Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

'NEWYRTH ZACHRY 0'1 GADAIRII…

News
Cite
Share

'NEWYRTH ZACHRY 0'1 GADAIR WELLT. Mae Mr Lewis, Groes, wedi ei gyhoeddi i fod yn yr Hen Dy Cwrdd am 12 ddydd Mercher nesaf; ac mae e wedi anfon y pregetha fe yma y nos,' meddwn i ar ol dyfod adref o'r Hen Dy Cwrdd bore Sabboth diweddaf wrth Newyrth Zachry. Mae e yn wir, mae n dda gen i glywed,' ebe Newyrth Zachry yn serchog iawn, 'Ni fu e ddim yma ers pymtheng mlynedd- pymcheng mlynedd i'r gwanwyn yma oedd hi. Rwy'n cofio o'r gore yr oedd Lewis o'r Cwm wedi cael notice, ac yr oedd hi yn stwr fod Gwr o'r Ty Hen wedi bod yn mofyn i le o tano i'w ferch oedd newydd briodi a mab Ciliar. Rodd Mr Lewis, Gro's, yn digwydd bod yn y Cwrdd partoad cynta ar ol hyny, ac rwyn cofio fod Mr Jones 'r hen weinidog ag yntau yn dod yma y prydnhawn hwnw, ac yn adrodd yr hanes, a'r stwr mawr fu yno; ond fe fethwyd yn deg a phrofi fod y gwr o'r Ty Hen wedi bod yn mofyn y lie ond madael fu raid i Lewis, a phymtheng mlynedd i gwyl Fihangel nesaf yr oedd ei auction e. Dyna shwd rwyn cofio mor dda pryd y bu Mr Lewis, Gro's, yma.' Dyna Mercher a ddaeth, ac yr oedd Newyrth Zachry i fyny yn fore i barotoi erbyn dyfodiad Mr Lewis. Nid oedd yn bosibl i mi gychwyn yn ddigon buan ganddo i fyned tua'r Ty Cwrdd; ac i fy chwaer fyned a bara chaws a menyn yn y fasged iddo fe a Mr Evans y gweinidog gael tarn aid cyn pregethu; ac yna dod i lawr yma i ginio. Arhosodd mam gartre i barotoi erbyn y dychwelem, a mawr fy parotoi a fu ar y ty a'r dodrein erbyn y Cwrdd y nos hono; oblegid nid dyn cyffredin yn ngolwg Newyrth Zachry oedd Mr Lewis, Groes; ac nid cyffredin yn ngolwg neb arall, o ran hyny. Wedi pregeth dda, a'r Hen Dy Cwrdd yn fwy na thri chwarter llawn ar yr awr hono o'r dydd, brysiasom yma erbyn tua haner awr wedi dau, a chawsom Newyrth Zachry a mam yn disgwyl yn awyddus am danom, a'r ginio yn barod, dim ond eistedd i lawr wrth y bwrdd i'w fwyta. Bu llongyfarchiadau caredig rhwng Mr Lewis, Groes, a Newyrth Zachry. Dewch chi yr hen feibon gweddwon, at y bwrdd nawr gewch chi wleua eto ar ol cino,' ebe mam yn ei dull brae, brau, caredig arferol, a dyna y pryd y tarawodd i'm meddwl gyntaf paham yr oedd y fath gyd- ymdeimlad rhwng Newyrth Zachry a Mr Lewis Groes, er fod Mr Lewis mi wn ugain mlynedd ieuengach nag ef, eto yr oedd ganddo air mawr yn wastad iddo, a darllenai bob peth o'i waith y gwelai ei enw wrtho. Y cydymdeimlad hen lancyddol oedd yn peri llawer o hyny. Synai Newyrth Zachry yn fawr er hyny weled Mr Lewis, Groes, wedi newid cymaint er y gwelsai ef o'r blaen, yr oedd wedi tewhau, yn lie bod yn rhyw nodwydd fain yr oedd yn bwt o ddyn cryf; ac yn lie y cijop tew o wallt a chernflew duon a welsai yr oedd ei ben yn foel, a'i gern- flew yn wynion; ond yr oedd yn fywiog a gol- ygus, ei ymadroddion yn llawn aoethineb, a'i gymdeithas mor adeiladol ag erioed. Taraw- odd un peth fi yn neillduol yn ymddygiad Newyrth Zachry y prydnhawn hwnw. Er ei holl barch i Mr Lewis, ei ddisgwyliad awyddus am dano, a'i lawenydd o'i weled; yr oedd ei ofal, a'i sylw o Mr Evans y gweinidog y fath fel nad oedd dim perygl iddo deimlo mewn un modd ei fod ef yn cael ei anghofio wrth anrhyd- eddu y gwr dyeithr. Yn wir yr oedd ei ofal am Mr Evans y fath fel yr ofnai mam i Mr Lewis rgael ei esgeuluso, a dywedodd fwy nag unwaith I Na ofelwch am Mr Evans Zachry mae e fel un o honom ninau.' Ond nid felly y teimlai Newyrth Zachry, ni fynai jef ar y byd wneud dolur i deimlad ei weinidog; ac yr wyf yn sicr fod Mr Lewis yn ddigon craff i weled y parch mawr a dalai Newyrth Zachry i'w weinidog ieuanc ei hun; a i fod yn llaw- enhau yn hyny. Clywais Newyrth Zachry yn dweyd rywbryd Mae ambell i gnaf o aelod i'w gael, fe ganmola bregethwr arall wrth ei weinidog ei hun, nid am fod ganddo un gronyn o barch i hwnw, ond am ei fod yn meddwl fod hyny yn ei boeni. Ond mi glywes am un hen gadno oedd yn ffit at y tylwyth hyny; a gof- ynai unwaith i weinidog arall:- A welsoch chi ambell aelod diffaeth yn can- mol pregethwr arall, pan y gwyddech yn buridn taw eich iselu chi oedd yn ei olwg ?' Do mi welis ambell un felly,' oedd yr ateb. Wel, a wyddoch chi shwd i'w servo fe mas ?' 