Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Y METHODISTIAID AR FUGEILIAETH.
News
Cite
Share
Y METHODISTIAID AR FUGEILIAETH. At y Parch. L. Edwards, D.D., Bala. LLYTHYB I. Barchedig Syr,—Os caniata Golygwyr y TYST CYMBEIG, yr wyf am eich cyfarch trwy ychydig lythyrau ar y penawd sydd uwchben y llythyr hwn. Mae yn ddigon posibl eieh bod yn barod i ofyn beth sydd a fynwyf fi fel Gweinidog Annibynol a'r mater? paham yr ydwyf yn cyfeirio fy llythyrau atoch chwi ? a phaham yr wyf yn eu hanfon trwy gyfrwng y TYST CYMBEIG, yn lie cymeryd rhyw ne- wyddiadur ac y mae cylch ei ledaeniad yn benaf yn mysg yr enwad parchus a chyfrifol y perthynwch iddo ? Dichon y byddai yn briodol i mi ateb y gofyniad- au uchod cyn dyfod yn mlaen at yr hyn sydd yn fwyaf neillduol ar fy meddwl i'w ddyweyd wrthych. Gyda golwg ar y cyntaf, y mae y mater wedi ei symud o gylch enwad y Methodistiaid i fod yn fater cyhoeddus. Cyhyd ag y cadwyd ef yn bwnc ym- ddiddan a dadl yn mhwyllgorau a chynnadleddau cyfarfodydd misol a chymdeithasfaoedd eich enwad, cwestiwn Methodistaidd ydoedd; ond wedi cyhoeddi i'r byd trwy y wasg adroddiad o'r ymdrafodaeth arno, ac i arweinwyr y cyfundeb fyned i'w ddadleu yn ngholofnau newyddiaduron, y mae yn dyfod ar unwaith yn gwestiwn cyhoeddus, ac y mae gan un- rhyw un o enwad arall hawl i draethu ei olygiadau arno, a hyny heb gael ei gyfrif yn euog o droseddu ar frawdgarwch Cristionogol; ond yn unig iddo draethu ei olygiadau yn deg a boneddigaidd. Heb- law hyny, y mae y ddadl sydd yn cael ei chario yn mlaen yn awr yn debyg o effeithio ar enwadau er- eill, ac y mae gweinidogaeth sefydlog-neu fugeil- iaeth, fel y dewiswch chwi ei galw—yn hen sefydl- iad yn eu plith ac y mae llwyddiant y fugeiliaeth yn mysg y Methodistiaid yn bwysig i'r enwadau hyny; a'i haflwyddiant a'i methiant yn rhwym o effeithio er anfantais iddynt. Gwn trwy brofiad beth ydyw llafurio am yn agos i bymtheng mlynedd ar hugain fel Gweinidog An- nibynol ac am ran fawr o'r amser hwnw yn nghan- ol eglwysi Methodistaidd cryfion a lluosog nad oedd unrhyw weinidog wrth ei swydd a than gyflog pen- nodol yn bwrw golwg drostynt. Clywais lawer yn fy oes am weinidogion eyflogedig 'a I phregethwyr gwneud;' ac nid ychydig o sarhad a ddioddefais mewn cyfnod pan oeddwn yn llawer ieuengach a mwy dibrofiad nag ydwyf heddyw oddiwrth hen flaenoriaid eich enwad, y rhai a gyfenwent eu hun- ain yn henuriaid yr eglwysi.' Edrychais gan hyny gyda llawenydd ar eich dymesiad chwi fel corff cyf- rifol at yr hyn a ystyriwn i fel trefn fwy Ysgryth- yrol o arolygiaeth dros eglwys Dduw; a chroesaw- ais gyda breichiau agored frodyr ieuainc a ddewis- wyd yn fugeiliaid gan eglwysi eich enwad o fewn cylch fy ngweinidogaeth. Ac er fy mod yn mhell o feddwl fod y cynllun a fabwysiadir yn y rhan fwyaf o fanau wrth osod bugeiliaid, fel y dewiswch eu galw, y cyfaddasaf er cyrhaedd yr amcan, eto hwyr- ach ei fod y goreu a allesid gael dan yr amgylch- iad a'i fod er ei holl anmherffeithrwydd