Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
--""-."""-"""''''''''--'''-,-"",,,-,,,,,-,,,,,,,,,-''':''...…
News
Cite
Share
BANGOR. CHWARTER CANRIF.—'Nawn a nos Fercher, Hyd. 25, bu eglwys a chynulleidfa Ebenezer yn dathlu chwarter canrif gweinidogaeth eu gweinidog, y Parch. Ellis Jones. Yn y prynhawn rhoddwyd gwledd o de i'r plant, ac ar ol hynny bu'r rhai mewn oed yn cael eu digoni. Wedi clirio'r byrddau, caed cyfarfod dan lywyddiaeth Mr. L. D. Jones (Llew Tegid), efe yn rhoddi crynhodeb dyddorol iawn o hanes yr eglwys a chyfeiriadau at yr hen weinidog- ion fu yn yr eglwys, y Parchn. Dr. Arthur Jones, Ap Vychan, D. S. Davies (Patagonia), ac eraill; ac hefyd, rai o'r hen swyddogion. Yr oedd y Llew YJi. dda neilltuol. Ar ei ol ef siaradwyd gan eraill o'r swyddogion, yr Athro T. Rhys, B.A., Mri. Thomas Edwards, Henry Williams, a Deiniol Fychan, gyda'r brodyr canlynol: Mri. Richard Williams, Joseph Wm. Evans, a'r hen frawd, Mr. Humphrey Evans, yn awr o Portdinorwig. Cofiai ef gyda lLawenydd am yr amser a dreuliodd yn Ebenezer. Caed gair hefyd gan Mr. Cox, Oldham, un a fagwyd yn yr eg- lwys. Yr oedd yr oil o'r siaradwyr yn llongyfarch yr eglwys a'r gweinidog ar yr amgylchiad hapus, ac yn hyderu y byddai i'r teimladau cynnes barhau yn hir. Pan gododd y Parch. Ellis Tones i ddweyd gair, cododd y gynulleidfa yn uriol i roddi derbyniad croesaw gar iddo. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi cadw cofnodion manwl o ddigwyddiadau pwysicaf yr eglwys er pan y symudodd i Fangor o Gonwy, 2.5am o flynyddoedd yn ol. Darllenwyd pellebyr oddiwrth Mr. J. Arthur Williams (Pencerdd Seiriol), arwein- ydd y gan, yn gofidio nas gallai fod yn bresennol, ac yr oedd amryw o blant, yr eglwys sydd ar wasgar wedi anfon llythyrau a phellebron, rhai oddiwrth filwyr yn Ffrainc, Kinmel Park, a lleoedd eraill, yn llongyfarch yr eglwys a'r gweinidog. Cyn i'r cyfar- fod derfynu, daeth Dr. Gwylfa Roberts i fewn, a melus oedd ei atgofion am yr amser yr oedd' yn fyfyr- iwr ym Mangor, ac yn aelod yn Ebenezer. Ni rodd- wyd anrheg yn y cyfarfod hwn. Deallaf y cynhelir cyfarfod eto cyn bo hir. Diolchwyd yn garedig i'r chwiorydd am eu gwaith da yn trefnu'r wledd, a diolchodd y Parch. Ellis1 Jones am ygeiriau caredig 1. oedd wedi eu llefaru am dano ef. a Mrs. Jones. Gofid- iai y cynhulliad na fuasai eu hunig fab, Glyn Ellis, yn gallu dod gartref o faes- y gwaed i fod yn breseri- ol yn y cyfarfod.
NUDION 0 SIR FFLINT.
