Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

RHUTHYN.

News
Cite
Share

RHUTHYN. CYMANFA HOLI.—Cynhaliwyd Cymanfa Holi Dosbarth Rhuthyn ddydd lau, Hyd. 21, yng nghapel y Tabernacl, Rhuthyn. Yn y prynhawn am ddau o'r gloch, o dan lywyddiaeth Mr. Gomer Roberts, Y.H., cawyd cynhadledd, pryd y siaradwyd ar ddau o fater- ion pwysig ac amserol. Agorwyd y mater cyntaf, set Nodweddion Ysgol Sul y Tadau, yn hynod ddyddorol ac adeiladol, gan Mr. Ezra Roberts, Rhuthyn, a dilynwyd ef ar yr un mater gan Mr. J. W. Jones, Pentrecelyn, yntau yn dwyn allan y nod- weddion yn eglur mewn papur da a sylweddol. Agor- wyd yr ail fater, sef Y moddion mwyaf effeithiol i ennyn gwybodaeth ddiwinyddol yn aelodau ein heg- lwysi," gan y Parch.J. Williams, B.A., B.D., Derwen, a dilynwyd ef gydag anerchiad amserol gan y Parch. Pierce Owen, Rhewl. Cafwyd gair ym- hellach yn y gynhadledd ar y materion hyn gan y Parch. iGriffith(W.), a'r Parch. E. Williams (B.), Pandy'roapel. Da oedd gweled gweinidogion a charedigion yr Ysgol Sul yn y cylch, perthynol i enwadau eraill yn bresennol. Credwn fod hyn yn un o arwyddion yr amserau—undeb a chydweithred- iad. crefyddol. Yng nghyfarfod yr hwyr, o dan lywyddiaeth Mr. Robt. Jones, Rhiw, holwyd yn effeithiol a dylanwadol iawn gan Mr. J. C. Davies, M.A., Rhuthyn, ar y pwnc, "Cyfiawnhad trwy Ffydd." Dyddorol oedd gweled y fath sel yn y dos- barth dros ddiwinyddiaeth. Llanwyd y capel yn y nos, a thystiai pawb eu bod wedi mwynhau y Gymanfa yn fawr. Mae Dosbarth IRhuthyn yn ddyled- us-iawn i Mr. Davies am y dyddordeb neilltuol gymer gyda'r Gymanfa a'r Cyfarfod Ysgolion, a mawr yw dymuhiad yr eglwysi ar iddo barhau eto am lawer blwyddyn yn y gwaith ardderchog mae wedi ei ddechreu.-Un oedd yno.

COLOFN Y BEIRDD.

Y CAISAR.

CYFARFODYDD MISOL.