Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CRYNODEB YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

CRYNODEB YR WYTHNOS. Da genym hysbysu fod y Parch. Alexander Hannah wedi ei ddewis yn ysgrifenydd yr Un- deb Cynulleidfaol yn lie y diweddar Dr. George Smith. Mae yr apwyntiad yn debyg o gael eymeradwyaeth gyffredinol, gan fod Mr. Han- nah. yn wr hynaws a charedig, ac yn gymwys mbob yn mhob ystyr i'r swydd bwysig a a*urfawr ag y mae wedi ei ethol i'w llenwi. Mae novel newydd Mr. Disraeli wedi ei ^yhoeddi, ac yn tynu sylw mawr bid siwr. ywedir fod y llyfr yn cynwys cymysgedd "hyfedd o grefydd, gwladyddiaeth, Ffeniaeth, cymdeitbas ffasiynol, a chudd-amcanion Pab- Yddol. Darlunir un cymeriad mor fanwl ac eglur, fel nad oes eisoes gofyn ai am Glad- stone, neu am ryw un arall y mae yn dyweclyd. Mae adroddiadau Bwrdd Masnach am y mis diweddaf yn tueddu i gadarnhau y dybiaeth gyffredinol, fod masnach yn adfywio yn ei &ttLrywiol gangenau. Wrth gymharu y mis x^eddaf a'r un cyfatebol yn y flwyddyn flaen- 01'01, ceir gweled fod y cynydd yn y nwyddau a anfonwyd allan i wledydd eraill yn ol deg yn Y cant; ac wrth gymharu y mis diweddaf a'r 11118 cyfatebol yn y flwyddyn 1868, y mae SWerth yr hyn a anfonwyd allan yn ol dau-ar- ymtheg yn y cant. Mae y cynydd wedi daenu drwy holl gangenau diwydrwydd a tnasnach. Mae cynydd hefyd wedi cymeryd 11e yn y nwyddau a dderbyniwyd genym o Wledydd tramor. Mae yr adroddiadau yn dangOS fod masnach yn edrych i fyny, a bod atnser gwell yn agoshau. dd^M oyntaf o Pai bob blwyddyn yn • no<^e<^> yn Liverpool, ac yn y trefydd oilWn0n ^.n gyffredinol, oblegid bydd y Garters yu troi eu ceffylau allan wedi eu haddurno yn orwych. Gan fod y cyntaf o Fai eleni ar y Sul, dydd Llun yr oeddynt yn troi allan, a chafodd y Carters y Sul at wneud eu parotoad- au, oblegid ychydig o'r dosbarth yma sydd yn meddwl am un lie o addoliad, ac nid- oes ond ychydig o wahaniaeth rhyngddynt a'r ceffylau a yrir ganddynt, Meirch y darllawyddion oedd i'w gweled yn fwyaf porthianus, ac wedi eu gwisgo harddaf. Hwy fel eu perchenogion sydd yn cael y byd goreu. Nis gallasem lai na chofio mai ar draul tlodi a thrueni y dref yr oeddynt yn gallu troi allan mor olygus. Melldith gwlad ydyw masnach ag y mae y rhai sydd ynddi yn pesgi ac yn ymfrashau ar dlodi y lluaws. Daeth cenadwriaeth o Athens wedi ei dyddio Ebrill y 30ain, yn dweyd fod y milwyr yn parhau yn ddiwyd i ymlid ar ol y gweddill o'r yspeilwyr ymosodol a lofruddiasant y tri bon- eddwr o Loegr, a'r boneddwr o Itali. Mae y Cadfridog Smolensky wedi cymeryd lie y Cad- fridog Toubzo ar yr hwn yr oedd y cyfrifoldeb yn gorphwys o ymosod ar yr yspeilwyr, yr hyn a arweiniodd i lofruddiad eu carcharorion. Mae y gyflafan yma wedi eyffroi teimlad ofn- adwy trwy holl Ewrop; ac y mae-yn"rhaid fod rhyw ddiffyg mawr yn rhywle pan y mae y fath fintai feiddgar wedi gallu myned yn mlaen cyhyd a'u gweithredoedd ysgeler teddle llywodraeth Groeg. Mae llywodraeth wan yn waeth na bod heb un lywodraeth. Nos Fawrth diweddaf cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cymdeithas Rhyddhad Crefydd, yn y Freemason's Hall, Llundain. Eisteddodd y cyngor yn y boreu, a llawen gyfarchent eu gil- ydd fod Eglwysi Sefydledig yr Iwerddon, Jamaica, a Bahama wedi eu dileu. Yr oedd y cyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr yn orlawn. Llywyddai H. Richard, Ysw., A.S., ac yr oedd amryw aelodau seneddol yn bresenol. Anerch- wyd y cyfarfod gan Mr. Miall, A.S., Mr. Illing- worth, A.S., Mr. Osborne Morgan, A.S., Mr. Miller, A.S., y Parchedigion H. Allen, F. Frestrail ac eraill. Penderfynwyd yn nghanol bloeddiadau