Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

CYFARFODYDD MISOL.

News
Cite
Share

CYFARFODYDD MISOL. AMSER CYMDEITHASFAOEDD A THREFN Y C M. :— Y Gymanfa GyffredinoI-Bethlehem, Treorci, Meh. 18-21, 1917. Cymdeithasfa'r Gogledd—Connah's Quay, Tach. 7, 8, 9. Cymdeithasfa'r De—Dinbych y Pysgod, Mai 1, 2, 3, 1917- Caerfyrddin—iLlansadwrn, Tachwedd 7, 8. Dechreu am 11.30. De Aberteifi—Aberarth, Tach. 7, 8. Dwyrain Meirionydd-Glyndyfrdwy Rhagfyr 6ed. Dwyrain Ðinbych-Seion, Gwrecsam, Tach. 29. Dyffryn Conwy—Bethlehem, Colwyn Bay, Tach. 15. Dyffryn Clwyd-Rhuddlan, Tachwedd 16. Gogledd Aberteifi—Capel Afan, Tachwedd 10. Gorllewin Meirionydd—Saron, y Friog, Tach. 13, 14. Hen. Trefaldwyn.—Abermule, Rhag. 14. Hen. Dwyrain Morgannwg—Brynmenyn, Rhag. 6, am 10.30 a.m. Hen. Lancashire, &c.-Rhostyllen, Rhagfyr 6ed. Mynwy—Mount Pleasant, Ebbw Vale, Tach. 8fed. Manchester—Onward Buildings. Tachwedd 28. Sir Benfro-Wiston, Tach, 7, 8: Trefaldwyn Uchaf-Machynlleth (S.), Rhagfyr 7. MANCHESTER.—Hydref 28. Llywydd, Mr. John Roberts, Pendleton. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. Meredith V. Owen. Cadarnhawyd .cofnodion y C.M. diweddaf. Hysbyswyd am dder- byniad llythyr oddiwrth Mr. John Hughes, Blackley (eglwys Heywood St.), yn cydnabod yn ddiolchgar gydymdeimlad y C.M. ag ef a Mrs. Hughes yn wyneb marwolaeth1 ei fab yn Ffrainc. Pasiwyd ein bod yn anfon ein cofion a'n cydymdeimlad i'n hannwyl frawd, Mr. Daniel Roberts, yn ei waeledd. Ar gyn- hygiad Mr. R. H. Rogers, yn cael ei eilio gan y Parch. Robt. Williams, pasiwyd y penderfyniad can- lynol, yr hwn a dynwyd allan gan y Parch. E. W. Roberts a Mr. Rogers Dymunwn fel C.M. ddatgan ein hymdeimlad o'r golled drom dderbyniodd ein Cyfundeb yn marwolaeth y Parch. Thomas Jones Wheldon. Er fod ei nerth wedi ei ostwng ar y ffordd er ys amryw flynyddau bellach, eto yr oedd ei ar- hosiad yn ein plith, a'i ddyddordeb yn ein symudiad- au, yn ffynhonell o ysbrydiaeth ini. Bu Mr. Whel- don am amser maith yn un o brif golofnau y gwaith yn ein mysg. Yr oedd ei frwdfrydedd, ei feiddgar- wch, a'i hyawdledd, yn gysegredig i bethau goreu Cymru, yn addysgawl, moesol, a chrefyddol. Nid diyn enwad ydoedd, ond dyn cenedl. Dymunwn ddatgan ein cydymdeimlad dyfnaf a'r teulu yn eu profedigaeth." Darllenwyd llythyr oddiwrth y Parch. Hugh Jones, gynt o Tyldesley, ond yn awr o Golwyn Bay, a ganlyn sydd ra.n o hono: A wnewch chwi fod mor garedig a gofyn i'r C'.M. yna roddi llythyr i mi i gylch C.M. Dyffryn C'onwy. Bum yn gysurus iawn yna, a gobeithio inni fod yn rhyw fath o gyfryngau i wneud llawer o les. Nid wyf yn ffar- welio mewn modd yn y byd yn llwyr a Chyfarfod Misol Manchester, gan fod yr holl eglwysi Oymreig yn y Sir yna yn rhan o'm maes yn awr. 