News
Cite
Share
NUDION 0 SIR FFLINT. Ceir cryn lawer o bregethu ynglyn, a'r cyfarfodydd diolch am y cynhaeaf a chanmolir y pregethau, ond mai buddiol fuasai cael mwy o -bregethau ar bwnc y cyfarfodydd. Mabwysiadodd eglwys fach a dymunol y Waun gwpanau cymun unigol. Defnyddiwyd hwy y tro cyntaf y Sul olaf o Hydref. Casglwyd i'w pwrcasu yn yr Ysgol Sul. Eglwys heddychol yw'r Waun, ac er ei bod er ys tro heb fugail y mae'n credu mewn bugeiliaeth. Ac y mae hynny yn glod mawr iddi yn y rhan hon o'r wlad. Bu C.M. yng Nghoedllai Hyd. 30am. Cyfarfod pwysig, a gwnaed cryn Lawer o waith ynddo. Un peth tarawiadol ynddo oedd, hen wr a'r pren almon bron wedi gorffen blodeuo, a'i gam bron. wedi myn'd rhy fyr i fyn'd i'r C.M., yn dechreu cyfarfod y bore trwy roddi yr emyn a ganlyn i'w ganu,— Gwyn fyd y plant sy'n derbyn dysg Ac addysg yn y bore, Nid ant i ffyrdd troseddwyr ffol Nac i annuwiol lwybrau. Y duwiol ostyngedig blant A barchant eu rhieni, Card ar y ddaear fyw yn hir A'u dwyn i dir goleuni." Nid oedd un plentyn yn bresennol, ond tiifer, os nad y mwyafrif yn bobl canol oed ac yn hen bobl, ac ar y foment gyntaf methem a gweled y priodoldeb o'i roddi i'w ganu. Ond wedi ail feddwl, gwelem fod yr hen frawd yng nghanol ei gof, neu fod ei gof yn ei ganol ef. Yr achosei fod ef aceniill yno gyda gwaith y deyrnas dragywyddol oedd eu bod wedi derbyn addysg grefyddol ym more oes, ac oherwydd hynny nid aethant i a-nnuwiol lwybrau. Dysgwyd hwy i barchu eu rhieni ac i fod yn ostyngedig, a chant fyw yn hir; a phan ddaw'r -noswyl, cant eu dwyn i dir goleuni. Y mae holi hanes yr achos1 yn rhan bwysig o waith y C.M. Ac ymdroir gormod yn ddibwrpas gydag, ef weithiau. Rhag digwydd hynny yng Nghoedllai, gofalodd y brodyr yno deipio hapes yr eglwys, a hynny yn ddestlus, a rhoddi copi o hono i bob un oedd yn bresennol. Da iawn, Coedllai. Dilyned holl eglwysi'r wlad eich esiampl. A ni yn gwrando arnynt yn gofyn i'r blaenoriaid newydd, a oeddynt yn cydsynio ag athrawiaethau y Cyfundeb, meddyliem. beth a feddylir wrth hyn. Pa un ai cydsynio A. hwy fel eu gosodir allan yn y Gyffes Ffydd, yntau fel eu credir gan weinidogion a blae-noriaid, a llu o aelodau eraill heddyw ? Un o'r pethau goreu oedd yn y C.M. oedd datgan bwriadau y Pwyllgor, a ,elwir o hyn ymlaen yn bwyllgor bugeiliol, ynglyn ag ad-drefnu gofalaethau bugeiliol. Gobeithio y syiweddolir delfrydau'r Pwyllgor yn fua-ft. Ymddengys mai troi yn golled ariannol i'r C.M'. ac i G.M. Dwyrain Dinbych, a wna cyhoeddi Hanes Methodistiaeth Sir Fflint;" a hynny er gwneuthur pob ymdrech i werthu'r llyfr. Pregethwyd yn y C.M. gan y Parchn. T. O. Hughes, B.A., Carmel, J. E. Davies, Treffynnon, ac E. J. Evans, Lerpwl. Ymddengys mai un o beryglon y C.M., y Cyfarfod Dosbarth, ac yn wir bron bob cyfarfod, ymhob rhan o'r wlad, yw myn'd yn ystrydebol. Rhyw a-ros yn yr un rhych gyda phopeth, a gwneuthur pethau o ran ffurf ac arferiad, a methu ymddyrchafu uwchlaw hynny. Ymddengys hefyd fod dwy blaid yn bod yn y wlad, un yn edrych yn ddifrifol ar bopeth, a'r llall ddim yn edrych yn ddifrifol ar ddim.
