis Street, Casnewydd, dydd Mawrth, y 3ydd cyfisol, gan Mr Abraham Isaac. Mae'r synagog newydd i gynwys tua 100 o wrywod, a 40 o fenywod, a bydd y gost o'i adeiladu yn 800p. Ni chlywais paham y maent yn parotoi mwy o Ie i'r gwyr nag i'r gwra- gedd. Nid yw yr elfen genhadol mewn un modd yn y grefydd Iuddewig, ac felly nid ydynt am barotoi lie i neb ond Iuddewon. Pa bryd y daw yr adeg ag y gwel plant Abraham mai'r Iesu yw y Crist, ac nad oes arall i'w ddisgwyl ?-:Mae'n dda genyf ddyweyd fod y glowyr o'r diwedd wedi cael eu hen bris yn ol, a gobeithio y gwnant y defnydd goreu o hono. Mae'r glo wedi codi hefyd fel y gellid dis- gwyl. Hyderaf y daw y meistr a'r gweithiwr i ddeall eu gilydd yn well o hyn allan.-Gohebydd. LLUNDAIN.—Y Sabboth a'r nos Lun cyntaf o'r mis hwn, cynhaliodd eglwys y West End ei chyfar- fod blynyddol, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parehn. D. Roberts, Caernarvon; R. S. Wil- liams, Aberhonddu D. Charles, Aberystwyth (T.C); a Hwfa Mon. Y nos Wener blaenorol, wedi cael cwpanaid o de blasus, cafwyd darlith ddyddorol dros ben gan y Parch. D. Roberts, ar 'Ei Daith yn Am- erica.' Llywyddwyd gan R. Davies, Ysw., A.S., gan yr hwn y cafwyd sylwadau pwrpasol iawn ar i Gymro ymwneud a phethau crefydd yn Gymraeg. CYFARFOD CHWARTEROL ARFON.—Cyn- haliwyd y eyfarfod hwn yn Dolyddelen, Mai y 4ydd a'r 5ed. Yr oedd y gynhadledd am 10 o'r gloch bore yr ail ddydd. Cadeirydd, y Parch. D. Griffith, Port Dinorwig. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol:—J. R., Conwy R. Thomas, Bangor D. Oliver, Llanberis; E. Edmunds, Dwygyfylchi; D. R. Davies* Waenfawr O. J Jones, Benglog; W. Nicholson, Treflys; T. Evans, Bettwsycoed; R. Parry, Llandudno. Yr oedd hefyd nifer mwy nac arferol o ddiaconiaid a chenhadon yr eglwysi wedi dyfod yn nghyd. Ymddiddanwyd am amryw bync- iau mewn cysylltiad ag amgylchiadau y Dosparth- ac am y pethau canlynol yn neillduol. 1, Cynhyg- iad ar fod y cyfarfod chwarterol a gynhalier yn ni- wedd Mawrth neu ddechreu Ebrill, i gael ei benodi rhagllaw fel yr adeg fwyaf priodol i dderbyn yr holl gasgliadau at y Gymdeithas Genhadol; ac i benodi pa swm a neillduir o'r casgliad at achosion cartref- ol; ac i benderfynu pa fodd i'w defnyddio. Enwyd Llanfairfechan, Roewen, a Llanrug fel y manau i gael cymhorth eleni. 2, Fod y cyfarfod chwarterol nesaf i gael ei gynal yn Llanfairfechan; yr amser i gael ei hysbysu yn ddigon prydlon, gan y cyfeillion yno. Bwriedir i'r cynulliad fod yn gyfarfod agoriad y capel newydd ag sydd bellach bron yn orphenol. 3, Fod J. R., Conwy, ac fR. Parry, Llandudno, i roddi cynorthwy i'r cyfeillion yn Llanfairfechan i gasglu at y ddyled sydd ar y capel, yn y dref hono, yn ystod misoedd yr haf. nesaf. 4, Anogaeth ar fod i'r holl eglwysi roddi croesawiad calonog i'r cenhad- au dros Golegdy newydd y Bala pan y deuant ar eu taith. Y pwnc hwn i fod dan sylw pellach yn y gyfarfod nesaf. 5, Ymddiddanwyd yn mhellach ar cynwysiad yr Anerchiad a ddarllenwyd yn nghyfar- fod Saron, yn achos y cyfarfod chwarterol. Cymer- adwyid y syniadau a draethir yn yr anerchiad. Bwriedir ystyried yn mhellach, yn y cyfarfod nesaf, y priodoldeb o gynal y cyfarfod hwn ar gylch drwy holl eglwysi y Dosparth, gyda threfniad ar gyfer cyfleusdra pob cymydogaeth, o ran yr adeg ar y flwyddyn. 