4 Na wn i yn siwr,' ebe y llall drachefn. I Wel peidiwoh byth a mynd i ddadle ag e, na ohynyg byohanu y dyn fydd e yn ganmol, ond canmolwch chithe ryw ddyn o'r un grefft ag ynte. Os teiliwr fydd ef, fel mae yn ddigon tebyg, canmolwch chithe ryw deiliwr arall; ne os crydd canmol- wch grydd arall, gewch chi weld y gyrwch chi daw arno yn bur fuan.' Hen Philosopher oedd y gwr roddodd y cyngor yna pwy bynag oedd. Mae gen i gymaint o barch i ddyn dyeithr a neb, ond nid i'w parchu ar draul dirmygu fy ngweinidog fy hun, nac hyd yn nod roddi un dolur i'w deimladau.' Mae llawer dydd er y clywais i Newyrth Zachry yn gwneud y sylw yna; ond daeth yn fresh i'm cof wrth weled ei ofal mawr rhag i'w lawenydd wrth gyfarfod Mr Lewis, Groes, gael ei gam esbonio yn un diraddiad ar ei weinidog ei hun. Wel. Mr Phillips bach, a shwd yr y'ch chi ers llawer dydd,' meddai Mr Lewis, wedi i'r ginio fyned heibio a throi i'r gongl. 'Mae yn dda iawn genyf eich gweld. Mifeddyliais ganwaith am ddod i'ch gweld, ond yr oedd ryw beth bob tro yn atal.' Mae yn dda gen i ych gweld chithe Mr Lewis-yn dda iawn gen i hefyd, ond fydda i byth yn achwyn ar neb am beidio dod i ngweld i serch hyny. Fydd yn dda gen i yn wastad weld Mr Evans yma—nid oes neb y mae yn well gen i weld; fydde yn dda gen i weld e yn amlach; ond dwy i yn beio dim arno am na bai yn dod yn fynychach. Mae gan weinidog ryw beth i'w wneud heblaw cered tai, a dwy i ddim yn sal, ond fod fy aelodau yn ddirym; ond y mae fy iechyd i gystal ag erioed. A dwy i ddim yn meddwl taw y bobl sydd oreu ganddynt am eu gweinidogion sydd yn cwyno mwyaf na bai eu gweinidogion yn dod i'w gweld. Nid oedd neb yn perthyn i'r Hen Dy Cwrdd drim- iodd fwy ar Mr Jones yr hen weinidog na'r hen Gruffydd o'r Hafod—fe'i herlidiodd e nes y peidiodd ei blant bob un a mynd i'w wrando, ac y mae nhw i gyd y dynion gwaetha yn y cwmpasoedd yma; ond achwyn ar Mr Jones y bydde Gruffydd yn wastad na byddai yn dod i'w weld e, ac achwyn fod Mr Jones yn mynd oddicartref, a doedd neb yn yr Hen Dy Cwrdd a llai o awydd arno glywed Mr Jones na Gruff- ydd. Ond does neb yn y byd y mae yn well ganddo gwmni ei weinidog na mi, neu gwmni unrhyw weinidog da arall y bydd ryw adeiladaeth yn ei gymdeithas; ac nid fel y dyn yna o'r North fu yma pwy noson.' 'Pwy oedd hwnw ?' gofynai Mr Lewis. 'Davies, Siloam, oedd ar ei gyhoeddiad,' meddwn inau, dyn byr, stowt, canol oed.' Ac fe fu Davies yma do fe ?' ail ofynai Mr Lewis. Odych chi yn ei nabod e, Mr Lewis ?' gofynai Newyrth Zachry. 0 ydwyf yn dda,' atebai Mr Lewis. Beth yw e gwedweh ? fe ddaeth yma bryd- nhawn Sadwrn, a wydda neb o honom ni ddim am dano, ond gwyddem fod gwr dyeithr i fod yn yr Hen Dy Cwrdd bore dranoeth. Ond fu e fawr iawn yma na ddechreuodd roi ar hwn ac ar y llall, a rhyw air drwg i bob un; nes y bu raid i mi droi arno; a gweyd y gwir mi wedais i yn gasach wrtho nag y gwedais i wrth un gweinidog erioed o'r blaen.' Nid oes achos i chi ofni Mr Phillips i chi ddyweyd yn rhy gas wrtho,' ebe Mr Lewis. Un o'r rheiny yw e, ac y mae gormod o hon- ynt fel y mae gwaetha'r modd, wedi ffaelu yn y weinidogaeth, a cholli eu lleoedd, ac yn rhy falch neu yn rhy ddiog i ymafael mewn rhyw orchwyl gonest am eu bywioliaeth, yna yn mynd i grwydro ar hyd y wlad i fod yn faich ar yr eglwysi; ac os na roddir croesaw iddynt gan ryw weinidog yna y maent yn mynd ym- aith yn ddigllawn, ac yn rhoddi pob drygair i'r gweinidog hwnw., (J'w barhau). Llys Ceninen. EI NAI.

Advertising

LLYTHYRAU "CRISTION" ,AT Y…