LLANGWYRYFON AR CYLCH
News
Cite
Share
LLANGWYRYFON AR CYLCH MARWOLAETH.-Cym-e-rodd claddedigaeth Mr. Richard Phillips, Argoed, le prynhawn dydd Mercher. Gwasanaethwyd yn y ty, yn y capel, a gLan y bedd, gan y canlynol,—Parchn. John Edwards (gweinidog), John Evans, Bronant (cyn-weinidog), Williaifi Richards, Llanon, W. Llewelyn Davies, Blaenplwyf, a David Jenkins ficer y plwyf. Daeth llu ynghyd i dalu'r gymwynas olaf i wr mor annwyl. Yr oedd yn flaenor er ys blynyddau maith yn eglwys Tabor, a chafodd oes hir o 81 mlynedd i lafurio yn y winllan, er ei fod wedi ei gaethiwo i'w dy fisoedd cyn ei farw. Yr oedd Mr. Phillips yn wr diddan a charedig, ac yn ddiamheuol dduwiol. Teimlir colled fawr ar ei ol; bydd ei le yn wag. Cydymdeimlir a'r teulu lluosog yn eu galar. Paham yr wylwn am y rhai Sydd wedi 'hedeg fry heb frawP „ Am dragwyddoldeb mwy heb drai Cant foli eu Duw yr ochr draw. MARWOLAETH ETO.—Yn blygeiniol fore dydd Sadwrn, bu farw, a hi yn 88 mlwydd oed, Mrs. Mary Morgan, yr hon oedd yn cartrfu er ys tro bellach gyda'i mab (Mr. Morgan Morgan) yn Cofadail, Tre- fienter. Yr oedd wedi ei chaethiwo er ys tro maith i'w gwely, ond bu farw braidd yn sydyn. Cymerodd ei hangladd le dydd Iau yn Bethel, y Parch. Evan Jones, Rhiwbwys, yn gwasanaethu. Cysured Duw y teplu yii. eu profedigaeth. YN GLAF.—Drwg iawn gennyf ddeall iod Private Edgar Morgan, Pendre, Trefenter, yr hwn sydd yn Cairo, yr Aifft, er ys amser bellach, yn wael, ac ar hyn obryd mewnysbyty. Bu am bedair blynedd yn Ysgol Sir Aberystwyth, ac yna yn is-athro yn ysgol Cofadail, oddiyno ymrestrodd o'i wirfodd gyda'r Groes Goch. Nis gwyddis natur ei afiechyd, ond dymuniad pawb o'i hen gyfeillion vn Nhrelenter yw iddo gael adferiad buan, buaon. Cofion cu iawn ato ymhell mewn allfro. CYFARFOiDYDD DIOLCHGARWCH.— Cymerodd cyfarfodydd diolchgarwch yr eglwys le dydd Gwener, Hydref 20. Pregethwyd gan y Parch. J. R. Davies, Llanbadarn, a'r Parch. Davies, Llanfihangel Creuddyn. Cafwyd cjrfarfodydd rhagorol a ehynull- iadau
CRICCIETH.