'Byddwch cystal a diolch i'r saint trosof ac i'r eglwysi." Pen- derfynwyd ein bod yn cydsynio a chais Mr. Jones, ac yn dymuno iddo ef a'i deulu bob llwyddiant yn eu cysylltiadau newyddion. Gwnaeth ef a'i annwyl briod waith rhagorol yn Tyldesley a Leigh, a bydd colled fawr ar eu hoi. Penodwyd Mr. John Roberts, Pendleton, i ofalu am Lyfr Bank, &c., perthynol i'r achos yn Leigh, yn lie Mr. Hugh Jones. Cydsyn- iwyd a chais eglwys Bolton i gael dewis rhagor o flaenoriaid, a phenodwyd y Parch. E. W. Roberts a Mr. D. Lloyd Roberts i fyned yno i gynorthwyo gyda hyn. Pasiwyd fod y rhai a ddewisir i gael eu derbyn yn y C.M. nesaf, a bod y Parch. R. E. Jones i'w holi, a Mr. R. H. Rogers i roddi cyngor iddynt. Hysbys- odd y cenhadon i Tyldesley a Leigh, sef y Parch. R. Parry Jones a Mr. W. J. Jones, fod y brodyr canlynol wedi eu dewia at y blaenoriaid yn bwyllgor ynglyn a galw gweinidog Tyldesley, Mri. John Hughes, Owen Hughes, Ed .Pughe, ac R. J. Reece Leigh, Mri. D. Powell a D. J. Parry. Galwodd Mr. W. Wiliams sylw at benderfyniad y Gymdeithasfa mewn per- thynas i wneud y grant arferol i fyny i'r rhai sydd yn derbyn o'r Drysorfa Gynorthwyol. Derbyniwyd a chymeradwywyd adroddiad Pwyllgor Lleol y Gen- hadaeth Dramor, yr hwn a gyflwynwyd gan Mr. O. R. Williams. Cyfarfu y Pwyllgor am 2.15. o flaen y C.Mi., pryd yr oedd yn bresennol dros Gyfeisteddfod y Genhadaeth Dramor, Parch. W. Henry, Waterloo, Mr. W. Pritchard, Douglas Road, a Mr. John Ed- wards, Anfield. Eglurodd y brodyr uchod yn glir ac yn fanwl sefyllfa y Genhadaeth ei bod mewn dyled o £6,000, a hynny mewn canlyniad i waith Duw yn gwrando gweddiau ei bobl am i'r gwaith lwyddo. Dywedant fod apel yn cael ei wnexid am gasgliad arbennig tuag at glirio y ddyled uchod, a bod yr apel yn cael ei wneud at G.M. Manchester i wneud ei ran gyda hyn. Y penderfyniad y daethpwyd iddo oedd, ein bod yn barod i wneud ein rhan, ond1 gan fod y casgliad arferol yn cael ei wneud ar hyn o bryd. ein bod yn oedi gwneud casgliad arbennig hyd ddec'hreu y flwyddyn, a bod yr holl drefniadau i gario hyn allan yn cael ei ymddiried i'r Is-bwyllgor a benodwyd ban y C.M. fis neu ddau yn ol. Awgrym- wyd yn ddiweddarach fod swydd'ogion Cangen y Chwiorydd i fod yn aelbdau o'r Is-bwyllgor. Cyf- lwynodd yr Ysgrifennydd adroddiad Pwyllgor Cyn- haliaeth y Weinidogaeth i'r cyfarfod, ac wedi eglur- had pellach gan Mr. Philip Hughes, a sylwadau ffafr- iol i'r cynllun gan amryw o frodyr emill. cynhygiwyd gan Mr. R. H. Rogers, Stockport, eiliwyd gan y Parch. Robert Williams, ac ategwyd gan Mr. W. Wiliams, Ardwick,—penderfynwyd fod y cynllun yn cael ei fabwysiadu. Penderfynwyd ymhellach; (i) Fod y cynllun i ddod i weithrediad ddechreu y flwyddyn nesaf, 1917. (2) Fod pwyllgor o 5 yn cael eu penodi i ofalu am dano, ac enwyd y personau canlynol yn aelodau, sef yr Is-bwyllgor a fu NrL ystyried y mater: Parch. E. Humphreys, Mri. W. T. Williams, Warrington, Philip Hughes, John Roberts, Pendleton, a W. J. Jones, Heywood