Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

NODIADAU WYTHNOSOL.

News
Cite
Share

NODIADAU WYTHNOSOL. Y Bhyfel. Diameu mai un o brif effeithiau'r gweithred- iadau ar y maes yn ystod yr wythnosau diwedd- af yw cymedroli gobeithion y rhai gorhyderus am derfyniad buan i'r rhyfel. Pan gychwynwyd y symudiad unedig ar y Somme tybiodd y dosbarth yma fod y filltir olaf wedi ei chyrraedd, a dech- reuasant broffwydo y byddai y rhyfel trosodd cyn y gwyliau. Daliasant i ledaenu chwedlau o'r fath, er gwaethaf rhybuddion gwyr fel Mr. Lloyd George a Syr Douglas Haig. Y gwir yw na sylweddolodd y bobl hyn fawr ddim ar y sef- yllfa er dechreu y rhyfel. Ychydig, mewn cym- hariaeth, yn y wlad hon, feddai unrhyw syniad am y peryglon dirifedi y bu ein milwyr a'n gwlad ynddynt yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf; a phan ddaeth ychydig o. dro ar bethau, ni fyn- nent gredu fod mwyach fawr o waith i'w gyf- lawni cyn ennill y dydd yn lan a therfynol. Pe buasent am funud wedi deall yr amgylchiadau yn ystod dwy flynedd gyntaf y rhyfel, buasai eu ton yn dra gwahanol. Dros y cyfnod hwnnw yr oedd Germani yn meddu uwchafiaeth mewn dynion ac arfau a'i-gosodai yn y safle fwyaf fan- teisiol i gario'r dydd yn llwyr, ac y mae'r gwr- hydri a gyflawnwyd gan y Cyngrheiriaid dan y fath anfanteision yn ymddangos yn wyrthiol. Pwy sydd eto wedi gallu esbonio eu gorchfygiad wrth byrth Paris, ac egluro gwyrth y Marne? Pwy nad yw'n rhyfeddu at y methiant i dorri trwy ein llinell fain tua Calais a phorthladd- oedd y Sianel? Yn awr, os y methodd Ger- mani, pan yn anterth ei nerth, sylweddoli ei bwr- iadau a choncro ein byddinoedd am ddwy flyn- edd o amser, rhaid inni beidio disgwyl gwyrth- au amhosibl gan ein .milwyr ein hunain, pan y maent am y tro cyntaf, yn ymladd ar rywbeth tebyg i amodau cyfartal. Mae'r ymosodiadau ar Rwmania, yn ogystal a'r nerth amddiffynol ddanghosir ar y Somme, wedi argyhoedi pawb fod y dasg o flaen y Cyngrheiriaid eto'n fawr; ac er ein bod oil yn dal i gredu'n gryf fod yr oruchafiaeth derfynol yn sicr, da fyddai i ni gofio fod Germani yn dal yn gryf, a'i bod yn benderfynol o ymladd hyd yr eithaf. Ymyrriad y Tywydd. Profodd yr hin dymhestlog a gwlyb yn ystod y pythefnos ddiweddaf yn rhwystr ac atalfa ar weithrediadau ein milwyr yn Picardy; ac nid oes pethau mawr a phwysig i'w croniclo o'r rhan hon o'r maes o'r herwydd. Mae meusydd ffrwythlon y rhan hon o Ffrainc wedi eu troi yn for o laid, sydd yn gw-heud sefyllfa ein mil- wyr yn y ffosydd yn resynus i'r eithaf, ac yn peri bron yn amhosibl symud ymlaen. Yn ol Syr Douglas Haig mae'r ucheldir rhwng yr Aricre a'r Somme wedi ei droi yn anialwch o. laid. Nis gwyddom faint y mae'r gelyn wedi fanteisio ar y tawelwch cymharol sydd wedi ei orfodi ar ein milwyr, i symud ei milwyr yn ol a blaen ar y llinell. Prin, gallem dybio, y cyf- iawnha'r sefyllfa iddynt fentro gwanhau eu llin- ell yn y lie; ac er gwaethaf yr anfanteision oher- wydd y tywydd, nid yw ein milwyr wedi bod yn segur. Cymerwyd y Sqhwaben Redoubt, a ffos- ydd