News
Cite
Share
gyrLa a ddylai fod yn anogaeth i'r bechgyn a'r merched bach oedd ger ei fron y noson honno i'w efelychu. Ffaith arall oedd yn werth ei nodi ydoedd mae ar ol ennill ei raddau mor ddisglair, pan yr oedd llwybrau lawer i safleoedd o elw ac anrhydedd yn ymagor ger ei fron, yr adeg honno y bu i Mr. Hughes benderfynu dechreu pregethu, ac ymgyf- lwyno i'r weinidogaeth, gan yn hytrach ddewis adfyd gyda phregethwyr Methodistaidd na hawddfyd mewn cylchoedd eraill mwy bydol. Llefarai hyn yn groew am burdeb ei amcanion ei fod yn barod i aberthu er mwyn. ei syniad o ddyledswydd i argyhoeddiadau dyfnion. Yr oedd yn dda ganddo gyflwyno i bobl Criccieth, ac i'r cylch, wr ieuanc oedd wedi profi fod ganddo dalentau disglair, ,a gwyddai yntau y siaradwr ei fod yn meddu ar gymeriad pur ac amcan- ion cywir. Ond dymunai ddweyd yn garedig wrth ei gyfaill nad oedd ei yrfa ddisglair ynddo ei hun yn sicrhaueilwyddiantfelgweinidogyrEfengyl. Wedi bod yn derbyn i mewn yr oedd Mr. Hughes ar hyd ei oes hyd yma, bellach dyma y rhod yn dechreu troi arno, a'r amser i roddi allan yn dod i'w ran, a dywed yr Ysgrythyr mae mwy dedwydd yw rhoddi na derbyn. Cofied nad yw yn ddigonol i bregethu fel ag i oleuo meddwl y gwrandawyr, ac i roddi min ar y deall yn unig. Gweinidogaeth y Cymod ydyw yr Efengyl i fod, i agor calonnau dynion ac i'w gwresogi a cariad yr Hwn sydd yn darddle cariad a'i hanfod. Gair hefyd ilr eglwys,, bydded iddynt wneud yn fawr o'u gweinidog, ei barchu a'i gyn- horthwyo ymhob rhyw fodd, gwneud popeth a ofyno ganddynt: dowch i'r dosbarthiadau, i'r cwrdd gweddi, a'r seiadau, a peidiwch disgwyl -i'r gweini- dog wneud popeth. Mae gwaith i bawb yn Eglwys Dduw. Bydded i chwi adael y gweinidog yn rhydd i wneud ei brif waith-i dorri 'Bara y Bywyd i'r rhai sydd yn newynu am dano. Os bydd iddo bregethu yti dda, oanmolwch dipyn arno, ac fe bregetha yn •-well fyth (chwerthin). Dyn ydyw pregethwr, ac yn gallu gwerthfawrogi tipyn o gydymdeimlad a canmol- iaeth fel dynion eraill. Ond yn bennaf peth gweddi- wch lawer drosto. Os ydyw ef i Iwyddo, rhaid iddo wrth eich gweddiau hetiTtynny, fe aiff ei waith yn ofer yn eich plith er pob dysg, a dawn, a thalent. Mr. J. W. Thomas, Waenfawr, a ddywedai ei fod yn arfer meddwl am bobl Criccieth mae pobl oedd yn gweithio yn galed yn yr 'haf oeddynt, er mwyn gorfitwys ar y cynnyrch yn y gaeaf (chwerthin). Gobeithial nad oedd ei gyfaill Mr. Hughes yn dod i Griccieth gyda'r bwriad o gael gorffwys, ond i newid gwaith, i weithio yn egniol yng ngwaith yr Hwn a'i galwodd. Gobeithia hefyd y daw Mr. Hughes i sylwi fel ag yr oedd y mor ar y langerllaw yn myned allan yn drai, ac yn dod i mewn yn llanw o ddydd i ddydd, mae felly hefyd yr oedd bywyd a gwaith dyn. Na fydded iddo ddigaloni pan y byddai pethau yn ymddangos yn drai ar ei waith, ond dal ati nes daw y llanw drachefn..Ofnai ef fod rhyw amser rhyfedd o'n blaenau fel eglwvsi. Beth fydd cywair meddwl y bechgyn annwyl sydd allan yn aberthu eu hunain ar eu rhan pan y dychwelant? Byddai eu dyfodiad yn ol yn sicr o greu rhyw chwildroad rhyfedd yn yr eglwysi, a oeddynt hwy yn y tawelwch gartref yn paratoi yr aelwyd i'w derbyn? Yr oedd rhyw ang- henion rhyfedd yn codi o'u blaen yn y dyfodol, a oeddynt hwy yn paratoi eu hunain i'w cyflenwi ? Bydded i bob. aelod gofio fod ar eu Than hwy i raddau pell sicrhau llwyddiant neu aflwyddiant eu gweinidog, i goroni ei waith neu ei ddifetha. Cafwyd deuawd swynol iawn gan y Misses Mei a Nell Jones. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. Henry Jones, Llanystumdwy, yn gofidio ei anallu i fod yn bresennol -oherwydd afiechyd, a'i ddymuniad- .1 y au goreu i'r eglwys ac i'w gweinidog. Y Parch. Griffith Parry, yr hwn oedd yn cynrych- ioli y Cyfarfod Misol, a ddywedai ei fod yn teimlo ei bod yn fraint i gael bod yn bresennol i roddi croesaw cynnes ac annwyl i'w gwejpidog newydd. Yr oedd -,yn dod o'r Waenfawr, ac i'r Capel Mawr. Fel y clywyd yn flaenorol, yr oedd yntau yn fawr ar lawer cyfrif; a chredai ef (Mr. Parry) yr ai Mr. Hughes yn llawer mwy eto, ond iddynt hwy fel eglwys wneud ei rhan tuag ato. Hyderai y byddai Mr. Hughes yn teimlo ei bod yn hawdd gwneud ei gartref ynghylch C.M. Lleyn ac Eifionydd rhyw Gyfarfod Misol pur gartrefol ydoedd rhywfodd unwaith y deuai dynion iddo, teimlant yn dra hwyrfrydig i'w adael (chwer- thin). Er na cha'dd ef yr un gradd, ac nad oedd obaith iddo byth gael un bellach (chwerthin), eto yr oedd ganddo barch mawr iddynt, ac i'r dynion oedd yn llwyddo i'w hennill. Teimlai fod yn rhaid cael gweinidogaeth ysgolheigaidd i gyfarfod ag anghen- ion y dosbarth o wrandawyr oedd wedi cael manteis- ion addysg uchel. Eto yr oedd o leiaf bedwar o bethau yn hanfodol angenrheidiol i sicrhau gweini- dogaeth rymus a llwyddiannus, a dyma hwy: i. Talent naturiol a chwaeth at y gwaith; 2. Meddiant helaeth o ysbryd gwaith-y nefoedd a roddo iddo y fendith hon yn helaeth; 3. Duwioldeb diamheuol- yr oedd hynny yn oll-bwysig, pa mor dalentog byn- nag, pa mor ymroddedig bynnag y byddo gweinidog, os na allai ef argraffu ar yr aelodau ei fod yn meddu ar ysbryd wedi ei drwytho a cariad cywir at ei Geid- wad, yna ofer fydd ei lafur; 4. 'Rhaid iddo fedru llywodraethu ei hun er mwyn medru llywodraethu eraill. Bydded i'r aelodau a'r- swyddogion un ac oil benderfynu yn awr ar drothwy y weinidogaeth newydd i estyn i Mr. Hughes bob cynhorthwy posibl i gynnal ei freichiau, i fawrhau ei wasanaeth, ac i weddio llawer drosto. Y Parch. John Price (W.), a ddatganodd ei falchter o ddyfodiad Mr. Hughes i'r dref, aqjfe estynodd iddo groesaw ar ran yr eglwysi eraill. Yi'oedd wedi cael cryn dipyn o gwmni Mr. Hughesi yn barod, ac yn ei fawr noffl. ac yn edrvch ymlaen at gael treulio llawer awr ddifyr ac adeiladol yn ei gwmni yn y dyfodol. Na fydded aelodau y Capel Mawr yn fyr o ddangos eu cydymdeimlad a'r gweinidog, byddai arno angen eu cydymdeimlad yn ami. Yr oedd diffyg hyn wedi bod yn achos o ddigalondid i lawer gweinidog ieuanc. Y Parch. John Owen, M.A., ar ran eglwys Seion a'r Cyfarfod Misol a, ddatganodd y croesaw cynhesaf I i Mr. Hughes