Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

ADGOFION AM GYMRY LIVERPOOL.

News
Cite
Share

ADGOFION AM GYMRY LIVERPOOL. GAN CORFANYDD.' AIL GYFRES.—LLYTHYR XXVI. Os oes rhyw nodwedd neillduol yn perthyn i'r ad- gofion hyn, yn ddiau y penaf yw, nad oes na llun na threfn arnynt fel hanes dilynol, gan eu bod yn neidio oun man i fan arall, ac o un cyfnod i gyfnod aralL oes mo'r help am hyny, ddarllenydd; ac felly yr addewais yn y cychwyn y byddent, gan mai o'r cof yn unig, heb un parotoad, ond fel y delont yno, y1 ysgrifenir hwynt. Ac felly, anghofiais hyd yn "■yn son am enw Liverpool. ENW LIVERPOOL.—Y mae tarddiad yr enw Liver- pool wedi peri dadl a dyryswch yn mhlith hynaf- ieithwyr a iaith-garwyr, fel y sillebir ef mewn am- rywiol ddull, megis Lyverpoole, Lyrpole, Lerpool, ■tjeerpool, Livrepool, Lyverpol, Letherpoole, Lyfer- pole. Tua deng mlynedd a thriugain yn ol, sillebid f Leverpool; ac felly y mae mewn hen ysgrif dydd- ledig 1524. Rhai a dybient mai oddiwrth enw aderyn a'i enw Liver ond nid yw hyny ond ffug. Ereill mai oddiwrth lysieuyn a dyf ar lan mor a el- WirLiverwort (llysiau yr afu). Ac ereill a dybient jaai oddiwrth hen deulu o'r enw Lever a drigent yno toa 1567. Ond yn mhlith yr amryw olygiadau am darddiad yr enw, nid oes neb wedi ystyried y tuedd sydd mewn rhai ieithoedd i newid sain rhyw lythyren am un arall sydd haws i'w gynghanu. Nodwedd llawer iaith yw dewis y llythyren 1 yn ~Je r. Yn yr hen Saesonaeg, cawn Hal yn lie Hari, °al, Sali yn lie Sarah Mol, Moli yn lie Mari. Yn gan fod llyn mawr corsiog yn ceincio o'r afon -Jersey yn y fan y saif y Custom House, ac yn cyrchu oddi yno drwy Paradise Street, hyd at Richmond ■Row. pe allai mai y llyn oedd prif nodweddiad y Wxandir hono; ac i'r diben o ddarlunio y llyn, y ceir yr holl enwau hyn a nodwyd yn llyfrau hanesyddol y dref. Wrth ystyried agosrwydd y llyn i'r afon, j^d oedd modd cael gwell disgrifiad na mwy cym- ^ys na'i alw y River-pool; yr hyn, drwy ddef- nyddiad y llythyren L, sydd hawddach i'w chynanu Ua r R, a'i gwna yn Liverpool. I olrhain tarddiad y gair Lyrpwl oddi wrth y gair mraeg Lle'rpwll sydd gywreinrwydd ieithyddol juangenrhaid; oblegid y mae pobl wledig sir Gaer- a sir Lancaster hyd heddyw yn cynghanu -Liverpool yn Lerpwl yn gymhwys fel y gwna y ^ymry. LLYNLLEIFIAD.-Tua'r flwyddyn 1820, Pedr Fardd ^rth ysgrifenu i'r Seven Gomer a newidiodd enw Lerpwl i Llynlleifiad, yr hyn a barodd i'r byd llen- yddol ddyrysu ac ymholi yn mha gwr o'r byd yr oedd. Pa reswm oedd gan yr hybarch Fardd dros Ilewicl yr enw ni chlywais, os nad oedd efe yn ystyr- *ed y llyn fel llaif, lleiiiad—hyny yw, toriad neu ^darn o'r afon—a thrwy hyny yn gwneud gair cyf- ^sawdd o'r ddau air i fod yn Llyn-lleifiad. Modd ynag am hyny, aeth yr enw hwnw yn ddigon ad- oabyddus ar lafar gwlad yn mhlith llenorion Cymru, y dyddiau hyny oedd cyfnod y caru enwau /~eithr-hirion. Y neb a ddewiso weled y dref fel y ochvyd uchod, gallent weled yn William Brown's 7, rary gynllun o honi fel y bu tua chant a haner o nyayddau yn ol. DECIIREUAD A CHYNYDD LIVERPOOL.