Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
GWYLIAU MIS MAI.
News
Cite
Share
GWYLIAU MIS MAI. Nis gallwn ymgymeryd a rhoddi hanes cyflawn o gyfarfodydd mawrion mis Mai. Byddai TYST bob dydd ar hyd y mis, ac heb roddi dim arall ynddo, yn rhy fychan i wneud hyny ond gwnawn fyr gry- bwylliad am y rhan fwyaf o honynt o wythnos i wythnos. Rhaid i ni osod Y GYMDEITHAS FEIBLAIDD ar ben y rhestr—nid am mai ei huchel wyl hi oedd y gyntaf a gynhaliwyd, ond am mai hon trwy gyd- syniad cyffredinol yw y bwysicaf o'r holl gymdeith- asau, oblegid nid oes ganddi ddim mewn golwg ond lledaenu pur air Duw. Cynhaliwyd ei chyfarfod yn Exeter Hall am 11 boreu Mercher, Mai 4ydd. Iarll Shaftesbury yn y gadair. Yr areithwyr eleni oeddynt Esgob Ripon, Syr Bartle Frere, Dr. Mullens, Esgob Crowther, Mr John Macgregor, Dr. Vermi- yle o New York, a'r Parch. W. 0. Simpson. Yr oedd yr adroddiad a ddarllenwyd gan Dr. Jackson yn cynwys mynegiad o weithrediadau goruchwylwyr y gymdeithas yn eu gwahanol gylchoedd, yn enwedig ar gyfandir Ewrop. Yr oedd cyfanswm derbyniad- au y gymdeithas, gan gynwys yr hyn a roddwyd at drysorfau neillduol China, Spaen, ac India, yn cyr- haedd y swm anrhydeddus o 182,265p. 6s. 3c. Ac yn ystod y flwyddyn, gwasgwyd gartref. ac mewn gwledydd trnmor 2,186,186 o gopiau o Air Duw yn gyflawn neu yn rhanau, yn gwneud cyfanswm y copiau a wasgarwyd gan y gymdeithas o'r dechreu yn 59,396,671. Dydd y farn yn unig a ddengys effeithiau daionus y miliynau cenhadon distaw hyn. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol CYMDEITHAS GENHADOII Y BEDYDDWYR yn Exeter Hall nos Iau, Mai 5ed. J. J. Colman, Ysw., Norwich, yn y gadair. Yr areithwyr eleni oeddynt y Parch. LI. D. Bevan, Parch. W. A. Hobbs, Cenhadwr o India; Robert Scott, Moncrief, Ysw., o Bengal; Dr. Haycroft, Parch. J. Smith, o Delhi, ac ereill. Yr oedd yr adroddiad a ddarllenwyd gan y Parch. F. Trestrail, a'r cyfrif arianol a gafwyd gan J. Tritton, Ysw., yn dangos fod y gymdeithas mewn sefyllfa iachus a gweithgar. Cyfeiriai yr adroddiad at ddadgysylltiad a dadwaddoliad yr Eglwys Sef- ydledig yn Jamaica fel digwyddiad pwysig y flwydd- yn yn hanes gweithrediadau y genhadaeth yn y wlad hono. Yr oedd y derbyniadau am y flwyddyn yn 39,339p. 8s. 6c.—y swm uchaf a dderbyniwydi gyllid y gymdeithas yn unrhyw flwyddyn er ei sylfaeniad, ag eithrio blwyddyn ei Jubili. Crybwyllasom air am GYMDEITHAS BHYDDHAD CREFYDD; ond yr ydym yn teimlo y dylem roddi mwy na'r cry- bwylliad oedd yn ein rhifyn diweddaf. Cyfarfu y Cyngor yn Canon-St. Hotel ddydd Mawrth, Mai 3; ac yr oedd yn nghyd luaws mawr o hen gyfeillion profedig y gymdeithas. Cymerwyd y gadair