Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

LLYTHYR LLUNDAIN.

News
Cite
Share

LLYTHYR LLUNDAIN. DYDD SADWRN. Y Senedd. Ychydig iawn o ddyddordeb gymerodd yr ael- b 9 odau Cymreig yn y ddadl ar Dr. Ethe. 0 saf- bwynt Cymru nid oedd dim pwys yn y ddadl. Mae'r aelodau Cymreig yn edrych ar Dr. Ethe o safle Ty y Cyffredin, lie mae'r teimlad yn gryf y dylai pob German drwy'r Deyrnas gael ei an- fon i dir neilltuaeth. Yn hyn mae'r Ty yn ad- lewyrchu barn a theimlad pob dosbarth yn y Brifddinas. Prynu'r Fasnach. Mor bell ag y gallaf wneud allan mae'r farn yn aeddfedu yn Nhy.y Cyffredin o blaid prynu'r Fasnach. Yn araf y daw barn aeddfed ar y cwestiwn, ond yn sicr i'r cyfeiriad yna y mae'r gogwydd, a chofnodi ffaith ac nid dadleu yr wyf wrth ddweyd hyn. UU Y Cadfridog Owen Thomas. Mae'r ymchwiliad drosodd, a rhaid aros am farn y pwyllgor cyn dweyd dim. Ond gallaf godi ewr y lien mor bell a hyn,—rhoddodd y Cadfridog yr achos i lawr mewn dull rhagorol, ac nid wyf yn credu y rhaid i Gymru bryderu ynghylch y canlyniad. Ni bydd Cymru yn dawel nes y gosodir pethau yn eu lie. UU Cymru a'r Fyddin. Yn araf ond sicr daw trefn ar, bethau yn y Fyddin yn eu cysylltiad a Chymru. Dylem fod yn amyneddgar, oblegid y mae Mr. Lloyd George wedi gafael mewn gwaith sydd yn gofyn am amynedd Job a nerth Samson. Glywsoch chwi hanes ei ymweliad a Ffrainc a'i ysgwrs gyd- a'r Cadfridog Joffre? Nis gallaf ei hadrodd yma. Pan y daw rhywun o'ch teulu 1 Lundain y tro nesaf, byddwch yn siwr o ofyn iddynt alw yma am yr hanes. Gwelsoch am ysgrech y "Morning Post" ac awgrymiadau'r "Times." Ond na ofelwch, fe ddysgodd Mr. Lloyd George ddau neu dri o bethau i'r awdurdodau, ac y mae'r milwyr ar eu mantais o hynny. Fe ddanghosodd y Cymro mai nid awrlais a magnel yw'r cyfan sy'n eisieu,—fod yn rhaid wrth ym- enydd heTyd. A chyda'r Fyddin Gymreig, rhaid i Gymru gael yr un breintiau a'r Gwyddelod a'r Ysgot- iaid,—a'r Saeson hefyd, o ran hynny. Mae'r anhawsterau yn aruthrol, ond fe ddaw gwelliant-. au yn y man. Dylai Cymru ddal i guro wrth ddrws y Swyddfa Ryfel, ond dylai gofio fod er- aill yn curo yr un pryd. UU Giroeg1. Dyma un anhawster mawr ar ffordd buddug- oliaeth yn y Rhyfel. Ac y mae'n ofnus fod rhywfaint o'r cyfrifoldeb yn nes yma na Groeg ei hun. Ond y mae'r Weinyddiaeth yn gryf, a rhaid yw i bob anhawster, bydded Frenin neu Caisar, symud o'r ffordd. m Ennill Buddugoliaeth Lwyr. Dyna nod Mr. Lloyd George, ceidw ei lygad ar y presennol a'rdyfodol, ar ennill y frwydr a sicrhau heddwch ar sylfeini parhaol a chadarn. I'r pwrpas hwn, rhaid wrth ddigon o ddynion i gadw'r Fyddin yn gref anorchfygol, yn y diwedd. Dyna'r nod sydd yn tynnu allan holl ynni ac ym- adferthoedd yr Ysgrifennydd Rhyfel. Mae eis- oes wedivcreu chwildroad yn y Swyddfa Ryfel drwy anfon allan bob un sydd yno yn gymwys i'r Fyddin. Mae llawer lie arall sydd i fyned drwy gyffelyb oruchwyliaeth. 88 Y Munition. Works. Beth am y Munition Establishments drwy'r wlad Dyna un ym Mhenrhyndeudraeth,—yn sir y CYMRO,-mae yno le i wella, a da gennyf glywed fod Mr. Haydn Jones, eich aelod sen- eddol ymdrechgar, wedi gafael yn y gwaith. Dylai eraill ddilyn eikesiampl. Rhodder gwaith 1 Gymry yn y lleoedd hyn, a danfoner rhagor o'r Saeson, sydd mewn oedran milwrol, allan i ym- ladd. W Rhai yn 41 oed. Mae'r gorchymyn newydd i alw rhai sydd yn 41 mlwydd oed i fyny i'r fyddin wedi peri llawer o bryder mewn miloedd o deuluoedd. Yn ol y gorchymyn diweddaf gelwir i fyny bob dyn sengl oedd dan 41 ar yr ail o Fawrth, a phob gwr priod oedd dan 41 ar y 24ain o Fehefin, pa un bynnag a fyddont wedi atestio ai peidio. Wrth gwrs, ni bydd hyn yn ymyryd a hawliau i apelio fel y darpara'r Ddeddf. mm Addysg Rydd. Syniad sy'n ennill tir yn gyflym ydyw yr un "• dros gael addysg Cymru yn hollol rydd o ffon isaf yr ysgol i'r uwchaf. Mae eisoes felly yn yr isaf, a rhaid cael yr ysgolion canol a'r brif- ysgol yn hollol rydd. I gyrraedd hyn gyda'r Brifysgol, credaf y buasai ceiniog y bunt o'r -trethi a'r un cyfanswm o'r Llywodraeth yn cyf- arfod yr eisieu. Byddai y ddau ynghyd yn gan' mil. Dyma yr hyn y dylai Cymru ymgyrraedd ato. mm Ac Addysg Uwch. Rhaid i Gymru wneud rhyw ddarpariaeth i roi chware teg i'n bechgyn wedi iddynt raddio ym Mhrifysgol Cymru. Dylent gael myned ymlaen i'r hen brifysgolion, Rhydychain a Chaergrawnt, neu afael mewn research work. Mewn gwleid- yddiaeth mae Cymru wedi codi Cymry i lanw'r lleoedd blaenaf, ond nid yw'r Brifysgol Gymreig wedi codi neb o'r dosbarth blaenaf. Nid diffyg talent yw'r rheswm am hyn,—diffyg cyfleustra i fyned ymlaen gyda'u hastudiaeth, a phrysurdeb i ennill arian.

CRICCIETH.

CRONFA GYNORTHWYOL GANOLOG…

ATGOFION AM Y PARCH. THOMAS…