o gymeradwyaeth i fyned rhag- ddynt yn erbyn yr Eglwysi Sefydledig sydd yn awr yn y deyrnas gyfunol. Nid oes un gym- deithas a sefydlwyd yn y ganrif bresenol, wedi enill y fath nerth a dylanwad er cyrhaedd eu hamcanion, nac y, mae Cymdeithas Rhyddhad Crefydd wedi enill yn y chwarter canrif diweddaf. Siaradus iawn y bu ein seneddwyr o ddech- reu ytymor hyd y Pasg; ac fel rheol, os bydd llawer o siavad, nid rhyw lawer o waith a wneir, ac er mai siarad ydyw un o brif orch- wylion ein seneddwyr, eto y maent hwy weith- iau yn myned yn rhy siaradus. Ond y mae genym seiliau i obeithio fod gwyliau y Pasg wedi gadael effeithiau daionus arnynt; canys y maent yn gwneud ou gwaith yn fwy egniol _eo" a hwylus. Mae Mesur y Tir yn yr Iwerddon wedi difa llawer o amser y senedd dymor prc- senol. Ond, y mae y mesur bellach yn ddiogel, gan fod ei ranau pwysicaf agos oil wedi eu cymeradwyo gan fwyafrif mawr. Bernir y bydd i'r mesur gael ei anfon i Dy yr Arglwyddi cyn y Sulgwyn. Deallwn fod y weinyddiaeth yn penderfynu pasio mesur addysg yn ystod vr eistcddiad presenol. Yr ydym yn parhau i gredu y byddai yn well oedi deddfu am flwyddyn, fel y caffo ein seneddwyr amser i ddeall barn a theimlad y gwahanol bleidiau yn fwy trwyadl. Dydd Sadwrn cynaliwycl gwledd flynyddol y Royal Academy, pryd yr ymgynullodd yn nghyd gynulleidfa o ddynion wedi cyraeud enwogrwydd mewn celfyddyd, gwybodaeth, Z, gwladyddiaeth, a llenyddiaeth, yn ngh\d amryw aelodau o'r Teulu Brenhinol. Prif areithiau yr achlysur oedd eiddo Mr. Gladstone a Mr. Charles Dickens. Dywedai y Prif Weinidog nad oedd yn weddus son o gwbl am bethau gwladyddol ar ddydd gwledd y Royal Academy ac ar yr un pryd rhoddodd ddarlun- iad bywiog a doniol o'r gwahaniaeth sydd rhwng gwaith y seneddwr a gwaith yr arlun- ydd. Talodd Mr. Dickens warogaeth uchcl i enw a choffadwriaeth Mr. Maclise. Mae Paris a Ffrainc oil mewn cyffroad mawr oherwydd y cynygiad a wnaed i lofruddio yr Ymerawdwr. Yr oedd heddgeidwaid Paris wedi cael ar ddeall y bwriad ar droed, ac felly yr oeddynt yn gwylio yn fanol. Dydd Gwener daliasant ddyn ieuanc o'r enw Bauer, yr hwn oedd newydd fyned o Lundain i Paris. Pan 'holwyd y Frenchman ieuanc, addefodd ei fwr- iad mileinig i gymeryd bywyd yr Ymerawdwr, a chadarnhawyd yr addeflad gan lythyr a gaf- wyd yn ei feddiant, yr hwn a anfonasid iddo o Lundain. Wedi gweled cynwysiad y llyth- yr, daliwyd dau eraill a diangodd amryw o bersonau a ddrwgdybid o fod yn gyfranog yn y fradwriaeth. Yn ol y cynllun, yr oedd yr Ymerawdwr i gael ei saethu, a gwerinlywodr- aeth i gael ei sefydlu. Dywed y Times fod y blaid chwildroadol wedi andwyo Ffrainc, ac nas gellir cael gwir ddymuniad y bobl yn yr apeliad a wneir atynt ar hyn o bryd, gan fod ofn y chwildroad yn pwyso yn drwm ar eu meddyliau. Rhoddir hyn a hyn o bleidleisiau dan ddylanwad ofn, a hyn a hyn o dosturi, ac felly bydd yn anhawdd penderfynu pa mor bell y gellir llawengyfarch Napoleon oherwydd canlyniadau llwyddianus ei apeliad at y bobl. Nid ydyw y Standard yn foddlon derbyn gol- ygiad y Journal Official, fod y fradwriacth wedi ei llunio gan yr International Worling Men's Association, prif le yr hon sydd yn Llundain. Os lluniwyd hi yn Llundain o gwbl, gan Ffrancwyr o'r dosbarth iselaf a mwyaf barbaraidd y rhai nid ydyw cymdeithas y gweithwyr o gwbl yn gyfrifol am eu gweith- redoedd. Dywed y Daily Telegraph, y bydd mwy o anfantais i weriniaeth nag o ddrwg i unbenaeth yn dilyn y fradwriaeth. Byddai marwolaeth yr Ymerawdwr ar hyn o bryd yn achos o chwildroad a thywallt gwaed yn Paris. Napoleon ydyw yr unig ddyn ar hyn o bryd a all lywodraethu Ffrainc.

I--CYNNWYSIAD: