Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

GOHEBIAETHIAU.

News
Cite
Share

GOHEBIAETHIAU. (Nid ydym yn ystyried ein hunain yn yfrifol am syniadau yr ysgrifenwyr). CENEDLAETHOLI'R FASNACH FEDDWOL. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Da gennyf eich bod mar fyw i bwysig- rwydd y pwnc hwn o genedlaetholi'r Fasnach Feddwol, yn rhoddi gofod mor helaeth i drafod y mater, ac yn rhoddi chware teg i'r ddwy ochr. Yr ydym oil yn awyddus iawn i wneud y peth goreu, ond bod gwahaniaeth barn gyda golwg ar yr hyn sydd yn oreu. Byddai llawer ohonom yn foddlon talu swm mawr i brynu y fasnach pe gellid drwy hynny ei difodi. Dywed pleidwyr y cynllun o genedlaetholi y byddai yn rhwyddach cael llwyr waharddiad ar ol ei phrynu nag fel y mae yn bresennol. Pe byddai gwaharddiad yn cymryd lie yn Carlisle byddai yn ddadl gref o blaid, ond hyd y gwelaf ni cheir unrhyw ar- wydd y dygir hynny oddiamgylch yn y cylch hwn sydd ym meddiant y Llywodraeth i wneud fel y myno ef. Hyd hynny mae pleidwyr cen- edlaetholi dan anfantais fawr. Yr eiddoch, T.T. SYMUD GWEINIDOGION." AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Mr. Evans,—Mae y mater yma yn un ag y mae miloedd yn teimlo dyddordeb mawr ynddo, ac yr wyf yn ddiolchgar i Henuriad am ei lythyr craff a galluog yn eich rhifyn diwedd- af. Nid wyf yn perthyn i urdd yr Uwchfeirn- iaid, eto credaf fod yn y llythyr dystiolaeth fewnol mai bugail a'i hysgrifennodd. Gweld bai ar y Bugeiliaid y mae y Blaenoriaid, a gweld bai ar y Blaenoriaid y mae y Bugeiliaid. Credu yr wyf fi mai y peth goreu fyddai newid y blaen- oriaid a'r bugeiliaid bob pum' mlynedd. Yr wyf wedi dadleu llawer tros hyn, ac yn credu eto mai dyna y feddyginiaeth. Gwyr Henadur cystal a neb nad yw pethau fel y dylent fod, a beth yw y feddyginiaeth ? Mae efe yn awgrymu dau beth, math gwell o flaenoriaid a mwy o ddysgu ar gyfer y fugeiliaeth yn y Colegau. Ond nid yw Henuriad yn dangos sut y mae cael blaenoriaid gwell, na sut i newid yr addysg ar gyfer bugeiliaid. Y pwnc mawr yw sut i gael diwygiad. A fedr Henuriad awgrymu rhyw ffordd i wella pethau sy'n well na'r hyn a gyn- ygiaf, sef newid y blaenoriaid a'r bugeiliaid bob pum' mlynedd? Yr eiddoch yn gywir, Tach. 2il. HEN FUGAIL. Y BRIFYSGOL A DIWINYDDIAETKt. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Darllenais lythyr "Hen Fethodist'" yn eich rhifyn am yr wythnos hon, ac yr wyf yn hollol gydweld ag ef ar un pwynt, sef fod Cym- deithasfa'r Gogledd wedi pasio penderfyniad yn enw y Cyfundeb heb fod ganddi hawl i wneud hynny. Nid dyma y tro cyntaf iddi wneud hyn, ac y mae yn bryd i'r Cyfarfodydd Misol sefyll i fyny dros eu hawliau. Sylwais eich bod wrth roi hanes Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, wedi crybwyll y darfu i'r llywydd daflu amheu- aeth ar reoleidd-dra cynhygiad y Parch. D. Francis Roberts, B.A., B.D., am fod y cynnyg hwnnw yn datgan barn ar fater oedd wedi bod dan sylw y Gymdeithasfa. Ond sylwer nad oedd y mater' wedi bod o flaen y Cyfarfodydd Misol, ac y mae hynny yn gwneud pob gwahan- iaeth yn y byd. A chwi oddefwch i mi ddweyd fod yn syn gennyf fod gwr mor werinol a'r hen gyfaill, y Parch. R. T. Owen, heb sylwi ar hyn. Nid oes gan yr un llys gwladol na chrefyddol hawl i benderfynu mater hyd nes y byddo wedi bod o flaen y llys islaw, a thra y byddo y Gym- deithasfa yn dewis datgan barn ar faterion na byddont wedi bod o flaen y Cyfarfodydd Misol, y mae gan y Cyfarfodydd Misol berffaith hawl i ddilyn esiampl Cyfarfod Misol Dyffryn Conwy. Gwyr pawb hanes y Gymdeithasfa ar bob achlys- ur. Daw y materion o flaen yr hyn a elwir yn "Gyfeisteddfod y Gymdeithasfa,"—pwyllgor, gyda. 14aw nad oes iddo safle gyfreithiol o. fath yn y byd yn ein cyfansoddiad,—ac yno pender- fynir beth a gynhygir yn y Gymdeithasfa. A druan o'r neb a gynhygio welliant ar hynny.' Unigolion a gododd y mater yn y "Cyfeistedd- fod," ac fe'i gwthiwyd heb hamdden a heb roi yfle i'r Cyfarfodydd Misol ddatgan barn arno. Gallai mai y farn hon sydd yn gywir, ond nid teg dweyd mai dyna farn y Cyfundeb. Tuedd Cymdeithasfa'r Gogledd yw ceisio penderfynu yn ol mympwy unigolion beth ddylai y Cyfundeb ddweyd. METHODIST ARALL. "CYSONüEB Y FFYDD." AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,-Dymunaf fymryn o ofod yn eich papur, i wneud rhyw sylw neu ddau o berthynas i'r llyfr uchod. Mae y gyfrol gyntaf o "Gysondeb y Ffydd'i, gan Dr. Cynddylan Jones wedi dod allan er ys blynyddoedd bellach, a darfu i'w hymddangos- iad beri llawenydd a hyfrydwch i gannoedd o ddarllenwyr aiddgar; ac hefyd, fe dynodd allan feirniadaeth ffafriol arni, a chanmoliaeth uchel iddi. Caed y fath fudd a phleser wrth ei dar- llen fel yr oedd yn creu dyhead am weled yr ail gyfrol. Daeth yr ail, a'r drydedd gyfrol allan, ac yn agos i ddechreu y flwyddyn hon, wele y bedwaredd gyfrol (wedi gwneud ei hymddangos- iad), yr hon sydd gryn lawer yn fwy na'r cyfrol- au cyntaf. Digon posibl y tynodd y gyfrol gyntaf fwy o sylw, beirniadaeth a chanmoliaeth na'r cyfrolau dilynol; ond sicr yw, ei bod yn cyflawn haeddu pob gair da a roddwyd iddi, a llawer mwy nag a gafodd. Teg yw cydnabod hefyd, pa mor uchel bynnag oedd safon y gyfrol honno, fod y cyfrolau eraill wedi llawn ddod i fyny a'r safon uchel honno, ac yn wir, i'm tyb i, yr olaf o'r cyfrolau ydyw y tryspr goreu o'r cwbl. Gwnaeth y Dr. Parchedig wasanaeth amhris- iadwy trwy ddwyn allan y cyfrolau hyn, ac y mae ein dyled yn fawr iddo. Yr oedd gennym o'r blaen amryw draethodau o waith Dr. Lewis Edwards, ac eraill; ond prin y gellir dweyd fod gennym yr un corff o Ddiwinyddiaeth; ond trwy lafur mawr, ymchwiliad eang, a galluoedd di- gymar Dr. Jones, dyma ni wedi cael Corff o Ddiwinyddiaeth. Y mae eto un peth yn ol, ag yr hoffem yn fawr pe bai Dr. Cynddylan rones mor garedig a'i wneud, Fe gofia y darllenydd fod y bennod ar "Eiriolaeth Crist" wedi cael ei gadael allan o ddiffyg He i'w gosod i mewn gyda y rhannau sydd yn traethu ar Swyddau Crist. Gallwn dybio wrth y cyfeiriad a wna Dr. Jones ati, fod y bennod wedi ei pharatoi, ond nad oedd gofod, heb chwyddo y gyfrol mewn maint a phris. Trueni yw fod y bennod heb ei chyhoeddi. Mae y bias ydym wedi gael-wrth ddarllen y pen- odau eraill yn codi awydd cryf ynom am y ben- nod hon hefyd; ac heblaw hynny, y mae y pwnc mor ddyddorol a phwysig, ac yn un ag y teimla y cyffredin ohonom fod llawer o anhawsterau yn perthyn iddo, a da dros ben fyddai gennym gael sylwadau y Dr. ar y pwnc, a deall sut y mae yn dadrys yr anhawsterau. A ydyw ddim yn bosibl cael gan Dr. Jones gyhoeddi y bennod ar "Eir- iolaeth Crist eto, mewn rhyw ffurf. Ac hefyd y mae un peth arall, ag y tybiaf fi fyddai yn fantais, sef cael "Cynhwysiad i'r cyfrolau oil" gyda"r bennod y cyfeiriwyd ati. Credaf fy mod pan yn datgan fy nheimlad fy hun, yn datgan awydd a theimlad llawer eraill. Hwyrach y bydd eraill garediced a datgan eu barn a'u teimlad ar ddalennau y CYMRO. Ponterwyd. W. EVANS. GWAHARDDIAD YNTE CENEDLAETH- OLI? AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Ni fwriadaf drafod rhagoriaeth Gwa- harddiad ar Genedlaetholiad-gwelaf fod eraill cymhwysach yn gwneud hynny yn eich colofnau yr wythnos hon. Ond dymunwn alw sylw at bwynt neu ddau yn llythyr Mr. J. T. Jones, y Wrecsam, yn eich rhifyn diweddaf. Dywed Mr. Jones "ei fod yn agored i gymryd ei argyhoeddi o blaid cynllun gwell na chenedl- aetholiad, os gellir dangos fod y cynllun hwnnw o fewn cylch gwleidyddiaeth ymarferol." Ond beth, atolwg, sydd yn gwneud unrhyw gwestiwn yn gwestiwn o wleiclycldiaeth ymarferol ? Onid angen cymdeithasol addefedig, ynghyda'r ynni a'r dyfalbarhad gyda pha rai y cedwir y feddyg- iniaeth at yr angen hwnnw o flaen y cyhoedd ? 6s nad ydyw gwaharddiad yn gwestiwn o wleid- yddiaeth ymarferol, onid ydyw yn gorffwys ar ddirwestwyr i'w wneuthur felly? Credaf, pan ymddengys adroddiad yn yr "Alliance News"' o gyfarfod blynyddol yr Alliance yn y Free Trade Hall, yn y dref yma, y bydd darllen yr araith draddodwyd gan yr Archddiacon Lloyd, o Canada, yn ddyddorol ac yn addysgiadol i ni yn y wlad hon. Baich ei araith oedd, "How to do it," a dywedai eu bod wedi siarad ar wa- harddiad am flynyddoedd yng Nghanada ond heb symud dim i gyfeiriad hynny nes iddynt ddechreu gwneud rhywbeth. A'r hyn wnaeth- ant oedd deffro yr eglwysi-o bob' enwaa-ac wedi iddynt gael yr holl eglwysi i gytuno i ofyn am waharddiad, ymwelent a Phrifweinidogion y gwahanol dalaethau a hawlient waharddiad. Ac y mae llwyddiant wedi dilyn ymgyrch yr eglwysi yn y naill dalaeth ar ol y llall, ac fe fydd Can- ada yn sych o ben bwygilydd ymhen ychydig o fisoedd eto. Dyna yr hyn olygaf wrth wneud cwestiwn yn gwestiwn o wleidyddiaeth ymarfer- ol. Oni all dirwestwyr drwy yr eglwysi yn y wlad hon wneud yr hyn sydd wedi ei wneud yng Nghanada? Dywed Mr. Jones "y bydd prynu'r fasnach gan y Llywodraeth yn foddion i roddi terfyn ar