Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
% )lt3t iproijj,
News
Cite
Share
)lt3t iproijj, DAN OLYGIAETH, Y Parchedigion W. Rees, D.D., J. Thomas, N. Stephens a W. Roberts, Liverpool; a J. Davies, Caerdydd. Cyfrife yn mysg ei ohebwyr rai o lenorion blaenaf eiu cenedl—rhai o honynt yn rheolaidd, ac eraill yn achlysurol. Mae y rhai a ganlyn yn mysg ei feddian- wyr, neu wedi ysgrifenu erthyglau ar destynau gwladol neu eglwysig, ac yn addaw gwneud hyny hefyd eto: -Y Parchedigion J. R. Kilsby Jones; W. Ambrose (Enirys), Portmadoc; R. Thomas (Ap Vychan), Ban- gor, D. Roberts (Dewi Ogwen), E. Evans (Herber), R. Ellis (Cynddelw), Caernarfon; D. Griffiths, Port- dinorwic; R, Williams (Hwfa Mon), Llundain A. J. Parry, Liverpool; D. Jones, B.A., Merthyr; E. Ste- phen, Tanymarian; W. Evans, Aberaeron; O. Evans, Llanbrymnair; J.Lewis, Henllan; J. Peters, Bala; T. Johns (Taborfryn), Llanelli; W. Thomas (Gwilym Gwenffrwd); T. Rees, D.D., Abertawe; R. W. Grif- lith, Bethel; D. Oliver, Llanberis; W. I.[Morris, Pont- ypridd; H. Oliver, D.A., Newport; D. Rowlands,B.A., (Dewi Moil), Trallwm; E. Owen, Clydach: O. Jones, Ystalyfera H. Rees, Caer; W. Griffith, Caergybi; H. Jones, Cemaes; J. M. Prytherch, Wern; S. Evans, Hebron; W. Morgan, Caerfyrddin; W. Roberts, Aberhonddu; J. B. Jones, B.A.,Penybont; J. Davies, Tainirion; L. Probert, Bodringallt; T. Ll. Jones, Machen; W. Nicholson (Eldad Mon), Treflys; E. James (I. G. Eigion), Llanaelhaiarn; W. Thomas, Whitland; T. Thomas, Glandwr; R. Hughes, Cendl; E. Hughes, Penmain; D. Richards, Caerphili; W. Jones, o India; H. E. Thomas, o America; T. Thomas, o Affrica; Meistri P. Mostyn Williams; J. Ceiriog Hughes; C. R. Jones, Llanfyllin; J. Williams, Trecyn- on; W. Tegerin Hughes, Gweirydd apRhys, R. Her- bert Williams (Corfanydd), PontMenai; T. Williams, Goitre; Titus Lewis, F.S.A.; W. E. Williams [Gwilym Alltwen], Caernarion, yn nghyda lluaws o weinidog- ion a lleygwyr galluog eraill.
AT EIN GOHEBWYR.
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Twm Llwyd.—Drwg genym nad yw yn ein gallu i wneud yr hyn a geisiwch. Baich dyledion yw yr achos na wneid, ac nid diffyg cydymdeimlad. Gwyddom fod hyn yn ofid i rai o'r bobl oreu yn y cynnulleidfaoedd, ac nid teg ydyw taro y rhai sydd eisioes yn- ddolurus. Nid ydym yn sicr am gywirdeb yr haeriad a wneir gyda golwg ar Gymru. Ond beth bynag, dylai y rhai sydd mewn gallu wneyd yn llawer rhagorach gyda phob enwad. H. Owens.-YsgrifenydcT Tysteb Trogwy, a ddymuna ddioleh i'r cyfeillion caredig sydd yn cynorthwyoyn yr amcan, yn enwedig pobl dda Brymbo a Penuel, am yr ymdrech a wnaethant i werthu tocynau y Dduwioleg, a'r holl elw i fyned at ei Dysteb; a dymuna y Pwyllgor wneyd yn hysbys fod Mr. Evans, ar ei gais, yn barod i fyned i unryw fan y gelwir arno i adrodd a chanu ei Dduwioleg; a da ganddynt ddeall fod amryw eglwysi ereill yn parotoi at gael ei glywed yn ei thraddodi. William Selby, gynt o Sir Benfro, yn awr o No. 1, Tir Bach Road, Cwmbach, Aberdare, a garai wybod enw y Selby sydd yn debyg o feddianu etifeddiaethau mawrion Buckingham. Ystradwyson.