gan y Trysorydd, Mr W. Edwards; a darllenwyd yr adrodd- iad gan yr Ysgrifenydd, Mr Carvell Williams. Pas- iwyd yno amryw benderfyniadau eymeradwyol i'r mesurau sydd yn awr ger bron y senedd; a datgan- wyd trwy benderfyniad cryf eu bwriad i fyned yn mlaen, gan arfer pob gallu a dylanwad i ddwyn oddi amgylch yn Lloegr, a Chymru, ac Ysgotland y dad- gysylltiad a'r dadwaddoliad sydd eisoes wedi ei sicr- hau i'r Iwerddon. Yn y cyfarfod cyhoeedus yn yr hwyr, yn Freemason's Hall, cymerwyd y gadair gan H. Richard, Ysw., A.S.; ac yr oedd y neuadd yn or- lawn. Gwnaeth y Cadeirydd, yn ol ei arfer, a very strong case yn ffafr dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru. Ar derfyn ei araeth, dywedodd—' Rhaid i mi gymeryd fy rhyddid i'ch rhybuddio chwi, fy nghyfeillion Seisnig, ein bod ni yn Nghymru wedi cyrhaedd safle neillduol gyda golwg ar yr Eglwys Sefydledig yno ac yr ydym wedi gwneud ein medd- yliau i fyny, ac nid ydym yn barod i gymeryd ein troi heibio, ac i ddyweyd wrthym nas gellir gwneud dim yn Nghymru nes y byddwch chwi wedi gwneud eich meddyliau i fyny beth yw eich penderfyniad chwi gyda golwg ar y sefydliad Eglwysig yn Lloegr. Nid wyf yn gweled un rheswm paham y mae yn rhaid i chwi fod yn bwysau mawr yn hongian wrth- ym ni, nes y byddwch chwi trwy eich symudiadau arafaidd wedi gweithio eich hunain i fyny i'r pwynt i daro. Yr ydym ni yn meddwl fod genym hawl, gan ein bod ein hunain yn genedl ysgaredig wahan- ol oddi wrthych chwi-er fod yn llawen genym gymdeithasu a chwi dan yr un cyfansoddiad—gwa- haniaethol mewn cenedl ac iaith, ac wedi cymeryd gofal o'n crefydd am gant neu gant ac ugain o flyn- yddoedd, heb unrhyw help gan y Llywodraeth, ac heb help o Loegr—yr ydym yn ystyried fod genym hawl i ffurfio barn o'r eiddom ein hunain gyda golwg ar pa beth a ddylem wneud o berthynas i'r Eglwys Sefydledig. Nid Eglwys Cymru ydyw, ond yn unig Eglwys Loegr yn Nghymru.' Dyna syniadau croyw, a'r rhai y cydsynia corff Ymneillduwyr Cymru yn y dyddiau hyn; ac nid oes gdnym ond gobeithio y traethir hwy yn llawen pan y daw achos yr Eglwys yn Nghymru ger bron y senedd. Heblaw amryw o hen bleidwyr y gymdeithas, yr oedd ein cydwladwr dysgedig Mr Osborne Morgan, A.S., yno, a thradd- ododd araeth egniol llawn o dan ac angerddoldeb. Yr ydym yn llawenhau i weled Eglwyswr cydwy- bodol fel Mr Morgan yn dyfod allan ac yn llefaru mor ddiamwys. Buasai yn dda genym pe caniatasai ein gofod roddi crynhodeb llawer helaethach o'r cyfarfodydd pwysig hyn, ond y mae hyny yn anmhosibl mewn newyddiadur ceiniog Cymreig. Ceir cyfarfodydd yr Undeb Cynulleidfaol, a Chymdeithas Genhadol Llundain, ac ereill, yr wythnos nesaf.
[No title]
News
Cite
Share
WREXHAM.—Siarad y dref yn awr yw am yr Eos (NigMingale) ag sydd wedi gwneud ei harosiad yn Buchan, pellder o ddwy filldir. Y mae canoedd yn cyrchu yno bob nos i wrandaw ar ei llais son- iarus. Y mae wedi bod yno dros wythnos yn awr. Nos Sadwrn, fe ddarfu rhyw langc ag oedd wedi meddwi daflu cerig ati, ond talwyd iddo yn iawn trwy ei daflu i lyn dwfn oedd gerllaw. LIVERPOOL.—Cyfarfod blynyddol Great Mer- sey Street a gynhaliwyd Sabboth, Mai Sfed. Preg- ethwyd am 10, gan y Parchedigion E. A. Jones, Dolgellau, a N. Stephens am 2, y Parchedigion W. Nicholson, Treflys, a J. Hughes, Everton ac am 6, y Parchedigion W. Nicholson, ac E. A. Jones. Caf- wyd cyfarfod da iawn, ac ymddangosai y pregethau yn gafael yn y gynulleidfa. Ni chefais fanylion y casgliadau; ond buaswn yn barnu oddiwrth ddull difyr a hamddenol Mr Roberts y gweinidog yn siarad ar y casgliad y dylasai fod yn un da iawn. Dywed- odd rhywun wrthyf mai deng mlynedd i'r Sabboth diweddaf y ffurfiwyd yr Eglwys syd.d yn awr yn Great Mersey Street; ac yn yr yspaid hwnw pan gofiom sefyllfa isel masnach, a marweidd-dra cref- ydd, y mae ei chynydd a'i llwyddiant wedi bod yn fawr iawn, fe ddichon yn gymaint ag unrhyw Eg- lwys o unrhyw enwad yn y dref pan gofir y nifer ydoedd wrth gychwyn a'r nifer ydyw yn awr. Ac y mae Mr Roberts wedi bod yn weithiwr distaw, diwyd, a dyfalbarhaol.Gohe.bydd,
LLYTHYR Y MEUDWY.
News
Cite
Share
nebWYr Yn ei. aflwycldiant ar y pryd, 11 theiml- ent ei fod wedi derbyn cosb haeddianol am ei ryddfrydaetli, ond, gan na ddaw drwg i un heb dda i arall, mae y fuddugoliaeth yn debyg 0 droi allan yn ddrudach a chwerwach i'r blaid Doryaidd na phe buasai ei wrthwynebwyr Wedi cael eu trechu gan yr Ardalydd. Pan 10ngyfarchwyd y Due o Wellington unwaith ar 01 ennill byddugoliaeth waed fawr ar ei elynion, ei atteb ydoedd y buasai ail fyddug- °liaeth o'r fath yn ddigon i ddinystrio y fyddin Brydeinig: ac felly byddai troi allan o'r manau a^arferent gynrychioli ychydig yn ychwaneg 0 r fath wyr a Hartington, Gladstone, a Bruce, yn fuddugoliaeth mor gostus fel y gwnai un yn rhagor wneud Lloegr yn rhywbeth mwy na rhyddfrydig. Yn ddiau mae y tri hyn Wedi cael rhyw fendith arbenig ar eu siomedig- aethau. Ymddengys fod dyoddefiadau wedi gwneud eu rhan, mewn ystyr ddisgyblaethol, lV perffeithio. Druein o'r Toryaid! Mae nid yn unig ddyidiau blin wedi eu gorddiwes, ond ym- ddengys fod dyddiau duach a mwy gofidus yn eu haros. Nid croes fechan ac ysgafn yw eu bod yn gorfod gweithredu dan lywyddiad llenor ae ysgrifenwr ffug-chwedlau fel ap Israel. Ond beth sydd ganddynt i'w wneud? Gan Ben mae yr ymenydd, y dawn, a'r tafod, tra mae YJi eiddo iddynthwythau hen drefdathau eang- b fawr. Ond pwy all ddweud beth fydd eu gWerth yn mhen deng mlynedd ar hugain, yn ellwedig pan y trodd D'Israeli mor anffyddlon 1 w blaid ac i'w darbwyllo, er mwyn diwel cerbyd. y Whigiaid, i eangu terfynau yr ethol- fraint nes cymeryd bron pawb i mewn. Nid yn y byd yma y gwna hen Doryaid y clos pen lin, y top boots, a'r port wine, faddeu i'r ystafwr ffug-chwedlau am wneud tro mor frwnt a'r diniweidiaid eidionaidd a wnaent gredu yn had syrthiedig Abraham. Iihodder i ni y ballot, ynghyd a'r trimmings a fwriedir roddi gyda hi, ac yna ni allwn roddi gorchymyn i ryw glochydd i -dori bedd Tory- aeth, heb yr angenrheidrwydd o ddarllen Penod yr adgyfodiad uwch ei phen-Eisoes, heb y ballot, mae trefnidaeth achosion y deyrnas yn nwylaw—nid pendefigion, fel cynt, ond yn ^ylaw disgynyddion plant llafur y deyrnas. ae yn syn can lleied yn bresenol o feibion Pendefigion y Toryaid neu y Whigiaid, sydd )Vedi mabwysiadu gwleidyddiaeth fel galwed- 1Saeth deilwng o'r galluoedd grymusaf a mwyaf coehedig. Meddylier am ddynion wedi bod, a Richard, yn weinidogion gyda'r mneillduwyr, yn gallu cael gwrandawiad, a gWneud eu hoi ar gasgliad o bobl fel Senedd- J3rr ty y Cyffredin ac y ceir yn eu plith ^lsgynyddion rhai o'r hen deuluoedd hynaf yu Lioegr, yn gystal ac amryw o' rrhai golud- ocaf. pheth ddywed ein darllenwyr am estyn f etholfraint i ferched a gwragedd ? Mae yn na thebygol y gwneir hyny, a phaham lai? '■ ae llawn cystal galluoedd meddyliol gan erehed yn naturiol a chan fechgyn. Beth ddywedasai Miltwn, pe yn fyw, am gynyg o'r ^a hyn? Meddwl digon isel oedd gan y a^dd am y rhyw fenywaidd, a hyny yn ddigon tebygol oblegid dygwydd o hono briodi dwy, d* dlgon cnolig i ferched yr Efa hono y rhodd- J? -^ar^Ull^a<^ mor swynol o honi yn ei Groll Wys. A buasai Daniel de Eoe, awdwr °oxnson Crusoe, yr hwn oedd braidd yr awdwr Saisonig cyntaf, a ddadleuodd dros roddi gwell addysg i fenywaid, yn gorlawen- ychu oblegid unrhyw a phob ryw fesur er derchafu y rhyw fennywaidd. Mewn gwirionedd mae yn ofynol i rai o honom ni y gwrywaid i ddeffroi o'n difrawder a'n cysgadrwydd, onide gorfydd i ni yn fuan eillio ein barfau a tho y wefus uchaf, gwisgo peisiau, a dysgu tylino toes, cribo gwlan, ei nyddu, gwau hosanau, troedio hen rai, cyweir- io crysau a philynach eraill, ceulfraenu caws, cyweirio ymenyn, golchi ac ysmwddio, a lleng o fan orchwylion eraill ac na pherthyn iddynt un mymryn o farddoniaeth—hyn fydd ein tynged os na wnawn ymddwyn yn fwy gwr- rywaidd yn ein hymwneud a gorchwylion dyddiol bywyd. Arferir yn bresenol i alw ambell wisgwr barf yn hen fenyw, fel pe byddai hono yn is creadur nac ef, a goreu i gyd pa gyntaf y cyf- newidia hwnw ei clos pen lin neu drawsis am bais, a dysgu cyflawnudyledswyddau mwy cydweddol o'i fennyeidd-dra, na myned o gwm- pas y byd yn agwedd allanol gwrryw pan mewn gwirionedd nid yw.ond mennyw o ran yspryd a deAvrder-Hi aiff hi yn gom to book yn fuan ar ryw wlenyn o wrrywaid. Eithaf gwir air y Sais sef taw y grey mare is the best horse," ac yr ydym weithiau wedi cael ein temtio i gredu fod rhyw gamsyniad wedi cael ei wneud tua thiriogaeth yr annelwig bethau gyda golwg ar ryw y gwrrywaid a'r merched, oblegid cawn mor ami wr yn gwisgo pais, a mennyw yn gwisgo clos; a phan fydd rhyw lun o bais i guddio hwnw, bydd yn rhy fyr i wneud hyny yn effeithiol, a gwelir y bytynau yn rhy ami. Wel, mewn difrif, yr ydym yn byw mewn byd sobr ofnadwy yn niwedd y ganrif bresenol.