St.; a bod Mr. John Roberts i weithredu fel llywydd y Pwyllgor; Mr. Philip Hughes' yn drysorydd, a'r Parch. E. Humphreys yn ysgrifennydd. (3) Fod copi o'r cynllun, &c., yn cael ei anfon i bob eglwys, gan ddymuno am iddo gael ystyriaeth a chefnogaeth. Tystid fod y cynllun yn gam yn yr iawn gyfeiriad, ac yn un hawdd i'w gario allan. Galwodd y Parch. E. W. Roberts sylw at Gymdeithas Hanes y Cyfun- deb, ac anogodd aelodau y C.M. i ddod yn aelodau o horii. Gall Llyfrgelloedd ddod yn aelodau trwy dalu 5s. yn y flwyddyn, a thrwy wneud derbyniant bob llenyddiaeth a ddygir allan gan y Gymdeithas. Treuliwyd, hanner awr gyda'r mater penodedig, sef Gweddi." Cafwyd sylwadau gwerthfawr gan y Parchn. E. Wyn Roberts a W. Henry, Waterloo. Galodd Mr. W. R. Williams sylw at y casgliad at yr Achosion Saesneg. ac anogodd yr eglwysi trwy y swyddogion wneud casgliad da. Terfynwyd trwy weddi gan Mr. John Jones, Heywood Street. Am 6.30, cynhaliwyd Cyfarfod Gweddi. Cymerwyd rhan gan y Parch. R. Parry Jones a Mr. Edward Jones,, Altrincham. Am 7 o'r gloch cynhaliwyd Cyfarfod Cyhoeddus ynglyn a'r Genhadaeth Dramor, o dan lywyddiaeth Mr. J. Roberts. Dechreuwyd gan Mr. R. Humphreys, Farnworth. Anerchwyd gan y Parch. W. Henry, Waterloo, Mri. W. Pritchard, Douglas Road, John Edwards, Anfield, O. R. Wil- liams, R. H. Rogers, Stockport, Parch. R. Parry Jones, a'r Llywydd. Cyflwynwyd diolch cynnes i'r brodyr o Liverpool am ddod atom, ac am eu hanerch- iadau gwerthfawr. Terfynwyd cyfarfod rhagorol trwy weddi gan y Parch. D. Francis Roberts, Ffes- tiniog. Ar gynhygiad yr Ysgrifennydd, yn cael ei eilio gan Mr. W. Pritchard, Liverpool, pasiwyd pjeidlais gynnes o ddiolch i gyfeillion Pendleton am dderbyn y C.M., ac i'r chwiorydd am baratoi llun- iaeth mor helaeth a rhagorol. Cydnabyddwyd y diolch gydag anerchiad hyawdl gan Mrs. Hugh Evans. Cynhelir y C.M. nesaf yn Onward Buildings, Tachwedd 28ain. Nodiad-—Dymunir am i Ddirwest .gael sylw arben- nig ymhob cynulleidfa ar y Saboth Dirwestol, sef yr ail Saboth yn Taehwedd. DWYRAIN DINBYCH.—Capel Miawr. Rhos, Hyd. 23ain. Llywydd, Parch. Robt. Morris, M.A., Cerni. i. Cymerwyd y rhannau defosiynol gan Mr. Robert Hughes, Coedpoeth. 2. Cadarnhawyd cofnodau y cyfarfod diweddaf. O'r Cofnodau: Gofynnir i Eg- lwys y Trinity, Acrefair, roddi ateb uniongyrchol i'r pwyllgor yng]yn a Saron a Threfor. parthed arolyg- iaeth Eglwys y Trinity dros Eglwys Trefor. 3. Coff- hawyd yn barchus am y diweddar Mr. John Evans, Seion, Gwrecsam. Ymhyfrydai yn yr Ysgol Sul a'i gwaith. Meddai ddawn arbennig i holwyddori, ac yn athraw llwyddiannus. Gwr da—-teimlir chwithdod am dano. Rhoddwyd ar y Parch. Evan Jones i anfon cydymdeimlad a'r teulu. Hefyd arwyddwyd cydym.