6, Fod y cadeirydd penodedig i barhau yn ei swydd am flwyddyn, gan ddechreu gyda'r ieuengaf. Mr D. R. Davies, Waenfawr, i fod yn gadeirydd y flwyddyn hon. 7, Fod Mr Davies, Waenfawr, i bregethu yn y eyfarfod nesaf, ar Un- deb Crefyddol.' Pregethwyd y nos gyntaf, 9 o'r gloch y bore, 2, a 6 dranoeth, gan R. Parry, R. Thomas, J.R., W.Nicholson, E. Edmunds, D. Oliver, a D. Griffiths. Yr oedd pob peth yn ddedwydd iawn yn holl drefniadau y cyfarfod hwn. Yr oedd yr hin yn hyfryd at gael ymweliad a chymydogaeth gyda'r mwyaf rhamantus yn Nghymru, y gynull- eidfa yn fawr, y gynhadledd yn ei holl olrheiniadau i'r pwrpas, a'r cyfan yn bob peth ag y gallesid dy- muno. Y mae yr addoldy yma yn un o'r rhai rhag- oraf a welir mewn ardal wledig. LLANELLI.-PARO]a I'E HWN Y MAE PABCH YN DDYLEDTJS.—Cynhaliwyd cyfarfod yn Dafen nos Sadwrn diweddaf, gan weithwyr y Gwaith Tin, er dangos eu parch i Mr. Richard Peregrine, yr hwn sydd wedi ymadael a'r gwaith uchod i fod yn head clerk yn Ngwaith Tin yr Hen Gastell, a chyflwyn- asant anrheg iddo fel arwydd fechan o'u parch tuag ato-sef Ornamental Time-pice ac Albert Chain, y rhai oeddynt yn werth tua lOp. Dyna yr ail waith i Mr. Peregrine, er nad yw ond dyn ieuanc, dderbyn an- rheg gan y gweithwyr yn ei waith yn ymadael o un gwaith i'r llall i lanw swyddi uwch a phwysicach. Dringedeto. CYNGHEBDD.—Rhoddwyd cyngherdd nos Lun diweddaf yn yr Athenseum, gan gor y Park Congregational Church, yn cael ei gynorthwyo gan Miss Banks. Yr oedd y rhan gyntaf o'r cyng- herdd yn cael ei wneud i fyny o ddarnau detholedig o Oratorio Samson;' a'r ail ran o ddarnau am- rywiol. Yr oedd canu Miss Banks yn dda odiaeth drwyddo, ond yn hynod o swynol yn y solo, Let the bright seraphim.' Aeth y cor hefyd, yr hwn a arweinid gan Mr. J. D. Bowen, drwy y Choruses yn gymeradwy iawn. Y mae carwyr cerddoriaeth yn Llanelli yn ddyledus i gyfeillion y Park am barotoi gwledd gerddorol chwaethus fel hyn iddynt bob blwyddyn. BAND OF HOPE CAPEL ALS. Caf- odd Band of Hope y lie uchod durn out ardderchog ddydd Mercher diweddaf, ar yr achlysur o doriad i fyny y cyfarfodydd dros dymor yr haf. Am dri o'r gloch yn y prydnawn, ymgynullodd tua phum cant o blant i'r capel, a ffurfiwyd hwy yn orymdaith drefnus—y plant yn cario tua dwsin o faneri, ac ar- wyddair pwrpasol ar bob un o honynt. Yn mlaenaf yr oedd baner fawr, a'r geiriau < Capel Als Cold Water Army' mewn llythyrenau breision arni. Wedi cael pob peth yn barod, cychwynodd yr or- ymdaith, yr hon a flaenorid gan y Parch. T. Johns ac aethant drwy brif heolydd y dref dan ganu, a dychwelasant i'r capel, lie yr oedd gwledd o de a theisen wedi ei pharotoi ar eu cyfer, a mintai o athrawesau yr Ysgol Sul yn barod i weini arnynt. Cafodd y plant eu gwala o de melus a theisen flasus, a phasiodd pob peth yn y fath fodd ag oedd yn re- flectio yn dda ar y trefniadau rhagbarotoawl. DAMWAIN ANGEUOL.—Prydnawn dydd Mercher di- weddaf, pan yr oedd dyn o'r enw William Bryant yn dyfod oddiwrth ei waith ar hyd y ffordd sydd yn croesi y Great Western Railway yn agos i'r Hen Gastell, yr oedd tren nwyddau yn pasio, ac aeth yntau tu fewn i'r llidiart; a thra yr oedd ef yn ed- rych ar y tren hwnw yn myned i lawr, daeth un arall i fyny, a tharawodd ef i lawr. Yr oedd heddgeid- wad yn y fan, a phan yn gweled ei berygl gwaedd- odd arno ond ymddengys ei fod ychydig yn fyddar, ac felly ni chlywodd ef. Derbyniodd gymaint o niwed fel y bu farw mewn ychydig amser wedi i'r ddamwain gymeryd Ile.