y dyddordeb a'r elw personol sydd yn y fasnach yn awr." Gwnai, i raddau. Ond, a ydyw Mr. Jones yn meddwl y gallai y tafarnwr gadw ei le heb son am ddisgwyl dyrchafiad, os na allai wneud i'w fusnes dalu? Prin y gallem ddis- gwyl hyd yn oed i'r Llywodraeth gadw tafarn ymlaen yn ddi-elw. Yn hytrach,^mwyaf yr elw, goreu oil rhagolygon y tafarnwr. Eto, dywed Mr. Jones, "y cred y byddai yn hawddach cael diwygiad pellach mewn perthyn- as i'r fasnach ar ol iddi ddod yn eiddo i'r Llyw- odraeth." Ofnaf na fyddai yn llawer hawdd- ach. Fe dderbyniai y fasnach "stamp" o "respectability" dan nawdd y Llywodraeth, ac fe guddid lliaws o bechodau gan yr elw ddeilliai oddiwrthi. Mae Cymru, ar ol blynyddoedd o ymladd, wedi llwyddo i ddatgysylltu yr Eglwys oddiwrth y Wladwriaeth. A ydyw yn foddlawn i gael dannod iddi yn y dyfodol iddi wneud hynny er mwyn sefydlu y fasnach feddwol yn ei lie? R. H. WILLIAMS. 107, Stockton Street, Moss Side, Manchester. Tach. zil, 1916. CENEDLAETHOLI Y FASNACH FEDDWOL. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,-Diolch i'r Parch. Ellis Jones, a Mr. E. T. John, A.S., am eu hysgrifau gwerthfawr yn y CYMRO diweddaf. Gpddefer i minnau ychwan- egu gair at yr hyn a ddywedwyd mor rhagorol gan Mr. Ellis Jones. Cyfeiriodd ef gyda phri- odoldeb at waith Mr. Batty yn gwneud ymosod- iad annheg ar yr Alliance, ond gwn y bydd yn dda gan lawer o'ch darllenwyr ddarfod i Mr. G. B. Wilson, B.A., roddi -atebiad effeithiol i'r ym- osodwr ar dudalennau y 'Manchester City News.' Cyd-olygaf yn hollol a Mr. Jones mewn perth- ynas i'r aelod seneddol galluog, Mr. Lief Jones, M.A., a da gennyf fedru hysbysu fod y gwr da wedi addaw annerch yn y dyfodol agos rai cyf- arfodydd dirwestol arbennig yn y Deheudir. Yr ydwyf wedi darllen gyda boddhad mawr bender- fyniadau yr U.K.A. a basiwyd y mis hwn yn y Cyfarfodydd Blynyddol. Perthyn i mi gydnabod na feddyliais am funud yr ai yr Alliance ar gyfeiliorn ar bwnc Cenedlr aetholi y Fasnach. Y mae yn deilwng hefyd o'n sylw fod y National Temperance Federation wedi cyfaifod y mis hwn. Ystyrrir y penderfyniadau a fab- wysiadwyd gan y Cyngrair crybwylledig o wir bwys am y gellir yn rhesymol edrych arno fel y 'mwyaf cynrychioliadol o'r Undebau Dirwestol. ■, Cynwysa y prif Gymdeithasau Dirwestol, Cen- edlaethol a Thalaethol, a'r rhan fwyaf o'r cyrff. crefyddol. Drwy fawr garedigrwydd Mr. Hayler anfonwyd i mi ar unwaith y penderfyniadau, y rhai, medd ef, a basiwyd gydag unfrydedd mawr. Am fod y mater mor bwysig ar hyn o bryd dodaf hwynt gyda'ch caniatad chwi, Syr, fel y cefais hwynt ganddo: NATIONALISATION OF THE LIQUOR TRAI-FIC; That the National Temperance Federation; re- affirms its unwavering hostility to all proposals for the Nationalisation or State Ownership of the Liquor Traffic, and instructs its Executive to I continue in all proper ways to give effect'to the uncompromismg policy of the Federation with regard to these most dangerous proposals.