a elwir y Stuff a'r Regina; ac yn ol tystiol- aethau gafwyd ar rai o'r carcharorion gelynol, ystyrr-id y safle yma o'r pwysigrwydd blaenaf. Cadarnheir y dystiolaeth gan yr ymdrechion wnaed gan y gelyn i'w hadfeddiannu. Gwnaed un ar ddeg o wrthymosodiadau i geisio cyrraedd yr amcan hwnnw. Cafwyd egwyl yn y tywydd ddydd Mercher, a symudodd ein milwyr i'r gogledd-ddwyrain i Les Boeufs yng nghyfeir- > iad ffordd Peronne, tra y gwnaed symudiad cyfamserol gan y Ffrancod yn rje-ddwyrain i Sailly-Saillisel, gan gymryd gafael yng Nghoed St. Pierre Vaast. Mae'r gelyn yn ymladd am bob safle gyda grym mawr, ond yn gorfod rhoi ffordd; a dyddorol yw sylwi pa fodd y ceisia'r adroddiadau Germanaidd fychanu ac esbo no i ffwrdd eu gorchfygiadau. Ceisiant o hyd roi ar ddeall i'r bobl gartref fod y gwaethaf drosodd yn Ffrainc, a sicrhant yn awr fod y gaeaf wedi dyfod i roi pen ar bob perygl yno. Ni j dvi a syniad y Cyngrheiriaid; a chyn hir bydd raid i arweinwyr Germani chwilio am sioii newydd. mm Y Ffrancod yn Vaux. 0 Germani y daeth y newydd gyntaf am gwymp Caerfa Vaux i ddwy:aw' Ffrancod, Cymerodd yr olaf eu hamser 1 admdd am yr or- uchafiaeth bwysig hon. Morhell ag y gallwn ddeall gwnaeth Germani bob brys yn vr acbos hwn i wneud yn hysbys eu bod wedi chwychu i fyny'r gaerfa ac wedi ei gadael. Ac yn awr adroddir o Paris fod y gelyn wedi gadael y lie fore Iau, a bod milwyr Ffrainc wedi ei medd- iannu hwyr yr un dydd. Yr oedd ffosydd y Ffrancod tua 400 o latheni o'r tuallan, ac yr oeddynt wedi cau am dair ochr iddi. Gwelodd y gelyn, ar ol eu gorchfygiad yn Douaumont i'r gogledd a Damloup i'r de, fod eu, safle yn Vaux yn y perygl mwyaf; ac y mae eu gwaith yn gadael y lie yn profi nad oedd ganddynt ddigon o nerth i'w hamddiffyn. Mae'n amlwg fod ymgyrch Verdun yn dyfod i derfyn yn gyf- lym, ac aberth annirnadwy Germani am fisoedd yn cael ei wneud yn waeth nag ofer. Cofir i Germani gyhoeddi gyda llef utgorn fod y gaer- fa wedi ei chymryd oddiar y Ffrancod ar y pfed o Fawrth diweddaf; ond celwydd oedd hynny, a gwrthsafodd y Ffrancod dewr bob rhuthr ar y lie hyd y 6ed o Fehefin. Fel y dywed Mr. G. H. Perris, gohebydd y 'Daily Chronicle,' cymerodd i'r gelyn dri mis i ennill y lie; ac wedi ei ddal am bum mis, gadawsant ef ymhen deng niwrnod wedi cychwyniad mudiad ymosod- 01 y Ffrancod. Pan yn ei hennill yr oedd Germani yn honni ei bod yn un o'r pwyntiau pwysicaf; ond yn awr dywedir fod y cadfridogion Germanaidd o'r farn y buasai'r aberth i'w chadw yn llawer mwy na'i gwerth i'w cynllun yn gyffredinol. Dyma addefiad sy'n profi fod eu cynllun wedi ei ddinistrio a'i ddamnio yn ddiadfer. Mae'n gwbl amlwg er- byn hyn fod y Somme wedi achub Verdun, ac wedi rhoi pen ferfynol ar un o brif gynllwynion y gelyn yn y rhyfel. mm Llwyddiant Itali. Unwaith eto y mae General Cadorna yn taro yr Awstriaid gyda grym mawr, ar ei ffordd o Gorizia i Trieste. Mae'r tir yn y rhan hon yn annisgrifiadwy anodd, ac y mae bron yn anhyg- oel sut y mae'r Italiaid yn llwyddo i gyflawni'r fath orchestion yn wyneb y fath anawsterau. Y dydd cyntaf yr oedd y carcharorion gymerasant yn rhifo agos i bum mil; a'r dydd dilynol, cym- erwyd dros dair mil a hanner. Bernir fod holl golledion Awstria mewn deuddydd yn llawn ugain mil. Cliriwyd y gelyn allan o goedwig- oedd ac ogofau yn y creigiau, a gwthiwyd y gel- yn yn ol, er cadarned oedd ei safloedd. Dis- gwyliwn y bydd i symudiad Itali brofi i Rwm- ania yr hyn a brofodd mudiad y Somme i Ver- dun. Y fantais fawr sydd yn amlwg oodiwrth gydweithrediad presennol y Cyngrheiriaid yw eu bod yn gallu taro mewn rhyW ran pan ynyjymer y gelyn ag unrhyw anturiaeth fawr mewn rhan arall. Gall y gwaith o wanhau'r gelyn fod yn dasg a gymer gryn amser i'w gwneud yn effeith- iol; ond y mae'n mynd ymlaen yn gyson. Rwmania. Ni fynnem floeddio'n ¡hi fuan' fod y perigl drosodd yn Rwmania, er y dywedir mai dyna farn prif arweinwyr y wlaH ei.hun. Mae un peth yn amlwg, sef fod rhuthr Mackensen a Falken- hayn wedi arafu; a bod y Rwmaniaid wedi llwyddo i -atal ac i droi'h ol rai o ymgyrchoedd yr olaf ym Mylchau Carpathia. Ofnid yr wyth- nos o'r blaen y llwyddai Falkenhayn i ysgubo trwy'r Bylchau i wastadeddau Rwmania; ond hyd yn hyn nid oes arwydd ei fod yn* llwyddo yn ol y bwriad a'r cynllun. Ym Mwlch. Predeal addefir ei fod wedi symud ymlaen rhyw gym- aint; ond gyrrodd y Rwmaniaid ei luoedd yn ol yn Nyffryn y Jiul gyda cholledion trymion; ac y mae rhannau eraill yn cael eu clirio o'r gelyn yng nghymydogaeth Bwlch Roten Turm, a rhwng hwnnw a Bwlch Predeal. HyderLvn y » gall y Rwmaniaid ddal eu tir nes y gellir eu cyf- nerthu'a dynion a gynnau, ac y gwelir eto un o gynllwynion mawr Germani yn troi allan)n fethiant. Ymffrostia Germani fod ganddi gad- fridogion o welediad ac athrylth filwrol ,sy'n gallu anturio ar orchestion ar raddfa fawr. Dichon fod hynny'n wir, ond y maent o'r cychwyn wedi mentro ar dasgau sy'n profi yn y pen draw yn ormod i'w nerth; a cheir gweld beth fydd canlyniad anturiaeth fawr Hinden- burg yn-y dwyrain. < mm :c: Ysgarmes y Sianel. Cafwyd adroddiad diwygiedig o'r hyn a gym- erodd le yn y Sianel yr wythnos o'r blaen gan Mr. Balfour yn y Ty mewn atebiad i gwestiwn gan un o'r aelodau. Yn anffodus gwahaniaeth- a'r ail adroddiad gryn lawer oddiwrth yr adrodd- iad swyddogol a gyhoeddwyd ar y cyntaf. Yn ychwanegol at suddiad y "Queen" a dwy o'r destroyers, collwyd hanner dwsin o longau rhwydi. O'r ochr arall ni lwyddwyd i suddo yr un o'r llestri gelynol gyda torpedoes, ond cesgl- id fod dwy ohonynt wedi eu dinistrio gan 'mines' ar eu ffordd adref. Ynglyn a brwydr Jutland cyhoeddwyd adroddiad rhy dywyll ac anffafriol ar y cyntaf, fel y cofir; ac ymddengys fod Mr. Balfour am wneud yn sicr na ddigwyddai hynny eilwaith. Ond os y tybiodd mai trwy roi ad- roddiad hanerog ac anghywir y gallai sicrhau hynny, mae'n amlwg ei fod wedi camgymeryd yn ddifrifol. Yr hyn sydd ar y wlad eisieu yw ad- roddiad gonest, pa un bynnag ai ffafriol ai an- ffafriol y bo. Gallesid yn hawdd ddangos i ymgyrch y gelyn droi allan yn fethiant, er addef y colledion i gyd. 00 ( Groeg a'i Brenin. Danghoswyd anfoddlonrwydd mawr yn y Ty at y modd yr ymddygai'r Llywodraeth at Frenin Groeg. Cyhuddwyd y Llywodraeth o sarhau Groeg a'i harweinydd cenedlaethol, Venizelos, trwy barhau i gario ymlaen ac i gydnabod Cys- tenin, sydd yn amlwg yn chwarae i ddwylaw Germani. Dywedwyd pethau plaen a chyr- haeddgar iawn gan Mr. Ellis Griffith, Syr Henry Dalziel ac eraill, ac yr oedd atebiad Arglwydd Robert Cecil yn un anfoddhaol iawn. Yn ei amddiffyniad dywedodd mewn geiriau nas gellir camgymeryd eu hystyr, na ddylai Ty'r Cyffred- in gael unrhyw lais mewn polisi tramor. Mae'r athrawiaeth hon wedi ei chario allan i fesur mawr ar hyd y blynyddoedd; ac nid ychydig sydd yn credu ei bod yn fwy cyfrifol na dim am y rhyfel presennol yn ogystal ag am ryfeloedd y gorffennol. Gall fod rhesymau cryfion dros gadw llawer o'r hyn sy'n mynd ymlaen yn Groeg tu ol i'r lien yn gyfrinach; ond yn ol pob ar- wydd, y mae gwendid y Cyngrheiriaid gyda Brenin Groeg wedi dwyn y wlad i fin rhyfel car- trefol. Yn wir, y mae milwyr Venizelos a mil- wyr y Brenin wedi dyfod i wrthdarawad yn Ekaterini, a'r blaenaf wedi cymryd y dref oddi- ar yr olaf. Daeth y gwrthdarawiad oddiam- gylch trwy i'r gwarchodlu yn y lie geisio atal bataliwn o'r Gwirfoddolwyr cenedlaethol o Verna fynd ymlaen i ymuno a'r fyddin genedl- aethol yn Salonica. U X. Mesur y Gofrestr. Nid oes dim lwc i'r Llywodraeth gyda'i hym- gais i ddelio a'r gofrestr etholiadol, a bu raid iddi foddloni i'w adael yr wythnos ddiweddaf eto. Mae Syr Edward Carson wedi ymdyng- hedu i feirniadu'r Llywodraeth ar bron bob cwestiwn, ac i brofi ei hun yn arweinydd eff- eithiol ar yr Wrthblaid. Mae wedi cymryd achos y milwyr a'r morwyr sydd oddicartref i.,r ngwasanaeth eu gwlad i fyny, ac yn benderfy 10i 0 wrthwynebu pob ymgais i osgoi'r anawsterau sydd ar ffordd cadw iddynt eu hawl a'u gallu i bleidleisio pa le bynnag y bont. Yr oedd llu o welliantau wedi eu rhoi ar y papur ar y Mesur; ond rhoddodd y Llefarydd ei ddedfryd eu bod bron oil allan o drefn, ac felly nis gellid dadleu na gwyntyllio'r pwyntiau yn y Mesur a ystyrrid yn oll-bwysig gan Syr Edward a'i bleidwyr. Wrth gwrs cymerodd yntau fantais ar y dyflrn- iad hwn i godi cwyn newydd; ac yn naturiol caf- wyd ar ddeall yn fuan fod ei bleidwyr wedi llu- osogi cryn lawer yn wyneb y gorthrwm o'r gad- air. Ystyrria Syr Edward fod yn hawdd cyfar- fod a'r hyn a ofynna efe; ond anwybydda'r gof- ynion eraill a godir o bob cyfeiriad. Trwy'r holl bethau hyn, ymddengys y sefyllfa yn add- fedu i estyn diwygiacl mawr democrataidd yn yr etholfraint. Yn naturiol, teimla'r Llywodraeth fod y dasg yn rhy fawr a'r gwaith yn rhy ddyrus i ymgymeryd ag ef ar ganol rhyfel fel y -pres- ennol. Germani a Norway. Diameu y teimla Germani y gall fentro delio fel y mynn a Norway am ei bod yn fechan, fel y gallodd fentro delio ag America am ei bod ym- helf ac yn annhueddol i ymladd. Nid .oedd penderfyniad Norway i wrthod caniatad i sudd- longau y gwledydd sydd yn cymryd rhan yn y rhyfel yn gwahaniaethu mewn un modd oddi- wrth benderfyniad Swedea