yn gam yn yr iawn gyfeiriad, fel y dywedir; a drwg iawn genyf weled unrhyw beth yn cael ei wneud sydd yn peryglu ei lwyddiant, pa un bynag ai gan annoeth- ineb ei gefnogwyr, ai gan ddigasedd ei wrthwyn- ebwyr y bydd hyny. Ac ar y tir cyhoeddus yna, fel hen gyfaill profedig gweinidogaeth sefydlog a bug- elliaeth eglwysig, yr wyf yn cymeryd fy rhyddid i ysgrifenu ar y mater. Yr wyfyncymerydfynghenadj gyfeiriofy llythyrau atoch chwi, oblegid yr ystyrir chwi yn un o gedyrn cyntaf eich enwad—yn meddu dylanwad eang a chyffredinol ar bobl flaenaf eich eglwysi-wedi magu dan eich addysg y rhan fwyaf o'r Gweinidogion sydd yn awr ar y maes-mewn gwell manta-is na neb arall oherwydd eich cysylltiad a'r Athrofa fel ei phrif athraw i ffurfio cymeriad y rhai y disgwylir i'r eg- lwysi eu galw yn fugeiliaid-ac os nad wyf wedi fy ngham hysbysu, y mae drychfeddwl y fugeiliaeth yn fwy o eiddo i chwi na neb arall yn eich cyfundeb. Yr wyf yn cofio mor llawen y darllenwn yn ol-nod- iadau y traethawd a gyhoeddasach ddeng mlynedd ar hugain yn ol ar Natur Eglwys, yr awgrym am ffurfio cysylltiad agosach rhwng eich Gweinidogion a'r eglwysi, neu eiriau i'r un perwyl. A pha mor bell bynag oeddwn oddiwrth fod o'r un farn a chwi ar y golygiadau a amddiffynid yn nghorph y traeth- awd ar natur a chyfansoddiad eglwys y Testament Newydd; etto llawenhawn wrth weled yn yr aw- grym hwnw fod y wawr yn tori, ac y gwelid adeg pan y byddai I gweinidogion cyflogedig I wedi dyfod yn gyffredinol yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig, er cymaint a ddirmygid ar y rhai oedd felly gan enwadau ereill. Mae y pethau hyn oil yn ymddangos i mi yn rhesymau digonol dros gyfeirio fy llythyrau atoch chwi. Yr wyf yn dewis y TYST CYMBEIG fel cyfrwng i'w trosglwyddo am fod ei gylchdaeniad yn benaf yn mysg pobl sydd yn cydymdeimlo a gweinidogaeth sefydlog, ac oddiar wybodaeth o'i gwasanaeth yn alluog i'w gwerthfawrogi; ac yr wyf wedi cael sicrwydd hefyd ei fod yn cael ei ddarllen bob wyth- nos gan ganoedd o'r dynion mwyaf deallgar a goleu- edig yn eich cyfundeb parchus chwithau; ac y mae cael clust y rhai hyny yn llawer pwysicach yn fy ngolwg na chael cymeradwyaeth uchaf gwerin ddi- wybod eich enwad sydd yn I ymborthi ar ludw,' ac yn barod i redeg ar ol pob newyddbeth, yn enwedig os bydd yn ymosod ar y rhai sydd mewn awdurdod. Ni buasai genyf ddim yn erbyn rhoddi fy enw yn llawn wrth y llythyrau hyn, oblegid nid wyf yn amcanu dyweyd dim y bydd achos i mi gywilyddio o hono ond gan fy mod yn dymuno i'r llythyrau sefyll neu syrthio yn ol eu teilyngdod, heb i'm henw fod yn fantais nac yn anfantais iddynt, yr wyf yn dewis ei ddirgelu. Ymddiriedaf ef i Olygwyr y TYST CYMBEIG, gan roddi hawl iddynt, a dymuno arnynt i dynu allan o'm llythyrau unrhyw ymad- rodd neu synied a femir ganddynt hwy yn anheil- wng o'ch safle a'ch urddas chwi, fel boneddwr Crist- ionogol-fel Athraw Duwinyddol—ac fel gweini- dog da i Iesu Grist.' Yr eiddoch yn barchug, HELlG FOEL.
