Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

PERSONOL.

News
Cite
Share

PERSONOL. Da gennyf weled fod Mr. William Evans, Y.H., wedi ei ddyrchafu yn Henadur gan Gyngor Trefol Liverpool. ? Mae Eglwys Saesneg Albert Road, Croesos- wallt, wedi rhoddi galwad i'r Parch. W. Phillips, B.A., Liverpool, i'w bugeilio. IT Cymerwyd y Parch. Morgan Evans, Tregar- on, yn wael yn y capel nos Fercher. Ond da gennym glywed ei fod yn gwella yn rhagorol. n Mae y Parch. W. E. Williams wedi ei ddewis yn fugail ar eglwys Saesneg Llanfairfechan yn ychwanegol at fugeilio eglwys Horeb. IT Mae y Parch. W. R. Owen, B.A., wedi ei ddewis yn gadeirydd Cyngrair yr Eglwysi Rhydd yn Abergele fel olynydd i'r Parch. John Kelly. IT Trefnir i osod coflech am Syr Edward Anwyl i fyny yn neuadd Coleg Aberystwyth. Dygir y draul gan ei gyd-athrawon a'i ddisgybl- ion. IT Mae merched Mon yn galw am Ymreolaeth yn gyntaf,—ac yna fe benderfynir pwnc y Fas- nach. Hwyrach yn Mon, ond beth am Sir Ffiint a Sir Forgannwg ? IT Argraffwyd araith Mr. H. W. Evans, Y.H., Solfa, ar "Peryglon OddiwrtK Babyddiaeth" yn ddalen ddestlus yn Swyddfa"r CYMRO. Dylai ei lledaeniad wneud llawer o les. f Ysgrifenna Cymro ieuanc clwyfedig o Ysbyty yn Salonika fel hyn:Pan ddaethum yma yn wael a chlwyfedig, Cymraes oedd y gyntaf fu yn gweini arnaf. Ac y mae hi yn darllen y CYMRO i mi bob wythnos." Apeliodd Esgob at Syr William Robertson am gyngor beth i'w wneud ynglyn a'r Genhadaeth sydd yn cael ei chynnal yn Eglwys Loegr y dyddiau hyn. "Gwnewch Loegr yn fwy cref- yddol," ebai'r milwr enwog. IT Mae eglwys Siloli, Llanbedr Pont Stephan, wedi rhoddi galwad serchog i'r Parch. W. D. Davie's, Tumble, atynt i'w bugeilio. Bu Mr. Davies mewn ymdrafodaeth a'r blaenoriaid pwy nos, ac addawodd roddi ateb i'r alwad yr wythnos hon. IT, < Yn Canada yn darlithio y mae'r Prifathro Griffith Jones, p Goleg Bradford. Diau fod rheswm digonol a boddhaol am hyn. Ond gresyn na fuasai'r prifathro gartref yn gweithio ymysg y cannoedd Cymry sydd yn y dref mewn gwir angen am ragor i lafurio yn eu mysg. IT Bu Goruchwyliwr y Symudiad Ymosodol ar daith yn ddiweddar trwy rannau o Sir Gaer- fyrddin, ac yn ei adroddiad tystia fod Method-. istiaeth yn "edrych i fyny'" yn y sir. Llawen- ydd yw newydd fel hwn. Ond syn yw'r hyn a ddywed na chyfarfyddodd a neb oedd yn cofio Dafydd Morris yr Hendre. IT Dymunwn longyfarch Mr. Edgar Evans yn galonhog ar ei benodiad i swydd mor bwysig dan Arglwydd Rhondda. Wyr yw o du ei dad i'r 7'( diweddar Mr. Wm. Evans, ac o du ei fam i Mr. Thos. Charles-dau o sefydlwyr yr achos Methodistaidd yn Blaenclydach. Gwir o hyd yw'r gair, 'Dyrchafa di hi a hi a'th ddyrchafa di.' IT Clywais fod rhyw sylw a wnaed am farn Syr J. Herbert Roberts, A.S., ar gwestiwn cenedl- aetholi y Fasnach Feddwol yn gamarweiniol. Os nad wyf yn camgymeryd cwrs pethau yn ddirfawr, yn erbyn hynn1 y mae'r barwnig, ac nid wyf yn meddwl y bydd yn ol o ddatgan ei farn pan ddaw'r adeg briodol i wneud hynny. IT Blinir Dr. Witton Davies oherwydd fod plant teuluoedd Bedyddiedig goreu Cymru yn troi eu cefnau ar yr enwad wedi iddynt godi yn uchel yn y byd. Nid peth un enwad yw hyn. Mae plant pob enwad yn debyg. Clywais enwi banner dwsin o brif arweinwyr y Methodistiaid Calfinaiddag y mae eu plant yn Eglwyswyr a Phabyddion. Paham? Yn ol y Parch. F. B. Meyer, D.D., "fe gofir y cyfarfodydd gynhaliwyd yng Nghaerdydd fel rhai arbennig iawn yn hanes Ymneilltuaeth yng Nghymru. Nid yw'r Cyngrair yn Llundain, meddai ef, wedi colli dim wrth ildio yr hyn a wnaethant, ac o"r tu arall Aiae'r achos wedi bod ar ei fawr ennill." Hyfryd yw clywed datganiad o deimlad fel hwn. 1F Yn y rhifyn diweddaf 0 tlr "Gorlan" ceir y rhan gyntaf o bapur galluog ar St. Francis of Assisi a ddarllenwyd gan Capten Edward Lloyd Jones, mab Mrs. Lloyd Jones, Llan- dinam, yng Nghymdeithas Lenyddol capel Charing Cross Road. Mae'r anerchiad yn werth ei ddarllen er ei fwyn ei hun, ac y mae cofio fod yr awdwr wedi rhoddi ei fywyd i lawr dros ei wlad yn ei wisgo a rhyw brudd-der swyn- 01 anghyffredin. IT Dyma ddyfyniad o lythyr oddiwrth fam yn Nyffryn Rhondda:—"Yr ydym fel teulu yn dderbynwyr cyson o'r CYMRO, ac yn ei gyfrif yn un o'r papurau mwyaf dyddorol ac adeiladol, yn enwedig i'r to ieuainc. Yr ydym yn ei ddan- fon i un o'n meibion ym Mesopotamia, ac y mae y bechgyn Cymreig yn disgwyl am dano yn gyson, ac yr ydym wedi derbyn eu tystiolaeth ohono eu bod yn enjoyo ei ddarllen, yn enwedig am ei fod yn hen iaith eu tadau a'u mamau o 'WaliaWen. 1T Dydd Iau diweddaf derbyniodd Golygydd y CYMRO gerdyn oddiwrth un o leygwyr mwyaf adnabyddus a dylanwadol Cymru. Dyma gyn- nwys y cerdyn air am air:—"Yn ddamweiniol cefais afael ar y CYMRO heddyw. Darllenais ef drwyddo. Llanwyd fi a'r fath hyfrydwch, a chefais y fath adeiladaeth wrth ddarllen eich sylwadau ar Genedlaetholi y fasnach feddwol a hanes Wheldon, etc., fel y penderfynais nas gallwn fod hebddo. Anfonwch ef bob wythnos. Derbyniwyd amryw lythyrau tebyg, ac yr ydym yn dra diolchgar i'r cyfeillion oil. IT Lleygwyr mewn pulpudau—dyna'r arfer, a'r cynefin bellach yn. ein plith. Y Sul diweddaf daeth Mr. G. T. Lewis, Y.H., Tregaron, allan yn gryf, fel olynydd i'w annwyl dad, y Parch. D. Lewis, Llanstephan, a phregethwyd ganddo yn rymus ac eflfeithiol iawn. Nid yw Mr. Lewis yn ddieithr i'r gwaith. Bu adeg arno pan na chawsai lonydd gan eglwysi heb iddo fyned i'w gwasanaethu, ond llonydd fynnai'r pryd hwnnw; a da dweyd erbyn hyn, fod yr afiaeth yn ail-ennyn, a'r awydd am ddweyd dros Geidwad yn cario eto i bulpud ac at galon cyn- ulleidfa. 1T Cyflwynodd Arglwydd Rliondda drysorau cain i Gaerdydd ac i Gymru. Ond bu llawer o drwstaneiddiwch ysmala ynglyn a'r cyflwyniad.. Yn gyffredin cysylltir cryn lawer o anrhydedd a"r gwaith o ddadorchuddio, ond barnodd rhyw- un yn ddoeth i ddewis rhai celfydd ar y gwaith o dynu'r llinyn at hyn o orchwyl. Gogleisiodd y newyddbeth deimladau Mr. Lloyd George, a throdd y detholiad yn destyn chwerthin iach. Ac ni ddarfyddodd y chwerthin yno. Mae'n destyn sen y Parch. David Davies, Penarth, yn y "Daily News." A dyma yn ol ei syniad ef fel y dylasai'r gwaith gael ei wneud.: Dewi Sant gan Dyfed yr Archdderwydd fel y gwnaed; Hywel Dda gan Arglwydd Pontypridd neu Re- corder Caerdydd ac nid gan drysorydd y ddinas; Buddug, neu Boadicea, gan Lady Rhondda neu Lady Mackworth, ac nid gan y city engineer; Llewelyn ein Llyw Olaf gan Arglwydd Mostyn neu Arglwydd Tredegar, ac nid gan y water- works engineer; Harri Tewdwr (Henry VII.) gan Syr Ivor Herbert, ac nid gan yr electrical engineer; Esgob Morgan gan Esgob Llandaff, ac nid gan y prif gwnstabl; Williams Panty- celyn gan y Parch. J. Morgan Jones, ac nid gan superintendent of the sanatorium; Dafydd ap Gwilym gan Proffeswr J. Morris Jones, ac nid gan y librarian; Giraldus Cambrensis gan Syr Owen M. Edwards, ac nid gan y Cardiff director of education; Owen Glyndwr gan y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, ac nid gan arolygydd pwysau a mesur; a Syr Thomas Picton-gan Syr Francis Lloyd, ac nid gan y gwr sydd yn gofalu am y parciau. Beth am y wlad hefyd? Eglwyswyr a Phabyddion oedd yno yn eistedd yn y seddau blaenaf! Yng nghyfarfod diweddaf Cyngor Coleg Aberystwyth, dywedodd Mr. E. D. Jones, prif- athraw Ysgol Sir Abermaw, ei fod yn clywed .fod bwriad gan rywrai i roi holl arholiadau ysg- olion uwchraddol Cymru yn llaw'r Brifysgol. Gwrthwynebai hynny yn bendant iawn. Ar hyn cododd Dr. Fleure a sicrhaodd Mr. Jones nad oedd neb yn bwriadu gwneud y fath beth. Da iawn. Ond yn enw pwy y mae Dr. Fleure yn siarad? 11 Ysgrifenna"r Parch. R. J. Jones, M.A., Hen- dy-cwrdd, Aberdar :Y chydig ddyddiau'n ol darllenais yn un o bapurau Chicago ddyfynniad a wnaethpwyd gan y Proff. Horace J. Bridges yn ei lyfr, 'The Religion of Experience,' a bar- odd imi gryn lawer o syndod. Dyma fe: 'Dywed amryw fod yr eglwysi mewn cyflwr o wrthgiliad llwyr oddiwrth ysbryd ac addysg ei sylfaenwyr, ac awgrymir y dylai dynion dirag- rith (sincere) ddyfod allan ohoni rhag iddynt ddyfod yn gyfrannog o'i phlaau. Yn yr ystyr hyn darfu i'r Parch. Elfed Lewis amlygu ei feddwl yn yr 'Atlantic Monthly." Y mae efe wedi rhoddi i fyny ei eglwys, ac i bob ym- ddangosiad fe ofna nad oes un math o gymdeith- as grefyddol yn bosibl o dan yr amgylchiadau presennol." Wrth gwrs, fe wyr pawb o'ch dar- llenwyr mai dychymyg yr Americanwr yw'r unig sail i'r hyn a ddywed am Elfed a'i eglwys. <>1.

CYMRU A'R RHYFEL.