i'w plith. Hyderai y byddai iddo aros yn eu plith yn hir. 0 Arfon y daeth yntau ei hun, ac yr oedd wedi aros yn Eifionydd am dros ddeugain mlynedd (chwerthin). Yr oedd am ddweyd gair o gyfrinach wrth Mr. Hughes 'doedd pobl Criccieth ddim yn hoffi cyfarfodydd i barhau am lawer mwy nac awr o amser, ac felly yr oedd ef am derfynu yn fyr (chwerthin). Cyflwynodd y Dr. Lloyd-Owen groesaw barddonol i Mr. Hughes ar ei ddyfodiad i'r Capel Mawr: — Cael ei fagu Yn Waenfawr,, Ymgymeryd Llafur mawr; Wedi cyrraedd Llwyddiant mawr, Dod yn Fugail Capel Mawr. Gwasanaethu Meistr Mawr, Trwy ymostwng Dod yn fawr Achuib dynion- Dalfa fawr, Yn y nefoedd Gwobr Fawr. Yna cododd Mr. Hughes i gydnalfcd yr anerchiad- au. Diolchodd yn gynnés i'w hen weinidog a'i gyfaill, y Parch. D. J. Lewis, a'i hen gyfaill iMr. Thomas, am ddod yno trwy lawer o rwystrau i'w gyflwyno3 ac am eu geiriau caredig am dano ef. Yr oedd hen eglwys y Waenfawr yn annwyl iawn iddo ef. Yno y derbyniodd rai o'r argraffiadau dwysaf a thvneraf a dderbyniodd e-rioed. Dywedodd Mr. Lewis ei fod ef (Mr. Hughes) wedi aberthu llawer'i fyned i mewn i'r weinidogaeth; beth bynnag am hynny, gwyddai pawb a'i hadnabu fod Mr. Lewis wedi gwneud hynny ei hun. Diolchai o galon i'r hen gyfeillion, ac i'r cyfeillion newydd, am eu croesaw, ac yn enwedig i'r chwiorydd am eu caredigrwydd tuag ato eL-pan y daeth i'w mysg. Rhaid oedd iddo hefyd gydnabod ei fod yn teimlo graddau helaeth o betruster wrth sylweddoli pwysigrwydd y gwaith yr oedd wedi ymgymeryd ag 'ef, a sylweddoli hefyd ei anallu ei hun yn ei wyneb. Yr oedd y cyfrifoldeb o bregethu yr Efengyl yn gyfrifoldeb qfnadwy i wr ieuanc dibrofiad ac i fugeilio Eglwys Crist, ond yr oedd hefyd y fraint uchaf allai dyn ymgyrhaedd ati. Un peth oedd wedi ei daro er ys pan y daeth i'w plith oedd mor ychydig o'r bobl ieuainc oedd yn cymryd rhan yn y gwasa-naeth cyhoeddus. Sefyllfa tra difrifol i eglwys oedd hon: byddai yr hen dadau oedd yn awr yn oario y baich yn fuan wedi cilio, a beth ddaw o'r. achos os na bydd iddynt olynwyr. Apeliai yn ddifrifol at eu pobl ieuainc i gysegru eu hunain i waith yr eglwys, boed ei gallu yn fawr neu yn fach. Peth arall oedd am ofyn ydoedd, os byddai unrhyw beth yn. ei ymddygiad ef nad oeddynt yn cydweled ag ef, bydded iddynt ddweyd wrtho ef ei hun, ac nid son am y peth yng ngwydd y plant ar yr aelwyd, nae wrth y naill a'r llall tuoefn iddo. Addawai yntau o'r ochr arall roddi pob sylw dyladwy i'w cwyn neu eu cerydd, a defnyddio hynny o farn ag a feddai tuag at eu cyfarfod. Ond yn bennaf peth erfyniai am eu gweddiau ar ei ran. Yr oedd ef yn credu yn gryf mewn gweddi; yr oedd ganddo brofiad personol o weddiau yn cael eu hateb —profiad na byddai i ddim ei siglo. Erfyniai yn daer am eu gweddiau ar ei ran, ac am lwyddiant ar ei waith ac os byddai yn credu eu bod yn gweddio drosto, gallai fod yn llawer mwycalonnog i fyned o gylch ei waith fel eu gweinidog. Terfynwyd y cyfarfod gan y Parch. D. T. Lewis trwy weddi, ar ol i'r c6r plant ganu emyn o dan arweiniad Miss Mei Jones.