LLITH YR HEN ARDDWR.
News
Cite
Share
LLITH YR HEN ARDDWR. At Olygwyr y TYST CYMBEIG. Foneddigion,—Mae yr hen wr o'r ynys yn cael pleser mawr, mawr iawn hefyd, mawr rhyfeddol wrth ddarllen ysgrifeniadau yr HenJFfarmwr a Nai Newyrth Zachry. Pe buasai yr hen wr yn gallu ysgrifenu, a sillebu, a nodi, buasai ynjanfon llith yn awr ac eilwaith i'r TYST i ddweyd tipyn o'i feddwl. Trueni na chai yr hen wr ddweyd gair hefyd, er yn agored i lawer o ffaeleddau. Dyddiau rhyfedd yw y dyddiau hyn, dyddiau y Whigs and Tories, dyddiau yr Eisteddfodau, y Tys- tebau, a'r Penny Readings. Mae yr hen wr yn ddigon o Whig yn ei galon yn awr, ac yn fuan bydd a whig ar ei goryn achos mae y gwallt yn myn'd. Gan fod yr Hen Ffarmwr yn ffarmio mor dda, godd- efwch i hen Arddwr ddweyd tipyn, sydd yn byw llawer yn mhlith y blodau, a'r llysiau, a'r ffrwythau. Yn ngardd yr hen wr, coeliwch fi, mae yma Dori bach o'r gwraidd, a chymaint o bres yn ei dalcen fel y dylai gywilyddio; ymosoda ar greaduriaid ddau cymaint ag ef; gallech feddwl mai efe yw brenin y lie Robin Goch yw ei enw. Yn wir mae yr hen wr yn canfod Tories yn mhlith yr holl greaduriaid. Mae yjfuwch Pansy a'i chorn main!yn cornio yr holl wartheg ereill, ac y mae Boxer y ceffyl yn codi ei goes ac yn ymdrechu cicio pob ceffyl a ddaw yn agos iddo, lac y mae hen hwch yn y gymydog- aeth yn rhoi ei danedd trwy glustiau moch y lie, ac y mae Pincher y ci yn chwymu ac yn ysgwyd ei gynffon a chodi ei wrych ar gwn y gymydog- aeth, ac y mae y barcud yn amcanu lladd yr adar bach sydd yn canu mor beraidd i'r Hen Arddwr ac mor belled ac y mae yr hen wr yn deall mae yn llawn bryd rhoi y Tories mewn cages a gad- ael y Whigs yn rhydd am dipyn. Mae yr hen wr yn dymuno ar yr holl Whigs fod yn ddynion bon- eddigaidd yn cael eu rheoleiddio gan reswm a chref- ydd yn eu holl drafodaeth, ac yn dymuno llwydd- iant mawr iddynt. Pe gwelai yr Hen Ffarmwr y llinellau hyn tebyg y dywedai fod eisieu berwi ymenydd yr Hen Arddwr. Yr eiddoch, YR HEN ABDDWB O'R YNYS.
MYFYRDODAU YN Y CYFNOS.
News
Cite
Share
MYFYRDODAU YN Y CYFNOS. At Olygwyr y TYST CYMBEIG. LLYFEAU. Foneddigion,—Bum yn meddwl yn fynych, mor duoddol ydyw dynolryw i esgeuluso, a diystyru ben- dithion mwyaf bywyd, yn unig oherwydd y dy- gwyddant fod yn gyffredin. Y mae y gynneddf ogoneddus o olwg yn ein galluogi i ganfod y goleuni, ac i edmygu prydferthion natur, er hyny anfynych yr ydym yn ystyried peirianwaith mawreddog y llygad, nac yn meddwl mor erchyll o annyoddefol y byddem pe byddai raid i ni ymbalfalu ein ffordd yn y tywyllwch. A'r hyn ydyw'r Haul, crsnell y dydd i'r golwg, ydyw Llyfrau i'r meddwl. Goleuadau y meddwl ydynt. Y maent yn dadlenu mil o wrth- rychau swyngar, ac yn agor ffynonellau aneirif o hyfrydwch pur a rhagorol. Y mae llyfrau i'r gyf- undraeth feddyliol, yr hyn ydyw'r ymborth er cyn- haliaeth a chynydd yr un gorphorol, ynddynt hwy y mae yn byw, yn symud, ac yn bod mae yr hyn ydoedd unwaith yn foeth-beth (luxury) erbyn hyn wedi dyfod yn anghenrhaid arbenig. Mae llyfrau yn yr oes bresenol yn anhebgorol i bob dosbarth ac amgylchiadau. Nid oes neb mor dlawd nad allant ymgyfoethogi a hwynt, na neb mor gyfoethog i fedru byw hebddynt. Ymwelwyr bendigedig ydyo yn y palas a'r bwthyn. Nid ydynt yn chwyrnu ar y gwladwr tlawd, nac yn gwenieithio i'r PenaduT mwyaf balch, nid yw y manteision a ddeillia o holl, ynt yn berygl o ddiflaniad buan. Y mae llyfrau yn arlwyo gwledd gyfoethog a chweg ger bron f meddwl. Mae y bwrdd wedi ei drefnu yn dda, a gall pob un ddewis y ddysglaid oreu at ei chwaeth- Trwy eu darllen dysgir y cyfoethog nad ydynv barddoniaeth y bywyd dynol, o angenrheidrwydd yn trigo yn unig mewn palasau, ac yn meddiant Y rhai nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu,' ofld fod gan yr iselradd a'r tlawd galonau oyn llawned 0 deimlad, ac o gynhyrfiadau haelfrydig, a hwy ell hunain. Pa un bynag ai tymher lawen, ai tyIDher bruddglwyfus fyddom ynddi, ceir llyfrau bob amser yn gymdeithion tymhorawl, ysgafnhant hoenus- rwydd ein calonau, ac esmwythant ein heneidiau mewn tristwch. Yr oedd yn ddywediad gan un o'r hynafiaid' ydym byth yn llai unig, na phan fyddom yn unig- Yn awr gyda llyfrau wrth law ceir ymwared a Ir nudonedd trymllyd a diysbryd sydd yn gysyiltiedig ag unigedd, oddieithr i un fod yn rhy gyndyn 8 surllyd i groesawu eymdeithas trwy gymundeb fL meddyliau dynion absenol. A ydym yn chwenyck gwybodaeth, adloniant, neu ddyddanwch ? LlyfraU yn addas a gyflenwa ein hanghenion. A ydym Y11 ceisio testyn difyrwch, neu ynte yn hiraethu eíIl cynhyrfu i ddagrau? Llyfrau ydyw'r offerynai gwefreiddiol a effeithia hyn oil. Tir anffrwythlo11 iawn fuasai ein heneidiau heb iddo gael ei hau yj gyson a hadau myfyrdod. Mae meddyliau yn cael eu symbylu a'u diwygio drwy gyffyrddiad parha^S a meddyliau uwch. Dywedir fod enwogrwydd Ulysses wedi ei ychwanegu yn fwy drwy ganiaaall Homer na thrwy ei anturiaethau ef ei hun, a hyny oherwydd fod y fath fawrhydi yn hudoliaethau ac ehediadau darfelydd y bardd. Ond o bosibl, fod yr effaith fwyaf swynol a phwysig a wneir gan lyfraU yn gynwysedig yn y dull y tueddant i ffurfio y oy," meriad, ac i wellhau a choethi cymdeithas. iS gall person fyddo wedi ymgynefino a meddylia uchel a choeth, neu a fyddo wedi dyfod i feddiant chwaeth dda clrwy ddarllen, byth fod yn anfoesol a isel-chwaeth, er i'w alwedigaeth fod yn wael, a amgylchiadau yn isel. Diolch i'r darganfyddia™* bendigedig o argraffu, ac i'r cynydd rhyfeddol X mae'r gelfyddyd wedi ei wneud yn y bedwared ganrif ar bymtheg. Mae'r Penadur a'r deiliaid J". mwynhau yr un manteision deallawl, gall y cyn mae'n wir feddu mwy o amrywiaeth o lyfrau, we eu gwisgo yn fwy harddwych a chostfawr, feallal, ond gall y dyn tlotaf yn awr feddianu moddion a loniant ac addysg feddyliol, yr hyn ychydig ga^r1^ oedd yn ol a waherddid i dywysogion. Yr oe^ gwr yn ddiweddar yn talu ymwefiad a'r ericanaidd enwog Longfellow, ac yn ei Lyfrgell y* ychwanegol i'r shelves Uawnion, canfyddai yr y welydd y bwrdd wedi ei lenwi a thyrau o lyfrau bob math o destynau, yn mhob cwr o'r ystafeli y edrychai iddo, llyfrau, llyfrau, a dim ond ] Pan sylwodd y cyfaill rywbeth am hyn, dyna d J wedodd y Bardd—' Mae yn dda genyf gael Uyfr o'm cwmpas, er i mi efallai fod heb eu darllen. A phwy eill amheu nad oes rhyw swyn dirgelaidd me bod llyfrau o'n cwmpas. Y mae teimladau a rhyw ddyJanwad hyfryd yn awyrgylch Mae yr ystafell lie mae meddyliau dynion naawr a da yn drysoredig, yn sicr o fod yn dir sanctai yn deilwng o barch,ac i gynyrchu teimladau tynÐ dd pharchedig yn mynwesau y meddylgar. Yr Esgob Gwyddelig unwaith, yr hwn pan yn w ymweliad blynyddol a'i glerigwyr, a ffurfiai am eu cymeriad yn ol fel y gwelai a fydafli ddynt lyfrau o'u cwmpas ai peidio. Mae rhy" yn quaint' iawn yn y sylw a wneir ar lyfrau^. Milton, rhag ofn colli prydferthwch y; sy gyfieithiad, dodwn ef yma yn ei wreiddiox 4 Books are not absolutely dead things, but u° tain a potencie of life in them, to be as active a_ soule was, whose progeny they are. Nay^ Jra,c preserve as in a violl the purest efficacie aBd tion of that living intellect that bred theC1, good almost kill a man as kill a "good boote J kills a man, kills a reasonable creature-o _g0n age but he who destroys a good booke.kilw, 0t itself—kills the image of God as it were ui o0i Many a man lives a burden to the earth, t>u Booke is the precious life-blood of a master- ^e- imbalmed and treasured upon purpose to a yond life.' g0d Byddai yn dda i lawer o rai sydd eu hunain i fyny yn feirniaid (critics) ddar wy o ar Milton, feallai y dysgid iddynt r0~T_v.vr barch i lyfrau, os na roddai iddynt sy" desl1- J. Com** Caernarfon.
[No title]
News
Cite
Share
GENTLEMEN, desirous of having tiieir TB| to perfection, should supply their Landresse^. GLENPIELD STARCH which imaprts a elasticity gratifying alike to the senses o1'* touch.