- deimlad a'r brodyr canlynol mewn amryw brofedig- aethau: Mri. Robert Roberts, Ffrith (afiechyd) Edward GwiIliam, Froncysylltau (gwendid iechyd); y Parch. W. Benjamin, Garth, i anfon ato. Penod- wyd y Parch.'J. Lloyd Jones, B.A., a'r Ysgrifennydd i gyflwyno cydymdeimlad a Mr. Wm. Parry, Trinity, Acrefair, a'r teulu, yn eu trallod wedi colli mab yn y rhyfel erch. Y Parch. Richard-Hughes, Brymbo, i ysgrifennu at MPr. J. W. Parry, Gwrecsam,—y mae ei fab wedi ei glwyfo yn y rhyfel; gobeithiwn y ca ad- feriad buan. Mrs. Griffith Owen (priod1 y diweddar Barch. Griffith Owen, Rhosddu), mewn llesgedd iech- yd. Mr. Edward Lloyd. Gwrecsam, i anfon ati. Y Parch. J. Lloyd Jones, B.A., at Mr. Thomas, Evans, RhosTobin. Hefyd rhoed datganiad o lawenydd o weled y Mri. S. Kenrick, a K. Kenrick, a George Evans, Johnstown, yn ein plith wedi adfer i raddau eu hiechyd. Datganwyd cydymdeimlad ar y pryd a Mr. James Roberts, New Broughton (colli ei fam). Yr Ysgrifennydd i anfon at Major Wheldon a Miss Wheldon yn wyneb marwolaeth eu tad. Nid yn ami y gwelwyd gwr fel efe. Gwnaeth ddiwrnod llawn o waith. Cerdd ei ysbryd mawr yn. asbri a nerth i'r Cyfundeb am amser hir. 4. Mawr fwynhawyd profiadau swyddogion Capel Mawr,—y Parch. W. Benjamin yn arwain. Ymdeimlant a'r cyfrifoldeb o fod yn flaenoriaid—cenadwri'r swydd yn pwyso amynt. Ymhyfrydant yn y Gair, a chant flas ar y wemidogaeth, ond eu bod yn sychedig am fwynhau yn helaethach bresenoldeb yr Atglwydd. Sel ac ym- lyniad wrth waith yr Arglwydd yn amlwg yn eu bywyd. Hysbyswyd am absenoldelh dau o'r swydd- ogion Mr. W. Edwards yn America, a Mr. W. J. Edwards wedi ateb galwad ei wlad. 'Rhoed ar yr Ysgrifennydd i anfon cofion y C.M. atynt, gan ddeis- yf amddiffyn y Goruchaf drostynt. 5. Agorwyd trafodaeth ar yr Ysgol Sul gan y Parch. J. Ellis Jones, Glyn, a dilynwyd ef gan y Parchn. J. Lloyd Jones, B.A.. E. J. Williams, a'r Mri. J. Davies, Rhos, a W. Thomas, Taiant. Fel ffrwyth yr vmddiddan, pasiwyd (I) Fod cenhadaeth arbennig i'w threfnu ar gyfer y sefyllfa bresennol," a sylw neilltuol i'w roddi i'r Ysgol Sabothol yn ystod y genhadaeth: honno. (2.) Awgrymwyd dechreu y flwyddyn fel adeg gyfleus i gynnal y genhadaeth. (3) Fod pwylFgor y gofalaethau a phwyllgor yr Ysgol Sul i roddi ystyr- iaeth i'r holl gwestiwn., a gwneud trefniadau ynglyn a'r genhadaeth. (4) Fod y penderfyniadau a ganlyn i'w cyflwyno i'r Pwyllgor Unedig: (I) Ein bod yn trefnu cenhadaeth arbennig drwy holl gylch y cyfar- fod i ymweled a holl esgeuluswyr ymhlith ein hael- odau a'n gwrandawyr i geisio eu cael yn aelodau o'r Ysgol. (2) Er mwvn cael yr Eglwys a'r Ysgol yn nes at eu gilydd, ein bod YIll dymuno ar fod yr Eglwys fel y cyfryw yn ymgymerydi a threfniadau yr Ysgol. (3) Ein bod yn dymuno ar i bob Eglwys drefnu dos- barth i hyfforddi athrawon. 6. Cyflwynodd yr Ysg- rifennydd gyfrif mantolen ariannol Cyfrol "Hanes Methodisfiaeth Sir Fflint," gan y diweddar Barch. Griffith Owen; a gwnaed apel gynnes ynglyn a'r gweddill o'r cyfrolau sydd ar law, am y pris rhesym- ol o 2s. 6c. y copi. Rhoddes y C.M. ddiolch cynnes i'r Parch. H. C. Lewis, B.D,. am ei lafur cariad, ynglyn a dyg.iad allan y llyfr hwn, hefyd i'r Parch. J. E. Davies a'r Ysgrifennydd; ac i'r Mri. John Williams, Fflint, a Wm. Hughes, Gwrecsam, am ar- chwilio'r cyfrifon. Dygodd yr archwilwyr dystiol- aeth i'w cywirdeb. Terfynwyd y cyfarfod, gan, Mr. J. Lloyd Evans, Peniel.-Eisteddiad y Prynhawn.— Dechreuwyd gan Mr. W. Williams, Adwy'rclawdd. Rhoddes y C.M. ddatganiad1 b'i lawenydd o weled y Parch. J. Rowlands, Llangollen, a. Mr. Llewelyn Evans, Johnstown, yn ein plith. Mae Mr. Rowlands wedi rhoddi gwasanaeth gwerthfawr ymhlith y mil- wyr gyda'r Y.M'.C.A. am ddwy flynedd, a Mr. Evans gyda'r un gorchwyl am oddeutu blwyddyn yn y Crystal Palace. Treuliodd Mir. Rowlands! y misoedd diweddaf yn Ffrainc, ac y mae efe wedi cael pxofiad helaeth yn swn y frwydr. Caed sylwadau a'u profiad ynglyn a'u cenhadaeth da gan y Cyfarfod M'isol gael y cyfle i'w gwrando. 7. Gwahoddwyd y C.M. nesaf i Seion, Gwrecsam, Tachwedd 29 (dydd Mercher). 8. Darllenwyd llythyr cyflwyniad Mr. C. Lloyd Williams, B.A., o Gyfarfod Misol Sir Fflint, ar ei ymgymeriad a'r fugeili.aeth yn eglwys Ponciau. Rhoddes y C.M. dderbyniad cynnes iddo, gyda'r dymuniadau puraf am ei gysur a'i lwydd. Cydnabyddai Mr .Williams y croesaw. Ar gais y Parch. W. Phillips, B.A., Rhos, rhoed llythyr cyflwyniad serchog iddo i G.M. Trefaldwyn Isaf, efe wedi derbyn galwad i fugeilio eglwys Albert Road, Oswestry. Nodwyd'y Parch. Wynn Davies i gynrychioli y C.M. yn ei gyfarfod sefydhi. Chwith gennym ei golli o'n plith nawdd y nef drosto yn maes newydd ei lafur. 9. Ymwelwyd a'r C.M. gan y Parch. O. G. Owen, M.A., Rockferry, ar ran y Gen- hadaeth Dramor. Rhoddes olwg glir ar y sefyllfa; a theimlid fod ei apel yn argyhoeddiadol. Llwydd- iant sy'n cyfrif am y diffyg yn y cyllid. Addefwn fod gan rhelyw eglwysi ein C.M. dir lawer i'w feddiannu," er gwneud cymeriad o fod yn deyrngar- ol i'r cenhadaethau. Talwyd diolch i Mr. Owen am ei ymweliad, ac am ei anerchiad cryf. Pasiwyd y penderfyniadau a ganlyn o Bwyllgor y Genhadaeth: (I) Fod yr ail Sul ym Mawrth, 1917, i'w neilltuo i wneud casgliad arbennig tuag at y ddyled sydd ar y Genhadaefih DTamor, ac fod gweinidogion pob Eg- lwys i alw sylw arbennig at hyn y Sul blaenorol. (2.) Fod sylw a threfniadau pellach ar hyn i'w gwneud yng Nghyfarfod Misol lonawr, 1917. (3) Ein bod yn. eriyn ar fod yr Eglwysi yn gwneud casgliad cryfach eleni tuag at y Genhadaeth Dramor, a hynny yn brydlon. 10. Rhoddes y Parch. W. R. Jones., Glan'rafon, adroddiad cryno, a clir, yn wyneb yr atebion dderbynia.sai o'r Eglwysi ynglyn a Dirwest. Cadarnhawyd yr adroddiad a ganlyn o Bwyllgor Dir- west, a Phurdeb: (I) Fod cyfran o £3 3s. i'w chyf- rannu i Gymanfa Ddirwestol Dwyrain Dinbych. (2) Argymhellir fod sylw arbennig yn cael ei roddi i Ddirwest a Phurdeb, ar y Saboth Dirwestol, Tach. i2fed, ac fod anerchiadau yn cael eu traddodi yn yr Ysgol Sabothol, pregeth yn yr hwyr, a chyfle i ar- wyddo'r ardystiad, a gwahoddiad gwresog i wneud hynny. (3) Fod swyddogion pob Eglwys yn. trefnu i gynnal Cyfarfod Dirwestol yn ystod tymor y gaeaf, ac fod ymdrech arbennig yn cael ei wneud o blaid llwyrymwrthodiad yn yr Eglwys. drwy geisio cael yr oil o'r aelodau i arwyddo'r ardystiad. (4) Mai budd- iol ac amserol fyddai i'r tri Dosbarth fabwysiadu y mater hwn fel testun yr"ymwel'iad eglwysig yn ,1917. (5) Fod copi o bamffled y Parch. T. Powell,—" Pwy sydd ar du yr Arglwydd,"—yn cael ei anfon i bob Eglwys, ac annog ar i'r swyddogion bwrcasu copiau ohono a'u gwasgaru er cadw'r mater dirwest- ol yn fyw ymhlith yr aelodau. i i. Rhoddes Ysg. y C.M. adroddiad calonogol am Gronfa Cynhaliaeth y Weinidogaeth am y chwarter yn diweddu Medi. Yn unol a'r trefniant am y flwyddyn gyntaf, gofynnir pedair cyfran o'r Eglwysi, a thelir am dri chwarter; hynny yw, mae y chwarter cyntaf o Ionawr i Mawrth yn reserve fund.' 12. Y Gronfa Gynorthwyol.— Apel Arbennig. Disgwylir £ 26 gennym fel C.M'. i gyfarfod y diffyg. Anfonwyd cais eisoes at yr eg- lwysi. Gobeithiwn y gellir clirio yr alwad hon yn ddiymdroi. Anfoner y casgliad i'r Trysorydd, Mr. Isaac Jenkins, Johnstown. Pasiwyd hefyd i gyf- lwyno'r mater hwn er ystyriaeth bellach Pwyllgor y C.M. 13. Dewiswyd y Parch. W. J. Jones, Coed- poeth, a Mr. Thomas Jones, Nant, i gynorthwyo eg- lwys Adwy'rclawdd ynglyn a galw bugail. Adgy- weirio capel Penllyn, Llangollen.—Penderfynwyd fod Mr. Daniel Taylor, Rhiwabon, a Mr. J. Arthur Jones, Johnstown, i ymweled a'r lie, a gweithredu yn derfynol gyda'r swyddogio-n ynglyn a'r adgyweiriad. 14 .(1) Cyhoeddwyd Cymdeithasfa Connah's Quay, a rhoed anogaeth ar fod yr eglwysi yn ffyddlon i anfon eu cymorth mewn casgliad tuag ati; ac ymbil am iddi fod yn gyfrwng adnewyddiad i'r saint, ac yn iachawdwriaeth i'r byd. (2) Cylchgrawn Hanes y Mlethodistiaid Calfinaidd.—Galwyd sylw ato gain y Parch. J. T. Jones, B.A., B.D., a rhoed anogaeth i'w brynu. Pris aelodaeth, 5s. y flwyddyn. 15. Achosi Mr. David Roberts. Rh'osrobin, ymgeisydd am y weinidogaeth'.—Pasiwyd i gyflwyno yr achos hwn i ystyriaeth bellach Cyfarfod Dosbarth Gwrecsam. Pregethwyd nos Sadwm, Sul, a nos Lun, gan y Parchn. W. M. Jones, Llansantffraid, a Thomas Williams, Caergybi. LLUNDAIN.—Charing Cross Road, nos, Fercher, y 25ain o Hydref, am 6.30. Llywydd, Mr. David Edwards, Jewin Newydd. Arweiniwyd mewn defos- iwn gan y Parch. W. LI. Davies, Llangadog. Cad- arnhayd cofnodion y C.M. blaenorol, ac eglurwyd, yn gymaint a bod cyfarfod arbennig yn Holloway ar y 2i6.ain, fod cyfeillion Charing Cross wedi trefnu i dderbyn y C.M..ar ei noson reolaidd. Datganodd y Llywydd, ar ran y C.M., ei lawenydd i weled Mr.