—Gwelwcli yn dda anfon i ni yehydig newydd- ion o'r gymydogaeth yna. Ymweliad a Phenmain; Llythyr o'r Wladva; Ysgolion An- enwadol—Cant ymddangos cynted ag y caffom le. Gwelliant Gwall.-Yn hanes cyfarfod Wrexham, agyfnodwyd yr wythnos ddiweddaf; darllener Rowlands, Rhôs, yn lie Rowlands, Rhyl. Mae y When Ffarmwr" yn ein trin yn erwin am gysylltu ei enw ef a'r hen bersoniaid. Bygythia na ysgrifena mwy os cymerwn ei enw ef yn ofer eto, gan ei gyplysu a'r hen ber- soniaid. Hen Gofiadur ddylasai fod, fel y gwelir yn y rhifyn hwi) ond y mae dyweyd y Ehen Ffarmwr" mor naturiol i ni, fel yr oedd yn hawdd i ni roddi y naill yn lie y Hall, Hen Gofiadur cofier ydyw. Brodor o Arfon,—Nid ydym yn gweled yr atebid un dyben da trwy gyhoeddiad eich ysgrif. Yr ydym yn union yr un farlla chwi am lithau doniol Gwyn Vaughan, a gwyddom mai dyna deimlad ein darllenwyr. Yr ydym yn cyhoeddi y brawddegau a ganlyn o'ch ysgrif, am y cynwysant bob peth o bwys Credwyf mai tro anffodus anghyffredin oedd i Owen Jones, Galltyfoel, Llandinorwig, fynu (JY- hoeddi ei lythyr yn eich colofnau: O'r blaen yr oedd Iluaws darllenwyr y TYST yn tybied mai cymeriad ffugiol oedd Owain Jack. Nid wyf yn gweled achos o gwbl i eglwys Ebenezer deimlo i'r graddau lleiaf oherwydd dim a ddyw- ed Gwyn Vaughan yn ei lith. Nid oes gair bach na mawr, o glod nac anghlod, i un eglwys yn un ran o'r ysgrif; ac y mae O. Jones i'w feio yn fawr am lusgo eglwys barchus Ebenezer mewn cysylltiad a'i enw i dudalenau y TYST." Yr ydym yn gadael y gweddill allan. Difudd hollol ydyw parhau dadleuon personol yn ein colofnau. Mae ysgrifen- wyr fel Gwyn Vaughan yn debyg o ddyweyd pethau y teimla llawer oddiwrth eu min; ona os a pob un sydd yn gweled y cap yn ei ffitio" i wneyd ei ymddiheurad, pa le y bydd y diwedd? Ac nid oes achos i'r diniwed deimlo oddi- wrthynt. Diofal y cwsg potas maip," neu fel y dywed y Deheuwyr y ddihareb, Esmwyth y cwsg cawl erfln." Gwyliwr Ceredigion.—Diangodd eich11 Pethau Odd" ein sylw yn lan. Drwg genym hyny. Deuant eto. Tramwywr yn Mon.—Yn wir nis gwyddom pa beth i'w wneyd a'r eiddoch. Os oes y fath rai yn ymlusgo i daiau, ac yn beichio teuluoedd ac eglwysi, y mae yn llawn bryd eu dy- noethi. Y cyngor goreu ydyw, "Na dderbyniwch ef i dy." Daagysylltwr.-Nis gallwn wneyd mwy nag ydym wedi ei wneyd. Yr ydy- yn gwbl o'r un fam a chwi y dylid gwn- eyd rhywbeth lawn o honi, neu ddim, y noson y daw cyn- hygiad Mr Watkin Williams ger bron. Ondrhaidcydym- gynghori cyn y gwneir dim i bwrpas.
TELERAU Y 'TYST.'
News
Cite
Share
TELERAU Y 'TYST.' Aufonir un rhifyn o'r TYST drwy y post i unrhyw le am chwarter am 2s 2g. Danfonir tri rhifyn i unrhyw fan am 3s 8c y chwarter; ae anfonir chwech am 5s 6c y chwarter, a rhoddir cfe',y geiniog y swllt i'r Dosbarthwyr am unrhyw nifer a werthir uwchlaw hyny. Cofied ein dosbarthwyr mai yn drivdd yn uuig yr ydym yn eu hanfon trwy y post. Cyfeirier y Gohebiaethau-To the Editors of the TYST CYM- I'.iiia, 8, Ilrook's Alley, Old Post Office Place, Liverpool; ar hell archebion a thaliadau am y TYST i'w gwneud i Mv. O. THOMAS, i'r cyfeiriad uchod. Ac er arbed traul a choll amser, cyfeirier y Farddoniaitholl i REV. R. WILLIAMS (Wfq Mw)> to, 1910YIP44 Aggot iSwikiastQOi LIPOI,
MOESOLDEB AC ADDYSG YN NGHYMRU.
News
Cite
Share
MOESOLDEB AC ADDYSG YN NGHYMRU. Mae yr Eglwyswyr yn Nghymru y dyddiau hyn fel wedi eu meddianu gan ryw ddrwg ysbryd; yn enwedig y mae arweinwyr parch- edig y bobl felly. Mae tynged yr Eglwys yn yr Iwerddon wedi peri i ofn ac arswyd syrthio arnynt mai yr un fydd eu tynged hwythau. Ysgrifena Yicar Caernarfon yn ddoniol yn y Goleuad-yn ddoniol meddwn nid yn gymaint ar gyfrif ei allu, ac ar gyfrif y ffaitli ei fod yn ddigon rhydd i ddyweyd unrhyw beth. Gwna yn rhigl yr hyn y methodd Balaam ei wneyd er cael ei alw o bell i hyny, a chael cynyg tal da am ei waith; ond nid ymddengys fod dim o scruples dewin cyflogedig Siria yn blino cyd- wybod y Vicar parchedig o Gaernarfon, canys cyhoedda ei anathemeu heb floesgni gwefusau. Ond y mae rhyw archgablwr arall wedi dyfod allan yn y Globe i waradwyddo moesoldeb Cymru, ac i ddwyn y cyhuddiadau bryntaf, yu erbyn ein cenedl, heb roddi gwybod i ni pwy yw ein cyhuddwr. Nid ydym yn dal Yicer- iaid Caernarfon a Chorris yn gyfrifol am hyn; er hwyrach y tybia rhai fod "llaw Joab yn y peth." Nid oes yma ond yr hen gyhuddiadau a ddygwydrawer gwaith, ac a wrthbrofwyd gyn- nifer a hyny o weithiau. Profi Cymru yn wlad anniwair yw y pwnc mawr-ac yna yn dal Ymneillduaeth Cymru yn gyfrifol am hyny. Adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi; trydydd adroddiad fel yr ymddengys o eiddo dirprwyaeth a benodwyd i wneyd ymchwiliad i sefyllfa plant, pobl ieuainc, a gwragedd sydd yn gweithio mewn rhanau amaethyddol. Cymru ni allem feddwl sydd yn sefyll isaf yn yr adroddiad; o leiaf at yr hyn a ddywed yr adroddiad am Gymru y bu yn werth gan y Globe alw sylw; ac y mae yn bur sicr genym mai nid yn ddifwriad y bu hyny. Blasusfwyd i'r Globe oedd y fath ddisgrifiado gyflwr moesol Cymru Ymneillduol—yr oedd yn rhy dda i'w adael heibio, ac ni buasai chwil- io i'w gywirdeb yn ateb yr amcan. Arch- ddiacon Ty Ddewi, a Vicar Raglan, sir Fynwy, a Yicar St. Harmon yn sir Faesyfed, a Mr. Tremenheere, ac un neu ddau eraill o dirfedd- ianwyr Toriaidd sir Gaerfyrddin yw y cyhudd- wyr. Dynion cymhwys iawn i roddi eu barn ar foesoldeb Cymru onide? Beth wyr Yicar pentref llwyd, mynyddig, ac anghysbell St. Harmon am foesoldeb Cymru? NidoesnaChym- runac Ymneuliduwyr ond ychydigyn ei derfyn- au; a charem gael gwybod gan y Yicar parch- edig pa un ai yr yehydig Ymneillduwyr, ai ynte y lluaws y mae yr Eglwys yn eu hawlio, sydd yn gyfrifol am nifer y bastariaid yn sir Faesyfed? Dyma y sir isaf ei mhoesau yn Nghymru, yma, yn ol y boblogaeth, y mae y nifer amlaf o blant annghyfreithlawn; ac yma hefyd y mae Ymneillduaeth wanaf o un sir yn Nghymru, a'r iaith Gymraeg wedi ei chau allan o honi agos yn hollol. Mae Raglan yn sir Fynwy" ac y mae y Saeson yn hawlio hono bob amser, ond pan y byddo rhyw derfysg ynddi, neu anfoesoldeb yn cael ei ddwyn i'w herbyn, yna rhoddir hi i Gymru. Ond