-BODDIAD.-Prydnawn dydd Sul, Mai 8fed, daethpwyd o hyd i gorph John Thomas, yr hwn a adnabyddid yn y dref hon wrth yr enw John Judy, yn y Dock Newydd. Yr oedd ei berthynasau a'i gyfeillion wedi colli golwg arno er's wythnos, ac wedi chwilio llawer am dano. Nid oes sicrwydd pa un ai syrthio i'r Dock yn ddamweiniol a wnaeth, neu daflu ei hun i mewn gyda'r amcan o gyflawni hunan-ddinystr. Ymddengys ei fod er's tro yn dioddef oddiwrth wendid ac iselder ysbryd. BRO MORGANWG.—Y tro hwn, nid oes genyf newyddion diweddar i'w gyru i'r TYST. Ryw am- ser yn ol, yr oeddwn yn dyfod ar foreu drwy bentref Trelalas, a chlywais ryw un yn llefaru yn uchel mewn ty yno. Yr oedd y drws yn agored a phan ddeuais ar ei gyfer, dyma yr ymadrodd a ddaeth i'm clustiau allan drwy y ddor—' Yr un peth fyddai i'r diafol wanu ei ben i gwch gwenyn, a cheisio rhwys- tro llwyddiant eglwys Dduw.' Deallais yn fuan mai adrodd dywediad rhyw enau cyhoeddus ydoedd. Ychydig feddyliai y siaradwr y derbynid ei eiriau ar yr heol, ac yr argreffid hwy i'w darllen, a'u cofnodi i oesoedd dilynol. Ychydig wyddom pa mor bell y cludir ein geiriau, na pha faint o ddylanwad a gant er da neu ddrwg. Gan hyny, mor ofalus y dylem fod pa le, pa beth, a pha bryd i siarad. Arferiad ganmoladwy iawn yw adrodd sylwadau glywir mewn pregethau yn y gyfeillach deuluaidd. Ac nid oes pobl yn y byd fel y Cymry am gadw yr arferiad hon. Pan drodd John Evans, Llwynffortun, at yr Eglwys Wladol yn mereu ei oes, gosodwyd ef yn gurad yn Nghasnewydd, Penybont-ar-Ogwy, a y Threlalas. Yr oedd ei ddoniau fel pregethwr mor anghyffredin o boblaidd nes y llanwyd y ddwy Eg- lwys a wasanaethai gan wrandawyr. Anfoddlonodd y crach-foneddigion wrth weled yr Eglwysi yn cael eu llanw gan y werin dlawd ac isel. Ni fynent ym- gymysgu yn yr addoliad a gwehilion y bobl; am hyny, achwynasant ar John Evans wrth y Rector diog a diddawn, ond boneddigaidd. Y diwedd fu, i John Evans orfod myned i guradu i ryw le arall, nes y dychwelodd i gorlan y Corph Trefnyddol. Pan ymadawodd ef, gwaghaodd yr Eglwysi yn union, a byth oddiar hyny y mae y crach-foneddigion yn cael digon o lonyddwch i wrandaw ar eu llithiau undon- ol ac unffurfiol. Dyna engraifft o Eglwys y Dyn Tlawd, fel yr hona esgobaethwyr y sefydliad gwlad- ol. Mae y penill canlynol yn newydd i mi, ac ef- allai i f wyafrif darllenwyr y TYST. Dy wedai yr hwn a'i hadroddodd i mi mai ei hawdwr ydyw Williams, Pantycelyn. Yr oedd yr hen emynwr wedi cychwyn o'i dy ryw dro am daith i efengylu. Cyn myned yn mhell o'i gartref, trodd yn ol; a phan ddaeth ar ei geffyl at y drws, galwodd ar'ei wraig, a dywedodd —' Mali, Dywedwch 'wrth y becbgyn Am ddodi pys a ffa, A chato tir y barlys Yn fanwl ac yn dda; Rhoweh gwrw beth i Deio, A dywedwch wrtho'n fwyn; Addawwch beth i Mocyn Am edrych at yr wyn.' Mor naturiol, onide ? Mae awgrym yn y 6ed llinell fod perygl i Mali fod yn draws wrth y gweision pan fyddai y bardd ar ei bereriyaclod.-Gohebydd y Fro.