—Yn y flwydd- yj* 1693, nid oedd Liverpool ond ardal ddistadl yn 7^«Wyf "Walton, gydag ychydig o fwthod pysgot- yr glan afon Mersey. Gelwid ar y pryd Liverpool jrjagos i "Walton. Nid oedd iddi na doc naphorth- iJ^d, namyn y traeth moel a naturiol yr afon i a dadlwytho eu llongau, nifer y rhai oedd a phymtheg, yn alluog i gludo oddeutu 259 o 0 VM "• trigolion yn rhifo 4,851, a dim ond un lie addoliad, y capel—yn awr Eglwys St. Nicholas. da* r1 y gallasai y Great Eastern, neu ddwy neu Jjr* °'r llongau sydd yn mynychu afon Mersey yn 9, U a fK' .^u<^° yr holl longau hyn yn nghyd a'u llwythi, 1 i, jS°lion y dref, mewn unllwyth yn eithaf diogel y^^yw barth o'r byd. W ? oe,dd y capel dan nawdd Eglwys y plwyf yn iJcl n' ^ua ^air niilldir o'r dref. Gweinidogion yr glXvys hono a gyflawnent yr holl wasanaeth. Ond hotl frwyddyn 1,699, gwnawd Liverpool yn blwyf V (7°!! annibynol oddiwrth Walton; ac fel iawn am a fh • te^d i Rector Walton y swm o ugain swllt *Haiair ce"^°8'» ac i'r Vicar ddau swllt a thair a di- yr hyn sydd brawf nad oedd Liverpool y pryd t1 Yond ardal ddigon tlawd a disylw. Y mae yn ^awer o blwyfydd o'r enw Walton, ond hwn YY^ybuy fel n2011' G-OEONWY OWAIN, M.A., yn gweinyddu U-Tad ani dros ddwy flynedd. Yn ei lythyr at fe Caergybi, dyddiedig Ebrill 30ain, 17-53, tjf ^eUach, e fyddai gymhwys i mi roi i chwi gyf- °ddiw °'m kamgylch; ond nis gwn ddim etto Eto f ond *nai drud anial ydy w ar bob ymborth. W e Synhygiwyd i mi le i fyrddio, hyd oni chafE- ya i ddwyn fy nheulu ataf, yn ol wyth punt Bl0n ^yddyn a pha faint rhatach y byrddiwn yn °Qd tin j 7W y k°bl y ffordd yma, hyd y gwelwyf, raad uwchlaw Hottentots—rhyw greadur- iaid anfoesol, didoriad. Pan gyfarfyddaf a hwynt, ni wnant ond llygadrythu yn llechwrus, heb ddy-- wedyd pwmp mwy na bwch. Eto rwy'n clywed mai llwynogod hen, cyfrwys-ddrwg, a dichellgar ydynt; ond yr archlod iddynt, ni'm dawr i o ba ryw y bont. Pymtheg punt ar hugain yw yr hyn a addawodd fy Mhatron imi; ond yr wyf yn deall y bydd ef yn well na'i air. Ni rydd i mi ffyrling ychwaneg o'i boced; ond y mae yma ysgol rad, yr hon a gafodd pob Carad o'r blaen, ac a gaf finau oni feth ganddo. Hi dal dair punt ar ddeg yn y flwydd- yn, heblaw Ty'n y fynwent i fyw ynddo; ac os caf hi, bydd y lie yn well na deugain punt yn y flwydd- yn." Tra bu yno, gaiiwyd iddo ferch a'i henw Ellin, yr hon a fu farw Ebrill 17eg, 1755, ac a gladdwyd yn mynwent Walton. Ac mae'n lled-gof genyf i'r Clochydd ddangos y fan y claddwyd, yn gyfagos a than ffenestr ddwyreiniol yr Eglwys. Er cof am yr hon y canodd farwnad hiraethlon, yn mha un fe ddywed— Yn iach-f y enaid, loenwych fanon, Neli'n iach eilwaith lan ei chalon; Yn iach fy merch lwysfach Ion—fy ayigyles- Gorphwys yn mynwent Walton.' Goronwy Owain yw y Cymro cyntaf sydd genym mewn hanes a fu yn trigo yn ardal Liverpool, a hefyd y bardd a'r lienor cyntaf. Yn ein nesafArdal y Cymry cyntaf—Eu cen- edlgarwch-Y Sectau, &e.

ENGLYN I'R ADGYFODIAD.

ENGLYNION,

LLOFFION.

BETH YW HIRAETH ?