y mae dal Cymru yn gyfrifol am afreoleiddiwch bechgyn a genethod yn ffair Trefynwy yn ynfydrwydd, hyd yn nod pe byddai yr hyn a ddywedir am danynt yn wir, yr hyn nid ydym yn barod i'w dderbyn heb gryfach prawf na dim a geir yma. Nid dyma y tro cyntaf i ni gyfarfod a Mr. Tremenheere yn mysg cablwyr moesau ein cenedl; ond nid yw Mr. Tremenheere yn myned yn ddigon pell yn ngolwg golygydd y Globe, oblegid nad yw yn cyhuddo y gwragedd sydd yn gweithio mewn goruchwylion amaethyddol. o anfoesol- deb, yr hyn yn ddiameu meddai sydd yn bodoli. Onid yw yn ddirgelwch fod y golygydd heb brofion yn gallu bod mor ddiamheuol ? Nid ydym, mewn un modd, yn myned i amheu yr hyn a ddywedir gan Archddiacon Tyddewi, a chan Syr J. J. Hamilton, a Mr. W. R. H. Powell, fod llawer o anfoesoldeb yn Nghymru-fod ffeiriau yn achos o lygredig- aeth mawr, a bod y drefn o gyfeillachu sydd yn mysg ieuenctyd mewn rhai manau yn warth i ni fel cenedl, ac yn arwai nynanocheladwy i annuweirdeb; ond yr ydym yn yr iaith gryfaf yn gwrthdystio yn erbyn y siarad ddiraddiol a wneir am y Cymry, fel pe byddai eu syniadau am foesoldeb yn is na chenedloedd eraill; ac nad oes dim yn eisiau er ein dyrchafu ond rhoddi addysg i'n pobl-a dwyn arferion Seis- nig i ddylanwadu arnynt-ac yn enwedig cael gwared o Ymneillduaeth a'i heffeithiau anian- ol, a goresgyn ein gwlad gan addysg ac atliravr- iaeth ddyrchafol yr Eglwys Sefydledig. Mae y dadleniadau a wneir yn llysoedd ysgariad Y deyrnas y dyddiau hyn yn dangos fod pydredd, a llygredigaeth, ac aflendid yn ysu cylehoedd uchel cymdeithas sydd o dan yr holl dylanwad- au, am y rhai y dywedir nad oes dim yn eisiau er ein hadferiad gwladol a chymdeithasol fel cenedl ond eu dwyn i aneddu arnom. Gweled effeithiau y pethau hyn yn gwella y rhai sydd yn eu mwynhau a fyddai y peth tebycaf i gymhell eraill i fyned dan eu dylanwad. Yr ydym gyda galar yn cydnabod fod safon moes- oldeb yn isel yn Nghymru, pan y dygir Jef at brawf-faen uchel sancteiddrwydd yn y Beibi; ond y mae wedi ei brofi trwy ffeithiau a :ffig" yrau fod gweision "a morwynion, gweithwy1 cyffredin a'u gwragedd yn Nghymru mor b'Llr yn mhob cangcn o foesoldeb cymdeithasol ag unrhyw nifer cyfartal o'r unrhyw ddosbarth" iadau, yn unrhyw barth o'r deyrnas gyfunol-
LLYTHYR Y MEUDWY.
News
Cite
Share
LLYTHYR Y MEUDWY. (O'N MEUDWYDY RHWNG, BRYNIAU GARTH MADRYN.) Heno, (Nos Lun) onide? mae y Mar^is 0 Hartington i ddwyn y ballot ger bron y Sen" edd. Llawer gwaith bellach y cafodd yr pwnc ei drin yn yr un man, ond annerbym0 iawn ydoedd gan nid yn unig y Toryaid, on gan, ysywaeth, niferi o wirfoddolwyr Pr0^s' edig. Ond peth newydd yn y tir yw i° pendefig. yn cymeryd y matter mewn llaw 5 t: digon tebygol na chymerasai yntau y drafter o'i bleidio oni buasai iddo gael ei wrthod yn 1868 fel ymgeisj,dd am gynrycbioli rhan 0 swydd Lancaster. Ymlawenhai ei